Rhannu delweddau noeth a hanner noeth
Adnoddau, canllawiau a gwybodaeth ar gyfer ymarferwyr addysg, dysgwyr a theuluoedd ar rannu lluniau noeth a lled-noeth.
- Rhan o

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod
Mae rhannu delweddau noeth a hanner noeth – sydd weithiau’n cael ei alw’n ‘secstio’ – yn cyfeirio at greu a rhannu delweddau, fideos neu ffrydiau byw noeth neu hanner noeth. Mae plant a phobl ifanc yn aml yn rhannu ffotograffau a fideos o’r fath drwy ddyfeisiau, platfformau ar-lein ac apiau negeseua.
Mae AI cynhyrchiol wedi cyfrannu at gynnydd mewn delweddau a fideos o noethni a gynhyrchir gan gyfrifiadur. Gall rhain gael eu creu gan ddefnyddio offer megis meddalwedd golygu lluniau neu fideo, generaduron ffugiad dwfn, apiau creu noethni a generaduron testun-i-ddelwedd AI.
Gall pobl ifanc rannu delweddau o’u hunain neu eraill â chyfoedion, pobl maen nhw mewn perthynas ramantaidd â nhw, neu bobl nad ydyn nhw’n eu hadnabod. Gall y cymhelliant neu’r rhesymau dros wneud hyn amrywio, gyda rhai yn fwy niweidiol na’i gilydd.
Pan fydd achosion yn cynnwys rhai o dan 18 oed yn unig, bydd sefyllfaoedd yn cael eu hystyried fesul achos, gyda rhai yn cael eu trin fel mater diogelu a/neu droseddol.
Os ydych yn dod yn ymwybodol bod gan blentyn neu berson ifanc ddelweddau anweddus ohono’i hun neu eraill o dan 18 oed, mae’n bwysig gweithredu fel y gall gael ei gefnogi a’i ddiogelu’n briodol.
Mae rhannu delweddau noeth a hanner noeth o bobl o dan 18 oed gyda neu gan oedolion yn gyfystyr â cham-drin plant yn rhywiol a dylid hysbysu’r heddlu fel mater o frys. Mae'r gyfraith hefyd yn gymwys i ddelweddau wedi'u trin yn ddigidol neu ddelweddau a gynhyrchir gan AI o blant o dan 18 oed.
Canllawiau Llywodraeth Cymru
Hyfforddiant

Ymateb i achosion o rannu delweddau noeth
Mae’r cynnwys yn y modiwl hwn ar gyfer y Person Diogelu Dynodedig (DSP) neu uwch reolwyr mewn lleoliad addysg ac mae wedi’i ddatblygu i’ch helpu chi i ymateb yn effeithiol i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth. Mae’n cyd-fynd â chanllawiau Llywodraeth Cymru, Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc.

Rhannu delweddau noeth: fideo hyfforddi
Fideo byr wedi'i gynllunio i helpu ysgolion i ddeall:
- canllawiau i ddatblygu polisïau ac arferion
- y tueddiadau a phryderon diogelwch diweddaraf
- gwasanaethau cyngor cyfrinachol ac adrodd sydd ar gael
Barn yr arbenigwyr

Rhannu delweddau noeth
David Wright, Cyfarwyddwyr, UK Safer Internet Centre

‘Blacmel Rhywiol’
Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd (IWF)
Adnoddau
-
Adnoddau dysgu ac addysgu
Adnoddau i gefnogi ysgolion a’r gymuned ysgol ehangach gyda rhannu delweddau noeth.
Information for children and young people
-
Problemau a phryderon ar-lein: rhannu lluniau noeth
Gwybodaeth sy'n esbonio rhai risgiau i fod yn ymwybodol ohonynt a ble i fynd i gael cymorth.
Rhagor o wybodaeth
- CEOP (Saesneg yn unig)
- IWF (Saesneg yn unig)
- Report Remove (Saesneg yn unig)
- Childline (Saesneg yn unig)