English

Nod y cynadleddau undydd hyn, a gynhaliwyd yn Llandudno a Chaerdydd ym mis Mawrth 2023, oedd rhannu gwybodaeth allweddol am gadernid digidol a chynnig rhai awgrymiadau ar gyfer y ffordd orau o gyflwyno diogelwch ar-lein mewn ysgolion.

Wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru, roedd y digwyddiadau wedi’u cynllunio i helpu ymarferwyr addysg a gweithwyr proffesiynol gan gynnwys athrawon, arweinwyr diogelu mewn awdurdodau lleol ac aelodau'r consortia addysg rhanbarthol.

Os methoch chi'r cynadleddau, dyma grynodeb o'r gweithgareddau gyda dolenni cyswllt i adnoddau perthnasol i'ch helpu yn y meysydd allweddol hyn.


UK Safer Internet Centre - Will Gardner a David Wright (Cyfarwyddwyr)

Cafwyd diweddariad gan Will a David ar sefyllfa diogelwch ar-lein y DU ar hyn o bryd. Buon nhw'n tynnu sylw at y problemau ar-lein sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc ar hyn o bryd, ac yn pwysleisio'r effeithiau eithafol y gallant eu cael. Ar ben hynny, cyfeiriwyd pawb at y cymorth sydd ar gael iddyn nhw fel ymarferwyr a’r cymorth sydd ar gael i’r plant a’r bobl ifanc eu hunain, gan gynnwys Codi Llaw Codi Llais, Dim ond jôc?, 360 Safe Cymru, Report Remove, Test Filtering, Riportio cynnwys niweidiol a llinell gymorth Professionals Online Safety Helpline.

Estyn - Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Dyfrig Ellis

Pwysleisiodd Dyfrig bwysigrwydd creu'r diwylliant cywir i gefnogi dulliau ysgolion o gadw dysgwyr yn ddiogel a chaniatáu i blant a phobl ifanc godi llais pan maen nhw angen cymorth. Mae ymchwil Estyn o 2021 yn dangos bod 50% o'r 1,300 o bobl ifanc a holwyd mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru wedi profi rhyw fath o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion. Rhoddodd Dyfrig drosolwg o argymhellion Estyn ar gyfer ysgolion, gan gynnwys cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus perthnasol i athrawon, yr angen i greu amgylchedd diogel a chyfforddus i blant a phobl ifanc a phwysigrwydd gwella'r modd mae ysgolion yn cofnodi a gweithredu ar achosion.

Ofcom - Pennaeth Materion Rheoleiddiol, Elinor Williams

Fe wnaeth Elinor roi diweddariad ar fil arfaethedig y DU, y Bil Diogelwch Ar-lein (Saesneg yn unig), a rhoddodd sylw yn enwedig i’r diogeliadau gwell i blant a phobl ifanc yn y byd ar-lein. Fel y rheoleiddiwr enwebedig, amlinellodd Elinor sut mae Ofcom yn bwriadu bwrw ymlaen â'u rôl newydd a'r effaith y bydd eu codau ymddygiad yn ei chael ar wneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i bawb. Hefyd, cafwyd cyfle i glywed am ymagwedd Ofcom tuag at lythrennedd y cyfryngau ac am eu rhaglen Gwneud synnwyr o'r cyfryngau er mwyn helpu i wella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth ar-lein oedolion a phlant y DU.

NCSC logo

Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC)

Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC), sy'n rhan o GCHQ, yw prif awdurdod y DU mewn seiberddiogelwch. Mewn archwiliad (Saesneg yn unig) diweddar, dywedodd 78% o ysgolion y DU a gymerodd ran eu bod wedi profi digwyddiad seiberddiogelwch. Nododd tîm academia'r NCSC fod ysgolion yn fwy o darged nag erioed i seiberdroseddwyr yn sgil yr holl ddata sensitif sydd ganddyn nhw a'r trafodion ariannol dan eu gofal. Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd seibergadernid ysgolion. Tynnwyd sylw at y cymorth sydd ar gael i ysgolion gan gynnwys y gwaith cydweithio â Hwb i greu canllawiau a hyfforddiant digidol gan gynnwys Hyfforddiant seiberddiogelwch i staff ysgol sydd newydd ei lansio.


  • Cadernid Digidol mewn Addysg

    Mae’r parth Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb yn darparu'r adnoddau, y wybodaeth, yr hyfforddiant a’r canllawiau diweddaraf i blant a phobl ifanc, teuluoedd, ymarferwyr addysg, gweithwyr proffesiynol a llywodraethwyr. Roedd hon yn sesiwn gam wrth gam, lefel uchel, drwy’r hyn sydd ar gael i chi yn eich rôl ac yn eich helpu i gyfeirio rhieni a gofalwyr a dysgwyr at adnoddau perthnasol.

     

  • SWGfL

    Roedd y sesiwn hon yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i chi drwy'r Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein i Weithwyr Proffesiynol (POSH) (Saesneg yn unig). Gall y llinell gymorth a'r gwasanaeth e-bost ddarparu cymorth a chyngor ar unrhyw fater sy'n ymwneud â'ch diogelwch ar-lein eich hun - fel cam-drin ar-lein ac enw da proffesiynol. Cyfeiriwyd at rai enghreifftiau o sut y gall y llinell gymorth eich helpu.

     

  • Promo Cymru

    Roedd y sesiwn hon yn tynnu sylw at y cymorth, y cyngor a’r canllawiau sydd ar gael i blant a phobl ifanc yng Nghymru gan gynnwys Meic, llinell gymorth ddwyieithog. Hefyd, cyflwynwyd trosolwg o gyngor 'problemau a phryderon ar-lein' Hwb i bobl ifanc, sy'n cynnig arweiniad ar beth i'w wneud os ydyn nhw'n poeni am rywbeth ar-lein.

     

  • WISE KIDS

    Bu’r sesiwn yn rhannu mewnwelediadau, syniadau ac adnoddau y gallwch eu defnyddio i helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau meddwl beirniadol, gwerthoedd a chadernid digidol i reoli risgiau ar-lein a defnyddio'r rhyngrwyd mewn ffordd gadarnhaol. Gan ddefnyddio senarios gwahanol, tynnwyd sylw at y cymhwysedd digidol a'r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i fod yn ddoeth ar-lein.

     

  • Tarian

    Trosolwg byr a gafwyd yma o bwysigrwydd seibergadernid i ysgolion. Roedd y sesiwn yn archwilio sut y gall ysgolion gryfhau eu polisïau cynllunio a rheoli er mwyn atal ac ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau seiber. Tynnodd sylw hefyd at y cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael i ysgolion a staff hefyd.

     

  • SchoolBeat

    Nod y sesiwn hon oedd eich helpu i ddeall radicaleiddio ac eithafiaeth ar-lein a’r arwyddion sy’n awgrymu bod dysgwr yn cael ei radicaleiddio. Nodwyd y gefnogaeth sydd ar gael os ydych yn credu bod hyn yn digwydd yn eich ysgol a chynghorion ar gyfer trafod y pwnc hynod emosiynol hwn.

     

  • Undeb Rygbi Cymru

    Roedd y sesiwn hon yn cynnig rhai ffyrdd ymarferol y gellir defnyddio chwaraeon i bwysleisio negeseuon diogelwch ar-lein. Dangoswyd sut y gellir archwilio pynciau fel ôl-troed digidol a chydsyniad wrth drafod rôl fodelau ym myd chwaraeon a dyheadau dysgwyr. Cynigiwyd cyngor ar sut i gynnwys rhieni a gofalwyr hefyd.

     

  • FullFact

    Roedd y sesiwn hon yn cynnig ffyrdd o helpu dysgwyr i ddeall beth yw camwybodaeth, cydnabod y gwahanol ffurfiau y gall eu cymryd a'r effaith y gall ei chael. Hefyd, cafwyd crynodeb o'r modiwl hyfforddiant ar-lein a lansiwyd yn ddiweddar sy'n ceisio rhoi ystod eang o wybodaeth i ymarferwyr am sut i fynd i'r afael â chamwybodaeth.

     

  • Cyberfirst

    Roedd y sesiwn hon yn darparu trosolwg byr o raglen CyberFirst o gyfleoedd sy’n rhoi cyflwyniad i faes seiberddiogelwch i bobl ifanc. Tynnwyd sylw at y manteision o ddod yn ysgol CyberFirst, gydag enghreifftiau o‘r gweithgareddau y gallai’ch dysgwyr fod yn rhan ohonynt ac esboniwyd y gwahaniaeth rhwng safonau efydd, arian ac aur. 

    Rhagor o fanylion am gyfleoedd CyberFirst.

     

  • Ysgol Nantgwyn

    Dan arweiniad athro ysgol uwchradd, roedd y sesiwn hon yn cynnig rhai awgrymiadau ymarferol ar gyfer ennyn diddordeb dysgwyr mewn diogelwch ar-lein. Trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â digwyddiadau fel Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn fwy Diogel, gallwch godi ymwybyddiaeth o bynciau ac ysgogi trafodaeth mewn ffordd hwyliog a chreadigol.

    Gwyliwch ffilm o fri Ysgol Nantgwyn fel rhan o gystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel yn 2020 a 2023.

     

  • Childnet

    Nod y sesiwn hon oedd darparu ychydig o gyd-destun i fater aflonyddu rhywiol ar-lein ymysg plant a phobl ifanc a rhoi trosolwg o’r hyfforddiant, y canllawiau a’r adnoddau ystafell ddosbarth sydd ar gael trwy Hwb, a all eich helpu i ddeall, atal ac ymateb i achosion o fewn eich lleoliad.

     

  • Canolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol

    Roedd y sesiwn hon yn tynnu sylw at adnoddau sy'n gallu cefnogi sgyrsiau gyda dysgwyr am berthynas iach a phwysigrwydd cydsyniad mewn ystod o gyd-destunau ar-lein. Hefyd, darparwyd gwybodaeth am faterion fel rhannu delweddau heb gydsyniad a'r camau ymarferol y gallwch eu cymryd i gefnogi pobl ifanc sy'n poeni am ddelwedd maen nhw wedi ei rhannu.

    Mae adnoddau dysgu ac addysgu CEOP ar gael y ddwyieithog ar wefan ‘Cadw’n ddiogel ar-lein’ Hwb.

     

  • Common Sense Education

    Roedd y sesiwn hon yn darparu trosolwg o gwricwlwm dinasyddiaeth ddigidol Common Sense Education, sydd wedi'i deilwra ar gyfer dysgwyr ysgolion cynradd ac uwchradd o bob oed. Darparwyd gwybodaeth ar y chwe thema dinasyddiaeth ddigidol allweddol, sydd wedi'u datblygu i helpu dysgwyr i wneud dewisiadau craff ym mhob agwedd ar eu bywydau ar-lein.

    Mae cwricwlwm dinasyddiaeth ddigidol Common Sense  ar gael yn ddwyieithog ar wefan ‘Cadw’n ddiogel ar-lein’.

     

  • Praesidio Safeguarding

    Sesiwn yn ymdrin â chymhlethdodau platfformau cyfryngau cymdeithasol oedd hon, t da a'r drwg o’u defnyddio a'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig â nhw. Roedd hefyd yn cynnig cyngor ar sut y gallwch gefnogi rhieni a gofalwyr i ddeall y cyfryngau cymdeithasol a'i rôl ym mywydau pobl ifanc.

    Mae canllawiau am apiau i deuluoedd ar gael yn ‘Cadw’n Ddiogel ar-lein’.