Mae fy ysgol yn defnyddio Microsoft Teams
-
- Rhan o:
- Gwersi byw
Ffrydio byw
Gellir ffrydio'n fyw ar Hwb gan ddefnyddio Microsoft Teams Live Events. Gellir fideogynadledda drwy Hwb gan ddefnyddio Google Meet neu Microsoft Teams Meeting. Gall defnyddio'r rhaglenni hyn drwy Hwb ddarparu profiad rhyngweithiol a chyfle i gydweithio a chymryd rhan mewn ffordd ddiogel a hygyrch. I gael rhagor o gymorth gyda ffrydio byw a fideogynadledda, gweler Ffrydio-byw a fideogynadledda: arferion ac egwyddorion diogelu.
Microsoft Teams
Efallai y byddwch yn ystyried ffrydio gwersi byw neu fideogynadledda fel rhan o'ch dull dysgu cyfunol. Os byddwch yn gwneud hynny, dylech roi sylw dyledus i'r canllawiau a amlinellir yn Ffrydio byw a fideogynadledda: arferion ac egwyddorion diogelu i sicrhau eich bod chi a'ch dysgwyr yn cael eich diogelu'n briodol.
Mae Microsoft Teams yn darparu cyfleusterau rhannu sain, fideo, ffeil a sgrin i athrawon, felly gellir ei ddefnyddio i ffrydio gwersi'n fyw gyda dysgwyr.
Live events
Faint o ddysgwyr all fynychu digwyddiad byw?
10,000 o gyfranogwyr yw’r nifer uchaf sy’n bosibl ar gyfer Digwyddiad Byw Teams.
Sut mae trefnu digwyddiad byw Live Events (gweminar)?
Mae gan athrawon yr opsiwn i drefnu digwyddiadau byw yn Live Events. (gweminarau).
Noder na all dysgwyr drefnu ‘Meetings’ na ‘Live Events’.
I drefnu digwyddiad byw, ewch i’r Calendr ar ochr chwith yr ap a dewiswch y gwymplen ar y saeth i lawr wrth ymyl y botwm Cyfarfod newydd ar ochr dde uchaf yr ap.
Dewiswch Live Events.
Teipiwch fanylion y digwyddiad, gwahoddwch gyflwynwyr eraill a dewiswch Nesaf.
Dewiswch osodiadau caniatâd y digwyddiad: y gosodiad diofyn yw Ar draws y sefydliad, sy'n caniatáu i unrhyw un sydd â manylion mewngofnodi Hwb weld y digwyddiad. Gallwch hefyd ddewis Cyhoeddus i greu dolen i fynychwyr sy'n caniatáu i unrhyw un weld y digwyddiad (dim angen mewngofnodi).
Sgroliwch i lawr i weld opsiynau ychwanegol, gan gynnwys y gallu i droi'r opsiwn holi ac ateb ymlaen.
Dewiswch Trefnu, yna copïwch y ddolen Attendee a'i rhannu gyda'ch dysgwyr. Bydd angen i chi ddweud wrthynt beth yw dyddiad ac amser y digwyddiad byw.
Dysgu mwy am Microsoft Teams Live Events (Saesneg yn unig)
Pa reolaethau sydd gan athrawon ar gyfer digwyddiadau byw?
Mae athrawon sy'n creu digwyddiadau byw Live Events yn cymryd rôl y Cynhyrchydd yn awtomatig. Dim ond y cynhyrchydd all ddechrau'r digwyddiad byw a rheoli pa gynnwys gan gyflwynwyr eraill sydd i'w weld.
Gall cyflwynwyr gymedroli sgwrs yn y sianel holi ac ateb, a gallant rannu eu camera, eu sain a'u sgrin.
Bydd athrawon eraill sy’n cael eu hychwanegu i’r digwyddiad yn cael rôl cyflwynydd yn ddiofyn, ond gallwch newid eu rôl i gynhyrchydd.
Dim ond yr athrawon (sydd â rôl cynhyrchydd neu gyflwynydd) y gellir eu gweld a'u clywed. Gall yr holl fynychwyr (dysgwyr) weld y digwyddiad byw, ond heb allu rhannu eu sain na'u fideo. Dim ond drwy deipio cwestiynau yn y sianel holi ac ateb y gallant ryngweithio â'r digwyddiad byw.
Sut mae troi sgwrs a gymedrolir ymlaen mewn digwyddiad byw?
Dim ond pan fydd athro yn eu cyhoeddi y gellir gweld cwestiynau a sylwadau a roddwyd yn y sianel holi ac ateb.
Rhaid dewis yr opsiwn ar gyfer y sianel holi ac ateb wrth sefydlu'r digwyddiad byw ar y dechrau.
Sut ydw i'n dechrau digwyddiad byw?
I ddechrau gwers digwyddiad byw rydych chi eisoes wedi'i threfnu:
- Ewch i'ch calendr yn Teams adeg y wers.
- Cliciwch ar y wers a drefnwyd.
- Dewiswch Ymuno, fe welwch chi ffenestr newydd. Yma, gallwch addasu’r gosodiadau camera, cefndir a meicroffon cyn ymuno.
Cliciwch Ymuno nawr.
Sut mae dod â digwyddiad byw i ben?
Dylai athrawon sicrhau eu bod yn dod â'r cyfarfod neu'r digwyddiad byw i ben ar gyfer yr holl gyfranogwyr ar ddiwedd pob sesiwn ffrydio byw. I ddod â chyfarfod i ben, ewch i far offer Teams, dewiswch y tri dot llorweddol (...) a dewiswch gorffen cyfarfod. I ddod â digwyddiad byw i ben, cliciwch Gorffen a chytunwch i'r neges gadarnhau.
Trefnu gwers gan ddefnyddio Microsoft Teams
Gall athrawon drefnu gwers ar gyfer dysgwyr yn Microsoft Teams mewn 3 ffordd:
- Yng nghalendr Teams, cliciwch Cyfarfod newydd (ochr dde uchaf yr ap).
- Yng nghalendr Teams, dewiswch amser ar y calendr.
- Mewn Tîm Dosbarth (Class Team), cliciwch y gwymplen saeth i lawr wrth ymyl Meet ar ochr dde uchaf y sgrin a dewiswch Trefnu cyfarfod.
Bydd pob opsiwn yn agor ffurflen Cyfarfod newydd, a bydd angen i chi:
- Roi teitl ac ychwanegu dysgwyr neu staff fel mynychwyr gofynnol
- Nodi dyddiad ac amser y wers
- Os oes angen, gallwch hefyd ddewis Ychwanegu sianel, sy'n anfon hysbysiad at yr holl ddysgwyr sy'n perthyn i'r sianel Tîm benodol a ddewiswyd.
- Os oes angen, gallwch hefyd roi gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y wers yn y blwch testun rhydd. Anfonir hwn gyda'r gwahoddiad
- Cliciwch Anfon
Bydd y defnyddwyr a wahoddir yn derbyn gwahoddiadau calendr drwy e-bost gyda manylion ymuno ac, os yw'r wers wedi'i threfnu ar gyfer Tîm Dosbarth, bydd y wybodaeth ymuno hefyd yn ymddangos yn Sgwrs y Tîm.
Faint o ddysgwyr all fynychu cyfarfod Teams?
Gellir trefnu cyfarfodydd Teams ar gyfer cyfanswm o hyd at 1000 o gyfranogwyr, gan gynnwys aelodau staff. I gael rhagor o wybodaeth am uchafswm nifer y mynychwyr, terfynau a manylebau.
Sut mae dechrau gwers sydd wedi’i threfnu?
I ddechrau gwers rydych eisoes wedi'i threfnu:
- Ewch i'ch calendr yn Teams pan mae hi’n amser ar gyfer y wers.
- Cliciwch ar y wers a drefnwyd.
- Dewiswch Ymuno, ac fe welwch ffenestr newydd. Yma, gallwch addasu gosodiadau camera, cefndir a meicroffon cyn ymuno.
Cliciwch Ymuno.
Sut mae gwahodd mwy o ddysgwyr ac athrawon i'r wers?
Unwaith y bydd cyfarfod wedi dechrau, gall athrawon ychwanegu mwy o ddysgwyr ac athrawon at y wers drwy rannu'r ddolen Ymuno â’r cyfarfod:
- Dewiswch Mwy o gamau (...) a dewiswch Manylion y cyfarfod.
- Cliciwch Copïo gwybodaeth am swydd.
- Gludwch fanylion y cyfarfod mewn e-bost at grwp o ddysgwyr, neu gludwch y manylion mewn sgwrs Teams
Bydd y defnyddwyr a wahoddwyd yn derbyn gwahoddiadau calendr drwy e-bost gyda'r manylion ymuno.
Sut mae dechrau gwers gan ddefnyddio Meet now?
Mae'r swyddogaeth Cyfarfod nawr yn Teams yn caniatáu i athrawon greu cyfarfod gwers ar gyfer dysgwyr dethol heb ei drefnu ymlaen llaw. Mae hyn yn eich galluogi i greu gwers yn gyflym iawn.
Gallwch ddechrau Cyfarfod nawr mewn 3 le:
- Mewn Tîm Dosbarth, cliciwch ar y saeth i lawr wrth ymyl Cwrdd ar ochr dde uchaf y sgrin, a dewiswch Cyfarfod nawr.
- Yng nghalendr Outlook (Bwrdd Gwaith yn unig), cliciwch y botwm Cyfarfod nawr yn y rhuban.
- Yng nghalendr Teams, cliciwch Cyfarfod nawr yn ochr dde uchaf y sgrin, a dewiswch Dechrau cyfarfod.
Noder: Mae’r dull Teams calendar hefyd yn gadael i chi ffurfweddu opsiynau cyfarfod ychwanegol a chopïo dolen y cyfarfod i’w rhannu.
- Cliciwch Cyfarfod nawr a dewiswch Cael dolen i rannu.
- Cliciwch Ffurfweddu dewisiadau'r cyfarfod os oes angen.
Gallwch nawr ddechrau’r cyfarfod ar unwaith drwy glicio ar Dechrau cyfarfod neu rannu dolen y cyfarfod gydag eraill ar e-bost ac ati i’w defnyddio yn ddiweddarach. (Bydd yr opsiynau cyfarfod a ddewisir yn ddilys ar gyfer pryd bynnag y defnyddir dolen y cyfarfod).
Bydd y 3 dull yn mynd â chi i sgrin cyn-cyfarfod Cyfarfod nawr lle gallwch addasu rhai gosodiadau cyn ymuno:
- Ailenwi'r cyfarfod
- Addasu gosodiadau camera, cefndir a meicroffon.
Pan fyddwch yn barod, cliciwch Ymuno nawr.
Bydd y cyfarfod yn dechrau a bydd y ffenestr Gwahodd pobl i ymuno â chi yn ymddangos. Gall athrawon ychwanegu pobl at wers drwy ddefnyddio un o’r opsiynau hyn:
- Copio dolen y cyfarfod– Gellir ei rhannu ar e-bost neu wasanaeth cyfarfod arall
- Ychwanegu mynychwyr - Mae hwn yn agor y ddewislen Participants lle gallwch chwilio am ddefnyddwyr a’u hannog i ymuno os ydyn nhw ar-lein.
- Rrhannu drwy'r e-bost diofyn - Bydd hwn yn rhannu dolen y cyfarfod ar e-bost.
Gallwch hefyd wahodd mwy o bobl yn ddiweddarach yn y wers: Sut mae gwahodd mwy o ddysgwyr ac athrawon i'r wers?
Dewisiadau cyfarfod
Cyn y cyfarfod
Fel trefnydd y wers, dylech reoli opsiynau i gynyddu diogelwch ar-lein eich dysgwyr.
Noder. Os ydych yn trefnu cyfarfod ar gyfer mwy na 40 o bobl, gofynnir i chi osod Dewisiadau’r cyfarfod.
Os ydych yn dewis peidio â gosod dewisiadau, bydd y cyfarfod yn etifeddu’r gosodiadau diofyn
I weld a newid y gosodiadau hyn:
- Dwbl-gliciwch ar y cyfarfod penodol yng nghalendr Teams (neu dewiswch Golygu)
- Cliciwch Dewisiadau’r cyfarfod ar frig y ffurflen
- Gwnewch unrhyw newidiadau gofynnol i'r gosodiadau isod a chlicio Cadw.
- Pwy all osgoi'r lobi? – (gweler y bocs testun pwysig isod)
- Cyhoeddi pan fydd galwyr yn ymuno â'r cyfarfod neu'n ei adael – Bydd hwn yn eich rhybuddio pan fydd rhywun ffonio i mewn neu’n gadael eich gwers. Y rhagosodiad yw Ie.
- Pwy all gyflwyno? – Mae hwn yn eich galluogi i reoli pwy all gyflwyno yn ystod y wers. I wersi gyda dysgwyr, rydym yn argymell eich bod yn gosod hwn fe y gwerth rhagosodedig: Dim ond fi.
- Caniatáu meicroffon y mynychwyr? – Mae diffodd hwn yn eich galluogi i atal yr holl gyfranogwyr rhag ddad-ddistewi eu microffonau. Y rhagosodiad yw Iawn.
- Caniatáu sgwrs cyfarfod – Mae hyn yn eich galluogi i alluogi neu analluogi’r swyddogaeth sgwrsio, neu gyfyngu ar y sgwrs yn ystod galwad. Y rhagosodiad yw Wedi galluogi.
- Caniatáu ymatebion – Mae hwn yn eich galluogi i reoli a gaiff cyfranogwyr ddefnyddio ymateb fel bawd i fyny neu galon. Y rhagosodiad yw Iawn.
PWYSIG
Pwy all osgoi'r lobi - Y gwerth diofyn ar gyfer y gosodiad hwn yw 'Dim ond fi'. Mae'r gosodiad hwn yn sicrhau y bydd angen i ddysgwyr ac aelodau staff eraill aros yng nghyntedd y cyfarfod nes i chi ymuno â'r wers a'u derbyn.
Byddem yn argymell cadw'r opsiwn 'Dim ond fi' ar gyfer pob cyfarfod gyda dysgwyr, gan fod hyn yn eu hatal rhag ymuno â'r cyfarfod yn gynnar neu ailymuno ar ôl iddo orffen.
Os oes angen, gallwch newid y gosodiad Pwy all osgoi'r lobi cyn neu yn ystod y cyfarfod yn Dewisiadau’r cyfarfod e.e. os ydych chi'n creu cyfarfodydd staff (dim dysgwyr yn bresennol) lle nad ydych chi'n dymuno defnyddio'r cyfleuster cyntedd. Ar gyfer hyn, byddem ddim ond yn argymell defnyddio 'Pobol o fewn eich sefydliad a gwesteion' yn hytrach nag 'Pawb’.
Ar ôl i gyfarfod ddechrau
Fel trefnydd y wers, gallwch addasu opsiynau'r cyfarfod yn ystod y wers.
I weld a newid y gosodiadau hyn yn ystod gwers:
- Cliciwch Mwy o gamau (...) yn y ddewislen
- Dewiswch Show meeting details (perthnasol i’r ap gwe yn unig)
- Dewiswch Dewisiadau’r cyfarfod i weld y rhestr.
- Gwnewch unrhyw newidiadau gofynnol i'r gosodiadau isod a chlicio Cadw.
- Pwy all osgoi'r lobi? – (gweler y bocs testun pwysig uchod)
- Cyhoeddi pan fydd galwyr yn ymuno â'r cyfarfod neu'n ei adael – Bydd hwn yn eich rhybuddio pan fydd rhywun ffonio i mewn neu’n gadael eich gwers. Y rhagosodiad yw Ie.
- Pwy all gyflwyno? – Mae hwn yn eich galluogi i reoli pwy all gyflwyno yn ystod y wers. I wersi gyda dysgwyr, rydym yn argymell eich bod yn gosod hwn fe y gwerth rhagosodedig: Dim ond fi.
- Caniatáu meicroffon y mynychwyr? – Mae diffodd hwn yn eich galluogi i atal yr holl gyfranogwyr rhag ddad-ddistewi eu microffonau. Y rhagosodiad yw Iawn.
- Caniatáu sgwrs cyfarfod – Mae hyn yn eich galluogi i alluogi neu analluogi’r swyddogaeth sgwrsio, neu gyfyngu ar y sgwrs yn ystod galwad. Y rhagosodiad yw Wedi galluogi.
- Caniatáu ymatebion – Mae hwn yn eich galluogi i reoli a gaiff cyfranogwyr ddefnyddio ymateb fel bawd i fyny neu galon. Y rhagosodiad yw Iawn.
Recordio gwers
I ddechrau recordio gwers ar ôl i'r wers ddechrau:
- Cliciwch ar y tri dot yn y ddewislen a dewiswch Dechrau recordio.
- Cliciwch Gweld polisi i adolygu polisi Hwb.
- Ewch yn ôl i'r cyfarfod Teams a chlicio Derbyn.
I roi'r gorau i recordio gwers ar ôl i'r wers ddechrau:
- Cliciwch ar y tri dot yn y ddewislen a dewiswch Gorffen recordio.
- Cliciwch Gorffen recordio eto yn y neges sy’n ymddangos.
Ble mae recordiadau'n cael eu storio neu eu hanfon?
Manylion am ble mae recordiadau gwersi Teams yn cael eu storio neu eu hanfon
Gosodiadau camera
Sut galla i newid gosodiadau fy nghamera?
Gallwch glicio ar yr eicon camera i droi eich gwe-gamera ymlaen neu i’w ddiffodd yn ystod y wers.
Gair i gall: Os ydych chi'n dymuno troi'ch camera ymlaen yn ystod gwers, hofranwch dros yr eicon camera heb glicio a bydd rhagolwg preifat o'ch porthiant camera yn cael ei ddangos i chi yn unig. Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr bylu neu gymhwyso a rhagolwg effeithiau cefndir yma. Pan fyddwch chi'n barod, cliciwch Defnyddio a rhoi fideo ar waith.
Newid y cefndir
I newid yr effaith cefndir, dewiswch Mwy o gamau (...) a dewiswch Defnyddio effeithiau cefndirol. Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr newid neu bylu eu cefndir.
Nid yw pob porwr neu ddyfais yn cefnogi gwneud newidiadau i'r cefndir
Ni ddylai athrawon ddiffodd fideo sy'n dod i mewn gan y byddai'n eu hatal rhag gweld ffrwd fideo dysgwyr.
Argymhellir eich bod yn annog eich dysgwyr i ddewis effaith cefndir neu bylu eu cefndir fel yr amlinellir yn Ffrydio byw: arferion ac egwyddorion diogelu.
Gosodiadau sain
Sut galla i ddiffodd fy sain fy hun neu sain y dysgwyr?
Gallwch glicio'r eicon meicroffon i ddiffodd neu ddad-ddiffodd eich meicroffon.
I ddiffodd meicroffon dysgwr, agorwch y rhestr o gyfranogwyr a chlicio ar yr eicon meicroffon wrth ymyl enw'r person rydych am ei dawelu. Dewiswch Tewi’r mynychwr.
I atal dysgwr rhag dad-ddistewi eu microffon ar ôl i chi ei ddistewi, agorwch y rhestr cyfranogwyr a chlicio’r 3 dot ar draws wrth ochr enw’r dysgwr. Dewiswch Analluogi meic.
Er mwyn atal pawb sy'n bresennol rhag dad-dewi eu meicroffonau pan fyddwch chi wedi'u tewi, diffoddwch yr opsiwn Caniatáu i fynychwyr dad-dewi'r yn Dewisiadau'r cyfarfod. Gellir newid hyn cyn neu yn ystod y wers.
Derbyn dysgwyr i wers
Er mwyn sicrhau nad yw dysgwr yn ymuno cyn ymarferydd, mae'r gosodiad Pwy all osgoi'r lobi wedi'i osod i 'Dim ond fi' yn awtomatig ar gyfer pob cyfarfod. Mae hyn yn golygu y bydd angen i'r trefnydd dderbyn pob dysgwr i'r sesiwn.
DS Gellir ffurfweddu'r opsiynau hyn ac opsiynau eraill cyn neu ar ôl i'r cyfarfod ddechrau yn Dewisiadau’r cyfarfod.
Pan fydd dysgwr yn aros, bydd neges naid yn ymddangos, cliciwch Cyfaddef.
Noder: os oes gan y trefnydd y rhestr o gyfranogwyr ar agor yna ni fydd neges naidlen yn ymddangos pan fydd mynychwyr newydd yn ymuno â'r lobi.
Yn lle, bydd trefnwyr cyfarfodydd yn gweld enwau'r mynychwyr sy'n aros ar frig y rhestr o gyfranogwyr. Yna, gall y trefnydd ddewis y tic wrth bob enw i'w derbyn neu ddewis yr X i'w hatal rhag ymuno.
Derbyn defnyddwyr allanol/defnyddwyr nad ydyn nhw'n ddefnyddwyr Hwb i wers
Rhybudd: Mae'n bosibl i gyfrifon nad ydyn nhw'n gyfrifon Hwb ofyn am gael ymuno â gwers os yw manylion y cyfarfod wedi'u rhannu (naill ai'n fwriadol neu'n anfwriadol).
Noder: Gallwch ystyried gofyn i unrhyw gyfrif defnyddiwr nad yw’n gyfrif Hwb sicrhau bod y camera ymlaen er mwyn i chi wirio pwy ydyn nhw.
Os ydych yn derbyn cyfrif defnyddiwr nad yw’n gyfrif Hwb ar ddechrau gwers, dylech wirio pwy ydyn nhw cyn derbyn cyfrifon defnyddwyr Hwb cydnabyddedig i’r wers.
Os nad ydych chi'n adnabod y cyfrif, argymhellir eich bod yn gwrthod y cais i ymuno â'r wers.
Os ydych yn derbyn cyfrif defnyddiwr nad yw’n gyfrif Hwb yn ystod gwers, dylech wirio pwy ydyn nhw cyn parhau â’ch gwers.
Os ydych chi wedi derbyn rhywun i'r wers yn ddamweiniol, gallwch chi eu tynnu nhw o'r wers (Tynnu or dosbarth)
Sut alla i ofalu nad yw dysgwyr yn mynd i mewn i gyfarfod Teams cyn athro?
Gall athrawon osod opsiynau'r cyfarfod (Dewisiadau’r cyfarfod) cyn i'r cyfarfod ddechrau neu yn ystod y cyfarfod. Y gosodiad diofyn ar gyfer Pwy all osgoi'r lobi yw 'Dim ond fi'. Mae'r gosodiad hwn yn sicrhau y bydd angen i ddysgwyr ac aelodau staff eraill aros yng nghyntedd y cyfarfod nes i chi ymuno â'r wers a'u derbyn.
Sut galla i weld pwy sydd wedi ymuno â gwers?
I weld pwy sydd wedi ymuno â'r wers, cliciwch ar yr eicon pobl i weld pwy sydd yn y cyfarfod. Gallwch ychwanegu dysgwyr, athrawon neu gyflwynwyr newydd yma hefyd yn ystod y cyfarfod.
Gall trefnwyr cyfarfodydd lawrlwytho rhestr o’r rhai sy’n bresennol. Rhaid gwneud hyn o ap bwrdd gwaith Teams cyn dod â'r cyfarfod i ben.
- Agorwch y rhestr o gyfranogwyr
- Dewiswch y tri dot llorweddol wrth ymyl y gair 'participants’
- Dewiswch 'Download attendance list’
Bydd y rhestr o bwy oedd yn bresennol yn dangos amseroedd cyrraedd ac ymadael pawb sy'n cymryd rhan yn y cyfarfod.
Gair i gall: dylai trefnwyr cyfarfod lawrlwytho'r rhestr presenoldeb ychydig cyn diwedd y cyfarfod i sicrhau bod y ffeil yn dangos pawb sy'n cymryd rhan yn y cyfarfod, gan gynnwys unrhyw un a ymunodd yn hwyr.
Gwybodaeth: Efallai na fyddwn yn gallu darparu cyfeiriadau e-bost na chyfeiriadau IP unrhyw ddefnyddwyr allanol.
Cyfyngiad gan Microsoft yw hwn, ac o’r herwydd, os oes angen y wybodaeth hon, awgrymwn eich bod yn cysylltu â Desg Gymorth Hwb ar fyrder er mwyn bod â gwell siawns y bydd y data ar gael.
Rhannu sgriniau
Sut galla i rannu neu gyflwyno fy sgrin?
Gallwch glicio'r eicon petryal gyda saeth i rannu eich sgrin. Byddwch yn cael yr opsiwn i gyflwyno eich sgrin, ffenestr, ffeil neu fwrdd gwyn. Gallwch hefyd gynnwys y sain o'ch cyfrifiadur drwy dicio'r togl swn cyfrifiadur.
Sut ydw i’n caniatáu i ddysgwyr rannu neu gyflwyno eu sgrin?
Er mwyn caniatáu i ddysgwyr gyflwyno eu sgrin yn ystod gwers, agorwch y rhestr o gyfranogwyr a de-glicio ar y dysgwr yr hoffech ganiatáu iddo gyflwyno. Cliciwch Gwneud yn gyflwynydd. Unwaith y bydd y dysgwr wedi gorffen cyflwyno, gallwch dde-glicio eto i'w wneud yn mynychwr fel na fydd yn gallu rhannu na chyflwyno ei sgrin mwyach.
Cyfranogiad dysgwyr
Codi llaw
Cod llaw (cliciwch ar yr eicon llaw i godi llaw neu i roi eich llaw i lawr)
Mae'r nodwedd hon yn caniatáu i ddysgwyr godi eu llaw yn rhithwir, gan ganiatáu i chi a dysgwyr eraill nodi pryd maent yn dymuno siarad gyda chiw gweledol ar eu ffrwd fideo. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i chi reoli gwers.
Gair i gall: Gall athrawon fynd i’r rhestr o gyfranogwyr i roi dwylo dysgwyr i lawr.
Sgwrs cyfarfod
Sgwrs cyfarfod (cliciwch ar yr eicon swigen siarad)
Mae sgwrs cyfarfod yn rhoi lle i bob dysgwr ac athro ryngweithio drwy destun. Dylai'r swyddogaeth hon gael ei monitro gan yr athrawon yn ystod y sesiwn. Mae hon yn ffordd ddefnyddiol i ddysgwyr ofyn cwestiynau, gwneud sylwadau neu rannu dolenni heb dorri ar draws sain.
Gallwch glicio'r eicon swigen siarad i weld sgwrs y cyfarfod. Gallwch gadw llygad ar sgwrs y cyfarfod yn ystod y wers.
Sut ydw i'n dileu sylwadau a adawyd gan ddysgwyr?
Ar hyn o bryd, nid yw'n bosibl i ddysgwyr ddileu eu sylwadau eu hunain nac i ymarferwyr ddileu sylwadau a adawyd gan ddysgwyr. Cysylltwch â desg gymorth Hwb os ydych chi angen tynnu unrhyw sylwadau.
Tynnu dysgwr o wers
Gall athrawon dynnu dysgwyr o wers os ydynt yn ymddwyn yn amhriodol.
I dynnu rhywun o wers, agorwch y rhestr o gyfranogwyr a dde-glicio ar y dysgwr rydych am ei dynnu o'r wers. Dewiswch Tynnu o’r cyfarfod.
Gorffen y wers
I orffen y wers o’r ap bwrdd gwaith, cliciwch y gwymplen ar y saeth i lawr wrth ymyl y botwm Gadael coch, a dewiswch Gorffen y cyfarfod.
I orffen y wers o’r ap gwe, cliciwch Mwy o gamau (…) yn y ddewislen, a dewiswch Gorffen y cyfarfod.
Rhaid i athrawon sicrhau eu bod yn dod â'r wers i ben fel hyn gan y bydd hyn yn dod â'r wers i ben ar gyfer pob dysgwr ac athro. Ni ddylai athrawon ddefnyddio'r eicon ffôn coch i adael y cyfarfod heb ddewis Gorffen cyfarfod yn gyntaf gan y byddai hyn yn caniatáu i eraill barhau â'r cyfarfod heboch chi.
Capsiynau byw
Sut mae defnyddio capsiynau byw i gefnogi hygyrchedd?
Cliciwch ar Mwy o gamau (...) yn y ddewislen a dewiswch Troi capsiynau caeedig ymlaen. Mae'r capsiynau'n ymddangos ar waelod y sgrin, dros y fideo
Nodiadau gwersi
Rhannu a cofnodi nodiadau
Mae nodiadau cyfarfod Meeting notes yn lle gwych i gofnodi a rhannu nodiadau cyn, yn ystod, ac ar ôl cyfarfod Teams.
Cliciwch ar Mwy o gamau (...) yn y ddewislen a dewiswch Nodiadau’r cyfarfod.
Rhai pethau i'w cofio:
- Dim ond pobl yn yr un sefydliad â threfnydd y cyfarfod fydd yn gallu dechrau neu weld nodiadau cyfarfod.
- Nid yw nodiadau cyfarfod ar gael mewn cyfarfodydd â mwy nag 20 o bobl.
Dim ond pobl sy'n cael eu gwahodd i gyfarfod cyn i nodiadau gael eu creu fydd yn gallu cael mynediad atynt. Ni fydd pobl a wahoddir yn ddiweddarach yn gallu cael mynediad atynt.
Newid iaith
Dewiswch eich llun proffil ar frig yr ap Teams, yna dewiswch Gosodiadau > Cyffredinol ac ewch i'r adran Iaith.
Mae Microsoft Teams ar gael mewn amryw o ieithoedd, gan gynnwys Cymraeg.