English

Gelwir realiti rhithwir (VR), realiti estynedig (AR) a realiti cymysg (MR) gyda'i gilydd yn realiti ychwanegol (XR). Mae'r technolegau hyn yn cynnig profiadau ymgolli i ddefnyddwyr sy'n cyfuno'r byd digidol a’r byd go iawn. Maen nhw’n darparu cyfleoedd cyffrous ar gyfer dysgu ac adloniant, ond mae'n bwysig cymryd rhagofalon er mwyn eu defnyddio'n ddiogel.

Realiti rhithwir (VR)

Mae VR yn creu amgylchedd ymgolli digidol gan ddefnyddio delweddau, sain ac ysgogiadau eraill. Trwy setiau pen a dyfeisiau rheoli, gall defnyddwyr ryngweithio â byd gwahanol a theimlo fel petaen nhw’n bresennol ynddo. Mae llawer o gemau poblogaidd yn defnyddio VR mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys ar gyfer:

  • gweithgarwch corfforol 
  • adrodd straeon ar lefel ddofn 
  • archwilio

Realiti estynedig (AR)

Mae AR yn gosod cynnwys digidol mewn haen dros y byd go iawn trwy ddyfeisiau fel ffonau clyfar a sbectolau AR. Er enghraifft, gall AR: 

  • arddangos cyfarwyddiadau llywio ar ffenestr flaen car
  • taflunio dodrefn rhithwir i mewn i'ch ystafell fyw i weld sut mae'n ffitio

Un gêm AR adnabyddus yw 'Pokémon Go'. Yn y gêm hon mae chwaraewyr yn archwilio’r byd o’u cwmpas er mwyn dal creaduriaid rhithwir.

Realiti cymysg (MR)

Mae realiti cymysg (MR) yn cyfuno VR ac AR i greu amgylcheddau ymgolli. Gall defnyddwyr ryngweithio â gwrthrychau go iawn a rhai rhithwir ar yr un pryd.

Mae XR yn datgloi byd o bosibiliadau cyffrous, ond mae angen ystyriaethau diogelwch pwysig wrth ei ddefnyddio. Gall bod yn ymwybodol o'i risgiau posibl eich helpu i'w fwynhau'n ddiogel ac yn gyfrifol.

Manteision

Dysgu estynedig

Gall y profiad ymgolli y mae XR yn ei gynnig:

  • wneud cynnwys addysgol yn fwy gafaelgar (er enghraifft, rhaglen VR Aberwla
  • darparu efelychiadau realistig heb risgiau’r byd go iawn (defnyddiol ar gyfer hyfforddiant ar draws gwahanol feysydd)

Hygyrchedd

Gall technolegau ymgolli:

  • ddarparu ffyrdd newydd i bobl brofi a rhyngweithio â'r byd, megis trwy deithio rhithwir
  • gwella hygyrchedd drwy wella profiadau gweledol a chlywedol i ddefnyddwyr a chanddyn nhw amhariadau

Gweithgarwch corfforol

Mae rhai gemau yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol trwy annog chwaraewyr i symud o gwmpas yn y byd go iawn.

Rhyngweithio cymdeithasol

Mae llawer o gemau XR yn caniatáu i ddefnyddwyr gysylltu a chydweithio ag eraill.

Risgiau posibl

Diogelwch corfforol

Gall setiau pen VR beri risg o ddamweiniau os nad oes gan ddefnyddwyr ardal chwarae ddiogel heb rwystrau.

Amser sgrin

Gall gormod o amser sgrin:

  • arwain at straen llygaid
  • amharu ar gydbwysedd iach rhwng chwarae gemau a gweithgareddau eraill 

Pryderon preifatrwydd

Gall rhannu gwybodaeth bersonol a data lleoliad beryglu eich preifatrwydd a'ch diogelwch os na chaiff ei reoli'n briodol.

Cynnwys amhriodol

Gall gofodau VR aml-ddefnyddwyr amlygu defnyddwyr i gynnwys treisgar, rhywiol neu amhriodol mewn ffordd arall. 

Camfanteisio

Gall yr anhysbysrwydd a gynigir gan rithffurfiau (avatars) olygu bod defnyddwyr yn llai gochelgar. Gall hyn eu hannog i gymryd risgiau. Canfu ymchwil gan yr NSPCC (Saesneg yn unig) y gall plant a phobl ifanc sy'n defnyddio XR fod mewn mwy o berygl o:

  • gael rhywun yn meithrin perthynas amhriodol â hwy
  • cael eu gorfodi i wneud rhywbeth
  • cael rhywun yn camfanteisio arnyn nhw

Cynnwys sy'n briodol i'r oedran

Gwirio sgoriau oedran

Gwiriwch sgoriau oedran gemau XR bob amser i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer grŵp oedran y chwaraewr. Gall sgoriau gan sefydliadau fel PEGI (Pan European Game Information) eich helpu.

Gwirio disgrifyddion cynnwys

Mae'r rhain yn darparu gwybodaeth ychwanegol ddefnyddiol am gynnwys gêm, megis a yw'n cynnwys:

  • trais
  • iaith anweddus
  • themâu awgrymog

Gosodiadau preifatrwydd

Adolygu polisïau preifatrwydd

Cyn defnyddio rhaglen XR, gwiriwch ei pholisi preifatrwydd i weld pa ddata y mae'n ei gasglu a sut mae'n ei ddefnyddio.

Addasu gosodiadau preifatrwydd

Mae sawl ffordd y gallwch reoli pa wybodaeth sy'n cael ei rhannu ar eich dyfais ac o fewn apiau. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • analluogi olrhain lleoliad
  • cyfyngu ar gasglu data
  • rheoli caniatâd ar gyfer mynediad at gamera a meicroffon

Defnyddio cysylltiadau diogel

Ar gyfer rhaglenni XR sydd angen mynediad ar-lein dylech:

  • sicrhau bod eich cysylltiad rhyngrwyd yn ddiogel
  • osgoi defnyddio rhwydweithiau Wi-Fi cyhoeddus ar gyfer gweithgareddau sensitif

Rheolaethau rhieni

Gosod rheolaethau rhieni

Defnyddiwch y nodweddion hyn ar ddyfeisiau XR i reoli a chyfyngu mynediad at gynnwys. Gall hyn gynnwys gosod cyfyngiadau oedran, cyfyngu ar amser sgrin a monitro defnydd.

Creu cyfrifon ar wahân i blant

Mae hyn yn caniatáu ichi deilwra rheolaethau penodol yn seiliedig ar oedran ac aeddfedrwydd eich plentyn.

Monitro gweithgarwch

Cofiwch gael sgyrsiau rheolaidd gyda'ch plentyn am:

  • yr hyn y maen nhw'n ei ddefnyddio
  • faint o amser maen nhw'n ei dreulio ar ddyfeisiau XR
  • Mae’r canllawiau ynghylch apiau i deuluoedd yn archwilio amrywiaeth o ganllawiau apiau. Maen nhw’n darparu gwybodaeth allweddol am gyfryngau cymdeithasol ac apiau gemau poblogaidd.
  • Mae adrodd ar broblem ar-lein yn dangos i chi sut i roi gwybod am gynnwys neu weithgaredd niweidiol. 
  • Mae adnoddau'r metafyd yn darparu gwybodaeth am y metafyd, gan gynnwys sut y gellir ei ddefnyddio a risgiau posibl.