English

Rhaglen o gyfleoedd yw CyberFirst, o dan arweiniad y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, rhan o Bencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gyda’r nod o helpu pobl ifanc i ddilyn eu diddordeb mewn technoleg wrth eu cyflwyno i fyd seiberddiogelwch.

Mae CyberFirst yn cynnwys ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys cystadleuaeth i ferched yn unig, miloedd o lefydd rhad ac am ddim ar gyrsiau CyberFirst, bwrsariaeth brifysgol hael a chynllun Gradd-brentisiaeth a’r rhaglen CyberFirst i ysgolion.


Nod cystadleuaeth Merched CyberFirst yw cefnogi merched 12-13 oed sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes seiberddiogelwch. Mae'n cynnig  amgylchedd hwyliog ond heriol i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fenywod ifanc i ystyried gyrfa mewn seiberddiogelwch.

Gwahoddir ysgolion yng Nghymru i gynnig timau o ferched Blwyddyn 8 cyn y rownd ragbrofol ar-lein, a fydd yn eu gweld yn mynd i'r afael â phosau seiberddiogelwch rhyngweithiol sy'n rhoi sylw i bynciau sy'n cynnwys rhesymeg, rhwydweithio a chryptograffeg.

Mae’r gystadleuaeth yn cynnwys dau gam:

 

  • rownd gymhwyso ar-lein i nodi’r timau gorau ym mhob un o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr
  • rownd derfynol lle bydd timau yn brwydro yn eu hardaloedd i fod yn bencampwyr.

Ewch ati i ddysgu mwy a chofrestru  nawr ar wefan CyberFirst y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) (Saesneg yn unig).


Mae’r cyrsiau byr allgyrsiol am ddim hyn wedi’u llunio i gyflwyno pobl ifanc 12-17 oed i fyd seiberddiogelwch. Maent yn rhoi cyfle ymarferol i archwilio popeth o greu a chyfrannu at gynnwys i wefan i ddatblygu sgiliau uwch ym maes seiberddiogelwch, gan gynnwys gwaith fforensig digidol, technolegau amgryptio a phrofion hacio.

Mae pob cwrs wedi ei lunio i ganfod pobl ifanc llawn potensial, gan gynnig y gefnogaeth, y profiad a’r gallu sydd ei angen arnoch i fod yn y rheng flaen i’n diogelu yn y dyfodol mewn byd ar-lein.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan CyberFirst y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (Saesneg yn unig).


Mae’r cynllun Ysgolion/Colegau CyberFirst yn achredu ac yn hybu ysgolion a cholegau sy’n rhannu awydd y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol i fynd i’r afael â’r bwlch mewn sgiliau seiber ac i ysbrydoli pobl ifanc o bob cefndir i ddilyn gyrfa yn y maes hwn.

Yn dilyn llwyddiant rhaglen beilot, mae’r NCSC yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i benodi sefydliad partner a fydd yn cefnogi ysgolion a cholegau CyberFirst presennol ac yn helpu i gynyddu nifer yr ysgolion a cholegau CyberFirst newydd.

Unwaith y byddwn wedi cyhoeddi partner newydd Cymru, bydd cyfle i ysgolion a cholegau o Gymru wneud cais i ennill statws CyberFirst.

Mae’n rhaid i Ysgolion a Cholegau sydd am wneud cais allu dangos eu hymrwymiad i addysg seiber yn yr ystafell ddosbarth ynghyd â thrwy gyfoethogi gweithgareddau seiber allgyrsiol gyda’u cymuned leol a phartneriaid mewn diwydiant.

Rhoddir statws Aur i ysgolion a cholegau sy’n bodloni’r holl feini prawf dyfarnu, a hynny am gyflwyno addysg seiberddiogelwch rhagorol. Mae ysgolion/colegau arian yn cael eu hardystio am gynnig safonau dda a bodloni’r rhan fwyaf o’r meini prawf ac mae’r statws Efydd yn cael ei roi i ysgolion/colegau sy’n anelu at safonau uchel.

Mae ysgolion a cholegau llwyddiannus yn cael ystod o fanteision, gan gynnwys cydnabyddiaeth swyddogol gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a chyfleoedd i gydweithio ar weithgareddau sy’n ymwneud â’r maes gyda thros 130 o sefydliadau partner o ddiwydiannau amrywiol, fel banciau, teleathrebu a thrafnidiaeth.

Dyma beth mae ysgolion a cholegau CyberFirst yn ei feddwl o’r rhaglen. Mae rhagor o wybodaeth gefndir ar gael ar wefan NCSC CyberFirst Schools (Saesneg yn unig).


Mae CyberFirst yn cynnig dewis go iawn i gannoedd o fyfyrwyr ar ôl Safon Uwch, neu yn ystod blwyddyn gyntaf y myfyriwr yn y brifysgol.

  • Mae bwrsariaeth CyberFirst yn cynnig £4,000 y flwyddyn mewn cymorth ariannol i fyfyrwyr is-raddedig, ynghyd ag wyth wythnos o hyfforddiant seiberddiogelwch â thal yn ystod pob haf i helpu i roi hwb i’w gyrfa mewn seiberddiogewch.
  • Mae Gradd-brentisiaeth CyberFirst yn caniatáu i is-raddedigion ennill tua £20,000 y flwyddyn wrth iddynt astudio ar gyfer gradd BSc (Anrh) a gweithio ym Mhencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan CyberFirst y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (Saesneg yn unig).


Mae Cyber Explorers yn fenter newydd sydd wedi'i chynllunio i ysbrydoli pobl ifanc 11-14 oed ledled y DU i ddilyn diddordebau a dewisiadau pwnc a allai fynd â nhw tuag at yrfa seiberddiogelwch. Ei nod yw cefnogi athrawon drwy ategu cwricwlwm yr ysgol a hyrwyddo dysgu annibynnol myfyrwyr.

Bydd y fenter yn canolbwyntio ar wella rhagolygon gyrfa ac amrywiaeth myfyrwyr a allai fod yn agored i archwilio llwybr seiber technegol drwy'r system addysg. Bydd yn cyflawni hyn drwy gynnwys addysgol ac ysbrydoledig ar y platfform dysgu, gan arwain cyfranogwyr drwy gyfres o gymeriadau a phenodau er mwyn archwilio sut mae seiberddiogelwch yn bwnc a gyrfa berthnasol a chyffrous. Bydd hyn yn helpu i ysbrydoli plant, ar oedran tyngedfennol, ac yn gwneud astudio pynciau ysgol seiber a digidol yn y dyfodol yn fwy deniadol.

Darganfyddwch fwy a chofrestrwch nawr ar wefan Cyber Explorers.