Dysgwyr sy'n gadael Hwb
- Rhan o
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer dysgwyr sy'n gadael ysgol a gynhelir yng Nghymru nad ydynt yn bwriadu cofrestru mewn ysgol arall a gynhelir yng Nghymru.
Nid oes rhaid i ddysgwyr sy'n gadael ysgol a gynhelir yng Nghymru, ond a fydd yn dychwelyd i'r un ysgol neu ysgol arall a gynhelir yng Nghymru, ddilyn y canllawiau hyn. Bydd eich cyfrif Hwb yn cael ei ail-gynnau yn awtomatig pan fydd eich ysgol wedi ychwanegu neu ddiweddaru eich manylion yn eu system gwybodaeth reoli.
Os ydych ar fin gadael eich ysgol bresennol, mae'n bwysig i chi gymryd camau mewn perthynas â'ch cyfrif Hwb cyn i chi adael ac i'r ysgol ddiweddaru eu system gwybodaeth reoli. Ar eich dyddiad gadael, caiff eich cyfrif ei ddiffodd yn awtomatig ac ni fydd modd i chi gyrraedd at eich e-byst na'ch ffeiliau. Os ydych wedi cofrestru gydag unrhyw wefannau neu wasanaethau ar-lein gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn diweddaru'r cyfeiriad e-bost gyda'r gwasanaethau hynny yn uniongyrchol, gan ddefnyddio e-bost gwahanol i un Hwb, cyn eich dyddiad gadael.
Rwy' ym Mlwyddyn 11, 12 neu 13 ac yn gadael yr ysgol ddiwedd y flwyddyn academaidd hon. Pryd fydd angen i mi gymryd camau?
Os ydych chi'n ddysgwr sy'n gadael ysgol a gynhelir, ac yn dymuno lawrlwytho eich ffeiliau Hwb, sicrhewch eich bod wedi gwneud hynny cyn dydd Gwener olaf mis Mehefin. Os byddwch am gyrraedd at eich cyfrif Hwb ar ôl y dyddiad hwn, efallai y bydd angen i chi gysylltu â'ch ysgol i ofyn am fynediad dros dro at eich cyfrif.
Ar eich dyddiad gadael, caiff eich cyfrif ei ddiffodd yn awtomatig ac ni fydd modd i chi gyrraedd at eich e-byst na'ch ffeiliau. Os ydych wedi cofrestru gydag unrhyw wefannau neu wasanaethau ar-lein gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn diweddaru'r cyfeiriad e-bost gyda'r gwasanaethau hynny yn uniongyrchol, gan ddefnyddio e-bost gwahanol i un Hwb, cyn eich dyddiad gadael.
Rwy'n newid ysgol ac yn gadael Hwb. Beth ddylwn i ei wneud?
Ar gyfer dysgwyr rhwng Meithrin a Blwyddyn 10 sy'n gadael yr ysgol i fynd i ysgol arall nas cynhelir (hy ysgolion heb adnoddau a gwasanaethau Hwb), efallai y byddwch am lawrlwytho eich ffeiliau cyn gadael.
Mae'n bwysig i chi lawrlwytho unrhyw ffeiliau yr ydych am eu cadw cyn eich dyddiad gadael gan y bydd eich cyfrif Hwb yn cael ei ddiffodd yn awtomatig. Os byddwch am gyrraedd at eich cyfrif Hwb ar ôl y dyddiad hwn, efallai y bydd angen i chi gysylltu â'ch ysgol i ofyn am fynediad dros dro at eich cyfrif.
Ar eich dyddiad gadael, caiff eich cyfrif ei ddiffodd yn awtomatig ac ni fydd modd i chi gyrraedd at eich e-byst na'ch ffeiliau. Os ydych wedi cofrestru gydag unrhyw wefannau neu wasanaethau ar-lein gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Hwb, bydd angen i chi newid y cyfeiriad e-bost gyda'r gwasanaethau hynny yn uniongyrchol, cyn gadael yr ysgol.
E-bost Hwb
Ar eich dyddiad gadael, caiff eich cyfrif ei ddiffodd yn awtomatig ac ni fydd modd i chi gyrraedd at eich e-byst na'ch ffeiliau. Os ydych wedi cofrestru gydag unrhyw wefannau neu wasanaethau ar-lein gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Hwb, bydd angen i chi newid y cyfeiriad e-bost gyda'r gwasanaethau hynny yn uniongyrchol, cyn gadael yr ysgol.