English


Cynulleidfa

Uwchradd (11 i 16 oed)

Amser

60 munud

Deilliannau dysgu

Bydd dysgwyr yn gallu:

  • nodi sut mae eu hawliau’n berthnasol ar-lein
  • edrych ar yr heriau sy’n gysylltiedig ag arfer eu hawliau ar-lein
  • awgrymu strategaethau ar gyfer arfer eu hawliau a sut i herio achosion o dorri rheolau

Geirfa allweddol

Deddfau, cyfreithlondeb, hawliau, cyfrifoldebau, cynnal, parchu, ymyrryd â hawliau, cefnogi, amddiffyn, dienw, aros yn ddienw, strategaethau, moeseg, egwyddorion, gwrthdaro rhwng buddiannau

Adnoddau

Sleidiau PowerPoint, adnodd symbolau a phoster trosolwg Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP)

  • Eich hawl i fod yn saff a diogel ar-lein (Uwchradd) pptx 2.55 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Paratoi

  • Darllenwch y ‘Canllaw i ymarferydd addysg ar hawliau plant ar-lein’. Mae’n rhoi dealltwriaeth glir o’r maes ac yn gwneud yn siwr eich bod yn gyfarwydd â pholisi diogelu eich ysgol, yn ogystal â Gweithdrefnau Diogelu Cymru os bydd datgeliad neu bryderon am ddiogelwch neu les dysgwr. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y canllawiau statudol ‘Cadw dysgwyr yn ddiogel’.
  • Argraffwch boster trosolwg y CCUHP – un copi i bob pâr/grwp bach.
  • Argraffwch gopïau o’r senarios ar-lein ar sleidiau 9 i 12 o’r cyflwyniad PowerPoint – un set i bob pâr/grwp bach.

Cysylltiadau â’r cwricwlwm

Mae’r adnodd hwn yn cefnogi gweithgareddau sy’n cael eu cyflwyno fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles.

Cwestiynau allweddol (i’w defnyddio fel awgrymiadau neu i ddechrau trafodaeth)

  • Beth yw eich hawliau chi? Sut ydych chi’n gwybod beth ydyn nhw?
  • Pwy sy’n gyfrifol am gynnal eich hawliau ar-lein?
  • Pa hawliau sy’n berthnasol i’ch profiadau a’ch defnydd ar-lein?
  • Pa ddeddfau rydych chi’n gwybod amdanyn nhw sy’n gallu eich amddiffyn chi
    ar-lein?
  • A yw’r rhyngrwyd yn creu gwrthdaro rhwng buddiannau o ran cynnal hawliau dynol/hawliau plant? Pam mae hyn yn digwydd? Sut byddech chi’n penderfynu pa hawl fyddai fwyaf pwysig?
  • Pa strategaethau y gallech chi eu defnyddio i arfer eich hawliau?
  • Beth allech chi ei wneud pe byddech chi’n teimlo bod rhywun neu rywbeth yn ymyrryd â’ch hawliau ar-lein, neu eich bod yn cael eich trin yn annheg?
  • At bwy y gallech chi droi am gymorth gyda materion ar-lein sy’n ymwneud â’ch hawliau neu eich diogelwch?

Gan ddefnyddio’r sleidiau PowerPoint sy’n gysylltiedig â’r cynllun gwers hwn, dechreuwch drwy ofyn i ddysgwyr:

  • Beth yw eich hawliau? Sut ydych chi’n gwybod beth ydyn nhw?

Yna, gan ddefnyddio poster trosolwg y CCUHP, ewch ati’n gryno i esbonio’r hawliau i ddysgwyr a chynnig iddyn nhw ofyn cwestiynau am Erthyglau sy’n aneglur yn eu barn nhw.

Gofynnwch i’r dysgwyr ‘Pwy sy’n cynnal eich hawliau?’. Mae sleid 5 yn rhoi enghreifftiau o bobl/grwpiau sy’n gyfrifol am ddiogelu a chynnal hawliau plant ar-lein ac all-lein. Atgoffwch ddysgwyr fod ganddyn nhw rôl i’w chwarae hefyd wrth arfer eu hawliau a chefnogi hawliau pobl ifanc eraill.

Gan weithio mewn parau neu grwpiau bach, gofynnwch i’r dysgwyr feddwl pa rai o’u hawliau sy’n bwysig ar-lein yn eu barn nhw. Dylen nhw gofnodi’r rhain drwy gopïo a llenwi’r tabl ar sleid 7, gan gynnwys rhoi rhif yr Erthygl a disgrifiad byr.

Dylen nhw wedyn roi enghraifft o rywbeth maen nhw’n ei wneud, neu’n ei ddefnyddio ar-lein, sy’n helpu i gynnal yr hawl honno, er enghraifft mae Erthygl 16 yn ymdrin â’r hawl i breifatrwydd. Mae defnyddio gosodiadau preifatrwydd neu osodiadau cyfrif i gyfyngu ar bwy sy’n gallu cysylltu â chi neu weld eich gwybodaeth ar broffiliau ar-lein yn un ffordd o gynnal yr hawl hon ar gemau ac apiau maen nhw’n mwynhau eu defnyddio.

Anogwch ddysgwyr i gyflwyno eu syniadau i’r dosbarth a gweld a yw’r dysgwyr eraill yn cytuno/anghytuno. Gofynnwch i’r dysgwyr rannu eu henghreifftiau o sut mae modd cynnal yr hawliau hyn ar-lein. Eglurwch hefyd fod holl Erthyglau y CCUHP yn berthnasol ar-lein, ond bod rhai yn fwy perthnasol nag eraill.

Gyda’r gweithgaredd hwn, mae angen i grwpiau bach o ddysgwyr drafod gwahanol sefyllfaoedd ar-lein lle mae cynnal hawliau plant (a hawliau dynol) yn creu gwrthdaro.

Esboniwch i’r dysgwyr y byddan nhw’n meddwl ynghylch lle mae hawliau gwahanol yn gwrthdaro. Gofynnwch i’r dysgwyr bwyso a mesur manteision a risgiau’r hawliau cysylltiedig a phenderfynu pa hawl y dylid ei blaenoriaethu neu ei chynnal, hyd yn oed os yw hynny ar draul hawl arall. Dylai dysgwyr feddwl hefyd a ddylid rhoi mwy o bwys ar hawliau plant na hawliau dynol oedolion mewn rhai amgylchiadau.

Rhowch set o senarios (sleidiau 9 i 12) i bob grwp. Fel man cychwyn, gallech chi neilltuo senario gwahanol i bob grwp er mwyn sicrhau bod pob un yn cael ei drafod. Ar ôl iddyn nhw drafod eu senario’n llawn, gallai grwpiau ddewis un arall ac ailadrodd y broses.

Mae gan grwpiau 15 munud i ddod i gasgliad. I helpu i ddechrau’r trafodaethau, dywedwch wrth y dysgwyr am edrych eto ar y CCUHP a phenderfynu pa hawliau sy’n berthnasol i’r senario o’u dewis – a phenderfynu pa hawl sydd â’r pwys mwyaf/sydd fwyaf pwysig. Efallai y bydd dysgwyr yn awyddus i ystyried rhagor o enghreifftiau neu senarios i helpu i ganfod a yw un hawl yn fwy perthnasol yn y rhan fwyaf o achosion, neu dim ond mewn cyd-destunau penodol.

Os yw’r gweithgaredd hwn yn heriol i’r dysgwyr, mae sleid 13 yn cynnwys rhestr o themâu a chwestiynau a allai helpu i ddechrau trafodaeth. Mae sleid 14 yn cynnwys tabl o Erthyglau sydd wedi’u hawgrymu a allai fod yn berthnasol i bob senario. Gellid rhannu hyn â dysgwyr i’w helpu i nodi’r materion a allai codi ym mhob senario.

Ar ôl i’r grwp ddod i gytundeb, dylen nhw ysgrifennu nodiadau i grynhoi eu trafodaeth a’u penderfyniad, ac unrhyw awgrymiadau a allai ddatrys y mater.

Ar ôl 15 munud, dewch â’r dosbarth yn ôl at ei gilydd a gofynnwch i bob grwp ddarllen eu senario, ac yna eu barn a’u casgliadau ynghylch pa hawl y dylid ei chynnal. Gofynnwch i’r dysgwyr eraill ymateb gyda’u barn a’u syniadau.

I gloi’r gweithgaredd, dangoswch sleid 15 i’r dysgwyr a gofyn iddyn nhw pa gamau y gallen nhw eu cymryd os oedden nhw’n teimlo bod rhywun neu rywbeth yn ymyrryd â’u hawliau ar-lein. Rhannwch rai o’r strategaethau a awgrymir ac eglurwch hefyd rôl Comisiynydd Plant Cymru a’r gwasanaeth Ymchwiliadau a Chynghori y mae’n ei gynnig.

Atgoffwch ddysgwyr y dylai defnyddio technoleg a’r rhyngrwyd fod yn brofiad cadarnhaol. Os ydyn nhw’n poeni am unrhyw ymddygiad ar-lein tuag atyn nhw neu bobl eraill, dylen nhw bob amser ofyn am gymorth. Treuliwch ychydig funudau’n trafod at bwy y bydden nhw’n troi am gymorth, yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol. Mae’r erthygl ddefnyddiol hon gan Meic yn ddefnyddiol i lywio’r drafodaeth hon.

Atgoffwch ddysgwyr y gallan nhw hefyd gysylltu â Meic, sy’n cynnig gwybodaeth, eiriolaeth a chyngor am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Ffoniwch Meic am ddim ar 080880 23456, anfonwch neges destun at 84001, neu anfonwch negeseuon gwib ar www.meiccymru.org/cym. Mae’r gwasanaeth ar agor o 8 y bore tan hanner nos, 7 diwrnod o'r wythnos.

Hyrwyddo hawliau

Trafodwch gyda dysgwyr y ffyrdd gwahanol o godi ymwybyddiaeth o hawliau plant ar-lein gyda dysgwyr eraill. Gallai hyn gynnwys datblygu ymgyrch ymwybyddiaeth, cynnal gwasanaeth neu wers i bobl eraill, neu ddatblygu a lansio cynllun mentora cyfoedion i helpu eraill i ddeall ac arfer eu hawliau ar-lein.

Cadw’n ddiogel ar-lein

Gellir defnyddio’r wers fel sbardun ar gyfer dysgu ychwanegol am faterion fel preifatrwydd a data neu gasineb ar-lein.

Bil Diogelwch Ar-lein

Wrth ystyried cyfreithlondeb a diogelwch, efallai y byddai’n ddefnyddiol i rai dysgwyr edrych ar Fil Diogelwch Ar-lein drafft y DU (Saesneg yn unig) er mwyn deall mwy am y mesurau arfaethedig i ddiogelu hawliau plant ar-lein yn y DU. Gan fod y Bil yn gymhleth, efallai yr hoffech chi gyfeirio dysgwyr at yr erthygl hon gan y BBC (Saesneg yn unig), neu ffynonellau newyddion eraill ar-lein am y Bil. Gallai’r Bil, ynddo’i hun, fod yn sail i sesiwn drafod/dadlau am y cydbwysedd rhwng hawliau ac amddiffyn a allai fod yn ymarfer diddorol ynddo’i hun.