Cynhadledd Cadw'n Ddiogel Ar-lein 2023
Cynhadledd undydd i ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ym myd addysg yng Nghymru

Nod y cynadleddau undydd hyn, a gynhaliwyd yn Llandudno a Chaerdydd ym mis Mawrth 2023, oedd rhannu gwybodaeth allweddol am gadernid digidol a chynnig rhai awgrymiadau ar gyfer y ffordd orau o gyflwyno diogelwch ar-lein mewn ysgolion.
Wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru, roedd y digwyddiadau wedi’u cynllunio i helpu ymarferwyr addysg a gweithwyr proffesiynol gan gynnwys athrawon, arweinwyr diogelu mewn awdurdodau lleol ac aelodau'r consortia addysg rhanbarthol.
Os methoch chi'r cynadleddau, dyma grynodeb o'r gweithgareddau gyda dolenni cyswllt i adnoddau perthnasol i'ch helpu yn y meysydd allweddol hyn.
Prif nodiadau

UK Safer Internet Centre - Will Gardner a David Wright (Cyfarwyddwyr)
Cafwyd diweddariad gan Will a David ar sefyllfa diogelwch ar-lein y DU ar hyn o bryd. Buon nhw'n tynnu sylw at y problemau ar-lein sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc ar hyn o bryd, ac yn pwysleisio'r effeithiau eithafol y gallant eu cael. Ar ben hynny, cyfeiriwyd pawb at y cymorth sydd ar gael iddyn nhw fel ymarferwyr a’r cymorth sydd ar gael i’r plant a’r bobl ifanc eu hunain, gan gynnwys Codi Llaw Codi Llais, Dim ond jôc?, 360 Safe Cymru, Report Remove, Test Filtering, Riportio cynnwys niweidiol a llinell gymorth Professionals Online Safety Helpline.

Estyn - Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Dyfrig Ellis
Pwysleisiodd Dyfrig bwysigrwydd creu'r diwylliant cywir i gefnogi dulliau ysgolion o gadw dysgwyr yn ddiogel a chaniatáu i blant a phobl ifanc godi llais pan maen nhw angen cymorth. Mae ymchwil Estyn o 2021 yn dangos bod 50% o'r 1,300 o bobl ifanc a holwyd mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru wedi profi rhyw fath o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion. Rhoddodd Dyfrig drosolwg o argymhellion Estyn ar gyfer ysgolion, gan gynnwys cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus perthnasol i athrawon, yr angen i greu amgylchedd diogel a chyfforddus i blant a phobl ifanc a phwysigrwydd gwella'r modd mae ysgolion yn cofnodi a gweithredu ar achosion.

Ofcom - Pennaeth Materion Rheoleiddiol, Elinor Williams
Fe wnaeth Elinor roi diweddariad ar fil arfaethedig y DU, y Bil Diogelwch Ar-lein (Saesneg yn unig), a rhoddodd sylw yn enwedig i’r diogeliadau gwell i blant a phobl ifanc yn y byd ar-lein. Fel y rheoleiddiwr enwebedig, amlinellodd Elinor sut mae Ofcom yn bwriadu bwrw ymlaen â'u rôl newydd a'r effaith y bydd eu codau ymddygiad yn ei chael ar wneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i bawb. Hefyd, cafwyd cyfle i glywed am ymagwedd Ofcom tuag at lythrennedd y cyfryngau ac am eu rhaglen Gwneud synnwyr o'r cyfryngau er mwyn helpu i wella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth ar-lein oedolion a phlant y DU.

Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC)
Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC), sy'n rhan o GCHQ, yw prif awdurdod y DU mewn seiberddiogelwch. Mewn archwiliad (Saesneg yn unig) diweddar, dywedodd 78% o ysgolion y DU a gymerodd ran eu bod wedi profi digwyddiad seiberddiogelwch. Nododd tîm academia'r NCSC fod ysgolion yn fwy o darged nag erioed i seiberdroseddwyr yn sgil yr holl ddata sensitif sydd ganddyn nhw a'r trafodion ariannol dan eu gofal. Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd seibergadernid ysgolion. Tynnwyd sylw at y cymorth sydd ar gael i ysgolion gan gynnwys y gwaith cydweithio â Hwb i greu canllawiau a hyfforddiant digidol gan gynnwys Hyfforddiant seiberddiogelwch i staff ysgol sydd newydd ei lansio.