English

Mae'n fis Tachwedd 1989.

Mae Billy Joel, Belinda Carlisle a Chris Rea yn y deg uchaf yn y DU.

Arsenal sydd ar frig Adran Gyntaf Lloegr, ac yn y gynharach yn y flwyddyn, gorffennodd Cymru ar waelod tabl pencampwriaeth y Pum Gwlad.

Mae ty yn costio bron i £60,000 ar gyfartaledd yn y DU.

Mae Margaret Thatcher ar fin dechrau ar ei blwyddyn olaf fel Prif Weinidog y DU, a draw yn yr Unol Daleithiau, mae George W Bush hynaf bron â chwblhau ei flwyddyn gyntaf fel Arlywydd.

Dyma'r mis y cafodd y Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn ei fabwysiadu'n ffurfiol gan y Cenhedloedd Unedig, gan amlinellu 42 o hawliau sydd gan bob plentyn a pherson ifanc; y gofynion sylfaenol ar gyfer tyfu i fyny'n hapus, yn iach ac yn ddiogel. 

Fel Comisiynydd Plant Cymru, fy ngwaith i yw hyrwyddo a diogelu hawliau plant yng Nghymru, gan sicrhau eu bod yn ganolog i feddyliau llunwyr polisïau pan fyddan nhw'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc.

Ers cyhoeddi'r Confensiwn, mae hyrwyddwyr ymroddedig hawliau plant ledled y byd wedi sicrhau bod ei ddylanwad a'i gyrhaeddiad yn ymledu. Yma yng Nghymru, crëwyd rôl Comisiynydd Plant cyntaf y DU yn 2001 er mwyn dwyn y Llywodraeth i gyfrif ar ei record hawliau plant yn benodol. Dyma'r darn cyntaf o ddeddfwriaeth a basiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, yn 2011, daeth y gofyniad i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i hawliau plant wrth arfer eu swyddogaethau, yn ddeddf gwlad.

Fel mae'n digwydd, cyflwynwyd y Confensiwn, sydd wedi datblygu i fod y cytundeb hawliau dynol a gadarnhawyd fwyaf mewn hanes, yn yr un flwyddyn ag yr ysgrifennodd Tim Berners Lee y cynnig cyntaf ar gyfer y we fyd-eang.

Er bod yr hawliau a amlinellir yn y confensiwn yr un fath heddiw ag yr oedden nhw dros 30 mlynedd yn ôl, mae'r rhyngrwyd a'r ffordd y mae'n effeithio ar ein bywydau yn parhau i esblygu ar gyflymder eithriadol.

Ond sut gall y Confensiwn ein helpu i lunio a deall y byd digidol, a sut gall y byd digidol helpu plant i wireddu eu hawliau?

Hawliau ar waith yn y byd digidol

Mae'n anodd meddwl am enghraifft ddiweddar well o hawliau plant ar waith, wedi'i hategu gan gysylltedd digidol ac ar raddfa fyd-eang, na’r streiciau hinsawdd a gynhaliwyd gan bobl ifanc dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r gallu i ymuno â grwpiau a chlybiau, a chwrdd â ffrindiau yn hawl o dan y Confensiwn. Hefyd, mae gan blant yr hawl i ddweud eu dweud ar faterion sy'n effeithio arnyn nhw.

Dan arweiniad yr ymgyrchydd ysbrydoledig Greta Thunberg, honnir bod dros 1.4 miliwn o bobl ifanc o bob cwr o'r byd wedi cymryd rhan mewn streiciau hinsawdd yn 2019 (Saesneg yn unig). Cafodd y gweithredu cyfunol hwn ei sbarduno a'i arwain gan bobl ifanc a oedd yn mynnu codi llais ar raddfa enfawr. Galluogwyd plant a phobl ifanc i wneud hyn yn rhannol wrth iddynt fynnu eu hawliau i feithrin cysylltiadau a mynegi barn drwy'r rhyngrwyd.

Roedd mudiadau pwerus eraill yn cynnwys 'Everyone's Invited', a adeiladodd ar y mudiad #MeToo ac, wrth gwrs, mae'n arbennig o berthnasol i thema 'Parch a Pherthnasoedd' ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel eleni. Mae wedi gwneud mwy na dim ond codi ymwybyddiaeth o brofiadau pobl ifanc o aflonyddu rhywiol; dyma'r sbardun ar gyfer adroddiad gan Estyn ar aflonyddu rhywiol gan gyfoedion yn ysgolion Cymru, ac mae'r canfyddiadau wedi cryfhau'r angen am Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o'r radd flaenaf, ac wedi arwain at ymrwymiadau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gymryd camau i atal achosion o aflonyddu rhywiol ym myd addysg.

Gall cysylltedd digidol hefyd helpu i chwalu rhai o'r rhwystrau a fyddai o bosib wedi wynebu pobl ifanc wrth iddynt gymryd rhan mewn mudiadau o'r fath yn y gorffennol, efallai oherwydd eu lleoliad neu eu hamgylchiadau teuluol, fel a oes gan eu rhieni yr amser neu'r adnoddau i'w helpu i gymryd rhan.

Y ffordd o'n blaenau

Ond sut mae gwneud yn siwr bod pob plentyn yn gallu profi ei hawliau ar-lein? Rydw i wedi dewis tair hawl o'r Confensiwn isod sy'n cynrychioli materion amserol a sylweddol yn ymwneud â hawliau plant:

Erthygl 17 - mae gan blant hawl i wybodaeth y gallant ymddiried ynddi a'i deall

Mae'r pandemig wedi tanlinellu bygythiad ffug wybodaeth, a phwysigrwydd rhoi'r sgiliau i blant a phobl ifanc herio a chraffu ar yr hyn maen nhw'n ei ddarllen. Mewn byd lle gall unrhyw un gyhoeddi rhywbeth a'i gyflwyno fel rhywbeth dilys, mae hon yn sgil hollbwysig y bydd yn rhaid i'n cwricwlwm newydd fynd i'r afael â hi. Mae angen i blant a phobl ifanc allu tyrchu'n hyderus drwy'r wybodaeth o'u cwmpas.

Ar nodyn cadarnhaol, gwelwyd cyrff cyhoeddus ar hyd a lled Cymru yn cynhyrchu gwybodaeth o'r radd flaenaf, addas i oedran, er mwyn helpu plant ifanc i ddeall y feirws. Os gallwn ni wneud hynny ar gyfer y pandemig, gallwn ei wneud ar gyfer pob math o faterion. Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i gymryd rhan lawn yn y byd o'u cwmpas; heb wybodaeth y gallant ymddiried ynddi, allan nhw ddim gwneud hyn.

Erthygl 19 - yr hawl i fod yn ddiogel rhag niwed

Rydym yn gyfarwydd â chefnogi plant i ddysgu am beryglon y byd ffisegol, ond mae sicrhau bod plant yn deall bygythiadau a digwyddiadau y dônt ar eu traws ar-lein yn dasg llawer mwy newydd mae rhieni, gofalwyr ac ysgolion yn dal i ymgodymu â hi. Yn sicr, mae'n gofyn am gryn ymdrech gan yr holl oedolion ym mywyd plentyn - ac mae canllawiau da wedi'u hysgrifennu'n benodol i rieni a gofalwyr ar y ffordd orau o wneud hyn gartref. Rhaid i gwmnïau technoleg wella hefyd, a chymryd eu dyletswydd gofal i bobl ifanc o ddifri’n llawer mwy. Mae Bil Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU, a Chod Plant yr ICO, yn brawf o'r sylweddoliad eang bellach fod angen i ni reoleiddio go iawn i ddiogelu defnyddwyr.

Erthygl 2 - mae gan bob plentyn hawliau, doed a ddel

Dydy pob person ifanc ddim yn profi hawliau cyfartal, ac mae hynny'n wir am hawliau plant ar-lein hefyd. Gwyddom fod hyd yn oed mynd ar-lein yn y lle cyntaf yn anoddach i rai plant nag eraill.

Mae anghydraddoldeb o ran dyfeisiau wedi cyfrannu at yr anawsterau a wynebodd pobl ifanc wrth ddysgu o bell dros y 2 flynedd ddiwethaf, ac mae cysylltiad agos rhwng hynny â thlodi. Yng Nghymru, mae bron i 1 o bob 3 phlentyn yn byw mewn tlodi (Saesneg yn unig). Roedd dysgu gartref am gyfnodau yn ystod y pandemig yn tynnu sylw go iawn at yr anghydraddoldeb hwn. Dosbarthwyd llawer o ddyfeisiau ond dydy’r  anghydraddoldebau ddim wedi'u dileu.

I blant o bob cefndir, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i wrando ar eu profiadau, ac yn deall sut mae'r anghydraddoldebau'n effeithio ar brofiadau ar-lein, ac felly ar ansawdd bywyd.

Cynnwys pobl ifanc

Does dim dwywaith bod y rhyngrwyd wedi creu cymaint o gyfleoedd gwahanol i bobl ifanc gysylltu, creu, a phrofi eu hawliau.

Ond yn union fel mae cyfleoedd i brofi eu hawliau, mae yna rwystrau hefyd.

Pan fyddaf yn cyfarfod â sefydliadau o Fôn i Fynwy, rydw i bob amser yn eu hannog i weithio gyda'r bobl ifanc maen nhw'n eu gwasanaethu er mwyn dod o hyd i'r atebion, ac nid dim ond dweud beth maen nhw am ei wneud. Wedi'r cyfan, mae gan bob plentyn yr hawl i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy'n effeithio arno.

Mater i gwmnïau technoleg a Llywodraethau ledled y byd yw gwneud yn siwr bod pobl ifanc yn gallu siapio'r mannau digidol sydd o'u cwmpas. Fel y Comisiynydd Plant, mae'r bobl ifanc rwy’n eu cyfarfod yn greadigol, yn graff, ac am helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Ac yn amlach na pheidio, maen nhw'n cynnig atebion rhagorol. Os ydyn nhw’n cael cyfle ystyrlon i lunio'r byd digidol, byddan nhw'n creu rhyngrwyd gwell i bob un ohonon ni.


 

Sally Holland

Comisiynydd Plant Cymru

Mae Sally wedi’i chofrestru fel gweithiwr cymdeithasol, ac mae ganddi hi brofiad yn y sectorau statudol a gwirfoddol. Cyn dechrau fel Comisiynydd Plant Cymru, roedd hi’n athro yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ystod ei hamser yn y brifysgol, sefydlodd hi Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) ac fe ddaeth hi’n gyfarwyddwr ar y canolfan.

Yn wreiddiol o’r Alban, mae Sally wedi byw yng Nghymru ers 1992, ac mae hi’n siarad Cymraeg yn rhugl.

Yn ystod ei thymor fel Comisiynydd Plant mae hi wedi gosod hawliau plant ar ganol deddfwriaethau allweddol, wedi casglu safbwyntiau plant Cymru o’r cyfnodau clo trwy’r holiaduron ‘Coronafeirws a Fi’, sydd wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol, ac wedi ymgyrchu i gael amddiffyniad cyfartal i blant rhag cosb gorfforol.