English

Oherwydd effaith COVID-19 ar addysg yng Nghymru, ac yn dilyn y cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg bod ysgolion yn cau ar 20 Mawrth 2020, mae Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i sicrhau bod pob dysgwr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn cael mynediad llawn at Hwb.

Felly, o ddydd Llun 23 Mawrth 2020, bydd pob dysgwr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn gallu manteisio ar Wasanaethau Ychwanegol Hwb. Ni fydd ysgolion bellach yn dibynnu ar gydsyniad ac yn lle hynny byddant yn darparu'r gwasanaethau ychwanegol hyn fel rhan o'u tasg gyhoeddus. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr ICO yn https://ico.org.uk/your-data-matters/does-an-organisation-need-my-consent/

Mae gan rieni, gofalwyr neu ddysgwyr sydd â phryderon difrifol am ddiogelu data hawl i wrthwynebu a dylent gysylltu â'u hysgol i egluro pam mae darparu'r gwasanaethau Hwb hyn yn tresmasu ar hawliau a rhyddid y dysgwr. Bydd yr ysgol yn pwyso a mesur a yw darparu mynediad at Wasanaethau Ychwanegol Hwb yn cael ei orbwyso gan ddifrifoldeb y gwrthwynebiad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr ICO yn https://ico.org.uk/your-data-matters/the-right-to-object-to-the-use-of-your-data/

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried gwneud y newid hwn ers cryn amser, ond mae wedi cyflwyno'r penderfyniad yn sgil cau ysgolion yng Nghymru am gyfnod a'r angen i ddarparu cymorth dysgu o bell i bob dysgwr. Daethpwyd i'r penderfyniad hwn yn dilyn cyngor cyfreithiol ac mae swyddfa'r ICO yng Nghymru wedi cael gwybod. 

Mae ein hysbysiad preifatrwydd wedi'i ddiweddaru.