English

Ap rhannu lluniau di-dâl sy'n ceisio cynnig profiad rhannu delweddau mwy dilys yw BeReal, gyda 3.5 miliwn a mwy o ddefnyddwyr dyddiol. Mae defnyddwyr BeReal yn cael eu hannog bob dydd i dynnu llun o beth bynnag maen nhw'n ei wneud, lle bynnag maen nhw, o fewn dau funud o gael hysbysiad gan yr ap i rannu llun 'BeReal'. Mae'r ddelwedd yn cael ei rhannu gyda ffrindiau ar y platfform, sy'n gallu gwneud sylwadau ac ymateb i'r ddelwedd. Dim ond am ddiwrnod mae'r ddelwedd yn para, cyn i ddefnyddwyr gael neges arall i anfon y llun dyddiol nesaf. Y nod yw bod defnyddwyr BeReal yn rhannu delweddau amser real, yn hytrach na delweddau wedi'u hidlo'n ormodol neu eu golygu'n drwm fel y gwelir ar lwyfannau rhannu lluniau eraill. Mae'r holl ddelweddau BeReal rydych chi'n eu rhannu yn cael eu cadw yn eich calendr BeReal, lle maen nhw'n cael eu storio fel atgofion dyddiol, y gellir eu llunio'n sioe luniau ar ddiwedd pob blwyddyn.


Y cyfyngiad oedran isaf ar gyfer defnyddwyr BeReal yw 13 oed, ond nid yw'n ymddangos bod ganddo unrhyw ddulliau gwirio oedran penodol.

Mae pob cyfrif BeReal yn breifat yn awtomatig sy’n golygu mai dim ond ffrindiau’r defnyddiwr ar yr ap sy'n gallu'i weld.

Mae ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’ yn cynnwys rhagor o fanylion am hyn.


Mae'r ap yn apelio at lawer o bobl ifanc gan ei fod yn wahanol i lawer o apiau cyfryngau cymdeithasol eraill. Mae llawer o apiau rhannu lluniau eraill yn canolbwyntio ar ddelwedd, gan gynnig amrywiaeth eang o offer golygu i greu'r llun perffaith. Pwrpas BeReal  yw bod yn rhwydwaith cymdeithasol dilys, digymell, a didwyll. Mae hyn yn beth braf iawn i lawer o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol ifanc gan eu bod yn teimlo y gallan nhw bostio'n fwy rhydd heb yr un fath o bwysau i ymddangos mewn ffordd arbennig a heb yr un lefel o farnu sy'n gyffredin ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill.  Does gan yr ap ddim hysbysebion sy'n golygu y gall defnyddwyr weld beth mae eu ffrindiau'n ei bostio heb unrhyw ymyrraeth. Hefyd, does dim perygl i'w negeseuon gael eu dylanwadu gan unrhyw ffactorau eraill. Trwy gael dau funud yn unig i bostio llun, mae'n creu naws gystadleuol o bwy sy'n mynd i bostio gyntaf.  


  • Mae defnyddwyr yn cael eu hannog i dynnu llun ohonyn nhw eu hunain a'r hyn maen nhw'n ei wneud. Mae swyddogaeth camera'r ap yn golygu bod defnyddwyr yn gallu tynnu llun o'r olygfa o'u blaenau a hunlun ar yr un pryd, gan ddangos beth maen nhw'n ei wneud a sut maen nhw'n edrych wrth wneud hynny. Dim ond dau funud sydd gan ddefnyddwyr o gael hysbysiad i rannu eu llun.

  • Hunluniau y gall defnyddwyr eu tynnu mewn ymateb i lun defnyddiwr arall, yn lle defnyddio emoji.

  • Gall defnyddwyr wneud sylwadau ar luniau BeReal eu ffrind.

  • Mae pob neges ddyddiol BeReal yn cael ei chadw ym mhroffil y defnyddiwr a'i storio fel 'Memories’. Does neb arall yn gallu gweld eu 'Memories', ac ar ddiwedd y flwyddyn, mae'r holl luniau'n cael eu cyfuno mewn sioe luniau.

  • Mae hyn yn cyfeirio at dudalen ar yr ap lle gall defnyddwyr weld lluniau BeReal sy'n cael eu postio o gyfrifon cyhoeddus. Bob tro mae defnyddwyr yn postio, gallan nhw ddewis eu cynulleidfa o naill ai 'Friends' neu 'Public'. Os ydyn nhw'n dewis 'Public', mae holl ddefnyddwyr yr ap yn gallu gweld eu llun ac ymateb iddo yn y modd 'Discovery'.

  • Os yw defnyddwyr yn methu â phostio eu BeReal o fewn dau funud o gael hysbysiad, byddan nhw’n cael eu dangos fel 'late'.

  • Dangosydd bach ar sgrin gartref y ddyfais yw hwn, sy'n dangos gweithgaredd BeReal heb orfod agor yr ap. Ar gael i ddefnyddwyr iOS yn unig.

  • Llinell amser o luniau wedi’u curadu a bostiwyd ar yr ap gan bobl enwog neu ddylanwadol. Mae’r lluniau hyn yn ymddangos yn y tab ‘Discovery’.

  • Mae defnyddwyr yn y DU yn gallu postio dau lun ychwanegol y dydd, os ydyn nhw’n bodloni’r gofynion postio dyddiol o fewn cyfnod dwy funud.


Gan fod holl gynnwys BeReal yn cael ei greu gan ddefnyddwyr, mae'n anodd ei fonitro. Dan delerau'r gwasanaeth, mae BeReal yn gwahodd defnyddwyr i riportio unrhyw gynnwys rhywiol neu bornograffig, yn cynnwys iaith casineb, eithafiaeth, trais, hunanladdiad neu hunan-niweidio. Fel y cwmni lletya, mae BeReal yn dweud nad oes rheidrwydd arno i fonitro'r cynnwys sy'n cael ei bostio ar y platfform, ond yn hytrach mae’n dibynnu ar ddefnyddwyr i hunanreoli a riportio unrhyw gynnwys anaddas. Er mwyn helpu i gyfyngu ar y math o gynnwys y bydd eich plentyn yn ei weld ar y platfform, argymhellir mai dim ond gyda'i ffrindiau ar yr ap y dylai bostio a chyfathrebu.

Er bod BeReal yn cynnig math gwahanol o brofiad rhannu lluniau ar gyfer ei ddefnyddwyr, mae'n bosibl y bydd rhai defnyddwyr yn dal i gymharu eu negeseuon ag eraill, neu'n defnyddio'r platfform i ddangos pa mor 'real' a chyffrous yw eu bywydau. Efallai y bydd rhai defnyddwyr yn teimlo eu bod am bostio lluniau'r foment, na fydden nhw’n eu rhannu fel arall pe baen nhw'n cael mwy o amser meddwl cyn postio. Gallai'r cyfyngiad amser o ddau funud y mae'n rhaid i ddefnyddwyr bostio eu lluniau ynddo roi pwysau ychwanegol ar rai defnyddwyr, gan arwain atyn nhw'n postio pethau maen nhw'n ei ddifaru wedyn. Atgoffwch eich plentyn beth sy'n addas, a beth sydd ddim yn addas, i'w bostio ar-lein, ac i ddweud wrthych os ydyn nhw'n dod ar draws unrhyw gynnwys sy'n peri gofid.

Pan fydd defnyddwyr yn lawrlwytho'r ap, mae'n cydamseru â’r cysylltiadau ar y ddyfais honno, gan greu rhestr o ffrindiau i gysylltu â nhw. Yn ddiofyn, dim ond gyda’u ffrindiau mae BeReal yn caniatáu i ddefnyddwyr rannu eu negeseuon. Fodd bynnag, gall pob defnyddiwr ddewis ei gynulleidfa ar gyfer pob neges, gan ddewis rhwng 'Friends' neu 'Everyone'. Rydyn ni'n argymell y dylai defnyddwyr iau rannu eu negeseuon gyda 'Friends' yn unig. Os bydd eich plentyn yn dewis rhannu ei neges/llun gyda 'Everyone', bydd holl ddefnyddwyr eraill y platfform yn gallu gweld ei neges a gadael sylwadau.  Siaradwch â'ch plentyn am beryglon cysylltu â dieithriaid ac egluro pwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu y gellir ei adnabod drwyddi yn ei neges. Anogwch eich plentyn i ddweud wrthych chi pan fydd rhywun yn gofyn cwestiynau mwy personol iddyn nhw neu eisiau sgwrs breifat ar ap gwahanol.

Gall defnyddwyr BeReal ymateb i negeseuon defnyddiwr eraill drwy 'Comments' a 'RealMojis’. Gall defnyddio'r nodweddion hyn olygu bod eich plentyn yn agored i fwlio. Er mwyn helpu i gyfyngu ar gysylltiadau niweidiol, argymhellir mai dim ond gyda ffrindiau hysbys yn yr ap mae eich plentyn yn rhannu cynnwys. Os yw'ch plentyn yn dioddef bwlio ar y platfform, anogwch ef/hi i riportio'r defnyddwyr dan sylw trwy ddilyn cyfarwyddiadau adran 'Reporting and blocking' yr ap. 

Pan fydd defnyddwyr yn lawrlwytho BeReal, byddan nhw'n cael eu gwahodd i alluogi gosodiadau lleoliad, sy'n caniatáu i'r ap olrhain lle maen nhw'n postio'r neges, gan ddangos eu lleoliad ar fap gyda phob neges. Er nad yw'r nodwedd hon yn caniatáu i ddefnyddwyr olrhain lleoliad defnyddwyr eraill mewn amser real, mae'n well diffodd y gosodiadau lleoliad gan ddefnyddio’r gosodiadau yn adran 'Managing interactions and content' canllawiau'r ap, isod.

Mae cynllun syml y platfform yn golygu ei fod yn hawdd iawn i ddefnyddwyr ei ddefnyddio. Yn wahanol i lawer o blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill, dyw BeReal ddim yn cynnwys unrhyw hidlwyr nac effeithiau arbennig y gall defnyddwyr eu defnyddio ar eu lluniau, gan greu delweddau mwy dilys felly. Fodd bynnag, mae BeReal yn caniatáu i ddefnyddwyr ail-dynnu eu lluniau, gan ddweud wrth eu ffrindiau sawl gwaith y cafodd y llun hwnnw ei dynnu. I rai defnyddwyr, gallai hyn arwain at bryder, gan deimlo y gall pobl eraill eu barnu. Hefyd, gallai'r pwysau amser ar gyfer rhannu lluniau arwain at rai defnyddwyr yn postio cynnwys y gallant ddifaru ei bostio’n ddiweddarach. Os oes gan eich plentyn gyfrif BeReal, mae'n bwysig ei fod yn ymwybodol o'r hyn y mae'n ei rannu a'r effaith y bydd hyn yn ei gael ar ei ôl troed digidol. Siaradwch â'ch plentyn i'w helpu i ddeall beth sydd yn addas, a ddim yn addas, i'w rannu.   Gwnewch yn siwr fod eich plentyn yn gwybod y gall fod yn anodd cadw meddiant ar unrhyw gynnwys unwaith y bydd wedi'i rannu ar-lein, gan ei fod yn hawdd i rywun arall ei gopïo a'i ailbostio heb yn wybod iddo, ac y gall fod yn anodd ei dynnu oddi ar y we wedyn. Mae gan BeReal nodwedd sy'n rhoi gwybod i ddefnyddwyr pan fydd rhywun wedi tynnu sgrin lun o'i neges. Fodd bynnag, nid yw'r mesur diogelu hwn yn atal eraill rhag rhannu'r llun ag eraill, felly dylai defnyddwyr feddwl yn ofalus iawn am beth maen nhw'n dewis ei rannu yn eu neges. 

Mae dyluniad apelgar ap BeReal yn golygu y gall fod yn anodd i ddefnyddwyr reoli eu defnydd ohono. Mae dibyniaeth yr ap ar hysbysiadau’n golygu bod defnyddwyr yn cael eu hatgoffa a’u cymell byth a hefyd i ddefnyddio'r ap drwy rannu llun neu roi sylwadau ar rai sy'n cael eu postio gan ffrindiau. Mae negeseuon atgoffa dyddiol yn cael eu hanfon at ddefnyddwyr, gan eu hysgogi i bostio mewn amser real ar hap, ddydd neu nos. Os na fydd defnyddiwr yn postio neges, mae'r nodyn atgoffa yn parhau ar sgrin clo'r ddyfais ac amserydd yn dangos pa mor hwyr yw ei neges.  Gall ymdeimlad o frys a chyfyngiadau amser yr hysbysiadau fod yn anodd iawn i rai defnyddwyr eu rheoli. Esboniwch wrth eich plentyn sut mae'r platfform wedi'i gynllunio i gadw diddordeb defnyddwyr am gyfnodau hirach. Gall hyn roi rhai defnyddwyr dan bwysau ac arwain at orbryder os na allan nhw ymateb i hysbysiadau o fewn y cyfnod penodedig o ddau funud. Gweithiwch gyda'ch plentyn i osod terfynau amser realistig ar gyfer defnyddio'r ap. 


  • Gosodiad rhagosodedig BeReal yw 'Private', sy'n golygu mai dim ond gyda'u cysylltiadau ar eu dyfais neu ffrindiau maen nhw wedi’u hychwanegu at y platfform y gall defnyddwyr rannu lluniau.

    Postio at ffrindiau yn unig:

    • Cyn postio'ch llun, dewiswch 'Friends' o'r gwymplen gynulleidfa.
    • Noder: bydd angen i ddefnyddwyr ddewis yr opsiwn hwn bob tro wrth bostio neges.
  • Gosodiadau diogelwch cyfyngedig sydd ar BeReal. Y ffordd orau o reoli rhyngweithio a chynnwys yw postio i 'Friends' yn unig.  Mae'r ap yn gofyn i ddefnyddwyr rannu eu lleoliad hefyd wrth ei lawrlwytho am y tro cyntaf. Argymhellir nad ydyn nhw'n rhannu eu lleoliad, ac felly dylid gwrthod y dewis hwn.

    Dileu neges BeReal:

    • Ewch i dudalen 'My Friends' a chlicio ar y tri dot ger amser postio'r neges BeReal.
    • Dewiswch 'Options' yna 'Delete my BeReal'.

    Dileu neges flaenorol BeReal:

    • Ewch i'ch proffil yn y gornel dde uchaf.
    • Dewiswch y neges BeReal rydych chi am ei dileu.
    • Cliciwch ar y tri dot yng nghornel dde uchaf y dudalen.
    • Dewiswch 'Delete from memories'.

    Dileu rhywun o'ch rhestr ffrindiau:

    • Ewch i'r rhestr 'Friends' a dewis pwy rydych chi am ei ddileu o'r rhestr.
    • Cliciwch ar y tri dot yng nghornel dde uchaf y dudalen.
    • Dewiswch 'Delete'.

    Analluogi eich lleoliad wrth bostio:

    • Cyn postio llun, dewiswch y botwm yn y gornel isaf sy’n cynnwys y lleoliad.
    • Fydd hyn ddim yn rhannu lleoliad eich neges.
    • Noder: bydd angen i ddefnyddwyr ddewis y botwm hwn bob tro wrth bostio neges. Er mwyn analluogi'r nodwedd rhannu lleoliad yn llwyr, ewch i'r gwasanaethau lleoliad ym mhrif osodiadau'r ddyfais.

    I analluogi gwasanaethau lleoliad ar iOS:

    • Ewch i'ch dewislen a sgrolio i lawr i 'Privacy’.
    • Dewiswch ‘Location services’ a diffodd ‘Location services’.

    I analluogi gwasanaethau lleoliad ar Android:

    • Ewch i'ch dewislen a dewis 'Location'.
    • Diffoddwch i analluogi gwasanaethau lleoliad.
  • Gall defnyddwyr riportio defnyddwyr eraill sy'n eu poeni neu sy'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    Riportio defnyddiwr:

    • Ewch i broffil yr unigolyn rydych chi am ei riportio a thapio ar enw'r defnyddiwr hwnnw.
    • Cliciwch ar y tri dot yn y gornel dde uchaf a dewis 'Report'.

    Riportio neges BeReal:

    • Ewch i'r neges BeReal rydych chi am ei riportio.
    • Dewiswch y tri dot yn y gornel dde uchaf a dewis 'Report'.
    • Dewiswch un o'r opsiynau canlynol:
      • 'It’s undesirable'
      • 'It’s inappropriate'
  • Gofynnir i ddefnyddwyr dderbyn hysbysiadau wrth lawrlwytho'r ap. Er mwyn helpu i reoli amser, argymhellir nad yw defnyddwyr yn galluogi'r nodwedd hon. Mae gosodiadau i reoli hysbysiadau yn yr ap.

    Rheoli hysbysiadau:

    • Ewch i'ch proffil a chlicio ar y tri dot a dewis 'Notifications'.
    • Dewiswch yr hysbysiadau rydych chi am eu derbyn o blith yr opsiynau canlynol:
      • Mentions
      • Comments
      • Friends requests
      • Late BeReal
      • RealMojis

    I analluogi hysbysiadau ar iOS:

    • Ewch i'ch dewislen gosodiadau a sgrolio i lawr i 'Notifications’.
    • Sgroliwch drwy'r apiau a dewis BeReal.
    • Dewiswch y gosodiadau hysbysu addas i'ch plentyn chi.

    I analluogi hysbysiadau ar Android:

    • Ewch i'ch dewislen gosodiadau a dewis 'Notifications' ac yna 'App settings'.
    • Sgroliwch drwy'r apiau a dewis BeReal.
    • Dewiswch y gosodiadau hysbysu addas i'ch plentyn chi.
  • Mae defnyddwyr yn gallu dileu eu cyfrif ar BeReal unrhyw bryd. Mae’r broses ddileu’n dechrau gyda chyfnod dadactifadu o 15 diwrnod, lle mae modd stopio’r broses ddileu drwy fewngofnodi. Unwaith mae’r cyfnod dadactifadu 15 diwrnod wedi pasio, mae BeReal yn dweud bod y cyfrif wedi’i ddileu’n barhaol ac nad oes modd ei adfer.

    I ddileu cyfrif:

    • Ewch i’ch proffil a dewis yr eicon ‘Settings’.
    • Dewiswch ‘Other’ ac wedyn ‘Delete account’.
    • Cadarnhewch eich dewis. Bydd yn cymryd hyd at 15 diwrnod i gwblhau’r broses.

Fel llawer o blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill, gall y pwysau i ymateb i hysbysiadau ar unwaith fod yn ormod i rai defnyddwyr. Gallai cyfyngiad amser dau funud hysbysiadau BeReal fod yn niwsans ac achosi poen meddwl i rai defnyddwyr. Siaradwch â'ch plentyn am ddefnyddio'r gosodiadau hysbysu ar ei ddyfais er mwyn helpu i reoli'r pwysau hwn, a phwysleisio nad yw cadw at y cyfyngiad amser yn hanfodol er mwyn mwynhau defnyddio'r ap gyda ffrindiau.

Dylai rhieni a gofalwyr gofio bod BeReal wrthi’n profi swyddogaeth sgwrsio (RealChat) mewn rhai rhannau o’r byd ar hyn o bryd, gan gynnwys Iwerddon. Maen nhw’n gobeithio cyflwyno’r elfen newydd ym mhob rhanbarth yn y dyfodol agos.