Canllaw i ymarferwyr ar hawliau plant ar-lein
- Rhan o
Fel ymarferydd addysg, rydych chi’n gyfrifol am gynnal a hyrwyddo hawliau pob plentyn fel y nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). Mae’r hawliau hyn yn berthnasol ar-lein hefyd, ond efallai na fydd llawer o blant (yn ogystal â rhieni a gofalwyr) yn ymwybodol o hyn. Bydd y canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth a chyngor ar sut gallwch chi addysgu dysgwyr i arfer eu hawliau ar-lein, a sut gallwch chi gyflawni eich cyfrifoldebau i helpu dysgwyr i gadw’n saff a diogel ar-lein.
Sut mae hawliau plant yn berthnasol ar-lein?
Mae’r hawliau a nodir yn y CCUHP hefyd yn berthnasol i brofiadau plant ar-lein, er bod rhai hawliau sy’n fwy perthnasol ar unwaith nag eraill. Chi a’ch ysgol sy’n gyfrifol am gynnal yr hawliau hyn (mae Erthygl 3 yn amlinellu y ‘Dylai pawb sy’n gweithio gyda phlant bob amser wneud yr hyn sydd orau i bob plentyn’). Ond mae’n gyfrifoldeb hefyd ar lywodraethau lleol a chenedlaethol a darparwyr gwasanaethau ar-lein, fel cwmnïau cyfryngau cymdeithasol, gweithredwyr gwefannau a llwyfannau gemau.
Mae hawliau penodol sy’n ymwneud yn uniongyrchol â defnydd a phrofiadau dysgwyr o dechnoleg ar-lein yn cynnwys y canlynol:
- Erthygl 6 – yr hawl i dyfu i fyny i fod yn iach
- Erthygl 12 – hawl plentyn i gael llais mewn penderfyniadau sy’n effeithio arno
- Erthyglau 13 ac 17 – yr hawl i wybodaeth sy’n onest ac yn ddealladwy
- Erthygl 15 – yr hawl i gwrdd â ffrindiau ac ymuno â grwpiau
- Erthygl 16 – yr hawl i gael preifatrwydd
- Erthygl 19 – yr hawl i gael ei gadw’n ddiogel
- Erthygl 28 – yr hawl i ddysgu a chael addysg
- Erthygl 31 – yr hawl i ymlacio a chwarae
- Erthygl 34 – yr hawl i gael ei warchod rhag cael ei gam-drin yn rhywiol
- Erthygl 36 – yr hawl i gael ei warchod rhag ymddygiad niweidiol
- Erthygl 39 – yr hawl i gael cymorth a chefnogaeth os caiff ei gam-drin
- protocolau ychwanegol sy’n ymwneud â chynnwys ar ecsbloetio plant a cham-drin plant yn rhywiol
Gallwch chi ddefnyddio’r adnoddau hyfforddi hyn ar gyfer athrawon gan Gomisiynydd Plant Cymru i’ch helpu chi a’ch cydweithwyr i ddysgu mwy am y CCUHP.
Pa ddeddfau sy’n bodoli i amddiffyn dysgwyr ar-lein?
Mae sawl deddf yng Nghymru ac yn y DU sy’n berthnasol i ymddygiad ar-lein, gan gynnwys deddfau sy’n ymwneud ag aflonyddu, cyfathrebu maleisus, creu a rhannu delweddau anweddus o blant, cynnwys anghyfreithlon ac iaith casineb. Mae’r canllaw hwn gan yr NSPCC (Saesneg yn unig) yn rhoi trosolwg byr o rai deddfau sy’n ymwneud ag ymddygiad ar-lein. Daeth y Cod Plant i rym ar 2 Medi 2021, gan nodi cod ymarfer diogelu data ar gyfer gwasanaethau ar-lein. Er nad yw ysgolion yn dod o dan gwmpas y cod, gall gwasanaethau a ddefnyddir gan yr ysgol fod o fewn y cwmpas. Dylech chi ofyn am gyngor am hyn gan eich swyddog diogelu data. Mae rhagor o wybodaeth am y Cod Plant ar gael mewn erthygl ‘Barn yr arbenigwyr’ gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn ‘Cadw’n ddiogel ar-lein’.
Yn 2021, cyflwynodd Llywodraeth y DU fersiwn ddrafft o’r Bil Diogelwch Ar-lein (Saesneg yn unig) gyda’r bwriad o gyflwyno deddfau a fydd yn:
- diogelu plant ac oedolion rhag cynnwys niweidiol
- atal cynnwys anghyfreithiol rhag cael ei ledaenu
Mae Ofcom wedi cael ei benodi’n rheoleiddiwr y DU.
Mae’n bwysig gwneud dysgwyr yn ymwybodol o ddeddfau sy’n ymwneud â’u hymddygiad ar-lein yn ogystal â deddfau sy’n bodoli i’w diogelu rhag niwed neu gamdriniaeth. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o newidiadau deddfwriaethol sy’n ymwneud â’r byd digidol ac ystyried sut gallen nhw effeithio ar ymddygiad, arferion, lles a diogelwch eich dysgwyr ar-lein.
Sut ydw i’n gallu cefnogi dysgwyr i ddeall ac arfer eu hawliau ar-lein?
Addysg
Mae’n bwysig rhoi cyfleoedd i’ch dysgwyr ddeall mwy am eu hawliau a sut maen nhw’n berthnasol i’w profiadau ar-lein. Bydd hyn yn eich helpu i gyflawni eich cyfrifoldebau o ran addysgu dysgwyr am eu hawliau, ond bydd hefyd yn eu galluogi i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel ar-lein, i adnabod pan nad yw eu hawliau’n cael eu parchu, ac i’w grymuso i gymryd camau cadarnhaol i arfer eu hawliau ar-lein.
Trafodaeth reolaidd
Mae edrych yn rheolaidd ar faterion ar-lein sy’n ymwneud â hawliau plant yn gallu bod yn ffordd effeithiol o ddatblygu eu dealltwriaeth a’u strategaethau ar gyfer rheoli risg ar-lein. Efallai yr hoffech chi ddefnyddio straeon newyddion neu astudiaethau achos fel ffordd o edrych ar y materion hyn. I ddysgwyr hyn, mae trafod yr heriau o ran cynnal hawliau ar-lein a gwerthuso rôl llwyfannau ar-lein a rhanddeiliaid eraill yn feirniadol yn gallu bod yn ddulliau effeithiol o addysgu dysgwyr am eu hawliau a sut mae eu harfer. Gall dysgwyr rannu profiadau a allai ddatgelu rhywbeth sy’n ymwneud â diogelwch felly dylech chi bob amser ddilyn gweithdrefnau diogelu eich ysgol a rhoi gwybod i’r person diogelu dynodedig.
Grymuso cyfrifoldeb
Meddyliwch am gyfleoedd i ddysgwyr gymryd cyfrifoldeb ar-lein dros hyrwyddo eu hawliau a helpu eraill. Er enghraifft, gall cyflwyno mentrau fel mentoriaid cyfoedion, arweinwyr digidol neu lysgenhadon pobl ifanc rymuso dysgwyr i arfer eu hawliau a gweithio i gynnal hawliau eu cyfoedion.
Galluogi llais pobl ifanc
Mae Erthygl 12 y CCUHP yn amlinellu pa mor bwysig yw bod gan blant lais mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw. Mae gan lawer o ysgolion gynghorau ysgol neu brosesau eraill i roi llais i ddysgwyr yn yr ysgol. Yn eich gwaith yn yr ysgol, ystyriwch a yw’r prosesau hyn yn caniatáu i ddysgwyr gyfrannu at benderfyniadau a wneir i’w diogelu ar-lein (fel penderfyniadau ynghylch addysg diogelwch ar-lein, diogelwch, a phrosesau diogelwch eraill fel hidlo a monitro). Gall creu grwp diogelwch ar-lein sy’n cynnwys yr holl randdeiliaid perthnasol yng nghymuned yr ysgol fod yn un dull o alluogi lleisiau dysgwyr mewn trafodaethau ar ddiogelwch. Mae adnodd hunanadolygu 360 safe Cymru ar gyfer ysgolion yn cynnig rhagor o wybodaeth am hyn a ffyrdd eraill o ddatblygu polisi ac ymarfer yr ysgol.
Ble ga’ i gymorth a chefnogaeth?
Dylech chi bob amser ddilyn gweithdrefnau diogelu eich ysgol i roi gwybod am bryderon am ddiogelwch neu les dysgwr ar-lein. Bydd y person diogelu dynodedig wedyn yn gofyn am gymorth allanol pan fydd angen.
Gall ymarferwyr addysg sydd angen cefnogaeth gydag unrhyw faterion diogelwch ar-lein, boed hynny yn ymwneud â dysgwyr, nhw eu hunain neu eu sefydliad, gysylltu â’r Professionals Online Safety Helpline (Saesneg yn unig) i gael rhagor o wybodaeth ac i gael gwybod pa gamau mae modd eu cymryd i reoli digwyddiadau ar-lein sy’n cynnwys aelodau o gymuned eich ysgol.
Mae rhagor o wybodaeth ac ymchwil ar hyrwyddo hawliau plant mewn ysgolion ar gael ar wefan Comisiynydd Plant Cymru: