English

Dylai ysgolion greu a chynnal amgylchedd dysgu diogel i blant. Mae hidlo a monitro cynnwys y we yn effeithiol yn bwysig er mwyn sicrhau bod dysgwyr a staff yn cael eu diogelu rhag deunydd ar-lein a allai fod yn niweidiol ac yn amhriodol.

Dylai hidlo cynnwys y we yn effeithiol mewn ysgolion ganiatáu mynediad at ddeunydd ar-lein sydd ei angen ar ysgolion wrth ddiogelu plant a phobl ifanc.

Mae'r safonau hidlo cynnwys y we yn darparu set o safonau y cytunwyd arnynt ar gyfer mynediad i'r rhyngrwyd a fydd yn cefnogi ysgolion i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch darpariaeth wedi'i hidlo boed honno wedi’i darparu gan yr awdurdod lleol neu gan ddarparwr arall.

Mae'r safonau hidlo cynnwys y we hyn ar gyfer awdurdodau lleol, penaethiaid, llywodraethwyr ac arweinwyr ysgol eraill a all fod yn gyfrifol am ac yn ymwneud â gweithredu hidlo cynnwys y we a monitro safonau’n effeithiol.

Yn y pen draw, y pennaeth sy’n atebol am wneud penderfyniadau ar lefel ysgol ynghylch y cynnwys sy’n cael ei rwystro neu ei ganiatáu.

Bydd yr awdurdod lleol yn cefnogi gweithredu hidlo cynnwys y we.

Gall ysgol wneud cais i ganiatáu categori, ac mae angen datganiad ysgrifenedig gan y pennaeth i gyd-fynd â hyn i amlinellu'r rhesymeg a derbyn atebolrwydd am y penderfyniad.

Nid yw hidlo cynnwys y we yn cymryd lle monitro, mae ysgolion yn gyfrifol am fonitro defnydd o’r rhyngrwyd gan ddysgwyr.

Dylai rhaglen addysg diogelwch ar-lein effeithiol ategu'r canllawiau hyn i addysgu plant a phobl ifanc am bwysigrwydd ymddygiadau cyfrifol ac ystyriol ar-lein.

Dylai ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion fabwysiadu'r categorïau a awgrymir i fod yn briodol yn ddatblygiadol ar gyfer dealltwriaeth wybyddol eu dysgwyr yn hytrach na’u gweithredu yn ôl eu hoedran cronolegol.

Dylai pob cais rhyngrwyd sy'n cael ei drosglwyddo trwy rwydwaith ysgol gael ei sganio’n awtomatig gan ddatrysiad hidlo cynnwys y we am gynnwys amhriodol. 

Os caiff unrhyw gynnwys sy'n gysylltiedig â chategori sydd wedi'i rwystro ei ganfod, dylid ei rwystro. Gall pob cais rhyngrwyd gynnwys sawl categori, a dylid rhwystro'r cais os caiff unrhyw un o'r categorïau hynny ei rwystro'n benodol. Er mwyn sicrhau bod yr holl gynnwys yn cael ei sganio, dylid defnyddio atebion technegol priodol trwy bolisïau rheoli dyfeisiau (megis dirprwyon diffiniedig) neu archwiliad HTTPS.

Mae'n hanfodol sicrhau mai dim ond trwy brotocolau a gwasanaethau sy'n cael eu diogelu gan y datrysiad hidlo cynnwys y we y gellir cael mynediad at holl draffig y we. Pan fo protocolau neu wasanaethau amgen cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg, er enghraifft, QUIC, ECH, dylai'r rhain naill ai gael eu hidlo gan y datrysiad hidlo cynnwys y we neu eu rhwystro ar draws y rhwydwaith. Dylai ysgolion siarad â'u darparwr rhwydwaith er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei weithredu.

Pan ddefnyddir dyfeisiau sy'n eiddo i'r ysgol y tu allan i rwydwaith yr ysgol, dylid rhoi hidlo cynnwys y we ar waith.

Argymhellir gweithredu hidlo lefel defnyddiwr, gall hyn ddarparu llwybr archwilio’r we llawn ar gyfer rhybuddion diogelu neu les wrth ddefnyddio dyfais sy'n eiddo i ysgol yn yr ysgol ac mewn lleoliadau eraill, er enghraifft pan ddefnyddir dyfais gartref. Pan fydd rhybuddion monitro yn cael eu galluogi, mae angen gweithredu polisïau a gweithdrefnau addas i’w monitro'n effeithiol ac ymateb yn briodol iddynt.

Mae profi a monitro hidlo cynnwys y we yn barhaus yn hanfodol i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn effeithiol. Argymhellir bod hidlo cynnwys y we yn cael ei brofi gan ddefnyddio teclyn prawf hidlo South Wales Grid for Learning (SWGfL) (Saesneg yn unig). Dylid gwneud hyn ar draws yr amgylchedd digidol mewn gwahanol leoliadau yn ogystal â thrwy wahanol fathau o ddyfeisiau (er enghraifft, Windows, Chromebook).

Mae'r datrysiad hidlo cynnwys y we a gynigir gan Smoothwall yn galluogi ysgolion i weithredu'r safonau hyn. Mae Smoothwall yn ddarparwr hidlo achrededig yr UK Safer Internet Centre (UKSIC) yn unol â safonau hidlo’r UKSIC. Mae mwy o wybodaeth ar gael UK Safer Internet Centre (Saesneg yn unig).

Mae’r safonau hyn wedi’u diweddaru yn 2024 mewn partneriaeth â'r Grŵp Safoni Technegol a Smoothwall.

  • Safonau Hidlo Cynnwys y We pdf 297 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath