English

Mae troseddau hudo a meithrin perthynas amhriodol ar-lein wedi codi dros 80% mewn pedair blynedd (NSPCC, 2022) (Saesneg yn unig).

Yn 2021 a 2022, cafwyd 6,156 o droseddau Cyfathrebu’n Rhywiol â Phlentyn ar draws y DU (adran 15A Deddf Troseddau Rhywiol 2003), sef bron i 120 o droseddau’r wythnos ar gyfartaledd (NSPCC, 2022).

Fe wnaeth yr Internet Watch Foundation (IWF) ganfod bod 1 o bob 3 tudalen we o gam-drin plant yn rhywiol yn cynnwys merched rhwng 11 a 13 oed a oedd wedi cael eu hudo yn eu cartrefi drwy we-gamerâu (IWF, 2021).

Derbyniodd yr IWF 20,000 o adroddiadau am gynnwys cam-drin plant yn rhywiol wedi’i gynhyrchu gan yr unigolion yn hanner cyntaf 2022, o’i gymharu ag ychydig o dan 12,000 am yr un cyfnod y llynedd (IWF, 2022).

Hudo a meithrin perthynas amhriodol ar-lein yw pan fo rhywun yn ceisio bod yn gyfaill i blentyn neu berson ifanc ar-lein gyda’r bwriad o’u hecsbloetio. Gall niwed sy’n cael ei achosi gan hudo a meithrin perthynas amhriodol ar-lein gynnwys cam-drin rhywiol ac ecsbloetio’n rhywiol er mwyn cael delweddau a fideos rhywiol. Bydd pobl sy’n hudo yn aml yn ceisio creu cysylltiad emosiynol a meithrin ymddiriedaeth gyda rhywun gyda’r nod o’u perswadio i wneud y canlynol:

  • cael sgyrsiau rhywiol ar-lein, drwy negeseuon ar-lein neu neges destun
  • anfon delweddau noeth
  • anfon fideos rhywiol
  • cyfarfod wyneb yn wyneb

Gall hudo a meithrin perthynas amhriodol ar-lein ddigwydd mewn 6 lle cyffredin.

  • Gwefannau rhwydweithio cymdeithasol
  • Apiau negeseua gwib a ffrydio byw
  • Apiau rhannu lluniau
  • Ystafelloedd sgwrsio
  • Apiau detio
  • Gwefannau gemau ar-lein

Bydd pobl sy’n hudo ar-lein yn aml yn:

  • anfon llawer o negeseuon at y plentyn neu’r person ifanc drwy amrywiaeth o lwyfannau, er enghraifft Instagram, WhatsApp, negeseuon testun ac ystafelloedd sgwrsio
  • mynnu bod sgyrsiau’n cael eu cadw’n gyfrinachol, gan ofyn i’r plentyn neu’r person ifanc beidio â dweud wrth neb eu bod mewn cysylltiad, a pherswadio eu dioddefwr na allan nhw ymddiried yn eu ffrindiau na’u teuluoedd
  • ceisio cael gwybod mwy, fel lleoliad cyfrifiadur eu dioddefwr neu a yw’r dioddefwr ar ei ben ei hun i ganfod a allen nhw gael eu dal gan rieni neu ofalwyr
  • anfon negeseuon rhywiol – gall negeseuon fod yn gynnil ar y dechrau, gan gyfarch ymddangosiad neu gorff y plentyn neu’r person ifanc a gofyn cwestiynau fel ‘wyt ti erioed wedi cael dy gusanu?’
  • gofyn am wybodaeth bersonol fel manylion am leoliad, ysgol neu goleg y dioddefwr
  • dioddefwyr blacmel, er enghraifft os yw plentyn neu berson ifanc eisoes wedi anfon delweddau, gall y bobl sy’n hudo fygwth postio’r delweddau ar-lein neu eu rhoi i bobl y mae’r plentyn neu’r person ifanc yn eu hadnabod os nad oes delweddau newydd yn cael eu hanfon

Gellir defnyddio'r dulliau hyn ar yr un pryd, a dyna pam y gall plant a phobl ifanc ddioddef hudo a meithrin perthynas rywiol amhriodol mewn llai nag 20 munud o sgwrs (Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain, 2016).

Bydd llawer o gamdrinwyr yn defnyddio ‘dull gwasgaredig’ ac yn cysylltu â channoedd o blant a phobl ifanc, gyda rhai ohonyn nhw’n ymateb.

Bydd rhai camdrinwyr yn ceisio perswadio plant a phobl ifanc i gynnwys plant eraill, naill ai ffrindiau neu frodyr a chwiorydd, yn y cam-drin.

Er bod pob plentyn mewn perygl o gael ei gam-drin ar-lein, mae ymchwil yr NSPCC wedi dangos bod rhai nodweddion yn gwneud plant yn fwy agored i gael eu cam-drin ar-lein. Mae pobl ifanc sy’n unig, yn anhapus, yn dibynnu ar y cyfryngau cymdeithasol neu’n allblyg yn fwy tebygol o fod wedi derbyn negeseuon rhywiol neu wedi cael rhywun yn gofyn iddyn nhw anfon negeseuon rhywiol at oedolyn. Mae camdrinwyr yn aml yn targedu plant sydd wedi mynegi eu bod yn agored i niwed ar-lein drwy rannu meddyliau a theimladau ar gyfryngau cymdeithasol a ffrydio byw.

Mae hudo a meithrin perthynas amhriodol yn gallu effeithio ar unrhyw blentyn beth bynnag fo’i oedran, nodweddion gwarchodedig eraill, neu gefndir economaidd-gymdeithasol. Mae’r rhai a allai fod yn arbennig o agored i risg yn cynnwys:

  • plant a phobl ifanc sydd ddim yn ymwybodol o risgiau ar-lein
  • plant nad yw eu gweithgarwch ar-lein yn cael ei oruchwylio
  • plant sy’n archwilio eu rhywioldeb a’u hunaniaeth ar-lein
  • plant sydd â lefel isel o hunan-barch a hyder
  • plant y tu allan i addysg prif ffrwd
  • pobl sydd ag anghenion dysgu neu gyfathrebu ychwanegol, sydd â nam neu gyflwr iechyd
  • pobl ifanc anabl
  • plant sy’n derbyn gofal a phlant eraill y mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod amdanyn nhw
  • pobl sydd wedi cael neu sy’n cael profiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod

Dyma arwyddion bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei hudo:

  • newidiadau sydyn mewn ymddygiad, fel treulio mwy neu lai o amser ar-lein
  • treulio mwy o amser i ffwrdd neu fynd ar goll o’r cartref, ysgol neu goleg
  • bod yn gyfrinachol, gan gynnwys wrth ddefnyddio dyfeisiau ar-lein
  • cael anrhegion heb esboniad
  • camddefnyddio sylweddau
  • bod â pherthynas â pherson llawer hŷn
  • problemau iechyd rhywiol
  • defnyddio iaith rywiol na fyddech yn disgwyl eu bod yn ei gwybod
  • ymddangos yn drist neu wedi encilio
  • problemau iechyd meddwl

Efallai na fydd plant a phobl ifanc yn teimlo eu bod yn gallu gofyn am help oherwydd:

  • nad ydyn nhw’n ymwybodol eu bod yn cael eu hudo
  • maen nhw’n credu eu bod mewn perthynas ofalgar ac yn poeni am ei pheryglu
  • efallai eu bod nhw’n ofni beth fydd y person sy’n eu hudo yn ei wneud os byddant yn codi eu llais
  • nid ydyn nhw eisiau i’r person sy’n eu hudo fod mewn helynt
  • maen nhw’n teimlo mai nhw sydd ar fai
  • mae ganddyn nhw gywilydd

Mae’n bwysig bod plant a phobl ifanc yn gallu adnabod a siarad am gam-drin a hudo a meithrin perthynas amhriodol. Gall eich ysgol neu goleg wneud rhai pethau i’w helpu i wneud hyn, fel:

  • dysgu am gydberthnasau iach
  • helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu’r ymwybyddiaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i’w cadw’n ddiogel ar-lein
  • helpu plant a phobl ifanc i adnabod pobl a llefydd diogel y gallan nhw droi atyn nhw am gymorth

Mae’n bwysig bod llywodraethwyr yn rhan o bolisi ac ymarfer diogelwch ar-lein eu hysgol neu goleg. Ni fydd y rhan fwyaf o lywodraethwyr yn ymwneud yn uniongyrchol â digwyddiadau ond mae ganddyn nhw rôl bwysig o ran deall yr heriau y mae dysgwyr yn eu hwynebu a sut y mae modd eu cefnogi.

Bwriad y canllaw ‘Pum cwestiwn allweddol ar gyfer cyrff llywodraethu er mwyn helpu i herio ysgolion a cholegau i ddiogelu eu dysgwyr yn effeithiol’ yw cefnogi cyrff llywodraethu i sicrhau bod arferion da o ran polisi a darpariaeth diogelwch ar-lein ar waith yn eu hysgol neu goleg.

Er mwyn helpu ysgolion a chyrff llywodraethu i gyflawni eu dyletswyddau diogelu, mae adnodd 360 safe Cymru ar gael yn ddwyieithog drwy Hwb ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru. Mae 360 safe Cymru yn adnodd hunanwerthuso diogelwch ar-lein rhyngweithiol ac mae’n ffordd wych o werthuso darpariaeth ac arferion diogelwch ar-lein yr ysgol. 

Mae’r adnodd yn helpu ysgolion i wneud y canlynol:

  • adolygu eu darpariaeth diogelwch ar-lein
  • datblygu neu adolygu eu polisïau diogelwch ar-lein
  • meincnodi eu darpariaeth yn erbyn arferion da a chymharu â chyfartaleddau cenedlaethol
  • paratoi cynlluniau gweithredu
  • cael gafael ar amrywiaeth o adnoddau perthnasol a thempledi polisi enghreifftiol
  • cydweithio ar ddatblygu eu darpariaeth a’u hymarfer

Mae llywodraethwyr yn cael eu hannog i sicrhau bod gan yr ysgol gyfrif 360 safe Cymru ac, os oes ganddi, pryd y gwnaethan nhw ddefnyddio’r adnodd ddiwethaf a diweddaru eu cynnydd a’u gweithredoedd.

Mae’n hanfodol bod ysgolion a cholegau’n darparu’r sgiliau i blant a phobl ifanc aros yn ddiogel ar-lein.

Mae’n hanfodol bod staff yn cael hyfforddiant diogelu sy’n ymgorffori diogelwch ar-lein.

Mae angen i lywodraethwyr sicrhau bod diogelwch ar-lein yn bresennol mewn polisïau, yn rôl y person diogelu dynodedig, a’r cwricwlwm, yn ogystal â gwaith gydag athrawon gyrfaoedd cynnar ac athrawon dan hyfforddiant, ac wrth ymgysylltu â rhieni a gofalwyr.

Gall yr adnoddau canlynol helpu llywodraethwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau diogelu.

Mae’n bwysig bod offer hidlo a systemau monitro ar-lein ysgolion a cholegau yn diogelu plant a phobl ifanc rhag masnach, ymddygiad, cyswllt a chynnwys niweidiol.

  • Ydy diogelwch ar-lein yn rhan o ddiwylliant eich ysgol neu goleg?
  • A oes gennych chi dystiolaeth o ble mae eich polisïau a’ch gweithdrefnau’n cyfeirio at ddiogelwch ar-lein a hudo a meithrin perthynas amhriodol ar-lein?
  • Pa mor rheolaidd mae’r polisïau a’r gweithdrefnau’n cael eu hadolygu?
  • Sut mae’r polisïau a’r gweithdrefnau’n cael eu rhannu â staff, dysgwyr a rhieni a gofalwyr?
  • A oes gennych chi gytundebau defnydd derbyniol ar waith ar gyfer staff a gwirfoddolwyr, dysgwyr, rhieni a gofalwyr ac ymwelwyr eraill â’r ysgol neu’r coleg sydd angen defnyddio rhwydweithiau TG yr ysgol neu’r coleg?
  • Sut mae gwasanaethau boreol, y cwricwlwm a gwersi addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cefnogi ymwybyddiaeth dysgwyr o ddiogelwch ar-lein?
  • A yw’r adnoddau addysgu am ddiogelwch ar-lein a gwydnwch digidol yn berthnasol ac yn gyfredol?
  • Sut mae plant a phobl ifanc yn cael eu cynghori ynglŷn ag effaith materion diogelwch ar-lein sy’n berthnasol iddyn nhw?
  • A oes mecanweithiau adrodd ar-lein ar waith ar gyfer dysgwyr, rhieni a gofalwyr, ac a yw’r holl staff yn gwybod sut i ymateb yn briodol i ddigwyddiad a adroddir amdano?
  • A oes camau’n cael eu cymryd pan fydd dysgwyr yn rhoi gwybod am ymddygiad annerbyniol ar-lein neu bryderon am rywbeth maen nhw wedi’i weld ar-lein?
  • A yw eich ysgol neu goleg yn annog rhieni a gofalwyr i roi gwybod am faterion?
  • Sut mae pwysigrwydd diogelwch ar-lein yn cael ei atgyfnerthu gyda rhieni a gofalwyr?
  • A oes gan y person diogelu dynodedig a staff priodol eraill lefel uchel o hyfforddiant ac arbenigedd mewn diogelwch ar-lein?
  • Sut mae aelodau o’r staff yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau yn y byd ar-lein?
  • A oes gwybodaeth am ddiogelwch ar-lein ar gael mewn amrywiaeth o fformatau, er enghraifft ar gyfer y rheini sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol?
  • Sut mae anghenion dysgwyr agored i niwed yn cael eu diwallu?

Os oes gan lywodraethwr bryderon bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei hudo, dylai ddilyn gweithdrefn ei ysgol neu goleg a rhoi gwybod i’r person diogelu dynodedig. Os oes gan lywodraethwr wybodaeth i awgrymu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol, er enghraifft mae’r plentyn neu’r person ifanc yn bwriadu mynd i gwrdd, neu wedi mynd i gwrdd â throseddwr posib, dylai gysylltu â’r heddlu ar 999.

Mae gwybodaeth a chefnogaeth i blant, pobl ifanc a rhieni a gofalwyr ar gael o sawl ffynhonnell, gan gynnwys:

Llinell gymorth: 0808 1000 900

Llinell gymorth: 0808 800 5000

Os oes gan rywun wybodaeth, pryderon neu amheuon bod plentyn yn dioddef niwed, wedi dioddef niwed neu’n debygol o fod mewn perygl o niwed, mae cyfrifoldeb arnyn nhw i sicrhau bod y pryderon yn cael eu cyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol neu’r heddlu sydd â dyletswyddau a phwerau statudol i wneud ymholiadau ac ymyrryd pan fo angen. Os oes gennych chi bryderon am blentyn neu berson ifanc, dylech chi ddilyn gweithdrefn eich ysgol neu goleg a rhoi gwybod i’r person diogelu dynodedig.

Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan: Diogelu plant rhag cam-drin ar-lein