English

Hoffwn ddechrau drwy rannu rhai ystadegau gyda chi o ymchwil a wnaed fel rhan o Project deShame (Saesneg yn unig) gyda phobl ifanc 13-17 oed. Cynhaliwyd yr ymchwil yn Nenmarc, Hwngari a’r DU, ond daw’r ffigurau hyn o ganlyniadau’r DU.

  • Mae 10% o bobl ifanc yn eu harddegau wedi cael bygythiadau rhywiol ar-lein (er enghraifft bygythiadau treisio) yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae 29% o bobl ifanc yn eu harddegau wedi gweld pobl eu hoedran nhw’n gwneud bygythiadau rhywiol ar-lein.
  • Mae 26% o bobl ifanc wedi profi sibrydion am eu hymddygiad rhywiol yn cael eu rhannu ar-lein yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae 66% wedi gweld hyn.
  • Mae 23% o bobl ifanc yn eu harddegau wedi derbyn negeseuon a delweddau rhywiol digroeso yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda hynny’n fwy tebygol o ddigwydd i ferched (31%) nac i fechgyn (11%).

Mae’r rhain i gyd yn fathau o aflonyddu rhywiol ar-lein, rhywbeth rydyn ni wedi’i ddiffinio fel ‘ymddygiad rhywiol digroeso ar unrhyw blatfform digidol’ sy’n digwydd rhwng pobl ifanc. Gall wneud i berson ifanc deimlo dan fygythiad, wedi’i ecsbloetio, wedi’i orfodi, wedi’i fychanu, wedi’i ypsetio, wedi’i rywioli neu fod wedi dioddef gwahaniaethu yn ei erbyn.

Mae pobl ifanc wedi mynegi’r rhwystrau maen nhw’n eu profi sy’n eu hatal rhag dod ymlaen a sôn am yr ymddygiad hwn neu gwyno amdano, boed hynny i berthnasau, yr ysgol, darparwyr gwasanaethau ar-lein neu’r heddlu. Yn ystod y mis diwethaf, mae miloedd o dystiolaethau wedi’u rhannu gan bobl ifanc ar y wefan Everyone’s Invited am y trais rhywiol maen nhw wedi’i brofi, yn cynnwys ymddygiadau ar-lein ac all-lein. Mae’n hanfodol ein bod ni’n cymryd sylw o’r mater hwn y mae pobl ifanc yn ei brofi naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac yn cydnabod yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth estyn allan am gymorth.

Rydyn ni wedi lansio rhai adnoddau rhad ac am ddim i ysgolion i’w helpu i fynd i’r afael â’r union fater hwn. Rydw i wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda ni i sicrhau bod yr adnoddau hyn ar gael yn ddwyieithog i ymarferwyr yng Nghymru. Mae’r pecyn cymorth ‘Codi Llais, Codi Llaw’ ar gyfer ysgolion yn cynnwys cynlluniau gwersi, gweithgareddau cyflym, posteri, gweithdy dan arweiniad cyfoedion, canllaw i addysgwyr, canllawiau ar gyfer arweinyddiaeth ysgolion, a mwy. Mae’n adnodd dibynadwy ac mae gwerthusiad (Saesneg yn unig) ysgrifenedig o’r cynllun peilot ar gael. Mae’r gwersi’n helpu pobl ifanc i gydnabod aflonyddu rhywiol ar-lein. Maen nhw’n cynorthwyo pobl ifanc i ymateb iddo, ac i ddeall sut i roi gwybod amdano. Mae’r pecyn yn mynd i’r afael â materion fel beio dioddefwyr, ac yn esbonio’n glir ble mae’r ffin rhwng ymddygiad sy’n hwyl ac yn fflyrtio ac ymddygiad sy’n aflonyddu ac yn cam-drin.

Ymunodd dau berson ifanc â ni ar gyfer y lansiad, a gynhaliwyd ar-lein, y ddau’n aelodau o’r Bwrdd Cynghori Ieuenctid rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda nhw wrth i ni ddatblygu’r gwaith hwn. Siaradodd un ohonyn nhw’n huawdl iawn am fod yn ymwybodol bod aflonyddu rhywiol ar-lein yn bwnc nad yw pobl yn sôn amdano, a bod hynny’n ychwanegu at y cywilydd y bydden nhw’n ei deimlo wrth gamu ymlaen i sôn amdano.

Mae angen i ni fod yn siarad am hyn. Mae’n gallu cael effaith sylweddol ar bobl ifanc. Y perygl yw bod yr ymddygiad hwn yn datblygu’n ddisgwyliad o’r hyn sy’n digwydd ar-lein, a’i fod yn dod yn normal. Mewn sefyllfa o’r fath, fydd neb wedyn yn ei riportio, a bydd hynny’n golygu ei bod yn anoddach nag erioed i berson ifanc estyn allan am y cymorth sydd ei angen arno.

Gan adeiladu ar lwyddiant ‘Codi Llais, Codi Llaw’ ac i fynd i’r afael ag adborth gan weithwyr proffesiynol, rydyn ni wedi datblygu ‘Just a joke?’ i fynd i’r afael â’r pwnc hwn gyda grwp oedran iau, mewn ffordd sy’n briodol i’w hoedran. Mae’n cynnwys adnoddau i helpu i ymgysylltu â rhieni a gofalwyr ar y mater hwn hefyd. Y bwriad yw gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y pecyn cymorth hwn ar gael yn ddwyieithog drwy Hwb i ymarferwyr yng Nghymru.

Yn Childnet, rydyn ni’n rhan o’r UK Safer Internet Centre, ac yn y rôl honno, rydyn ni’n trefnu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel (Saesneg yn unig) yn y DU. Mae’r ymgyrch mynd o nerth i neth, a chyrhaeddodd negeseuon ymgyrch mis Chwefror eleni 51% o bobl ifanc 8-17 oed yn ogystal â 38% o rieni. Rydyn ni hefyd yn derbyn ymateb gan ysgolion sy’n cefnogi’r Diwrnod. Mewn blynyddoedd blaenorol, mae tua 40% o’r ysgolion hynny sydd wedi cymryd rhan yng ngweithgaredd y Dydd yn dweud ei fod wedi arwain at ddatgelu materion diogelu ar-lein posibl. Rwy’n hoffi gweld y rhesymeg ar waith yma, lle gall ysgol ddangos i’r plant ein bod ni’n gallu siarad am hyn, a bod y plant wedyn yn teimlo’n fwy cyfforddus i gamu ymlaen a siarad â’r ysgol. Dyma’r un rhesymeg y mae angen i ni ei defnyddio i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ar-lein.

Mae angen i ni weithio gyda phobl ifanc yn y maes hwn, a sicrhau eu bod nhw’n gwybod ein bod ni’n gallu’u cefnogi. Ein gobaith ni yw y bydd yr adnoddau hyn yn gallu helpu i rymuso plant a phobl ifanc i gamu ymlaen a siarad allan.


 

Will Gardner OBE, CEO Childnet International

Will Gardner yw Prif Swyddog Gweithredol yr elusen plant Childnet International. Ymunodd Will â Childnet yn 2000 ac fe’i penodwyd yn Brif Swyddog Gweithredol yn 2009. Mae’n Gyfarwyddwr yr UK Safer Internet Centre (UKSIC), partneriaeth rhwng Childnet, yr Internet Watch Foundation a South West Grid for Learning (SWGfL), a rhan o waith UKSIC yw trefnu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn y DU. Mae hefyd yn aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd ac yn cadeirio’r Gweithgor Rhybudd Cynnar o linellau cymorth, llinellau ffôn a gorfodi’r gyfraith. Bydd hefyd yn aelod o Fwrdd Cynghori ar Ddiogelwch Facebook a Chyngor Ymddiriedaeth a Diogelwch Twitter.

Yn ystod ei gyfnod gyda Childnet, mae Will wedi arwain prosiectau cenedlaethol a rhyngwladol, ac wedi arwain y gwaith o ddatblygu amrywiaeth Childnet o raglenni ac adnoddau diogelwch rhyngrwyd arobryn sydd wedi’u hanelu at blant, rhieni a gofalwyr, ac athrawon ac ysgolion.

Dyfarnwyd OBE i Will yn Rhestr Anrhydedd Blwyddyn Newydd y Frenhines 2018 am ei waith ym maes diogelwch plant ar-lein.