Canllaw i’r teulu ar siarad am chwarae gemau ar-lein
Cyflwyniad
Mae chwarae gemau ar-lein yn fusnes mawr. Mae bron i hanner marchnad adloniant y DU yn gysylltiedig â chwarae gemau ar-lein, ac yn 2019 roedd yn werth £3.77 biliwn. Mae’r amrywiaeth o gemau sydd ar gael yn anhygoel ynddo’i hun, ac yn amrywio o gemau syml, lliwgar ar gyfer plant ifanc iawn i gemau fideo aml-chwaraewr cymhleth ar gyfer grwpiau oedran hyn. Ac er bod llai na 25 y cant o’r cyfanswm sy’n chwarae gemau ar-lein yn blant a phobl ifanc dan 18 oed, mae’r oedran yn mynd yn iau, ac mae 17 y cant o blant 3 i 5 oed yn chwarae gemau ar-lein erbyn hyn.
Mae’r canllaw hwn yn edrych ar agweddau cadarnhaol a negyddol chwarae gemau ar-lein, sut y gallwch siarad gyda’ch plentyn amdano, a’r camau ymarferol y gallwch eu cymryd er mwyn sicrhau ei fod yn weithgaredd diogel ac iach.
Pwy sy’n chwarae gemau fideo ar-lein?
Mae amlder chwarae gemau ymhlith plant 3 i 15 oed wedi aros yn weddol gyson er 2016. Yr hyn sydd wedi newid, fodd bynnag, yw’r ffordd y mae plant a phobl ifanc yn dewis chwarae gemau. Mae mwy a mwy yn defnyddio ffonau clyfar, cyfrifiaduron llechen a gliniaduron i chwarae gemau ar-lein, yn hytrach na chonsolau gemau rydych yn eu dal yn eich dwylo neu rai sydd wedi’u cysylltu â’r teledu. Mae chwarae gemau ar-lein hefyd yn fwy poblogaidd ymhlith merched erbyn hyn, ac mae bron i hanner y merched rhwng 5 a 15 oed yn chwarae’n rheolaidd.
Pa effaith mae bwlio yn ei chael ar rywun?
Gall bwlio effeithio ar iechyd, lles a hunanhyder y rhai sy’n cael eu bwlio. Gall bwlio dargedu edrychiad, rhywioldeb, anabledd, diwylliant, crefydd, statws cymdeithasol neu nodweddion eraill. Mae rhai o’r nodweddion hyn yn cael eu gwarchod o dan y gyfraith. Gall hyn effeithio ar y ffordd mae dysgwyr yn teimlo amdanyn nhw eu hunain.
Fel mathau eraill o fwlio, gall arwain at straen a phryder, sy’n golygu bod dysgwyr yn ei chael hi’n anoddach dysgu.
Beth yw manteision chwarae gemau ar-lein?
Efallai fod gan rai rhieni a gofalwyr amheuon ynglyn â chwarae gemau ar-lein yn gyffredinol, ond mae rhai pwyntiau cadarnhaol. Gall:
- annog sgiliau datrys problemau
- miniogi prosesu gweledol a gwella’r cof
- helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a’r gallu i gyflawni mwy nag un dasg ar y tro (er enghraifft, gwaith tîm)
- rhoi boddhad a theimlad eich bod wedi cyflawni rhywbeth.
Beth yw’r risgiau sy’n gysylltiedig â chwarae gemau ar-lein?
Wrth gwrs, mae nifer o risgiau sy’n gysylltiedig â chwarae gemau a bod yn rhan o gymunedau chwarae gemau ar-lein. Mae’r rhain yn ymwneud â’r meysydd a ganlyn.
Diogelwch
Chwarae gemau gyda dieithriaid, a allai gynyddu’r risg o feithrin perthynas neu gyswllt amhriodol ar-lein.
- Dod ar draws chwaraewyr sy’n ceisio bwlio chwaraewyr eraill yn fwriadol, a/neu sy’n defnyddio iaith annymunol, sy’n peri tramgwydd.
Iechyd
- Cysylltiad rheolaidd â chynnwys treisgar neu graffig iawn, a allai achosi pryder neu ofid, yn enwedig i chwaraewyr iau – gall hyn achosi problemau iechyd meddwl a lles neu wneud i broblemau sy’n bodoli’n barod fynd yn waeth.
- Methu â gosod terfynau amser yn llwyddiannus a rheoli’r defnydd a wneir o gemau yn arwain at ddefnydd gormodol a theimlad o fod yn ‘gaeth’, yn ogystal â phroblemau corfforol fel poen cefn/gwddf a chur pen.
Arian
- Erbyn hyn mae llawer o gemau’n cynnig yr opsiwn i gysylltu â cherdyn credyd/debyd neu gyfrif PayPal, felly gall chwaraewyr brynu eitemau/nodweddion mewn gêm (er enghraifft cistiau ysbail (loot boxes), lefelau ychwanegol, ac ati). Os bydd plant yn cofrestru ar gyfer y nodweddion ychwanegol hyn, hyd yn oed â chaniatâd y rhiant neu’r gofalwr, gall fod yn ddrud iawn.
- Prynu meddalwedd sgwrsio trydydd parti (megis Discord) i alluogi sgwrs llais a negeseuon ar gyfer gemau nad ydyn nhw’n cynnwys y nodweddion hynny. Mae hyn yn golygu y gallai plant a phobl ifanc fod yn sgwrsio gyda phobl eraill, hyd yn oed os nad yw’r gêm yn cynnwys y nodwedd hon.
Sut alla i helpu fy mhlentyn i gadw’n ddiogel wrth chwarae gemau?
Edrychwch ar y graddfeydd oedran
Bydd gan bob gêm fideo consol, pob gêm ar gyfer cyfrifiadur personol, a phob ap ar Microsoft Store a Google Play, oedran sy’n cael ei argymell gan PEGI (Pan European Game Information), yn ogystal â gwybodaeth am y themâu sy’n cael eu portreadu yn y gêm. Mae gan gonsolau gyfyngiadau y mae’n bosibl eu galluogi er mwyn sicrhau nad oes modd gosod a chwarae gemau os nad ydyn nhw’n addas i oedran y plentyn. Bydd gan rai gemau gyfyngiadau y gellir eu galluogi yng nghyfrif y gêm mewn porwr neu gonsol.
Rhowch strategaethau iddyn nhw
Dangoswch i’ch plentyn sut i flocio a rhoi gwybod am chwaraewyr sy’n camddefnyddio’r gemau, ac eglurwch beth arall y gall eu gwneud os nad yw’n mwynhau gêm. Er enghraifft – peidio â dial. Yn lle hynny, mae’n bosibl diffodd neu ddistewi sgwrs llais. Anogwch eich plentyn i barchu chwaraewyr eraill, ac i siarad gyda chi neu oedolyn cyfrifol arall os yw’n gweld/clywed rhywbeth sy’n gwneud iddo boeni neu ofidio.
Atal yr opsiwn i brynu eitemau mewn gemau
Gwnewch yn siwr eich bod yn deall y gosodiadau ar gonsol neu ddyfais eich plentyn er mwyn sicrhau nad oes modd prynu eitemau mewn gemau. Fel arfer gallwch gloi’r opsiynau hyn drwy ddefnyddio PIN/cyfrinair, a bydd yn rhoi llawer mwy o reolaeth i chi dros beth y mae’n bosibl ei brynu.
Am beth y dylwn i siarad?
Cadw’n ddiogel o amgylch chwaraewyr eraill
Mae chwarae gemau yn weithgaredd lle gall plant a phobl ifanc ychwanegu chwaraewyr eraill at eu rhestr o gysylltiadau, neu ddod i gysylltiad â nifer fawr o ddieithriaid drwy gemau ar-lein aml-chwaraewr enfawr (MMOs) fel Fortnite, Roblox ac Apex Legends. Atgoffwch eich plentyn ei bod hi’n iawn iddo ef neu hi sgwrsio a chwarae gyda’r chwaraewyr hyn, ond bod angen bod yn ofalus iawn a pheidio â rhannu gwybodaeth bersonol. Ni ddylai byth gytuno i sgwrsio gyda chwaraewr ar ap/gwasanaeth arall (yn enwedig un preifat) na chyfarfod rhywun wyneb yn wyneb.
Gosod terfynau amser clir ar gyfer chwarae
Mae’n hawdd i blant a phobl ifanc dreulio llawer o amser ar eu hoff gemau – mae rhai’n cymryd cannoedd o oriau i’w harchwilio neu eu cwblhau. Fodd bynnag, mae’n bwysig cytuno ar derfynau amser call ar gyfer sesiynau chwarae gemau ac annog eich plentyn i gymryd seibiant yn rheolaidd. Os yw eich plentyn ychydig yn hyn, efallai y byddech yn hoffi trafod sut y gall gormod o chwarae gemau effeithio ar ei iechyd corfforol a meddyliol.
Diwylliannau chwarae gemau gwahanol
Mae gan rai gemau gymunedau cadarnhaol sy’n gysylltiedig â nhw, ac mae eraill yn adnabyddus am lefelau uchel o gystadleuaeth, cellwair, galw enwau neu ymddygiadau eraill a allai niweidio, ac sy’n amharu ar allu chwaraewyr gemau i ganolbwyntio. Atgoffwch eich plentyn nad oes angen iddo fod yn rhan o gymuned negyddol i fwynhau gêm, a helpwch ef neu hi i ddod o hyd i weinyddion neu gemau eraill i gadw eu profiadau chwarae gemau yn gadarnhaol.
Y peth da!
Bydd dangos diddordeb yn y mathau o gemau mae eich plentyn yn eu mwynhau, a chwarae’r gêm gydag ef neu hi, yn ei annog i siarad gyda chi. Bydd hyn hefyd yn rhoi rhyw syniad i chi sut a pham y mae’n chwarae gwahanol fathau o gemau a pha fath o gynnwys y mae’n ei weld yn rheolaidd.
Sut alla i ddechrau sgwrs am chwarae gemau ar-lein?
Dyma ychydig o gwestiynau y gallech eu gofyn i’ch plentyn er mwyn dechrau sgwrs.
- Beth yw dy hoff gemau i’w chwarae ar-lein?
- Pa deimladau cadarnhaol (hapus/balch/dewr) fyddi di’n eu cael wrth chwarae gemau ar-lein a pham?
- Pa deimladau negyddol (anhapus/blin/trist/wedi dychryn) fyddi di’n eu cael wrth chwarae gemau ar-lein a pham?
- Wyt ti’n meddwl bod y cydbwysedd yn iawn gennyt ti, o ran faint o amser rwyt ti’n ei dreulio ar-lein a faint rwyt ti’n ei dreulio all-lein? Os hynny, pam?
- Beth sy’n digwydd pan fyddi di wedi treulio gormod o amser yn chwarae gemau ar-lein? Ydy hynny’n effeithio ar dy hwyliau di? Wyt ti’n meddwl ei fod yn syniad da i rywun chwarae gemau am gyfnod byr yn unig?
Adnoddau a gwybodaeth am chwarae gemau ar-lein
- Hwb – Canllaw i rieni a gofalwyr ar fanteision a risgiau gemau ar-lein
- Hwb – Gemau ar-lein ac amser o flaen sgrin
- Hwb - Fideo ar Roblox i rieni a gofalwyr
- Hwb - Roblox – beth mae angen i rieni a gofalwyr wybod
- Ask About Games – gallwch gofyn cwestiynau, chwilio am adnoddau ac edrych ar y graddfeydd PEGI (Saesneg yn unig)
- Common Sense Media (Saesneg yn unig)
- NSPCC – Net Aware (Saesneg yn unig)
Help a chefnogaeth
- Meic – Gwasanaeth llinell gymorth dwyieithog cyfrinachol, dienw a di-dâl sydd ar gael i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.
- Pecyn cymorth iechyd meddwl pobl ifanc – amrywiaeth o adnoddau ar-lein – gwefannau, apiau, llinellau cymorth a mwy sy’n cefnogi iechyd meddwl a lles ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 mlwydd oed.
- Childline (Saesneg yn unig) – Gwasanaeth cyfrinachol, preifat a di-dâl sydd ar gael i unrhyw un dan 19 oed yn y DU. Beth bynnag sy’n poeni’r plentyn neu’r person ifanc, maen nhw yno i wrando.
- NSPCC (Saesneg yn unig) – Mae’r NSPCC yn elusen genedlaethol sy’n gweithio er mwyn amddiffyn plant ac atal camdriniaeth, ac mae’n cynnig llinell gymorth bwrpasol â chwnselwyr proffesiynol.
- CEOP (Saesneg yn unig) – Ar wefan y Ganolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein gallwch adrodd unrhyw bryderon am gam-drin rhywiol ar-lein yn ddiogel.
- Riportio Cynnwys Niweidiol – Canolfan adrodd genedlaethol sydd wedi’i chynllunio er mwyn helpu pawb i roi gwybod am gynnwys niweidiol maen nhw’n ei weld ar-lein.
- Action Fraud (Saesneg yn unig) – Canolfan twyll a seiberdroseddau’r DU. Dyma’r lle i fynd os ydych yn ddioddefwr sgam, twyll neu seiberdrosedd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.