English

Mae ymgysylltu â rhieni a gofalwyr ynghylch diogelwch ar-lein yn rhan hanfodol o ddiogelu dysgwyr. Mae llawer o rieni a gofalwyr yn ymwybodol fod angen iddynt gefnogi eu plant, ond ddim yn gwybod ble i ddechrau. Gall ysgolion helpu drwy godi ymwybyddiaeth o faterion diogelwch ar-lein a darparu cyngor a chamau ymarferol. Mae’n bwysig gwneud hyn mewn modd sy’n gweddu i fywydau prysur pobl a hefyd yn denu diddordeb y rhieni a’r gofalwyr hynny a allai fod yn anoddach eu cyrraedd.

Dyma rai awgrymiadau allweddol ar sut i wneud hyn, gan Ysgol Fodel yr Eglwys yng Nghymru yng Nghaerfyrddin, ysgol sydd wedi derbyn achrediad y Nod Diogelwch ar-lein.

  • Creu a dosbarthu awgrymiadau ardderchog am ddiogelwch ar-lein. Beth yw’r negeseuon allweddol am ddiogelwch ar-lein yr ydych eisiau eu cyfleu i rieni a gofalwyr? Nodwch y rhain mewn dogfen y gallwch ei chylchredeg a’i hanfon adref. Mae’r Parth Cadw'n ddiogel ar-lein yn cynnig amrywiaeth o adnoddau a fydd yn eich helpu i wneud hyn. Ystyriwch ddefnyddio cymhorthion gweledol i wneud y wybodaeth yn haws ei deall, er enghraifft i dynnu sylw at gyfyngiadau oedran ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol y gallai’r dysgwyr fod yn eu defnyddio. Gallwch hefyd gyfeirio rhieni a gofalwyr at yr adnoddau i rieni a gofalwyr ar y Parth Cadw'n Ddiogel Ar-lein a gwefannau defnyddiol eraill fel Common Sense Media, neu NSPCC Net Aware.
  • Cymryd mantais ar gyfryngau cymdeithasol. Os oes gan eich ysgol gyfrifon Facebook neu Twitter, ystyriwch bostio eich awgrymiadau ardderchog ynghylch diogelwch ar-lein yno. Mae llawer o rieni a gofalwyr yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd felly gall hon fod yn ffordd wych o’u cyrraedd. Hefyd, bydd postio’n rheolaidd am ddiogelwch ar-lein yn sicrhau ei fod yn cael lle blaenllaw ym meddyliau pobl.
  • Hyrwyddo diogelwch ar-lein mewn digwyddiadau ysgol. Gallwch osod stondin yn hyrwyddo negeseuon allweddol pwysig mewn digwyddiadau ysgol fel nosweithiau rhieni a gofalwyr, ffeiriau Nadolig neu ddigwyddiadau’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon. Dosbarthwch daflenni y gall rhieni a gofalwyr fynd adref gyda nhw, a byddwch yn barod i ateb unrhyw gwestiwn allai fod ganddynt. Os yw eich ysgol wedi aseinio ‘Hyrwyddwyr Digidol’ rhowch wahoddiad iddynt gymryd rhan – gallai rhai rhieni neu ofalwyr fod yn fwy agored i dderbyn gwybodaeth gan ddysgwr yn hytrach nag aelod o staff.
  • Byddwch yn greadigol wrth gyflwyno’ch neges. Gall hwn fod yn gyfle delfrydol i gynnwys dysgwyr yn y dasg o gyfleu eich negeseuon am ddiogelwch ar-lein i rieni a gofalwyr. Ystyriwch greu rap neu fideo ysgol am ddiogelwch ar-lein fel y gallwch ei rannu ar wefan eich ysgol neu ar dudalennau gwefannau cymdeithasol. Mae hyn yn ennyn diddordeb cymuned yr ysgol ac yn cyfleu eich negeseuon allweddol mewn ffordd sy’n diddanu ac yn hawdd ei deall.
  • Cynnwys cyrff ysgol/rhieni a gofalwyr. Os oes gan eich ysgol gyngor rhieni a gofalwyr, Cymdeithas Rhieni ac Athrawon neu gymdeithas arall i rieni a gofalwyr, gofynnwch iddyn nhw gymryd rhan. Gallant helpu i ganfod anghenion parhaus rhieni a gofalwyr fel y gallwch deilwra’r hyn y byddwch yn ei gyfathrebu a sut, mewn ffordd sydd fwyaf perthnasol iddyn nhw. Gallant hefyd drefnu digwyddiadau ynghylch diogelwch ar-lein ac efallai y byddant eisiau ystyried gwahodd Swyddog Cyswllt Polisi’r Ysgol i ddod i roi sgwrs a chyflwyniad ar ddiogelwch ar-lein, yn benodol ar gyfer rhieni a gofalwyr.
  • Mesur effaith eich ymdrechion. Mae’n bwysig sefydlu pa mor effeithiol yw eich strategaeth gyfathrebu. Ystyriwch ddosbarthu papur a/neu holiaduron digidol i rieni a gofalwyr eu llenwi. Bydd yr adborth o fudd i chi, a gall y cwestiynau hefyd wneud i rieni a gofalwyr feddwl mwy am faterion diogelwch ar-lein.

Gallwch ganfod mwy o wybodaeth ac amrywiaeth eang o adnoddau dwyieithog am ddiogelwch ar-lein ar y Parth Cadw'n ddiogel ar-lein.