English

Mae pryderon am ddiogelu ar-lein yn gallu delio â llawer o feysydd, gan gynnwys y peryglon sy’n gysylltiedig â chynnwys, cysylltiad ac ymddygiad ar-lein. Gall y pryderon ddigwydd yn ystod amser ysgol ac y tu allan, ond fel pob pryder am ddiogelu, gallan nhw effeithio ar iechyd, diogelwch, datblygiad neu les eich dysgwyr. Fel ymarferwyr, y ffordd orau o ddiogelu eich dysgwyr yw darparu mannau ar-lein diogel o fewn amgylchedd yr ysgol ynghyd ag addysg effeithiol am ddiogelwch ar-lein, a hynny i’ch dysgwyr a’u teuluoedd.

Mae diogelu’n golygu “amddiffyn plant ac oedolion rhag camdriniaeth neu esgeulustod ac addysgu’r bobl o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a’r peryglon” Llywodraeth Cymru

Cynghorion call ar gyfer cadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein:

Hidlo a monitro’n briodol

Mae hidlo a monitro yn rhan bwysig o ddarpariaeth eich ysgol ar gyfer y rhyngrwyd. Rhaid cael y cydbwysedd iawn rhwng rhoi rhyddid i’ch dysgwyr ar-lein a rheoli cynnwys anghyfreithlon ac amhriodol. Darllenwch ganllawiau Llywodraeth Cymru Safonau a argymhellir ar gyfer hidlo’r we yn ysgolion Cymru’.

Addysg am ddiogelwch ar-lein

Mae angen amrywiaeth o gyfleoedd addysgu a dysgu ar ddysgwyr, a hynny fel rhan o gwricwlwm eang a chytbwys, fel y gallan nhw ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel dan oruchwyliaeth, ac yna ddatblygu'r sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i reoli eu defnydd annibynnol o’r rhyngrwyd. Dylai hyn fod yn briodol i’w hoedran ac i’w anghenion datblygiadol, gan adeiladu ar eu sgiliau a’u dealltwriaeth ymhob cam. Dylai ysgolion a lleoliadau eraill fod yn gyfarwydd â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ac ystyried sut i roi hyn ar waith.

Gwefannau, apiau ac offer ar-lein sy’n addas i'w hoedran

Un ffordd wych o gadw eich dysgwyr yn ddiogel yw eu cyflwyno i wefannau, apiau ac

offer sy’n addas i'w hoedran ac sy’n gallu cael eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan. I’ch dysgwyr ifanc, mae hyn yn golygu datblygu eu sgiliau ar-lein mewn mannau diogel, gan roi dewisiadau gwahanol i'r rhai sydd wedi’u hanelu at oedolion a dysgwyr hyn.

Ymwybyddiaeth a chyfraniad rheini a gofalwyr

Mae gweithio mewn partneriaeth â rhieni a gofalwyr yn bwysig ar gyfer pob agwedd ar ddatblygiad dysgwyr. Yn aml, mae rhieni a gofalwyr yn teimlo bod eu plant yn gwybod mwy na nhw am dechnoleg. Rhowch wybod iddyn nhw beth sy’n digwydd yn yr ysgol, cyfeiriwch nhw at adnoddau i rieni a chofiwch rannu gwefannau, apiau a gemau sy’n addas i oedran y plant. Efallai y byddwch chi eisiau cynnal noson i rieni a gofalwyr i ganolbwyntio ar fater penodol yn ymwneud â diogelwch ar-lein. Mae dau becyn ar gael i athrawon ar gyfer sesiynau i rieni. Maen nhw’n cynnwys popeth sydd ei angen i gynnal sesiwn ar ‘Amser sgrin’ a ‘Hunan-barch mewn byd digidol’.

Creu codau ymddygiad gyda’ch gilydd

Cofiwch, mae llawer o'r pryderon sy'n wynebu dysgwyr ar-lein yn ymwneud ag ymddygiad yn hytrach na thechnoleg. Dylech greu rheolau gyda’ch dysgwyr a’u hymestyn i ymddygiad ‘ar-lein’.

Gweithio gyda’ch dysgwyr os oes pryder

Yn aml, mae dysgwyr yn gallu poeni am ddweud wrth oedolion beth sy'n digwydd ar-lein, felly mae angen rhoi sicrwydd iddyn nhw bod rhywun yn gwrando arnyn nhw, bod eu pryderon yn cael eu clywed a’ch bod chi'n mynd i’w cefnogi nhw, heb eu beio am yr hyn maen nhw wedi’i wneud neu sut maen nhw wedi ymddwyn. Gwnewch yn siwr fod dysgwyr yn gwybod at bwy y dylen nhw droi os ydyn nhw’n poeni am rywbeth ar-lein.

Bod yn esiampl i eraill

Eich agwedd chi a’ch ymddygiad ar-lein yw’r ffyrdd pwysicaf o gadw eich dysgwyr yn ddiogel ar-lein. Dangoswch ddiddordeb yn yr hyn mae eich dysgwyr yn ei wneud, siaradwch am yr agweddau cadarnhaol a byddwch yno pan fydd angen cymorth a chefnogaeth arnyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am gadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein, y Parth Diogelwch Ar- lein yw’r lle i gael amrywiaeth eang o adnoddau ar ddiogelwch ar-lein, ac mae’r adnoddau ar gael yn ddwyieithog.

Os oes angen cymorth arnoch, gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein i Weithwyr Proffesiynol ar: 0844 381 4772 neu helpline@saferinternet.org.uk

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw bryder yn ymwneud â diogelu mewn addysg, darllenwch ganllawiau Llywodraeth Cymru Cadw dysgwyr yn ddiogel.