English

Adopt Me yw un o'r gemau mwyaf poblogaidd sydd ar gael ym mhlatfform gemau Roblox. Yn y gêm gall defnyddwyr adeiladu ac addasu eu cartref eu hunain, mabwysiadu anifail anwes a gwneud ffrindiau gyda chwaraewyr eraill. Nod y gêm yw mabwysiadu a chasglu gwahanol anifeiliaid anwes ac, wrth i chwaraewyr fynd ymlaen drwy'r gêm, gallan nhw werthu neu fasnachu eitemau i ganfod neu brynu anifeiliaid anwes prinnach. Cafodd Adopt Me ei lansio ar y platfform yn 2017 yn wreiddiol ond hon yw’r gêm sy'n cael ei chwarae fwyaf ar y platfform o hyd ac mae ganddi dros 100 miliwn o chwaraewyr misol. Fel gyda llawer o gemau ar Roblox, mae Adopt Me yn esblygu'n gyson, gyda nodweddion newydd yn cael eu datblygu drwy'r amser. Gellir chwarae'r gêm yn rhad ac am ddim ar Roblox.


Mae gan Adopt Me sgôr oedran PEGI 7.

Mae'n rhan o blatfform gemau Roblox, sydd hefyd â sgôr oedran PEGI 7.

Mae ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’ yn cynnwys rhagor o fanylion am hyn.


Mae Adopt Me yn boblogaidd gyda phlant iau. Mae arddull liwgar y gêm yn apelio'n weledol ac yn addas i blant. Mae dyluniad y platfform yn golygu ei fod yn hawdd i chwaraewyr iau ei ddefnyddio, gan weithio eu ffordd trwy gyfarwyddiadau ac opsiynau a bennwyd ymlaen llaw i greu, chwarae a chael hwyl. Mae elfen greadigol i'r gêm, lle gall chwaraewyr addasu eu avatar, eu ty a'u cerbyd eu hunain. Mae'r ffocws ar ddeor a gofalu am anifail anwes yn apelio at lawer o ddefnyddwyr iau hefyd, yn ogystal ag ennill 'Bucks' am gwblhau tasgau syml fel glanhau eu hanifail anwes. Drwy gydol y gêm, mae chwaraewyr yn cael cyfle i gasglu anifeiliaid anwes, gan chwilio am anifeiliaid anwes prinnach wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau.


  • Mae gan bob defnyddiwr dy yn y gêm y gall ei addasu a'i uwchraddio i beth bynnag y mae am iddo fod. Mae tai wedi'u labelu gydag enw defnyddiwr pob chwaraewr.

  • Mae defnyddwyr yn mabwysiadu wy cyn iddo ddeor yn anifail anwes.

  • Ar ôl i'r wy gracio, mae gan y defnyddiwr anifail anwes i ofalu amdano. Mae'r rhain wedi'u dosbarthu fel a ganlyn

    • Common
    • Uncommon
    • Rare
    • Ultra-rare
    • Legendary
  • Yr arian a ddefnyddir yn y gêm y gall defnyddwyr ei ennill wrth chwarae. Gallwch chi ennill 'Bucks' drwy gwblhau tasgau syml, fel bwydo eich anifail anwes.

  • Dyma'r arian a ddefnyddir ar ap Roblox i brynu pethau ar y platfform.

  • Mae amrywiaeth o 'Potions' y gall chwaraewr eu prynu gan ddefnyddio 'Bucks', gyda phob un ag effaith wahanol, y gellir eu bwydo i gymeriad neu anifail anwes y chwaraewr.

  • Helpu i dywys defnyddwyr o gwmpas yr ynys.

  • Eitem y gall chwaraewyr ei defnyddio i deithio o amgylch ynys a chymdogaeth Adopt Me. Gellir addasu'r rhain.

  • Gall defnyddwyr gynnal partïon gyda defnyddwyr eraill yn y gêm.

  • Lle gall defnyddwyr fynd i ddefnyddio 'Bucks' i brynu eitemau maen nhw eu hangen neu eu heisiau.

  • Lle gall defnyddwyr siarad â'i gilydd wrth chwarae'r gêm.

  • Gall defnyddwyr fasnachu eu hanifeiliaid anwes gyda chwaraewyr eraill a sgwrsio am hynny.

  • Lle gall chwaraewyr drafod y gêm gyda defnyddwyr eraill.

  • Drwy'r ap Roblox, gall defnyddwyr alluogi sgwrs fideo ar gyfer Adopt Me


Mae gan Adopt Me sgôr oedran 7+, sy'n adlewyrchu'r ffaith bod y gêm yn addas ar gyfer plant iau, na ddylai gynnwys delweddau a fyddai'n codi ofn ar blant ifanc a bod unrhyw drais yn ysgafn. Er nad yw eich plentyn yn debygol o ddod ar draws cynnwys niweidiol yn y gêm ei hun, gall ddod ar draws cynnwys amhriodol ar ffurf iaith anweddus yn y swyddogaeth sgwrsio yn y gêm neu ym mhroffiliau chwaraewyr. Fodd bynnag, mae gan y gêm 'reolaethau rhieni' sy'n cynnwys opsiwn i osod hidlyddion sgwrsio a ddylai hidlo unrhyw iaith neu gynnwys amhriodol yn y sgyrsiau nad yw'n addas i blant. Er bod hidlyddion sgwrsio’n un ffordd o sicrhau nad yw eich plentyn yn dod ar draws cynnwys niweidiol ar y platfform, argymhellir eich bod yn chwarae Adopt Me gyda'ch plentyn cyn iddo chwarae ar ei ben ei hun i sicrhau bod y cynnwys yn y gêm a'r swyddogaeth sgwrsio yn y gêm yn addas ar gyfer ei oedran a'i gam datblygu.

Er mai prif nod y gêm yw casglu a gofalu am anifeiliaid anwes, mae elfen gymdeithasol iawn i'r gêm hefyd. Gall chwaraewyr siarad â'i gilydd a masnachu, yn ogystal â chreu ystafelloedd sgwrsio lle gallan nhw siarad â'i gilydd yn fwy preifat. Gan nad oes modd gwybod pwy sydd y tu ôl i'r avatars eraill yn y gêm, mae'n bosib y gallai eich plentyn sgwrsio gyda dieithriaid yn y gêm. Argymhellir bod y swyddogaeth sgwrsio’n cael ei ddiffodd ar gyfer chwaraewyr iau. Mae cyfarwyddiadau llawn ar sut i wneud hyn yn adran 'Rheoli rhyngweithio a chynnwys' y canllaw hwn. Os yw eich plentyn yn sgwrsio yn Adopt Me, siaradwch ag ef am y risgiau o sgwrsio gyda dieithriaid ac esboniwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy gyda chwaraewyr eraill. Anogwch eich plentyn i ddweud wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol iddo neu os yw'n teimlo'n ofidus neu'n anghyfforddus oherwydd unrhyw beth sydd wedi'i rannu yn y sgwrs.

Gan fod Adopt Me yn rhan o blatfform gemau Roblox, rhaid i chwaraewyr gadw at Reolau Cymuned Roblox. Gall chwaraewyr sy'n ymddwyn yn groes i'r ymddygiad disgwyliedig gael eu tynnu o'r gêm. Siaradwch â'ch plentyn am yr hyn sy'n ymddygiad priodol wrth chwarae gêm aml-chwaraewr a gofalwch ei fod yn gwybod sut i roi gwybod am ymddygiad amhriodol neu sarhaus.  Dylai pob chwaraewr fod yn ofalus am yr hyn y mae'n ei rannu yn y swyddogaeth sgwrsio yn y gêm ac yn eu proffiliau.  Mae gan yr adran 'About' ym mhroffil y chwaraewr nodyn atgoffa awtomatig y dylai chwaraewyr gadw eu hunain yn ddiogel drwy beidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol. Gofalwch fod eich plentyn yn gwybod y gall fod yn anodd cadw meddiant ar unrhyw gynnwys ar ôl iddo gael ei rannu ar-lein, gan y gall gael ei gopïo a'i ail-bostio'n rhwydd heb yn wybod iddo, a gall fod yn anodd ei dynnu oddi ar y rhyngrwyd wedyn.

Fel gyda'r rhan fwyaf o gemau ar-lein am ddim, mae cyfleoedd i chwaraewyr brynu pethau yn y gêm drwy'r tab 'Shop'. Gall chwaraewyr brynu pethau gan ddefnyddio 'Bucks' y maen nhw'n eu hennill drwy gwblhau tasgau syml yn y gêm, neu gan ddefnyddio 'Robux' y gallan nhw eu prynu gan ddefnyddio arian go iawn. Mae'n bwysig nodi nad yw prynu'r pethau hyn o fudd i chwarae'r gêm ond, er hynny, gallan nhw fod yn hynod apelgar i blant. Siaradwch â'ch plentyn am brynu pethau yn yr ap a gofalwch ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu pethau yn y gêm. Cynghorir rhieni a gofalwyr i sefydlu gosodiadau prynu yn yr ap perthnasol ar y ddyfais unigol. Mae’n bwysig gwirio hefyd nad yw'r gêm yn gysylltiedig â'ch cardiau banc na'ch manylion ariannol.

Un elfen apelgar o Adopt Me yw'r ymgais i ganfod a chasglu anifeiliaid anwes. Mae cael gafael arnynt yn cymryd llawer iawn o amser ac ymdrech, felly mae rhai defnyddwyr yn ceisio masnachu neu werthu eitemau eraill amdanyn nhw. Gall hyn wneud rhai defnyddwyr yn agored i sgamiau a masnachau ffug, gyda rhai sgamiau'n cynnig gwasanaethau ffug fel clonio anifeiliaid anwes neu fargeinion Robux yn gyfnewid am eitemau. Mae rhai defnyddwyr yn cynnig gwerthu anifeiliaid anwes prin ar blatfformau eraill am arian go iawn hyd yn oed. Mae sgamwyr ar y platfform yn defnyddio gwahanol ddulliau i geisio dwyn gan chwaraewyr eraill, fel esgus bod yn ddylanwadwr poblogaidd neu gynnig pethau nad ydyn nhw'n bosib ar Adopt Me mewn gwirionedd. Efallai y bydd rhai sgamwyr yn gofyn am gael benthyg rhywbeth ond yna’n peidio â'i ddychwelyd, neu'n ceisio sefydlu ymddiriedaeth, gan ofyn i chwaraewyr roi eitem iddyn nhw yn gyntaf ac addo y byddan nhw'n rhoi rhywbeth yn ôl iddyn nhw yn ddiweddarach.

Gall y cysyniad o sgamiau a masnachau ffug fod yn anodd i rai chwaraewyr iau ei ddeall a gall beri pryder os ydyn nhw'n colli eu hanifeiliaid anwes annwyl drwy fasnachu ffug. Er bod rhybudd yn ymddangos pan fydd chwaraewyr yn ceisio masnachu, siaradwch â'ch plentyn am fasnachau ac esboniwch na ddylai fasnachu eitem y byddai'n peri gofid iddo pe bai'n ei cholli neu gynnig talu arian neu gyfnewid unrhyw beth y tu allan i'r gêm. Argymhellir mai dim ond gyda ffrindiau maen nhw'n eu hadnabod y dylai plant fasnachu, yn hytrach na dieithriaid, a’u bod yn dweud wrth oedolyn maen nhw'n ymddiried ynddo os oes rhywun wedi gofyn iddyn nhw fasnachu rhywbeth y tu allan i'r platfform.


  • Er nad oes opsiwn cyfrif preifat, gallwch chi alluogi cyfyngiadau cyfrif, sy'n sicrhau bod cynnwys yn addas ar gyfer pob cynulleidfa a bod gosodiadau cyfathrebu wedi'u diffodd.

    I alluogi 'Account restrictions’:

    • Agorwch Roblox a dewiswch y tri dot yn y gornel dde waelod.
    • Dewiswch 'Settings' a chwilio am 'Privacy’.
    • Sgroliwch i 'Account restrictions' a symudwch y togl i'r safle ymlaen.

    I alluogi 'Parental controls PIN’:

    • Agorwch Roblox a dewiswch y tri dot yn y gornel dde waelod.
    • Dewiswch 'Settings' a sgroliwch i 'Parental controls’.
    • Symudwch y togl ar yr opsiwn 'Parent PIN' i'r safle ymlaen a dewiswch PIN.
    • Noder: ni ellir gwneud unrhyw newidiadau i osodiadau heb y PIN hwn.
  • Os yw 'Account restrictions' wedi'i alluogi, mae'r opsiynau 'Communication' wedi'u diffodd. Gallwch chi reoli'r rhain eich hun hefyd.

    I gyfyngu ar 'Communication’:

    • Agorwch Roblox a dewiswch yr eicon tri dot yn y gornel dde waelod.
    • Dewiswch 'Settings' a chwilio am 'Privacy’.
    • Sgroliwch i 'Communication’.
    • Dewiswch y gwymplen a dewiswch 'Custom' neu 'Off’.
    • Noder: os byddwch chi'n dewis 'Custom', gallwch chi osod y gosodiadau cyfathrebu canlynol
      • Chat filtering level
      • Who can message me
      • Who can chat with me in-app
      • Who can chat with me
  • Gall defnyddwyr riportio a blocio defnyddwyr eraill a all fod yn eu poeni nhw neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I riportio defnyddiwr neu brofiad:

    • Wrth chwarae'r gêm, pwyswch yr eicon yn y gornel chwith uchaf.
    • Dewiswch 'Report' a dewiswch 'Person' neu 'Experience’.
    • Dewiswch enw'r defnyddiwr o'r gwymplen.
    • Dewiswch y rheswm o'r gwymplen 'Type of abuse'.
    • Ychwanegwch ddisgrifiad i’w gynnwys gyda'ch adroddiad.
    • Dewiswch 'Submit' i gwblhau.

    I flocio defnyddiwr:

    • Wrth chwarae'r gêm, pwyswch yr eicon yn y gornel chwith uchaf.
    • Dewiswch y nodwedd 'People' a sgroliwch i ddod o hyd i'r defnyddiwr rydych chi am ei flocio.
    • Dewiswch yr eicon 'Block' a dewiswch 'Block' i gwblhau.
  • Ar gyfer deiliaid cyfrifon o dan 13 oed, gallwch chi reoli eu gwariant yn Roblox (cyn belled â bod y dyddiad geni cywir wedi'i roi pan sefydlwyd y cyfrif). Ar gyfer deiliaid cyfrifon dros 13 oed, bydd angen i chi ddefnyddio gosodiadau'r ddyfais i reoli gwariant. Gallwch chi reoli hysbysiadau yn y gêm hefyd.

    I reoli hysbysiadau:

    • Agorwch Roblox a dewiswch yr eicon tri dot yn y gornel dde waelod.
    • Dewiswch 'Settings' a chwilio am 'Notifications’.
    • Symudwch y toglau i'r safle ymlaen/i ffwrdd ar gyfer yr hysbysiadau rydych chi am eu derbyn/ddim am eu derbyn
      • Receive friend request
      • Someone accepts friend request
      • Receive private message
      • Updates
      • Analytics report becomes available
      • Someone accepts my join request

    I reoli gwariant misol:

    • Agorwch Roblox a dewiswch y tri dot yn y gornel dde waelod.
    • Dewiswch 'Settings' a sgroliwch i 'Parental controls’.
    • Symudwch y togl 'Monthly spend restriction' i'r safle ymlaen a nodwch y swm dymunol.

    I ddiffodd yr opsiwn i brynu pethau yn yr ap ar iOS:

    • Ewch i 'Settings' > 'Screen time' a sgroliwch i lawr i ‘Content and privacy restrictions’.
    • Dewiswch 'iTunes and app store purchases' a gosod yr opsiwn i 'Don't allow’.

    I ddiffodd yr opsiwn i brynu pethau yn yr ap ar Android:

    • Ewch i'ch ap 'Google Play Store'.
    • Dewiswch 'Menu' > 'Settings' > ‘Require authentication for purchases’.
  • Mae Adopt Me yn rhan o blatfform Roblox. I ddileu cyfrif Adopt Me, mae angen i ddefnyddwyr ddileu cyfrif Roblox trwy lenwi ffurflen gymorth Roblox.


Gan ein bod yn gwybod bod sgamiau a masnachau ffug yn digwydd ar y platfform, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o ffyrdd o osgoi hyn. Dylai chwaraewyr fod yn wybodus am yr anifeiliaid anwes maen nhw'n eu casglu a'u gwerth, sy'n golygu eu bod yn llai tebygol o gael eu twyllo i gymryd rhan mewn masnachu neu werthu annheg. Dylai chwaraewyr ystyried hefyd a yw masnach neu fargen yn swnio'n rhy dda i fod yn wir a theimlo'n ddigon cadarn i ddweud na wrth rywbeth sy'n gwneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus. Mae crewyr Adopt Me yn annog pob chwaraewr i ddefnyddio’r offer masnachu swyddogol yn y gêm yn unig ac i beidio â gwerthu neu fasnachu anifeiliaid anwes y tu allan i'r platfform.

Mae Adopt Me wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar reoli cyfrifon sydd wedi’u hacio.