English

Cynulleidfa a awgrymir: dysgwyr, staff ysgol, pencampwyr digidol mewn ysgolion, gweinyddwyr Hwb mewn awdurdodau lleol, gweinyddwyr Hwb ar gyfer consortia addysg rhanbarthol.

Mae Just2easy (J2e) yn cynnig set o adnoddau meddalwedd ar gyfer addysg, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae J2e yn cynnig gemau, apiau ac adnoddau creadigrwydd ar gyfer Mathemateg, Saesneg, Cyfrifiadura a gweithgareddau creadigol trawsgwricwlaidd mewn profiad dysgu cwbl bersonol.

Mae gan holl ddogfennau J2e gyfeiriad gwe unigryw eu hunain. Gallwch eu defnyddio ar unrhyw borwr gwe, a’u rhannu’n rhwydd ag athrawon, dysgwyr, teulu a ffrindiau.


Mae gan ddefnyddwyr Hwb ddau opsiwn i gael mynediad at Just2easy:

Opsiwn 1:

  1. Ewch i https://hwb.llyw.cymru a mewngofnodi gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Hwb.
  2. Cliciwch Just2easy.
  3. Dewiswch y rhaglen J2e rydych am ei defnyddio.

Opsiwn 2:

  1. Ewch i j2e.com.
  2. Cliciwch yr eicon Hwb.
  3. Mewngofnodwch gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Hwb.
  4. Dewiswch y rhaglen J2e rydych am ei defnyddio.

Fel mater o drefn, bydd defnyddwyr yn cael eu rhestru yn ôl eu henw cyntaf a cymeriad gyntaf eu cyfenw.

Gall athro olygu’r enw arddangos er mwyn gwahaniaethu rhwng defnyddwyr sydd â’r un enw:

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen rheoli defnyddwyr.
  3. Cliciwch y tab rheoli defnyddwyr(ar hyd y top).
  4. Cliciwch yr enw sy’n cael ei ddangos ar gyfer y defnyddiwr perthnasol, a byddwch chi’n gallu teipio enw newydd.

Neu, gall defnyddiwr newid ei enw sy’n cael ei ddangos ei hun:

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch eich enw (yng nghornel dde uchaf sgrin j2launch).
  3. Cliciwch fy ngosodiadau.
  4. Teipiwch eich enw yn y blwch enw sy’n cael ei ddangos.
  5. Cliciwch y groes wen i gau eich gosodiadau.

j2launch yw’r hafan ar gyfer J2e, lle bydd cyfres o deils sy’n gysylltiedig â gwahanol raglenni J2e ar gael. Fe allwch chi greu teils ychwanegol, eu trefnu’n ffolderi, a rhannu teils neu ffolderi cyfan â grwpiau o ddysgwyr. Gall y teils hyn fod yn ddolenni at wefannau eraill (gan gynnwys rhestrau chwarae Hwb), neu’n ddolenni at ffeiliau j2e5.

Mae j2message yn galluogi athrawon a dysgwyr i anfon neges at ei gilydd mewn amser real. Anfonir hysbysiad pan fydd neges newydd ar gael. Gall athrawon ddewis anfon neges naill ai i ysgol neu ddosbarth, neu at ddefnyddwyr unigol. Gall y disgyblion anfon neges at athro, a gall athro ddewis rhannu'r neges honno gyda dosbarth, os dymunant. Gellir dileu negeseuon ond byddan nhw’n wastad ar gael  i bob athro drwy'r botwm 'log j2message' ar y j2dashboard.

Defnyddio’r gwasanaeth

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar deilsen j2message.
  3. Crëwch neges drwy glicio ar yr ysgol, y dosbarth, neu'r defnyddiwr ac ysgrifennu’r neges yn y blwch a ddarperir. Yna bwyswch y botwm anfon gwyrdd (ar ochr dde'r dudalen).
  4. Bydd y neges yn ymddangos yn awtomatig ar gyfer y defnyddiwr/defnyddwyr a ddewiswyd os yw j2message ar agor gyda nhw. Os nad yw, byddan nhw’n gweld hysbysiad coch yn dangos nifer y negeseuon sy'n aros amdanyn nhw ar deilsen j2message ar y j2dashboard.
  5. Gall athrawon ddewis atal disgyblion rhag ateb negeseuon mewn dosbarth drwy ddad-ddewis yr eicon "sgwrs disgybl" ar frig ochr dde bwrdd negeseuon y dosbarth.
  6. Yn ddiofyn, ni fydd negeseuon disgyblion yn cael eu gweld gan ddisgyblion eraill. Fodd bynnag, os bydd athro yn clicio ar y clo wrth ymyl yr eicon llefaru (ar ochr dde'r bwrdd negeseuon dosbarth), bydd hyn yn newid, er mwyn i'r disgyblion allu gweld negeseuon disgyblion eraill yn syth yn y dosbarth hwnnw.
  7. Ymateb i neges drwy glicio ar y "botwm ateb" llwyd wrth ymyl neges.
  8. Dileu neges drwy glicio ar y groes goch wrth ymyl neges.
  9. Gall athrawon rannu neges drwy glicio ar y botwm "rhannu" glas wrth ymyl neges. Bydd hyn yn copïo'r neges i'r blwch neges isod, lle gall athro ychwanegu ei sylw ei hun os yw’n dymuno.

Archwilio

I weld ffeil sy'n cynnwys pob neges ar gyfer yr ysgol, cliciwch ar y botwm 'log j2message' ar y "j2dashboard". Bydd hyn yn lawrlwytho ffeil csv o bob neges ar gyfer yr ysgol, gan gynnwys unrhyw negeseuon sydd wedi'u dileu. Nodyn: Ni ellir golygu negeseuon, felly bydd y log hwn bob amser yn cynnwys popeth.

Mae J2homework yn caniatáu i ddysgwyr weld y tasgau a osodwyd gan yr athro yn hawdd.

Dysgwyr

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar y deilsen j2homework.
  3. Os oes tasg wedi ei gosod i chi, cliciwch ar y saeth werdd i weld yr holl gyfarwyddiadau gwaith cartref
  4. Cliciwch y botwm gwyrdd ‘go to homework’
  5. Cwblhewch y dasg.
  6. Ewch yn ôl i’r deilsen j2homework a chlicio ar “Mark complete” fel bod yr athro yn gwybod eich bod wedi cwblhau’r dasg.

 

Offer Athrawon

Gosod gwaith cartref

  1. Cliciwch ar y deilsen j2homework
  2. Cliciwch ar ‘Assign homework’
  3. Ysgrifennwch bennawd y gweithgaredd a’i ddisgrifio.
  4. Ychwanegwch URL i adnodd ar y we (dewisol)
  5. Dewiswch y dosbarth a’r dyddiad cwblhau ar gyfer y dasg.
  6. Gosodwch y gwaith cartref.
  7. Gall athrawon weld rhestr ‘Completed by’, sy’n rhestr o ddysgwyr sydd wedi marcio eu bod wedi cwblhau’r dasg.

 


Mae J2Create yn rhoi cyfle i ddysgwyr ac athrawon greu cynnwys ar-lein yn rhwydd ar ‘bapur digidol’. Mae modd ychwanegu testun, delweddau a fideos a rhannu gwaith ar-lein.

Mae modd defnyddio J2Create hefyd i greu arolygon i gasglu a dadansoddi data ar-lein. Bydd yr holl waith yn cael ei gadw ar-lein, a bydd modd cael mynediad ato ar unrhyw ddyfais sydd â phorwr gwe.

Dechrau arni

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen J2Create.
  3. Dewiswch arddull y testun a’r ffont o’r opsiynau ar y dde.
  4. Cliciwch unrhyw le ar y dudalen a theipio eich gwaith.
    • I newid arddull y testun neu’r ffont ar ôl i chi deipio, amlygwch y testun a defnyddiwch yr opsiynau ar yr ochr dde. Hefyd, gallwch gylchdroi’r testun gan ddefnyddio'r saethau llusgo er mwyn cylchdroi sy’n ymddangos pan fyddwch chi’n amlygu’r testun.

Mae jit5 wedi’i ddylunio ar gyfer y dysgwyr ieuengaf, ac yn cynnig 8 adnodd integredig sy’n gweithio ar wahanol lwyfannau. Mae dysgwyr yn gallu ysgrifennu, peintio, creu rhaglenni crwban, pictogramau a siartiau, defnyddio canghennau o gronfeydd data ac animeiddiadau, a’u cyfuno gyda’i gilydd i greu cyfuniad personol. Mae dysgwyr hefyd yn gallu recordio sain i ategu eu gwaith.

Bydd yr holl waith yn cael ei gadw yn adran fy ffeiliau y dysgwyr ar J2e, a bydd staff yr ysgol yn gallu ei weld. Bydd y staff hefyd yn gallu defnyddio sgwrs dysgu, sy’n annog dysgwyr i bwyso a mesur ac yn galluogi athrawon i roi adborth ar unwaith – yn ysgrifenedig neu ar lafar – ar ddarn o waith neu ffolder gyfan.

Dechrau arni

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen jit5.
  3. Dewiswch dempled neu lun yn gefndir.
  4. Ysgrifennu yw’r offeryn diofyn a fydd yn ymddangos. I newid offer, cliciwch un o’r opsiynau ar y tabiau ar frig y dudalen.

Mae j2code yn cynnwys offer, adnoddau a chynlluniau gwersi i gyflwyno’r pwnc codio – o’r Cyfnod Sylfaen hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, a thu hwnt.

Mae modd cwblhau’r gwaith i gyd ar borwr gwe, felly does dim angen meddalwedd arbennig. Bydd holl waith dysgwyr yn cael ei gadw yn eu hadran fy ffeiliau ar J2e, er mwyn i staff fwrw golwg drosto.

Mae’r platfformau codio canlynol ar gael yn j2code:

  • jit – ar gyfer CA1
  • Visual – ar gyfer CA1-CA3
  • Logo – ar gyfer CA1-CA3
  • Microbit – ar gyfer CA1-CA3

Gallwch fewngludo gwaith o Scratch hefyd.

Mae j2code yn cynnwys efelychydd ar gyfer BBC Microbit erbyn hyn, sef microgyfrifiadur llaw y gellir ei raglennu a’i ddefnyddio i wneud arbrofion codio syml a chreadigol.

Mae fideos ‘dechrau arni’ ar gael o brif ddewislen j2code, sy’n egluro holl swyddogaethau j2code.

Dechrau arni

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen j2code.

Mae j2vote yn galluogi dysgwyr i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd wedi’i osod gan eu hathro neu gyd-ddysgwyr, gan ddefnyddio dyfais tabled, ffôn a gliniadur. Does dim angen prynu setiau llaw drud sydd ond yn cyflawni un diben.

Bydd siart yn cael ei chreu’n awtomatig o safbwyntiau’r dysgwyr, a fydd yn dangos pa benderfyniadau mae’r grwp wedi’u gwneud. Bydd y siart yn cael ei diweddaru ar y pryd wrth i’r pleidleisiau gael eu bwrw. Mae j2vote yn gallu rhoi syniad clir i’r athro o ddealltwriaeth y dosbarth, a rhoi cyfle i’r athro weld gyda pha elfennau neu bynciau mae angen help ychwanegol ar y dysgwyr.

Dechrau arni

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen j2vote.
  3. Crëwch arolwg drwy glicio’r tic gwyrdd (ar ochr dde’r dudalen).
  4. Teipiwch gwestiwn yn y blwch eich cwestiwn yma.
  5. Teipiwch eich ateb cyntaf yn y blwch ateb 1. Bydd blwch arall yn ymddangos o dan y blwch cyntaf ar ôl i chi orffen teipio, er mwyn i chi ychwanegu ateb arall. Er mwyn nodi’r ateb cywir, cliciwch y cylch ar y dde i’r ateb hwnnw i’w ddewis. Neu, gallwch ddewis templed gwahanol ar gyfer arolwg drwy glicio templedi (ar y chwith).
  6. Cliciwch y saeth werdd (ar waelod y dudalen) i ychwanegu cwestiynau ychwanegol at eich arolwg.

Mae j2data yn cynnig set o adnoddau cronfeydd data ar gyfer pob dysgwr – o’r Cyfnod Sylfaen hyd at ysgol uwchradd.

Mae’r offer Pictogramau, Canghennau a Siartiau yn jit ar gael ochr yn ochr â phecyn llawn ac ar-lein i greu cronfeydd data.

Yn yr un modd â j2code, mae’r set yn cynnwys cynlluniau gwersi parod, adnoddau addysgu a chronfeydd data enghreifftiol i chi roi cynnig arnyn nhw.

Mae fideos ‘dechrau arni’ ar gael o brif ddewislen j2data, sy’n dangos holl swyddogaethau j2data.

Dechrau arni

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen j2data.

Mae j2whiteboard yn cynnig meddalwedd cwmwl ar gyfer eich bwrdd gwyn. Mae’n eich galluogi chi i gyflwyno unrhyw beth ar eich bwrdd gwyn, gan gynnwys ffeiliau, lluniau a chreadigaethau J2e. Mae hefyd yn cyflwyno'r adnoddau i chi wneud nodiadau mewn unrhyw ffordd rydych chi’n dymuno a rhannu eich bwrdd gwyn â’ch dysgwyr.

Dechrau arni

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen j2whiteboard.

Mae j2office yn becyn prosesu geiriau, taenlenni a chyflwyniadau yn J2e, yn arbennig ar gyfer ysgolion.

Mae apiau j2office i gyd yn gydnaws â fformatau Microsoft Office, felly ar ôl llwytho i fyny gallwch gadw a golygu eich dogfennau yn rhwydd.

Dechrau arni

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen j2office.

Mae j2blast yn becyn dysgu drwy ddefnyddio gemau yn J2e. Mae’n canolbwyntio ar sillafu, lluosi a rhannu.

Mae Tt blast yn annog dysgwyr i ymarfer mathemateg wrth wneud yr hyn maen nhw’n ei wneud yn naturiol; chwarae a chystadlu yn erbyn ei gilydd. Wrth iddyn nhw symud ymlaen drwy’r lefelau, mae’r cwestiynau’n addasu yn ôl gallu'r dysgwyr, felly fyddan nhw fyth yn credu bod y cwestiynau’n rhy hawdd neu’n rhy anodd.

Gall defnyddwyr ddewis ymarfer neu gymryd rhan mewn gêm fyw. Os na fydd unrhyw chwaraewyr byw yn aros am gêm, bydd robotiaid yn ymuno, felly mae bob amser yn ymddangos fel pe bai mwy nag un chwaraewr. Mae’r bwrdd sgorio yn dangos eich safle yn y dosbarth, yn yr ysgol ac yn y byd.

Gall athrawon weld gwybodaeth fanwl am gyraeddiadau eu dysgwyr yn ogystal â pha nodweddion yr oedden nhw’n eu cael yn anodd.

Wrth i’r defnyddwyr wneud cynnydd, byddan nhw’n ennill pwyntiau sy’n datgloi cymeriadau ‘estron’ newydd. Mae hyn yn golygu bod dysgu’n hwyl ac mae’n rhoi mwy o gymhelliant iddyn nhw.

Dechrau arni

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen j2blast.

Set o gymhorthion addysgu yw j2write, i’ch helpu chi pan fyddwch chi’n defnyddio’r adnoddau llythrennedd yn J2e, fel jit, j2e5, j2spotlight, j2bloggy a j2webby.

Mae cynlluniau dysgu gyda syniadau manwl ynghylch sut gallwch chi ddefnyddio’r adnoddau ym mlynyddoedd 1 i 6 yn ogystal â dolenni at adnoddau llythrennedd am ddim sy’n cynnwys rhagor o syniadau ar gyfer gwersi. Mae modd cael gafael ar y rhain drwy glicio'r deilsen adnoddau. Mae set o fideos dechrau arni ar gael hefyd. 

Gallwch weld rhestr o’r ysgolion sydd wedi blogio yn J2e yn ystod y 7 diwrnod diwethaf drwy glicio top schools (ar frig y dudalen). Bydd hyn yn dangos rhestr o'r 10 prif ysgol yn ogystal â map o bob ysgol yn y sir sydd wedi bod wrthi’n blogio. Er mwyn gweld beth mae’r ysgolion wedi bod yn blogio yn ei gylch, cliciwch enw’r ysgol, a byddwch yn mynd i wefan j2webby yr ysgol honno.


Mae j2measure yn gweithio’n debyg i j2e5 o ran ychwanegu testun a delweddau ar ‘bapur digidol’. Ond mae hefyd yn rhoi tri offeryn mesur i chi hefyd:

  • Pren Mesur
  • Onglydd
  • Cwmpawd

Dechrau arni

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen j2measure.
  3. Defnyddiwch un o'r offer siâp (ar ochr dde eich tudalen) i greu siâp, ee cliciwch ychwanegu petryal a defnyddio eich llygoden i glicio ar y dudalen a llusgo eich petryal i'r maint priodol.
  4. Cliciwch yr eicon offer mesur piws ar y bar offer ar y brig a dewis naill ai pren mesur, onglydd neu gwmpawd.
    • Bydd y pren mesur yn ymddangos ar y dudalen a gallwch ei lusgo a’i ollwng lle bynnag rydych chi’n dymuno. Hefyd, gallwch ei gylchdroi drwy glicio’r saethau crwn yng nghanol y pren mesur a symud eich llygoden.
    • Bydd yr onglydd yn ymddangos ar y dudalen a bydd modd ei lusgo a’i ollwng lle bynnag rydych chi’n dymuno. Hefyd, gallwch ei gylchdroi drwy glicio’r saethau crwn yng nghanol yr onglydd a symud eich llygoden.
    • Bydd y cwmpawd yn ymddangos ar y dudalen a gallwch ddefnyddio’r saethau ar un o’r coesau llwyd i’w osod yn y lle iawn. Er mwyn cylchdroi eich cwmpawd, cliciwch y cylch du ar waelod un o'r coesau llwyd a symud eich llygoden i greu siâp cylch.
  5. Yna gallwch ddefnyddio'r testun i deipio eich mesuriadau wrth ymyl eich siâp drwy glicio ar y lleoliad a theipio.
    • I newid arddull y testun neu’r ffont ar ôl i chi deipio, amlygwch y testun a defnyddiwch yr opsiynau ar yr ochr dde. Hefyd, gallwch gylchdroi’r testun gan ddefnyddio'r saethau llusgo er mwyn cylchdroi sy’n ymddangos pan fyddwch chi’n amlygu’r testun.

Mae j2dashboard yn adnodd rheoli yn J2e, lle gallwch reoli gosodiadau, defnyddwyr a dosbarthiadau.


Adnodd creu gwefannau yn J2e yw j2bloggy, a gall ysgolion ei ddefnyddio i greu gwefannau cyhoeddus ar system Wordpress.

Mae canllaw llawn ar ddefnyddio j2bloggy i greu gwefan gyhoeddus ar gael ar Hwb. Mae Rhwydwaith Hwb ar gael hefyd, sy’n cynnwys canllawiau fideo i gynnig cymorth pellach.

Os hoffech chi ddefnyddio eich enw parth eich hun ar gyfer eich gwefan j2bloggy, bydd angen i chi ddiweddaru’r gosodiadau yn j2dashboard:

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen j2dashboard.
  3. O dan defnyddio eich parth eich hun ar gyfer j2bloggy, teipiwch eich enw parth.
  4. Yna bydd angen i chi ddiweddaru eich gosodiadau DNS â’r rhai sydd i’w gweld ar y dudalen.

Gyda j2webby, mae’n rhwydd rhannu â gweddill y byd y gwaith mae dysgwyr wedi’i wneud ar unrhyw un o adnoddau J2e, drwy ddefnyddio gwefan sydd ar gael drwy WordPress.

Yn syml iawn, bydd dysgwyr (neu athrawon) yn clicio eicon j2webby mewn unrhyw adnodd, a bydd eu gwaith yn cael ei anfon i safle j2webby yr ysgol.

Fydd y gwaith ddim yn cael ei gyhoeddi nes bydd aelod o’r staff wedi’i gymeradwyo, gan ddefnyddio’r deilsen cymedroli. Pan fydd y gwaith wedi cael ei gymeradwyo a’i gyhoeddi, bydd yn bosib ei rannu ag unrhyw un yn y byd.

Mae’r ddolen isod yn egluro sut mae defnyddio j2webby i greu blog:

http://www.j2e.com/blogcentral/Admin/Technical+Guides/ 




Saesneg yw'r iaith ddiofyn ar gyfer yr ap Just2Easy, ond gallwch chi newid hyn i'r Gymraeg trwy ddilyn y camau canlynol:

  1. Mewngofnodi i Hwb ac ewch i Just2Easy.
  2. Cliciwch ar eich proffil yn y gornel dde uchaf> Cliciwch Fy Ngosodiadau.
  3. O dan Iaith, dewiswch Cymraeg > Cliciwch y groes yn y gornel dde uchaf i gau'r pop-up.
  4. Yna bydd yr ap yn adnewyddu a byddwch yn cael y rhyngwyneb yn Gymraeg.

Adnodd creu gwefannau yn J2e yw j2bloggy, a gall ysgolion ei ddefnyddio i greu gwefannau cyhoeddus ar system Wordpress.

Mae canllaw llawn ar ddefnyddio j2bloggy i greu gwefan gyhoeddus ar gael ar Hwb. Mae Rhwydwaith Hwb ar gael hefyd, sy’n cynnwys canllawiau fideo i gynnig cymorth pellach.

Os hoffech chi ddefnyddio eich enw parth eich hun ar gyfer eich gwefan j2bloggy, bydd angen i chi ddiweddaru’r gosodiadau yn j2dashboard:

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen j2dashboard.
  3. O dan defnyddio eich parth eich hun ar gyfer J2bloggy, teipiwch eich enw parth.
  4. Yna bydd angen i chi ddiweddaru eich gosodiadau DNS â’r rhai sydd i’w gweld ar y dudalen.

I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â Desg Gymorth Hwb: Hwb@llyw.cymru | 03000 25 25 25.