English

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer dysgwyr sy'n gadael ysgol a gynhelir yng Nghymru nad ydynt yn bwriadu cofrestru mewn ysgol arall a gynhelir yng Nghymru.

Nid oes rhaid i ddysgwyr sy'n gadael ysgol a gynhelir yng Nghymru, ond a fydd yn dychwelyd i'r un ysgol neu ysgol arall a gynhelir yng Nghymru, ddilyn y canllawiau hyn. Bydd eich cyfrif Hwb yn cael ei ail-gynnau yn awtomatig pan fydd eich ysgol wedi ychwanegu neu ddiweddaru eich manylion yn eu system gwybodaeth reoli.

Os ydych chi'n ddysgwr sy'n gadael ysgol a gynhelir, ac yn dymuno lawrlwytho eich ffeiliau Hwb, sicrhewch eich bod wedi gwneud hynny cyn dydd Gwener olaf mis Mehefin. Os byddwch am gyrraedd at eich cyfrif Hwb ar ôl y dyddiad hwn, efallai y bydd angen i chi gysylltu â'ch ysgol i ofyn am fynediad dros dro at eich cyfrif.

Ar eich dyddiad gadael, caiff eich cyfrif ei ddiffodd yn awtomatig ac ni fydd modd i chi gyrraedd at eich e-byst na'ch ffeiliau. Os ydych wedi cofrestru gydag unrhyw wefannau neu wasanaethau ar-lein gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn diweddaru'r cyfeiriad e-bost gyda'r gwasanaethau hynny yn uniongyrchol, gan ddefnyddio e-bost gwahanol i un Hwb, cyn eich dyddiad gadael.

Rwy'n newid ysgol ac yn gadael Hwb.  Beth ddylwn i ei wneud?

Ar gyfer dysgwyr rhwng Meithrin a Blwyddyn 10 sy'n gadael yr ysgol i fynd i ysgol arall nas cynhelir (hy ysgolion heb adnoddau a gwasanaethau Hwb), efallai y byddwch am lawrlwytho eich ffeiliau cyn gadael. 

Mae'n bwysig i chi lawrlwytho unrhyw ffeiliau yr ydych am eu cadw cyn eich dyddiad gadael gan y bydd eich cyfrif Hwb yn cael ei ddiffodd yn awtomatig. Os byddwch am gyrraedd at eich cyfrif Hwb ar ôl y dyddiad hwn, efallai y bydd angen i chi gysylltu â'ch ysgol i ofyn am fynediad dros dro at eich cyfrif.

Ar eich dyddiad gadael, caiff eich cyfrif ei ddiffodd yn awtomatig ac ni fydd modd i chi gyrraedd at eich e-byst na'ch ffeiliau. Os ydych wedi cofrestru gydag unrhyw wefannau neu wasanaethau ar-lein gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Hwb, bydd angen i chi newid y cyfeiriad e-bost gyda'r gwasanaethau hynny yn uniongyrchol, cyn gadael yr ysgol.

E-bost Hwb

Ar eich dyddiad gadael, caiff eich cyfrif ei ddiffodd yn awtomatig ac ni fydd modd i chi gyrraedd at eich e-byst na'ch ffeiliau.  Os ydych wedi cofrestru gydag unrhyw wefannau neu wasanaethau ar-lein gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Hwb, bydd angen i chi newid y cyfeiriad e-bost gyda'r gwasanaethau hynny yn uniongyrchol, cyn gadael yr ysgol.

Lawrlwytho ffeiliau o:

  • Os ydych chi'n ddysgwr sy'n gadael ysgol a gynhelir, ac yn dymuno lawrlwytho eich ffeiliau o Adobe Creative Cloud Express, sicrhewch eich bod wedi gwneud hynny cyn dydd Gwener olaf mis Mehefin. Os byddwch am gyrraedd at eich cyfrif Hwb ar ôl y dyddiad hwn, efallai y bydd angen i chi gysylltu â'ch ysgol i ofyn am fynediad dros dro at eich cyfrif.

    Ceir rhagor o wybodaeth am y broses hon yma: https://helpx.adobe.com/enterprise/using/migrate-student-assets.html

  • Os ydych chi'n ddysgwr sy'n gadael ysgol a gynhelir, ac yn dymuno lawrlwytho eich ffeiliau o Google for Education drwy Hwb, sicrhewch eich bod wedi gwneud hynny cyn dydd Gwener olaf mis Mehefin.  Os byddwch am gyrraedd at eich cyfrif Hwb ar ôl y dyddiad hwn, efallai y bydd angen i chi gysylltu â'ch ysgol i ofyn am fynediad dros dro at eich cyfrif.

  • Mae nifer o'r adnoddau Just2easy ar y we, felly nid oes modd lawrlwytho'r ffeiliau sy'n cael eu creu. 

    Fodd bynnag, mae'n bosibl lawrlwytho unrhyw ddelweddau neu PDF sydd wedi'u storio yn Just2easy.

    1. Mewngofnodwch i Hwb
    2. Cliciwch ar Just2easy
    3. Dewiswch 'fy ffeiliau'
    4. Bydd pob ffeil yn cael ei gynrychioli fel eicon. Chwiliwch am yr eicon ar gyfer y ddelwedd neu'r ffeil PDF yr ydych am ei lawrlwytho
    5. Bydd angen hofran dros y gornel dde uchaf a chlicio ar y botwm 'i' gwyrdd i gael gwybodaeth
    6. Dewiswch 'lawrlwytho'. Nodwch, bydd yr opsiwn 'lawrlwytho' ond i'w weld ar PDF neu ffeiliau lluniau
    7. Bydd ffeiliau yn cael eu lawrlwytho fel PDF, .jpeg neu .png
      Bydd ffeiliau yn cael eu lawrlwytho yn lleol ar eich dyfais

    Nodwch, mae modd lawrlwytho sawl llun neu PDF ar yr un pryd.

    1. Cliciwch ar y blwch ticio ar ymyl chwith eicon y ffeil. Bydd tic yn ymddangos i nodi eich bod wedi dewis y ffeil
    2. Gwnewch hyn eto ar gyfer pob llun neu ffeil PDF yr hoffech ei lawrlwytho
    3. Ar un o'r ffeiliau, gallwch hofran dros y gornel dde uchaf a chlicio ar y botwm 'i' gwyrdd am wybodaeth
    4. Dewiswch 'lawrlwytho'. Nodwch, bydd yr opsiwn 'lawrlwytho' ond i'w weld ar PDF neu ffeiliau lluniau
    5. Bydd pob ffeil sy'n cael ei dewis yn cael ei lawrlwytho fel PDF, .jpeg neu .png
      Bydd ffeiliau yn cael eu lawrlwytho yn lleol ar eich dyfais
  • Os ydych chi'n ddysgwr sy'n gadael ysgol a gynhelir, ac yn dymuno lawrlwytho eich ffeiliau o Microsoft OneDrive, sicrhewch eich bod wedi gwneud hynny cyn dydd Gwener olaf mis Mehefin. Os byddwch am gyrraedd at eich cyfrif Hwb ar ôl y dyddiad hwn, efallai y bydd angen i chi gysylltu â'ch ysgol i ofyn am fynediad dros dro at eich cyfrif.

    1. Mewngofnodi i Hwb
    2. Cliciwch ar Office365
    3. Dewiswch OneDrive
    4. Bydd angen hofran i'r chwith o'r ffeil neu'r ffolder rydych am ei  lawrlwytho
      Bydd cylch yn ymddangos er mwyn i chi ddewis y ffeil neu ffolder
    5. Cliciwch ar y cylch wrth ochr y ffeiliau neu ffolderi rydych am eu lawrlwytho
    6. Cliciwch ar y botwm 'lawrlwytho'
      Bydd eich ffolderi yn cael eu lawrlwytho a'u storio yn lleol ar eich dyfais.

    Nodwch: gallwch ddewis a lawrlwytho sawl ffeil a ffolder ar yr un pryd. Bydd y ffolderi sydd wedi'u lawrlwytho yn cael eu storio'n lleol ar eich dyfais mewn ffolder zip.

    Efallai bod gennych ffeiliau wedi'u storio mewn ardaloedd eraill o Office 365, ee yn Teams, OneNote, Sway neu Stream.  Ewch at bob icon yn unigol i lawrlwytho eich ffeiliau.