Vent
Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'Vent', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
- Rhan o
Ap cyfryngau cymdeithasol a lansiwyd yn 2015 sy’n galluogi defnyddwyr i bostio eu meddyliau mwyaf personol yn gyhoeddus i eraill ymateb iddynt. Mae Vent yn cael ei hysbysebu fel ‘dyddiadur cymdeithasol’, lle gall defnyddwyr fynegi eu hunain a rhannu eu gwir deimladau ar-lein, gan gynhyrchu ffrwd ddiddiwedd o ‘Vents’ defnyddiwr. Yn yr ap, gall defnyddwyr ddewis hwyliau o blith rhestr o becynnau emosiwn ac atodi eu ‘Vents’, gan bostio naill ai’n gyhoeddus neu i grŵp caeedig o ddefnyddwyr dethol. Mae’r ap ar gael am ddim ar Android ac iOS, er bod defnyddwyr yn cael eu hannog i uwchraddio am danysgrifiad o £2.99 y mis i gael nodweddion ychwanegol. Mae gan Vent dros filiwn o ddefnyddwyr ledled y byd.
Sgôr oedran swyddogol
Yr isafswm oedran ar gyfer defnyddwyr Vent yw 16, ond nid oes ganddo unrhyw ddulliau gwirio oedran trylwyr.
Mae’r Apple App Store yn rhoi sgôr o ‘Mature 17+’ tra bod Google Play yn argymell ‘Parental Guidance’.
Mae pob cyfrif Vent yn gyhoeddus o’r cychwyn cyntaf, felly mae pob defnyddiwr arall ar y platfform yn gallu gweld y cynnwys.
Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein ‘Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau‘.
Sut mae plant a phobl ifanc yn defnyddio’r ap
Mae Vent yn boblogaidd gyda phobl ifanc sy’n mwynhau defnyddio’r ap i archwilio eu hunaniaeth. Mae Vent yn caniatáu i ddefnyddwyr greu proffil anhysbys a rhannu eu teimladau ar y pryd. Yn unol â broliant Vent, ‘Express yourself freely’, caiff defnyddwyr eu hannog i rannu sut maen nhw’n teimlo ar yr ap, p’un a yw hyn yn gadarnhaol neu’n negyddol. Mae pobl ifanc wrth eu bodd gyda hyn, gan rannu meddyliau’n amrywio o fod eisiau mynd adref a phendwmpian i gofio am ddigwyddiad neu atgof o’r gorffennol a rhannu eu meddyliau ag eraill. Hefyd, gall defnyddwyr gefnogi ei gilydd gyda’r cynnwys maen nhw’n ei bostio a gadael geiriau o anogaeth mewn sylw, neu ymateb yn gyflym gydag emoji neu ymatebion parod eraill.
Fodd bynnag, mae’r nodweddion hyn yn annog defnyddwyr i rannu brwydrau personol iawn hefyd, megis meddyliau am hunanladdiad, alcoholiaeth, anhwylderau bwyta, neu ddibyniaeth ar gyffuriau, a allai fod yn ddryslyd neu’n ofidus i bobl ifanc eu darllen. Er bod y gymuned yn gallu bod yn gefnogol iawn i’r brwydrau hyn, mae’n bwysig pwysleisio nad ydyn nhw’n arbenigwyr proffesiynol ac na ddylid byth eu defnyddio yn lle gwasanaethau iechyd meddwl proffesiynol neu ddibynadwy.
Nodweddion allweddol a therminoleg
-
Mae hyn yn cyfeirio at neges neu bostiad defnyddiwr. Cyn postio, mae angen i ddefnyddwyr ddewis opsiwn ‘mood’, a fydd yn pennu’r botymau ymateb y gall eraill eu defnyddio i ymateb i ‘Vent’. Does dim cyfyngiad geiriau ar bostiadau ac mae defnyddiwr yn dewis lle i bostio eu ‘Vent’ – naill ai’n gyhoeddus neu yn eu dyddiadur preifat eu hunain sydd ond yn hygyrch iddyn nhw.
-
Mae hwyl neu dymer yn gysylltiedig â phob ‘Vent’, fel bod defnyddwyr sy’n ei weld yn gallu cael syniad o sut mae’r unigolyn yn teimlo. Bydd amrywiaeth eang o emosiynau (‘Emotion sets’) ar gael i chi, fel ‘positif’, ‘trist’, ‘pryderus’ a ‘dig’. Gallwch ddefnyddio’r hwyliau hyn hefyd i hidlo negeseuon eraill gyda’r un emosiwn.
-
Setiau o hwyliau y gallwch eu hatodi i bob ‘Vent’ yw’r rhain. Gall defnyddwyr gael mynediad at hyd at 40 o ‘setiau emosiwn’ am ddim, tra bod setiau eraill wedi’u cloi i ddefnyddwyr sydd â ‘Vent Angel’, y gwasanaeth tanysgrifio am dâl.
-
Gall defnyddwyr ymateb (‘React’) i Vent gyda botymau ymateb parod. Mae’r botymau ymateb yn dibynnu ar yr hwyliau/tymer (‘Mood’) a ddewiswyd gan ddefnyddiwr y neges wreiddiol.
-
Dyma lle mae’r holl ‘Vents’ yn ymddangos ar yr ap, gan ymddangos fel ffrwd gyson.
-
Mae hyn yn cyfeirio at y ‘Vents’ cyhoeddus diweddaraf a bostiwyd ar y platfform.
-
Gall pob defnyddiwr ‘wrando’ (‘Listen’) ar ddefnyddiwr arall os yw am glywed negeseuon ‘Vent’ defnyddiwr penodol. Mae’r swyddogaeth hon yn debyg i’r swyddogaeth ‘Follow’ ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill.
-
Dyma’r gwasanaeth tanysgrifio am dâl ar Vent. Am £2.99 y mis, gall defnyddwyr ddatgloi sticeri i ateb Vents, addasu botymau ymateb eu Vents eu hunain, datgloi pecynnau emosiwn ac ychwanegu cloriau proffil. Gallwch hefyd roi tanysgrifiad mis i’r gymuned ‘Vent’ hefyd.
-
Mae hyn yn golygu ‘Not safe for work’ fel bod defnyddwyr yn gwybod bod y postiad/neges yn cynnwys rhywbeth y dylid ei weld yn breifat. Gallai fod yn ddeunydd amlwg rywiol, yn dreisgar neu’n cynnwys gweithgaredd anghyfreithlon. Mae’n werth nodi mai mater i’r defnyddwyr unigol yw tagio eu negeseuon fel rhai sy’n sbarduno neu’n niweidiol neu’n defnyddio’r acronym hwn.
-
Dyma elfen o’r ap sy’n darparu erthyglau a modiwlau hunangyfeiriedig i ddefnyddwyr ar amrywiaeth o faterion y gallent fod yn eu hwynebu. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr olrhain eu hwyliau dros amser gyda system sgorio o 1-7. Mae’n rhoi cyngor i ddefnyddwyr ar sut i wella eu lles eu hunain yn ogystal â chyngor ar beth i’w wneud os ydyn nhw’n wynebu problemau fel iselder, pryder cymdeithasol, anhwylder straen wedi trawma (PTSD) a straen.
-
Canolfan Diogelwch Vent yw lle mae defnyddwyr yn cael eu hannog i wirio canllawiau cymunedol yr ap. Gall defnyddwyr wirio a oes unrhyw gymedrolwyr ar-lein, cofrestru i fod yn gymedrolwr, rhoi adborth ar yr ap, neu ddod yn gyfaill neu ‘buddy’. Yn anffodus, nid yw’n glir beth mae ‘buddy’ yn ei olygu iddyn nhw felly byddwch yn ofalus gyda’r nodwedd hon.
Risgiau posibl
Cynnwys
Mae holl gynnwys Vent yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr ac er bod system gymedroli a set o ganllawiau cymunedol ar waith, mae’r ap yn dibynnu ar ddefnyddwyr unigol i dynnu sylw at ‘Vents’ penodol sy’n cael eu hystyried yn amhriodol, ac felly mae’n anodd ei reoli. Mae hyn yn golygu, er y gallai fod yn dathlu’r pethau mae pobl yn eu caru, mae anogaeth yr ap i gymell defnyddwyr i bostio sut maen nhw’n teimlo ‘go iawn’, yn golygu bod risg sylweddol hefyd y gall defnyddwyr fod yn agored i gynnwys anghyfreithlon ac annymunol. Cyfeirir at bynciau fel hunan-niweidio, deiet peryglus, hunanladdiad, puteindra a defnyddio alcohol a chyffuriau yn aml ar yr ap. Gall natur y cynnwys hwn, yn enwedig meddyliau treisgar neu iselder, beri gofid neu ddryswch i rai defnyddwyr. Trwy osod allweddeiriau sbardun a blocio negeseuon sydd wedi’u tagio â themâu penodol, gallwch gyfyngu ar y math o gynnwys y mae’ch plentyn yn ei weld. I ddysgu mwy am osod allweddeiriau sbardun a blocio negeseuon, gweler adran ‘Rheoli rhyngweithio a chynnwys’ y canllaw hwn.
Mae Vent yn cynnal canolfan les hefyd i ddefnyddwyr olrhain eu hwyliau a chael cyngor a gwybodaeth am unrhyw broblemau llesiant sydd ganddynt. Yn y nodwedd hon o’r ap, mae defnyddwyr yn gallu cofnodi eu hwyliau o un i saith (gydag 1 y gwaethaf maen nhw wedi’i deimlo erioed, i 7 fel y teimlad gorau) er mwyn olrhain eu hwyliau beunyddiol dros amser. Mae defnyddwyr yn gallu defnyddio’r Wellness Centre hefyd i ddod o hyd i gyngor ac awgrymiadau ar reoli eu lles emosiynol. Mae pedwar prif gategori o erthyglau sef: llesiant a hunanofal, cwsg a lles, straen a phryder, a pherthynas ag eraill. Mae’r Wellbeing Centre yn cynnig saith modiwl dysgu rhyngweithiol, hunangyfeiriedig i ddefnyddwyr. Eu bwriad yw helpu defnyddwyr sy’n teimlo’n isel neu’n bryderus i adnabod arwyddion a symptomau gwahanol broblemau a’u dysgu sut i’w rheoli. Mae’r modiwlau hyn yn cynnwys pynciau fel iselder, pryder cymdeithasol, pryder, pryder iechyd, a PTSD sydd wedi’u rhannu’n erthyglau byr, addysgiadol y gall defnyddwyr eu defnyddio i wella eu hwyliau.
Nodwedd arall sydd gan Vent yw’r Safety Centre, lle mae defnyddwyr sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl neu mewn argyfwng yn cael eu hannog i ffonio’r llinell argyfwng am ddim. Yn ôl datblygwyr yr ap, mae’r gwasanaeth hwn yn rhoi defnyddwyr mewn cysylltiad â gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi i ymdrin â materion brys fel meddwl am hunanladdiad, cam-drin neu ymosod, hunan-niweidio, bwlio a heriau perthynas. Er gwaethaf y ffaith y dywedir bod y gwasanaeth yn cael ei redeg a’i gymedroli gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig, does dim ffordd o wirio’r gwasanaeth hwn. O ganlyniad, dylai’ch plentyn siarad ag oedolyn y mae’n ei adnabod ac yn gallu ymddiried ynddo, neu weithiwr proffesiynol hyfforddedig os yw mewn argyfwng, yn hytrach na defnyddio’r gwasanaeth a gynigir gan yr ap. Mae mwy o wybodaeth am sefydliadau dibynadwy a llinellau cymorth ar gael yn adran ‘Cadw’n Ddiogel Ar-lein’ Hwb.
Cysylltu ag eraill
Pwrpas yr ap yw cysylltu pobl â chymuned sy’n ‘ystyriol’. Anogir defnyddwyr i estyn allan at eraill a dangos eu cefnogaeth i negeseuon ‘vent’ gan gyd-fentwyr. Gall unrhyw un ar y platfform weld negeseuon cyhoeddus, a gall unrhyw un ryngweithio â nhw. Gall defnyddwyr dan 18 oed gael cyfrifon cyhoeddus, sy’n golygu y gallant ryngweithio â’r holl ddefnyddwyr eraill ar y platfform. Argymhellir y dylai’ch plentyn gael cyfrif preifat, gan rannu negeseuon ‘vent’ gyda ffrindiau hysbys yn unig.
Mae cyfle hefyd i ‘wrando’ ar ddefnyddiwr arall ac felly anfon eu ‘vents’ yn uniongyrchol i ffrwd y gwrandäwr yn y dyfodol. Mae cyfrifon cyhoeddus yn caniatáu i ddilynwyr anhysbys ‘wrando’, gan gyflwyno risg y gall pobl ddarllen a rhyngweithio â defnyddwyr eraill yn ddienw. Yn debyg i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill, efallai na fydd defnyddwyr yr hyn maen nhw’n honni ydyn nhw bob amser. Mae’n bwysig eich bod chi’n siarad â’ch plentyn am y risgiau o gysylltu â dieithriaid. Gwiriwch gyda’ch plentyn am eu cyswllt â dieithriaid ar-lein, ac anogwch eich plentyn i ddweud wrthych chi pan fydd rhywun yn gofyn cwestiynau personol neu eisiau sgwrsio’n breifat ar ap arall.
Hefyd, mae swyddogaeth negeseuon uniongyrchol Vent yn gallu rhoi cyfle i ddefnyddwyr rannu negeseuon trallodus a niweidiol â’i gilydd yn breifat. Mae’r pwyslais ar fod yn ap anhysbys yn codi’r broblem hefyd na fydd defnyddwyr yn gwybod â phwy maen nhw’n negeseua o reidrwydd. Atgoffwch eich plentyn y gall rwystro neu guddio negeseuon gan ddefnyddwyr penodol sy’n anfon negeseuon uniongyrchol sy’n achosi gofid neu ofn. Am fwy o wybodaeth am sut i wneud hyn, ewch i adran ‘Riportio a blocio’ y canllaw hwn.
Er bod y platfform yn annog defnyddwyr i fynegi barn (‘vent’) am faterion personol neu sensitif iawn, mae’n bwysig eich bod yn siarad â’ch plentyn am beidio â rhannu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy ar-lein.
Ymddygiad defnyddwyr
Hanfod yr ap yw mynegi’r meddyliau mwyaf personol yn ddienw, a all roi ymdeimlad ffug o ddiogelwch i rai defnyddwyr am rannu, teimlo’n llai atebol am y pethau maen nhw’n eu dweud ac effaith hyn ar ddefnyddwyr eraill o bosib. Gall defnyddwyr ar y platfform fod yn agored i negeseuon a allai sbarduno neu annog gweithgareddau peryglus fel hunan-niweidio neu ddeiet eithafol. Anogwch eich plentyn i ystyried ai Vent yw’r lle priodol i rannu ei feddyliau a’i deimladau preifat, yn enwedig y rhai a allai gael effaith negyddol ar ddefnyddwyr eraill sy’n agored i niwed ar y platfform. Atgoffwch eich plentyn y dylai siarad ag oedolyn dibynadwy bob amser os yw’n profi meddyliau negyddol a’i annog i siarad â chi os yw’n gweld cynnwys gofidus neu bethau nad yw’n eu deall ar Vent.
Mae gan Vent ei ganllawiau cymunedol (‘Community Guidelines’) ei hun lle mae’r datblygwyr yn annog defnyddwyr i fod yn ystyriol o eraill ac i beidio â phostio cynnwys niweidiol, anghyfreithlon neu NSFW (ddim yn ddiogel i’r gwaith). Mae hefyd yn atgoffa defnyddwyr i ychwanegu rhybudd sbardun i unrhyw negeseuon sy’n cynnwys deunydd am hunanladdiad, hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta. Cofiwch nad yw cymedrolwyr yr ap yn gweithio mewn amser real o reidrwydd, sy’n golygu mai cyd-ddefnyddwyr sy’n gorfod gorfodi neu o leiaf dynnu sylw cymedrolwyr at gynnwys niweidiol fel arfer.
Dyluniad, data a chostau
Mae’r holl ‘Vents’ sy’n cael eu postio gan ddefnyddwyr yn cael eu harddangos gyda’i gilydd yn ‘Feed’ yr ap. Mae hyn yn golygu y gall defnyddwyr dreulio cryn amser yn sgrolio drwy’r hyn sy’n ymddangos mewn ‘Vents’ diddiwedd sydd wedi’u postio gan eraill. Mae’r platfform wedi’i gynllunio i gadw diddordeb defnyddwyr a gall fod yn heriol i rai defnyddwyr gymryd seibiant o’r platfform. Anogwch eich plentyn i gymryd seibiant rheolaidd o’r platfform ac ystyried galluogi’r swyddogaeth ‘Take a break’ i analluogi’r ap am gyfnod penodol. I wybod sut i wneud hyn, ewch i adran ‘Rheoli amser a phrynu pethau’ y canllaw hwn.
Fel llawer o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill, mae’r gallu i eraill weld, rhannu ac ymateb i’ch negeseuon yn nodwedd hynod apelgar i rai defnyddwyr. Ar Vent, mae’r swyddogaeth sy’n rhagbennu’r botymau ymateb sy’n seiliedig ar y neges ei hun yn awgrymu bod disgwyl i ddefnyddwyr ymateb a rhyngweithio â negeseuon ei gilydd yn aml. Gall yr elfen hon arwain at rai defnyddwyr yn dibynnu ar faint o ymatebion maen nhw’n eu derbyn, fel gwerthfawrogiad o’u ‘Vent’. Atgoffwch eich plentyn bod y nodweddion rhyngweithiol hyn wedi’u cynllunio i gadw defnyddwyr ar y platfform ac nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â’u hunanwerth.
Gellir lawrlwytho Vent yn rhad ac am ddim, ond yn aml mae defnyddwyr yn cael eu hannog i uwchraddio i’r tanysgrifiad misol, o’r enw ‘Vent Angel.’ Rhoddir addewid o nodweddion ychwanegol i danysgrifwyr megis datgloi sticeri adwaith ychwanegol neu ragor o ‘setiau emosiwn’. Atgoffwch eich plentyn mai dim ond ffordd arall i lwyfannau wneud arian gan eu defnyddwyr yw’r tanysgrifiadau hyn. Mae’n werth gwirio bod gosodiadau prynu mewn-ap wedi’u hanalluogi, er mwyn osgoi talu’n ddamweiniol i uwchraddio cyfrif. I wybod sut i wneud hyn, ewch i adran ‘Rheoli amser a phrynu pethau’ y canllaw hwn.
Awgrymiadau ar gyfer cadw eich plentyn yn ddiogel
-
Mae pob cyfrif yn gyhoeddus o’r cychwyn cyntaf, ond gall defnyddwyr newid eu cyfrifon i ‘Preifat’ gan ddefnyddio’r ddewislen gosodiadau.
I osod eich cyfrif yn breifat:
- ewch i’r gosodiadau trwy ddewis yr eicon proffil yn y gornel dde isaf
- dewiswch yr eicon gêr â’r label ‘Settings’
- defnyddiwch y togl i newid i ‘Set account to private’. Bydd y togl yn newid o lwyd i binc i ddangos ei fod bellach yn breifat
-
Mae Vent yn cynnig sawl opsiwn i ddefnyddwyr rwystro sbarduno cynnwys, a fydd yn atal y defnyddiwr rhag gweld negeseuon wedi’u tagio am bynciau a allai beri gofid. Hefyd, gall defnyddwyr reoli pa negeseuon maen nhw’n eu gweld gan bwy, gydag opsiynau i guddio (‘hide’) neu dewi (‘snooze’) defnyddwyr eraill.
I osod rhybuddion sbardun (‘Trigger warnings’):
- agorwch ddewislen y defnyddiwr trwy ddewis yr eicon person ar ochr dde isa’r sgrin
- dewiswch ‘Settings’ a sgrolio i ‘Set trigger categories’
- dewiswch o blith y categorïau canlynol:
- sexual
- violence
- self-harm
- dieting
- ar ôl dewis y categorïau sbardun, dewiswch y botwm ‘back’
- dewiswch ‘Turn off triggering posts’ i’w hatal rhag ymddangos ar ffrydiau defnyddwyr
I guddio (‘Hide’) neu dewi (‘Snooze’) defnyddwyr eraill:
- agorwch broffil y defnyddiwr trwy glicio ar ei enw defnyddiwr
- dewiswch yr eicon tri dot ar ochr dde ucha’r proffil
- dewiswch o blith y canlynol:
- hide this user
- snooze this user
- block this user
I symud yr holl negeseuon i breifat:
- ewch i’r ddewislen ‘Settings’ trwy ddewis yr eicon gêr
- sgroliwch i lawr i’r pennawd ‘Danger zone’
- dewiswch ‘Move all posts to private’
- dewiswch ‘Yes’ ar y blwch sy’n ymddangos i gadarnhau’ch dewis
-
Gall defnyddwyr riportio a rhwystro defnyddwyr eraill sy’n eu poeni neu’n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform. Hefyd, gallant dynnu sylw’r cymedrolwyr at negeseuon ‘vent’ i’w hadolygu.
I dynnu sylw at ddefnyddiwr:
- agorwch broffil y defnyddiwr trwy glicio ar ei enw defnyddiwr
- dewiswch yr eicon tri dot ar ochr dde ucha’r sgrin
- dewiswch ‘Flag this user’ a’r rheswm dros riportio o blith y rhestr sydd ar gael.
I rwystro defnyddiwr:
- agorwch broffil y defnyddiwr trwy glicio ar ei enw defnyddiwr
- dewiswch yr eicon tri dot ar ochr dde ucha’r sgrin
- dewiswch ‘Block this user’
I dynnu sylw cymedrolwyr yr ap at neges Vent:
- agorwch y neges a dewis yr eicon tri dot ar ochr dde ucha’r sgrin
- dewiswch y rheswm dros riportio o’r rhestr ganlynol:
- I’m not interested in this content
- this content is abusive, harmful or toxic
- overly promotional
- the content displays nudity
- this feels inappropriate for vent
- it’s low quality content
- it expresses intentions of self-harm or suicide
- other
Ni fyddwch yn cael eich hysbysu am unrhyw gamau pellach.
-
Mae gan Vent ychydig o adnoddau ar gael i helpu defnyddwyr i reoli eu hamser a’u harferion prynu ar y platfform, gan gynnwys rheoli hysbysiadau a swyddogaethau ‘Take a break’. Bydd ‘Take a break’ yn cloi’r ap am 8 awr fel y gall defnyddwyr fwynhau tipyn o amser hebddo. Gallwch hefyd drefnu i'r ap eich hysbysu bob 10, 20 neu 30 munud rydych chi'n ei dreulio ar yr ap i'ch atgoffa i gymryd seibiant.
I reoli hysbysiadau:
- ar yr ap, ewch i’r ddewislen ‘Settings’ trwy ddewis yr eicon gêr
- sgroliwch i ‘Notifications’ a dewis ‘Preferences’
- dewiswch yr hysbysiadau perthnasol yr hoffech eu derbyn drwy doglo ar yr opsiwn
Mae’r opsiwn ‘Pause all notifications’ ar gael hefyd, a fydd yn atal pob hysbysiad nes i chi ddad-ddewis yr opsiwn hwn.
I alluogi seibiant (‘Take a break’):
- ar yr ap, ewch i’r ddewislen ‘Settings’ trwy ddewis yr eicon gêr
- sgroliwch i ‘Wellbeing’ a dewis yr opsiwn ‘Take a break’
- bydd hyn yn atal yr ap am 8 awr
I osod atgof seibiant:
- ar yr ap, ewch i 'Settings' drwy ddewis yr eicon gêr
- dewiswch 'Break reminder' o dan y pennawd 'Wellbeing'
- dewiswch yr amser rhwng pob atgof o'r opsiynau canlynol:
- bob 10 munud
- bob 20 munud
- bob 30 munud
- byth
I reoli pryniannau (Android):
- ewch i’ch ap Google Play
- dewiswch ‘Menu’ a sgrolio i ‘Settings’
- dewiswch yr opsiwn ‘Require authentication for purchases’
I reoli pryniannau (iOS):
- agorwch ‘Settings’ yr ap
- dewch o hyd i ‘Screen time’ yna sgrolio i ‘Content and privacy restrictions’
- dewiswch ‘iTunes and App Store purchases’ a dewis yr opsiwn i ‘Don’t allow’
-
Pan fydd eich cyfrif wedi’i ddadactifadu, bydd eich holl wybodaeth defnyddiwr yn cael ei chadw ond ni fydd yn weladwy ar y platfform. Gallwch ail-actifadu’ch cyfrif ar unrhyw adeg i adfer eich holl wybodaeth. Mae dileu cyfrif yn golygu y bydd eich holl wybodaeth yn cael ei dileu’n barhaol ac ni fydd modd ei hadfer. Gall defnyddwyr Vent naill ai ddileu neu analluogi eu cyfrifon.
I analluogi eich cyfrif:
- ewch i’r ddewislen ‘Settings’ trwy ddewis yr eicon gêr
- sgroliwch i lawr i’r pennawd ‘Danger zone’
- dewiswch ‘deactivate account’ ac ‘Okay’ ar y bocs sy’n ymddangos i gadarnhau eich dewis
I ddileu eich cyfrif:
- ewch i’r ddewislen ‘Settings’ trwy ddewis yr eicon gêr
- sgroliwch i’r pennawd ‘Danger zone’
- dewiswch ‘Delete account’ ac ‘Okay’ ar y bocs sy’n ymddangos i gadarnhau eich dewis
Awgrymiadau ychwanegol
Er bod Vent yn awgrymu ei fod yn lle i ddefnyddwyr fynegi eu teimladau a chysylltu â phobl sy’n ystyriol, mae hefyd yn fan lle gall defnyddwyr iau fod yn agored i gynnwys anaddas. Gyda llawer o ddefnyddwyr yn rhannu brwydrau hynod bersonol mewn pob math o feysydd, gan gynnwys hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta, mae’n bosibl y bydd eich plentyn yn dod ar draws cynnwys fel hyn. Gan nad yw Vent yn cael ei gymedroli’n gyson nac yn effeithlon, argymhellir yn gryf nad yw plant a phobl ifanc yn defnyddio’r ap hwn.