English

Fel arweinydd ysgol, bydd y ffordd rydych yn rheoli eich amgylchedd digidol yn dylanwadu ar ba mor dda rydych yn cyflwyno'r cwricwlwm.

Mae'r canllaw hwn yn egluro'r ffordd y mae cyfarpar rhwydwaith eich ysgol yn gweithio gyda'ch band eang. Mae'n dangos sut y gall gwendidau (fel hen gyfarpar, neu feddalwedd sydd wedi'i gyflunio'n wael) effeithio ar berfformiad y rhwydwaith.

Cefnogi prosesau gwerthuso a datblygu eich ysgol

Dylai arweinwyr ysgolion allu dangos sut y byddant yn defnyddio ac yn rheoli technoleg ddigidol er mwyn diwallu anghenion eu hysgol a'u dysgwyr. Dylent gydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol (seiberddiogelwch a rheoli data). Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y Fframwaith Cymhwysedd Digidol a chwricwlwm newydd sy'n fwy digidol.

Dylech gynnwys y staff addysgu a’r staff technegol yn eich proses gynllunio. Gall hyn helpu i nodi’r datrysiadau cywir ar gyfer eich ysgol, a chadw’r ffocws ar y defnyddiwr.

Dylai ysgolion canol ac ysgolion sydd wedi’u lleoli ar fwy nag un safle ystyried anghenion yr holl ddefnyddwyr yn eu proses gynllunio. Er enghraifft, efallai bydd angen i osodiadau diogelwch ystyried anghenion dysgwyr cynradd ac uwchradd.

Eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich buddsoddiad mewn technoleg a deall Cytundebau Lefel Gwasanaeth yn well

Fel arweinydd ysgol, mae angen i chi fanteisio i’r eithaf ar eich penderfyniadau buddsoddi mewn technoleg. Gall deall yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn eich Cytundebau Lefel Gwasanaeth neu eich contractau eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich darparwr.

Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion Gytundebau Lefel Gwasanaeth gyda'u hawdurdodau lleol. Os nad ydych yn siwr o'r hyn y mae eich Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn ei gwmpasu, gofynnwch i'ch awdurdod lleol ei egluro.

Sicrhewch eich bod yn deall eich Cytundebau Lefel Gwasanaeth a'ch contractau yn ogystal â'r hyn y mae eich darparwr yn ei reoli fel rhan o'r gwasanaeth y mae'n ei gynnig i chi. Dylech ei herio os ydych yn teimlo nad yw'n darparu gwasanaeth a ddylai fod wedi'i gynnwys yn eich barn chi neu os nad yw perfformiad yn cyrraedd y targedau yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth.

Dylech osgoi sefyllfaoedd lle y gallech fod yn talu unwaith eto am rywbeth rydych eisoes yn ei dderbyn fel rhan o'ch Cytundeb Lefel Gwasanaeth.

Awdurdodau lleol sy'n y sefyllfa orau i ddarparu gwasanaethau digidol ar eich cyfer oherwydd eu cysylltiad â'ch ysgol. Maent hefyd yn darparu rhai swyddogaethau statudol sydd eu hangen arnoch (er enghraifft: cyfnewid data'r ysgol yn ddiogel).

Os na all eich awdurdod lleol ddarparu gwasanaeth digidol sydd ei angen arnoch, dylai allu awgrymu ateb amgen. Drwy roi gwybod iddo am eich cynlluniau, gall ddweud wrthych pa gamau gweithredu sydd eu hangen i ddiwallu eich anghenion.

Gall sawl ffactor effeithio ar berfformiad band eang eich ysgol. Mae'n bwysig deall yr hyn y gallwch chi, neu eich darparwr gwasanaeth, ei wneud i gael y perfformiad gorau posibl.

Amserlennu'r defnydd

Gall dosbarthiadau a gynhelir ar yr un pryd sy'n defnyddio cyfarpar ac adnoddau sydd angen llawer o ddata effeithio ar berfformiad eich band eang.

Os yw eich gwasanaeth yn arafu neu’n cael trafferthion eraill, dylech siarad gyda’ch darparwr gwasanaeth yn y lle cyntaf. Os nad oes unrhyw ddatrysiad arall ar gael, gall amserlenni’r defnydd o adnoddau digidol yn y dosbarthiadau helpu i leihau’r pwysau ar eich rhwydwaith ac efallai y bydd hyn yn ateb priodol.

Rheoli lawrlwythiadau a phatsys

Bydd system Rheoli Dyfeisiau Symudol (MDM) a storfa yn medru helpu i reoli diogelwch dyfeisiau ac amserlennu sut a phryd y bydd diweddariadau’n digwydd.

Bydd dyfeisiau’n aml yn diweddaru meddalwedd a gosodiadau diogelwch yn awtomatig. Os bydd hyn yn digwydd yn ystod eich oriau addysgu, gall eich band eang fod yn araf ac yn anymatebol. Gall eich darparwr gwasanaeth amserlenni diweddariadau a gwaith cynnal a chadw i leihau’r baich ar eich rhwydwaith ar adegau allweddol.

Asesiad seilwaith rhwydwaith rheolaidd

Gall archwilio eich rhwydwaith yn rheolaidd eich hun, neu drwy eich darparwr gwasanaeth, helpu i nodi unrhyw broblemau posibl a allai effeithio ar eich gwasanaeth. Gall archwiliad blynyddol gyfrannu at broses gynllunio strategol eich ysgol.

Eich math o fand eang

Dylai ysgolion ddefnyddio gwasanaeth band eang ffibr optig cymesur dirwystr ag eraill lle bynnag y bo'n bosibl. Mae gan y gwasanaeth hwn yr un cyflymder lawrlwytho ac lanlwytho, ac mae'n golygu nad ydych yn rhannu'r cysylltiad ag eraill. Mae gwasanaethau band eang eraill ar gael (er enghraifft: Ffibr i'r Safle) ond oni bai fod gennych niferoedd isel o ddysgwyr (llai na 50) neu os nad yw’r gwasanaeth band eang ffibr optig cymesur dirwystr ar gael yn eich ardal chi, nid yw'r rhain yn addas i'w defnyddio mewn ysgolion oherwydd eu gallu cyfyngedig.

Prosiect Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA)

Mae’r PSBA wedi’i gynllunio i ddarparu rhyngrwyd dibynadwy, diderfyn a chyflym iawn i sefydliadau mawr. Caiff ei ddefnyddio gan wasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru, gan gynnwys bron pob ysgol.

Mae’r PSBA yn cynnwys gwasanaethau gwerth ychwanegol, fel rheolaethau diogelwch. Bydd angen i ysgolion ariannu a chynnal a chadw’r gwasanaethau hyn os ydynt yn dewis darparwr band eang arall.

Ym mis Tachwedd 2016 cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg y bydd gwasanaethau addysg yng Nghymru yn defnyddio rhwydwaith PSBA fel eu llwyfan cyflenwi diofyn yn y dyfodol. Mae bron pob ysgol a gynhelir yng Nghymru yn rhan o rwydwaith PSBA drwy eu cysylltiad rhyngrwyd a gaiff ei drefnu gan awdurdodau lleol.

Ymgysylltu ag awdurdodau lleol

Gall ymgysylltu â'ch awdurdod lleol yn rheolaidd eich helpu i ddeall perfformiad eich rhwydwaith. Bydd eu cynnwys yn eich gwaith cynllunio strategol yn golygu eu bod yn gallu eich hysbysu am broblemau posibl gyda'r rhwydwaith y gall fod angen i chi fynd i'r afael â nhw. Eich awdurdod lleol sydd hefyd yn y sefyllfa orau i'ch helpu gyda'r uchod, gan fod eich rhwydweithiau wedi'u cysylltu â'i gilydd mewn ffordd unigryw.

Cyn prynu unrhyw ddyfais, dylech siarad â’ch darparwr gwasanaeth a’r awdurdod lleol i wneud yn siwr bod y dyfeisiau newydd yn cydweddu â’ch rhwydwaith, yn enwedig o ran diogelwch ac amddiffyn. Dylech hefyd sicrhau bod modd eu rheoli a’u cynnal a’u cadw’n briodol.

Strategaeth

Sicrhewch fod gennych weledigaeth neu strategaeth ar waith ar gyfer y ffordd y bydd technoleg yn helpu i gyflwyno'r cwricwlwm cyn ystyried prynu unrhyw ddyfais. Dylai hyn gynnwys cynllun a chyllideb i adnewyddu technoleg eich ysgol yn rheolaidd, gan gynnwys cyfarpar y rhwydwaith.

Ymgysylltu ag awdurdodau lleol

Mae bob tro'n arfer gorau ymgysylltu â'ch awdurdod lleol cyn prynu technoleg newydd. Gall eich helpu i brynu technoleg drwy fframweithiau caffael sydd wedi'u dylunio ar gyfer addysg. Dylech osgoi prynu technoleg o siopau prif ffrwd, gan nad ydynt yn debygol o gynnig y math o wasanaethau a chymorth sydd eu hangen (megis gwarant estynedig) ar ysgolion.

Cynnal asesiad o'r effaith

Dylech gynnal asesiad effaith er mwyn deall sut y bydd eich dyfeisiau newydd yn effeithio ar eich rhwydwaith. Gwnewch hyn cyn prynu unrhyw ddyfais newydd er mwyn gweld a all eich rhwydwaith ymdopi. Wrth brynu unrhyw ddyfais newydd, dylech ystyried sut mae’n rhoi mynediad i unrhyw systemau neu lwyfannau dysgu rydych eisoes yn eu defnyddio. Mae'n bosibl y bydd angen i chi ddiweddaru eich rhwydwaith cyn cyflwyno dyfeisiau ychwanegol.

Deall eich rhwydwaith diwifr

Dylech fynd ati gyda’ch darparwr gwasanaeth i adolygu'r math o dechnoleg y gall eich rhwydwaith diwifr ei defnyddio neu beidio er mwyn sicrhau eich bod yn manteisio i'r eithaf ar unrhyw ddyfais rydych yn ei phrynu.

Sicrhewch fod y Pwyntiau Mynediad Di-wifr (APs):

  • yn gydnaws â'r dechnoleg rydych yn bwriadu ei phrynu
  • wedi'u lleoli’n gywir mewn ardaloedd sy'n defnyddio rhwydwaith diwifr
  • wedi'u diweddaru â'r feddalwedd ddiweddaraf
  • heb gael eu rhwystro rhag trosglwyddo signal rhwydweithiau diwifr (er enghraifft: waliau trwchus, adeiladwaith dur)

Cadw cofrestr asedau TGCh

Gall hyn eich helpu i bennu dyddiadau a chostau ailosod posibl i ategu'r broses gyllidebu. Mae’n bosibl bod cofrestr asedau gyfoes yn un o ofynion polisïau yswiriant eich ysgol.

Gorsafoedd neu drolïau gwefru

Mae gorsafoedd neu drolïau gwefru yn galluogi sawl dyfais i gael ei gwefru ar yr un pryd. Dylech eu defnyddio y tu allan i oriau craidd er mwyn sicrhau bod dyfeisiau wedi'u gwefru'n llawn pan fydd eu hangen. Maent hefyd yn helpu i leihau'r peryglon iechyd a diogelwch a berir gan blygiau sydd wedi'u gorlwytho.

Defnyddio dyfeisiau sydd eisoes yn bodoli yn fwy effeithiol

Gallwch arbed arian drwy ail-gyflunio hen ddyfeisiau i gyflawni'r tasgau rydych am i ddyfeisiau newydd eu cyflawni. Gan fod llawer o wasanaethau addysg digidol yn rhai cwmwl, mae'n bosibl y bydd dyfeisiau hyn â phorwyr gwe cyfredol yn gadael i chi ddefnyddio'r cyfarpar a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch heb gost ychwanegol.

Defnyddio Hwb

Gellir defnyddio Hwb ar sawl dyfais hyn neu ddyfeisiau sydd eisoes gennych ar yr amod bod eu porwyr gwe yn gydnaws. Gan fod y cyfarpar ac adnoddau digidol ar Hwb am ddim, mae'n bosibl y gallwch arbed arian drwy beidio â gorfod prynu dyfeisiau neu feddalwedd mwy newydd.

Ystyried prydlesu

Gallai prydlesu dyfeisiau fod yn opsiwn arall i brynu, yn enwedig fel ffordd o adnewyddu eich dyfeisiau yn rheolaidd. Fodd bynnag, byddwch yn ofalus nad yw'r cyflenwr yn eich rhwymo i adnewyddu contractau.

Dylech hefyd gael cynllun ymadael ar ddiwedd cyfnod prydlesu cychwynnol.

Mae gan rai awdurdodau lleol drefniadau ar gyfer prydlesu. Dylai ysgolion drafod cytundebau prydlesu a chaffael gyda’r awdurdod lleol cyn ymrwymo i gytundebau.

Meddalwedd gwrthfeirysau

Sicrhewch fod gennych feddalwedd gwrthfeirysau gyfoes ar gyfer yr holl ddyfeisiau sy’n defnyddio’r rhwydwaith. Gall unrhyw fath o Faleiswedd neu raglen Trojan effeithio ar berfformiad cyffredinol y rhwydwaith.

Cydymffurfio â'ch rôl fel rheolydd data

Pan fyddwch yn prynu unrhyw dechnoleg newydd, rhaid ystyried y broses o fudo a gwaredu data'n llawn. Mae mudo data (yn aml) yn golygu trosglwyddo data ar raddfa fawr, a allai fod yn ddata personol a sensitif, rhwng dyfeisiau neu feddalwedd wahanol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a chanllawiau ar reoliadau diogelu data a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data sydd ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyn cael gwared ar offer cyfrifiadurol, rydych yn gyfrifol am ddileu'r data o'r disg caled. Mae hyn yn cydymffurfio â'r rheoliadau diogelu data, gan gynnwys y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Nodwch na fydd "dileu" ffeiliau yn unig yn cael gwared ar y data'n ffisegol. Gellir adfer y data gan ddefnyddio cynnyrch masnachol.

Mae angen dileu cynnyrch meddalwedd hefyd o'r cyfarpar y mae gennych drwyddedau ar eu cyfer. Dylech hefyd gael gwared ar unrhyw ddogfennaeth / sticeri ar y cyfarpar sy'n dangos manylion personol/codau trwyddedau meddalwedd.

Dylech ofyn am gyngor gan eich awdurdod lleol (neu ddarparwr gwasanaeth perthnasol arall).

Rydym wedi datblygu set o safonau hidlo'r we y dylai pob awdurdod lleol ac ysgol eu dilyn. Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen safonau ar gyfer hidlo'r we.

Os na allwch gael mynediad i wefannau penodol neu ddefnyddio rhaglenni gwe penodol, oherwydd eich gosodiadau hidlo'r we, siaradwch â'ch awdurdod lleol neu ddarparwr gwasanaeth arall.

Mae BYOD yn galluogi defnyddwyr i ddefnyddio eu dyfeisiau personol eu hunain (er enghraifft: llechi, gliniaduron, ffonau clyfar) ar rwydwaith yr ysgol. Gall pawb yn yr ysgol neu grwp penodol (er enghraifft: y chweched dosbarth) fanteisio ar BYOD. Nid yw'n debyg i bolisi 1:1 lle y gallech roi un o ddyfeisiau'r ysgol i ddysgwr, hyd yn oed os ydych yn caniatáu iddo fynd â'r ddyfais honno adref dros nos.

Cyn cyflwyno BYOD, dylech wneud y canlynol:

  • Cynllunio strategaeth i roi BYOD ar waith ac i nodi'r ffordd y bydd yn eich helpu i gyflwyno addysgu a dysgu digidol. Ni ddylai BYOD fod yn seiliedig ar ragdybiaeth y bydd yn arbed arian i chi. Gallai'r costau ymlaen llaw fod yn sylweddol, ac ni ddylid disgwyl y bydd arbedion yn cael eu sicrhau yn y tymor hwy.
  • Ystyried pa fesurau seiberddiogelwch ychwanegol sydd eu hangen ar draws eich rhwydwaith. Ni chaiff sianeli diwifr agored eu hystyried yn ddigon diogel i ddiogelu eich dysgwyr na'u data.
  • Trafod hyn â'ch awdurdod lleol er mwyn deall p'un a all eich rhwydwaith presennol gefnogi BYOD. Os na all, gall ddweud wrthych pa welliannau a buddsoddiadau y bydd eu hangen.
  • Bod yn ymwybodol o'r angen i ystyried amrywiaeth o feini prawf gan gynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i) gan gynnwys cydymffurfiaeth a diogelu, y gost lawn ac ymarferoldeb rhoi BYOD ar waith, cost yswiriant a rheoli polisi defnydd derbyniol, capasiti eich awdurdod lleol i gefnogi polisi BYOD llawn ar gyfer eich ysgol.