Amser sgrin
Adnoddau, canllawiau a gwybodaeth ar gyfer ymarferwyr addysg, dysgwyr a theuluoedd ar amser sgrin.
- Rhan o

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod
Amser sgrin yw’r amser a dreulir yn defnyddio unrhyw ddyfais â sgrin fel ffôn clyfar, llechen, cyfrifiadur neu gonsol gemau. Mae cydbwyso amser sgrin wedi dod yn ystyriaeth bwysig i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn defnyddio technoleg mewn ffordd gadarnhaol ac iach. O’i reoli’n gywir, gall amser sgrin fod yn addysgol, yn llawn gwybodaeth, ac yn ffordd wych i blant gadw cysylltiad â ffrindiau a theulu. Dim ond pan fo plant a phobl ifanc yn mynd yn ddibynnol arno a’i fod yn dechrau effeithio ar bethau eraill yn eu bywyd y mae’n mynd yn broblem.
Mae algorithmau AI cynhyrchiol yn dadansoddi data defnyddwyr i argymell cynnwys at ddant personol. Er y gall hyn wella profiad y defnyddiwr, gall hefyd arwain at rai plant yn treulio mwy o amser ar eu dyfeisiau.
Gall gormod o amser sgrin effeithio ar ymddygiad, cwsg a gallu canolbwyntio plant. Gall hefyd arwain at lai o weithgarwch corfforol a rhyngweithio cymdeithasol.
Adnoddau
-
Adnoddau dysgu ac addysgu
Gwybodaeth sy'n esbonio rhai risgiau i fod yn ymwybodol ohonynt a ble i fynd i gael cymorth.
Information for children and young people
-
Problemau a phryderon ar-lein: amser o flaen sgrin a chydbwysedd iach
Gwybodaeth sy'n esbonio rhai risgiau i fod yn ymwybodol ohonynt a ble i fynd i gael cymorth.
Rhagor o wybodaeth
- Ofcom: Plant a Rhieni: Adroddiad ar Agweddau a Defnydd o Gyfryngau 2023
- Magu Plant. Rhowch amser iddo: Cydbwyso Amser Sgrin
- Childnet: Screen time and healthy balance (Saesneg yn unig)
- Apple: Use Screen Time on your iPhone, iPad or iPod touch (Saesneg yn unig)
- Microsoft: Set screen time limits across devices (Saesneg yn unig)