English

Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru

Mae Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru (WPSP), sy’n cael ei alw hefyd yn SchoolBeat, yn darparu gwasanaeth cofleidiol i ysgolion yng Nghymru gan gynnig addysg atal troseddu a gwasanaethau plismona cefnogol sy’n cael eu cyfleu yn is-bennawd y Rhaglen, ‘Heddlu’n diogelu plant Cymru drwy addysg atal troseddu’.

Mae’r frawddeg yn adlewyrchu ein dymuniad i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cyfle i ddysgu sut i gadw’n ddiogel mewn pob math o sefyllfaoedd ar-lein ac all-lein.

Rydyn ni wedi bod yn ffodus o gael cefnogaeth Llywodraeth Cymru a phedwar llu Heddlu Cymru sy’n gweithio mewn partneriaeth ag addysg i ddarparu gwersi ac adnoddau i’n Swyddogion Heddlu ymroddedig fel y gallant eu cyflwyno ym mhob ysgol yng Nghymru. Mae gan y Swyddogion hyn hefyd gyfrifoldebau sy'n cynnwys Plismona Cefnogol i Ysgolion, sy'n golygu eu bod nhw’n cynorthwyo ysgolion i ddelio â digwyddiadau gyda'r bwriad o beidio â throseddoli plant a phobl ifanc yn ddiangen.

Mae gwersi a chyflwyniadau yn cwmpasu sbectrwm eang o bynciau, gan helpu i gyflawni hawliau’r plentyn i wybodaeth a’u cadw rhag niwed fel y nodir gan CCUHP (Erthygl 13), yn ogystal â gofalu amdanyn nhw a’u cadw’n ddiogel (Erthygl 19).

Deall Radicaleiddio ac Eithafiaeth

Yn groes i’r hyn sy’n cael ei bortreadu weithiau, rydyn ni’n gwybod bod Cymru’n lle diogel i fyw; ond mae'n wir bod plant a phobl ifanc yn cael eu gwybodaeth o lawer o ffynonellau a gallant ddod i gysylltiad â llawer o wahanol safbwyntiau. Gall hyn eu gwneud yn agored i gamwybodaeth a safbwyntiau sy’n cael eu hystyried yn radical neu'n eithafol.

Nid yw effaith epidemig Covid 19 wedi ei theimlo’n llawn eto, ond rydyn ni’n ymwybodol y bu effeithiau cadarnhaol a negyddol ar rai plant a phobl ifanc.

Soniodd rhai am ryddhad o bwysau cymdeithasol a bwlio, am fwynhad treulio mwy o amser gydag aelodau’r teulu, am fod yn yr awyr agored ac yn egnïol, am gael mwy o amser i ddilyn hobïau a dysgu sgiliau newydd.

Ond yn amlach na pheidio, fe wnaeth y cyfnodau clo hir gyfrannu at deimladau o orbryder ac unigedd. Cafodd hyn ei deimlo gan bob aelod o’r gymuned, ac yn arw iawn gan ein pobl ifanc a oedd yn cael eu haddysgu ar-lein ac yn encilio i’r byd ar-lein ar gyfer eu cyfarfyddiadau hamdden a chymdeithasol.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Hall, pennaeth Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru/Wales (CTP/CW’s),

“Mewn gwirionedd, mae’n debygol bod y risg o radicaleiddio wedi cynyddu i nifer fach o bobl agored i niwed, gan y gallai’r pandemig fod wedi ysgogi pobl ifanc i dreulio mwy o amser ar-lein ac wedi gwaethygu rhai cwynion a oedd ganddyn nhw, sy’n gwneud pobl yn fwy agored i radicaleiddio."

Rhoddodd yr amgylchiadau gyfle i radicaleiddwyr ecsbloetio’r bregus gan fanteisio ar eu hunigrwydd, a’u meithrin i fabwysiadu safbwyntiau ac ideolegau eithafol. Rydyn ni’n gwybod y gall radicaleiddwyr fod yn berswadiol iawn a chael effaith ormesol ar bobl ifanc neu bobl agored i niwed.

Mae radicaleiddio’n cael ei ddisgrifio fel:

"Y broses lle mae person yn dod i gefnogi neu ymwneud ag ideolegau eithafol. Gall arwain at berson yn cael ei ddenu at derfysgaeth ac mae ynddo’i hun yn fath o niwed” Radicaleiddio ac amddiffyn plant | Dysgu NSPCC (Saesneg yn unig)

Pan fyddwn ni’n siarad am radicaleiddio ac eithafiaeth, gall y geiriau achosi teimladau o orbryder ymhlith gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd fel ei gilydd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol pan fyddwn ni’n trafod eithafiaeth yn datblygu mewn plant a phobl ifanc a allai fod wedi cael eu radicaleiddio.

Mae eithafiaeth yn cael ei ddiffinio fel,

“Gwrthwynebiad lleisiol neu weithredol i werthoedd Prydeinig sylfaenol, gan gynnwys democratiaeth, rheolaeth y gyfraith, rhyddid yr unigolyn a pharch a goddefgarwch tuag at wahanol ffydd a chredoau.” (Diffiniad Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gartref)

Felly, gwelwn fod radicaleiddio ac eithafiaeth yn cyfeirio at brosesau cymhleth lle gall teimladau o wrthwynebiad i’n gwerthoedd cymdeithasol sylfaenol ddatblygu a gallant arwain yn y pen draw at weithgarwch troseddol.

Yn aml, gall aelodau o deulu’r ‘targed’ sy’n cael ei feithrin, neu rai sy’n agos ato, sylwi ar effaith arddel safbwyntiau eithafol. Does dim un rhestr hollgynhwysol– ond efallai y bydd teulu a ffrindiau’n cael y teimlad bod rhywbeth o’i le. Gallant sylwi ar y canlynol yn y plentyn neu'r person ifanc:

  • Ymddangos yn gynyddol ynysig yn gymdeithasol, gyda hunan-barch isel a theimladau o gael ei drin yn annheg neu ei erlid.
  • Ymddangos yn gyfrinachol am ei weithgarwch ar-lein.
  • Datblygu diddordeb cynyddol mewn gwleidyddiaeth a/neu grefydd.
  • Newid ei ymddangosiad, ac yn gwisgo mewn ffordd arbennig.
  • Colli diddordeb yn ei hobïau neu yn ei addysg.
  • Colli diddordeb mewn hen ffrindiau, ac yn brolio am gael ffrindiau newydd.
  • Cefnogi’r defnydd o drais i gefnogi syniad neu achos.
  • Anoddefgar o unrhyw un nad yw’n rhannu’r un farn.
  • Cael ei ddylanwadu neu ei reoli gan grwp.

Efallai y bydd rhai o'r pwyntiau hyn, o'u dwyn ynghyd, yn awgrymu problem. Neu, wrth gwrs gallai olygu fod pobl ifanc yn eu harddegau yn ymddwyn fel pobl ifanc yn eu harddegau! Beth bynnag fo'r amgylchiadau, mae cymorth ar gael.

Beth mae’r WPSP yn ei wneud i helpu plant a phobl ifanc?

Rydyn ni’n darparu cyfleoedd i ysgolion weithio gyda Swyddogion Ysgolion a’u cefnogi i addysgu dysgwyr am y risgiau sy’n gysylltiedig â rhai gweithgareddau ar-lein. Rydyn ni hefyd weithiau’n gweithio gydag unigolion a grwpiau oddi-ar lein. Mae'r gwaith atal hwn yn hanfodol ac yn bodloni gofynion statudol i sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gadw'n ddiogel.

Rydyn ni’n annog pob dysgwr i fod yn ddefnyddiwr hyderus o’r rhyngrwyd, ac i feddu ar y sgiliau i asesu cynnwys yn feirniadol a llywio’r cyfryngau cymdeithasol gan allu dewis y cadarnhaol a nodi’r negyddol. Mae plant a phobl ifanc ledled Cymru yn cydnabod swyddogion ysgolion fel ffynonellau gwybodaeth dibynadwy a chredadwy. Mae'r ymddiriedaeth a sefydlwyd yn y dosbarth yn annog trafodaethau gonest sydd yn eu tro yn helpu plant i wneud penderfyniadau rhesymol ac yn eu galluogi i adeiladu gwytnwch.

Gall y dewis eang o wersi a chyflwyniadau byr sydd ar gael i ysgolion annog plant a phobl ifanc i nodi’r risgiau a darparu strategaethau i’w helpu i ddelio â sefyllfaoedd ac amgylchiadau anodd gan wybod at bwy i droi atyn nhw am gymorth a chefnogaeth.

Datblygwyd un wers o’r enw Extreme Encounters ar gyfer plant 11–14 oed, gyda chymorth CTP C/W, gan weithio gyda thîm o athrawon a disgyblion. Mae’n edrych ar y ffordd mae dau fachgen yn cael eu dylanwadu, un tuag at ideolegau asgell dde eithafol a’r llall tuag at feddylfryd Islamaidd eithafol. Mae ffrindiau’r bechgyn yn pryderu ac yn penderfynu dweud wrth eu Swyddog Heddlu Ysgolion. Mae’r neges y gall unigolion wneud rhywbeth i helpu yn glir, ac yn y stori mae llwybr y bechgyn i eithafiaeth a throseddu posibl yn cael ei osgoi.

Y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael

Rydyn ni’n annog dysgwyr i gadw golwg ar eu ffrindiau ac i geisio cymorth i'r rhai y gallent fod yn poeni amdanyn nhw. Edefyn sy’n rhedeg trwy holl wersi diogelwch y rhaglen yw dweud wrth rywun rydych chi’n ymddiried ynddo ac y gall eich helpu. Gall dysgwyr drafod â'u hathrawon neu'r Swyddog Ysgol. Mae strategaeth Prevent y Llywodraeth yn rhoi’r sgiliau a’r technegau i athrawon adnabod ymddygiad sy’n peri pryder, a rhoi cymorth priodol i fyfyrwyr. Gellir gwneud atgyfeiriad i CTP Cymru/Wales. Mae'r arbenigwyr hyn yn gweithio gyda'r person ifanc, yn darparu cefnogaeth, sesiynau unigol a gweithgareddau i'w helpu i gael eu dad-radicaleiddio.

Gall plant a phobl ifanc fynd ar-lein lle mae cymorth ar gael ar Meic www.meiccymru.org neu ChildLine: Ffôn 0800 11 11 neu ar-lein www.childline.org.uk Gallwch hefyd roi gwybod am bryderon yn ddienw yn www.fearless.org/cy

Mae'r un neges allweddol yn berthnasol i bob dinesydd. Siaradwch â’r awdurdodau os ydych chi’n amau rhywbeth a allai achosi bygythiad i unigolyn neu i’ch cymuned. Gallwch ffonio'r llinell gymorth gwrthderfysgaeth ar 0800 789 321 neu roi gwybod am eich pryder ar-lein gan ddefnyddio Ffurflen Atgyfeirio Partneriaid Prevent Cymru Gyfan neu alw’r heddlu ar 101.

Mae’n fraint i ni fel Rhaglen weithio gyda phlant a phobl ifanc Cymru ac rydyn ni’n falch o’r ffordd maen nhw’n ymateb. Maen nhw’n adnoddau gwerthfawr, ac rydyn ni’n benderfynol o helpu i ddiogelu pob un.


 

Faith McCready, BSc. Econ, PGCE, Grad. Dip. MA. Ed. Arweinydd Strategol Cenedlaethol, Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru (WPSP)

Heddlu’n diogelu plant Cymru drwy addysg atal troseddu

Mae Faith wedi gweithio i WPSP ers 15 mlynedd, gan ddechrau fel Cydlynydd Rhanbarthol yn Heddlu Dyfed Powys am 2 flynedd, cyn symud i’r un rôl yn Heddlu De Cymru ac yna i swydd Arweinydd Strategol Cenedlaethol ar gyfer y Rhaglen ym mis Ionawr 2015.

Cyn gweithio i’r Heddlu, roedd Faith yn Bennaeth Cynorthwyol mewn ysgol gyfun fawr yn ardal Abertawe. Mae ei gyrfa addysgu hir wedi dangos ei bod yn greadigol a gwydn, a’i bod yn aml yn croesawu newid a datblygiadau i sicrhau gwelliannau.

Mae ei gyrfa bob amser wedi canolbwyntio ar gynnig cyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc gyflawni o’u gorau ym mhob agwedd ar eu bywydau a’u gyrfaoedd. Mae’n angerddol dros hyrwyddo lles pob plentyn unigol a diogelu eu hawliau i gael plentyndod hapus ac iach.

Mad diogelu plant a phobl ifanc wastad wedi bod yn gymhelliant allweddol yn ei gwaith. Ar ôl gweithio ym maes Addysg ac i’r Heddlu mae ganddi gyfle unigryw i ddefnyddio ei phrofiad a’i gwybodaeth ar lefel strategol ac mewn ffyrdd mwy ymarferol. Mae hefyd yn arwain ei thîm i ddatblygu ystod eang o adnoddau cyfoes, gan sicrhau bod ymchwil, polisi a chanllawiau a deddfwriaeth ddiweddaraf Llywodraeth Cymru yn cael eu hymwreiddio ym mhob prosiect newydd. Mae ei thîm wedi llunio gwersi, deunyddiau dilynol i athrawon ac adnoddau eraill i rieni a gweithwyr proffesiynol.

Mae’n angerddol am WPSP a’r gwasanaeth ymyrraeth ac atal y mae’n ei ddarparu ym mhob ysgol yng Nghymru, oherwydd gall gael effaith gadarnhaol rymus ar bob plentyn a pherson ifanc.