Eich hawl i fod yn saff a diogel ar-lein (Cynradd)
- Rhan o
Trosolwg
Cynulleidfa
Cynradd (7 i 11 oed)
Amser
60 munud
Deilliannau dysgu
Bydd dysgwyr yn gallu:
- rhoi enghreifftiau o beth yw eu hawliau fel plentyn
- adnabod sut gall eu hawliau fod yn berthnasol ar-lein
- edrych ar sut mae heriau’n gallu codi wrth arfer eu hawliau ar-lein
Geirfa allweddol
Deddfau, hawliau, cyfrifoldebau, cynnal, cefnogi, amddiffyn, dienw, aros yn ddienw, saff, diogel, hapus, iach.
Adnoddau
Sleidiau PowerPoint, adnodd symbolau, poster trosolwg a chardiau Erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), sisyrnau
- Eich hawl i fod yn saff a diogel ar-lein - Cynradd pptx 772 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Paratoi
- Darllenwch y ‘Canllaw i ymarferydd addysg ar hawliau plant ar-lein’. Mae’n rhoi dealltwriaeth glir o’r maes ac yn gwneud yn siwr eich bod yn gyfarwydd â pholisi diogelu eich ysgol, yn ogystal â Gweithdrefnau Diogelu Cymru os bydd datgeliad neu bryderon am ddiogelwch neu les dysgwr. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y canllawiau statudol ‘Cadw dysgwyr yn ddiogel’.
- Argraffwch boster trosolwg/cardiau Erthyglau y CCUHP (yn dibynnu ar yr hyn sydd fwyaf hwylus i’ch dysgwyr) – un copi i bob pâr/grwp bach.
- Argraffwch sleidiau 8 i 9 o’r cyflwyniad PowerPoint – un set i bob pâr.
Cysylltiadau â’r cwricwlwm
Mae’r adnodd hwn yn cefnogi gweithgareddau sy’n cael eu cyflwyno fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles.
Cwestiynau allweddol (i’w defnyddio fel awgrymiadau neu i ddechrau trafodaeth)
- Beth yw hawliau?
- Beth yw eich hawliau chi? Sut ydych chi’n gwybod beth ydyn nhw?
- Pwy sy’n helpu i wneud yn siwr bod eich hawliau’n cael eu parchu a’u cynnal?
- Pa hawliau sy’n berthnasol i’ch profiadau a’ch defnydd ar-lein?
- Pwy sy’n gyfrifol am gynnal eich hawliau ar-lein?
- Pa ddeddfau rydych chi’n gwybod amdanyn nhw sy’n gallu eich amddiffyn chi ar-lein?
- Ydy’n anodd o gwbl cynnal eich hawliau ar-lein? Os ydy, pam?
- Gan bwy y gallech chi ofyn am help pe byddech chi’n poeni am rywbeth ar-lein?
Gweithgaredd cychwynnol (10 munud)
Gan ddefnyddio’r sleidiau PowerPoint sy’n gysylltiedig â’r cynllun gwers hwn, dechreuwch drwy ofyn i ddysgwyr:
- Beth yw eich hawliau chi? Sut ydych chi’n gwybod beth ydyn nhw?
Yna, gan ddefnyddio poster trosolwg neu gardiau Erthyglau y CCUHP, ewch ati’n gryno i esbonio’r hawliau i ddysgwyr a chynnig iddyn nhw ofyn cwestiynau am Erthyglau sy’n aneglur yn eu barn nhw.
Gofynnwch i’r dysgwyr ‘Pwy sy’n cynnal eich hawliau?’. Mae sleid 6 yn rhoi enghreifftiau o bobl/grwpiau sy’n gyfrifol am ddiogelu a chynnal hawliau plant ar-lein ac all-lein.
Gweithgaredd 1: Beth yw fy hawliau ar-lein? (15 munud)
Gan weithio mewn parau neu grwpiau bach, gofynnwch i’r dysgwyr feddwl pa rai o’u hawliau sy’n bwysig ar-lein yn eu barn nhw. Dylen nhw wneud hyn drwy ddidoli’r cardiau Erthyglau y CCUHP yn bentyrrau, neu roi cylch ar boster trosolwg y CCUHP o’r hawliau sy’n bwysig ar-lein yn eu barn nhw.
Anogwch ddysgwyr i gyflwyno eu syniadau i’r dosbarth a gweld a yw’r dysgwyr eraill yn cytuno/anghytuno. Eglurwch hefyd fod holl Erthyglau y CCUHP yn berthnasol ar-lein, ond bod rhai yn fwy perthnasol nag eraill.
Mewn parau, rhowch 2 set o gardiau o sleidiau 8 i 9 i ddysgwyr. Mae un set yn amlinellu rhai Erthyglau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gweithgareddau plant ar-lein, ac mae’r set arall yn rhoi enghreifftiau o sut y gellid cynnal yr hawliau hyn. Rhowch 5 munud i barau baru pob Erthygl i’r enghraifft berthnasol. Mae rhai cardiau gwag yn cael eu darparu hefyd er mwyn i ddysgwyr gofnodi rhagor o enghreifftiau, neu gynnwys Erthyglau ychwanegol sy’n berthnasol yn eu barn nhw.
Ewch drwy’r atebion gyda’r dysgwyr a gofynnwch iddyn nhw rannu unrhyw enghreifftiau ychwanegol maen nhw wedi’u hystyried.
Gweithgaredd 2: Y cwestiwn mawr (30 munud)
Mae’r gweithgaredd hwn ar ffurf trafodaeth wedi’i strwythuro’n fras i edrych ar sut gall cyd-destunau ar-lein gefnogi neu ymyrryd â hawliau plant.
Gan ddefnyddio sleid 10, dangoswch y ‘cwestiwn mawr’ i ddysgwyr – ‘Ydy bod yn ddienw ar-lein yn cefnogi eich hawliau fel plentyn, neu’n mynd yn eu herbyn?’
Trafodwch y term ‘dienw’ – beth mae’n ei olygu a pha enghreifftiau mae dysgwyr yn ymwybodol ohonyn nhw?
Rhannwch y dosbarth yn 2 grwp i drafod y mater hwn ymhellach. Dylai un grwp ddadlau bod aros yn ddienw yn gallu helpu i gefnogi hawliau plant, a dylai’r grwp arall ddadlau y gallai aros yn ddienw ymyrryd â rhai hawliau. Efallai yr hoffech chi rannu’r 2 grwp hyn yn grwpiau llai i annog pob dysgwr i gyfrannu a thrafod.
Cyn gofyn i’r grwpiau ystyried eu safbwynt ymhellach, gofynnwch i’r dysgwyr feddwl pam y byddai rhywun am fod yn ddienw ar-lein. Ar ôl trafod y cwestiwn, dangoswch gymhellion posib iddyn nhw sydd ar sleid 11. Mae’r golofn chwith yn rhoi cymhellion cadarnhaol, gyda rhai negyddol ar y dde.
Rhowch 15 munud i bob grwp drafod eu safbwynt – mae sleid 12 yn rhoi awgrymiadau i helpu i lywio eu ffordd o feddwl. Gallwch chi ofyn iddyn nhw hefyd edrych eto ar y CCUHP a meddwl a fyddai aros yn ddienw yn rhywbeth cadarnhaol neu negyddol ar gyfer pob Erthygl. Anogwch ddysgwyr i ysgrifennu cynifer o resymau ag y bo modd am sut mae aros yn ddienw yn effeithio ar hawliau plant, ac i geisio rhoi enghreifftiau ar gyfer pob un.
Dewch â’r grwpiau’n ôl at ei gilydd a rhoi cyfle iddyn nhw esbonio eu safbwynt a rhannu eu rhesymau. Ar ôl gwrando ar bob barn, gofynnwch i ddysgwyr bleidleisio dros a ydyn nhw’n credu’n gyffredinol bod aros yn ddienw ar-lein yn fuddiol i hawliau plant.
Sesiwn lawn (5 munud)
Atgoffwch ddysgwyr y dylai bod ar-lein fod yn brofiad cadarnhaol sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus, yn saff ac yn ddiogel. Os oes unrhyw beth ar-lein yn gwneud iddyn nhw deimlo'n bryderus, yn anghyfforddus neu'n ypset, dylen nhw bob amser ddweud wrth oedolyn dibynadwy. Efallai yr hoffech chi dreulio ychydig funudau’n trafod pa oedolion all eu helpu, yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol. Mae’r erthygl ddefnyddiol hon gan Meic yn amlinellu strategaethau y gallai dysgwr eu defnyddio i ddechrau sgwrs ag oedolyn.
Atgoffwch ddysgwyr y gallan nhw hefyd gysylltu â Meic, sy’n cynnig gwybodaeth, eiriolaeth a chyngor am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Ffoniwch Meic am ddim ar 080880 23456, anfonwch neges destun at 84001, neu anfonwch negeseuon gwib ar www.meiccymru.org/cym. Mae’r gwasanaeth ar agor o 8 y bore tan hanner nos, 7 diwrnod o'r wythnos.
Cyfleoedd i ymestyn y dysgu
Hyrwyddo hawliau
Trafodwch gyda dysgwyr y ffyrdd gwahanol o godi ymwybyddiaeth o hawliau plant ar-lein gyda dysgwyr eraill. Gallai hyn gynnwys datblygu ymgyrch ymwybyddiaeth, cynnal gwasanaeth, neu gyflwyno cynllun mentora cyfoedion, fel ‘arweinwyr digidol’, i roi cyfrifoldebau ychwanegol i rai dysgwyr.
Cadw’n ddiogel ar-lein
Gellir defnyddio’r wers fel sbardun ar gyfer dysgu ychwanegol am faterion fel preifatrwydd a data neu gasineb ar-lein.