Canllaw i deuluoedd ar siarad am radicaleiddio ac eithafiaeth
Lleihau'r risg: sut i ddiogelu eich plant rhag cael eu radicaleiddio
O ran trafod pynciau sensitif a dadleuol gyda’ch plentyn, weithiau mae’n teimlo’n haws osgoi’r pynciau yn hytrach na mynd i’r afael â nhw’n agored ac yn onest. Ond mae’n well i’ch plentyn ddysgu oddi wrthych chi, yr ysgol a bywyd go iawn - nid o'r cae chwarae a ffynonellau ar-lein amheus.
Os ydych chi'n gwylio'r teledu, yn darllen papur newydd neu'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, mae’n debygol iawn eich bod wedi dod ar draws y termau ‘radicaleiddio’ ac ‘eithafiaeth.’ Mae’r ddau air yn ysgogi cysylltiadau amryfal a gallan nhw weithiau fod yn anghywir a/neu’n gamarweiniol. Felly mae’n bwysig gwybod a deall diffiniadau swyddogol y termau hyn cyn eu defnyddio mewn sgyrsiau â phlant a phobl ifanc.
Mae’r canllaw hwn yn edrych ar ystyr radicaleiddio ac eithafiaeth; sut i gyfyngu cysylltiad eich plentyn â dylanwadau radicaleiddio, a beth i'w wneud os ydych chi’n amau bod eich plentyn yn cael ei radicaleiddio.
Beth mae’r termau’n ei olygu?
Mae strategaeth Prevent y llywodraeth yn diffinio radicaliaeth fel ‘y broses lle mae unigolyn yn cefnogi terfysgaeth a mathau o eithafiaeth sy’n arwain at derfysgaeth.’
Mae eithafiaeth yn cyfeirio at ‘wrthwynebiad llafar neu weithredol i werthoedd Prydeinig sylfaenol, gan gynnwys democratiaeth, y gyfraith, rhyddid yr unigolyn a chyd-barch a chyd-oddefgarwch o wahanol ffydd a chredoau.’
Yr hyn sy’n cael ei ddeall amlaf yw, mai eithafiaeth yw canlyniad y broses o radicaleiddio. Mae'r ymadrodd ‘hudo a meithrin perthynas amhriodol’ yn cael ei ddefnyddio’n aml ym maes terfysgaeth. Mewn achosion o gam-drin plant yn rhywiol mae’r unigolion sy’n cael eu hudo a’u meithrin i gael perthynas amhriodol bob amser yn blant neu’n bobl ifanc. Ond o ran radicaleiddio mae’n bwysig deall bod y bobl yma’n aml yn gallu bod yn oedolion.
Pam ddylen ni fod yn bryderus?
Mae radicaleiddio’n gallu arwain at weithgarwch terfysgol – sy’n amrywio o gam-drin geiriol i drais corfforol a llofruddiaeth. Dylen ni anelu i ddiogelu’r rhai hynny sydd mewn peryg o gael eu radicaleiddio er mwyn eu diogelwch a'u llesiant eu hunain a phobl eraill.
Beth sy’n gwneud i blentyn neu berson ifanc fod yn agored i gael ei radicaleiddio?
Mewn prosiect ymchwil a gafodd ei gynnal gan Goleg Prifysgol Llundain, gofynnwyd i dri recriwtiwr terfysgol am y math o bobl roedden nhw’n eu targedu a pham.
- ‘Fe fydden ni’n chwilio am blant â phroblemau personol oherwydd roedd hi’n haws addo'r byd iddyn nhw.’
- ‘Pobl a oedd wedi colli popeth ac a oedd yn delio ag argyfwng hunaniaeth...cam-drin, bod yn gaeth i gyffuriau, alcoholiaeth, tlodi yn y teulu, y mathau hyn o bethau.’
- ‘Plant a oedd ar y stryd, oherwydd roedden ni’n gobeithio eu denu nhw i’n teulu ni.’
Gellir crynhoi’r ymatebion hyn yn ôl y nodweddion canlynol.
- Hunan-barch isel.
- Penbleth ynghylch pwy ydyn nhw neu golli hunaniaeth.
- Teimlo’n ynysig.
Mae bwriadau’r recriwtwyr yn gallu newid. Weithiau, y nod yw recriwtio cymaint o bobl â phosib – weithiau drwy dargedu’r gymuned leol, terfysgwyr ar-lein a safleoedd gemau. Ar adegau eraill, maen nhw angen pobl â sgiliau neu wybodaeth benodol. Er enghraifft, un tro roedd cylchgrawn ISIS wedi cynnwys erthygl a oedd wedi’i hanelu’n benodol at recriwtio myfyrwyr meddygol.
Oes unrhyw dactegau cyffredin mae eithafwyr yn eu defnyddio?
Mae propaganda terfysgwyr yn ceisio creu gwahaniaeth rhwng hunaniaeth grŵp eithafol a grŵp arall – fel ‘ni’ a ‘nhw.’ Mae'r grŵp eithafol yn cael ei fawrygu a’i ganmol, ac mae’r grŵp arall yn cael ei feirniadu a'i athrodi. Mae darllenwyr, gwrandawyr a gwylwyr ar-lein yn gorfod penderfynu a ydyn nhw’n uniaethu â'r grŵp eithafol neu beidio. Mae deunyddiau propagandaidd yn pwysleisio bod rhaid i’r rhai sydd wir yn uniaethu â'r grŵp eithafol gydymffurfio ag agenda treisgar y grŵp.
Beth yw’r arwyddion cyffredin a fyddai’n awgrymu bod eich plentyn yn cael ei radicaleiddio?
Mae pob achos yn wahanol, ond gall blant a phobl ifanc sy’n dod i gysylltiad â dylanwadau radicaliaeth ddangos yr ymddygiad canlynol.
- Bod ar wahân
- Bod yn gyfrinachol ac yn amharod i drafod eu lleoliad.
- Ymddieithrio oddi wrth eu hen ffrindiau.
- Ymddwyn yn fwyfwy dadleugar.
- Hunaniaeth newydd
- Newid eu ffrindiau, eu hymddangosiad a’u hunaniaeth ar-lein.
- Newid eu crefydd.
- Bod yn fwy trugarog tuag at eithafiaeth
- Defnyddio ‘ni’/’nhw’ neu ddefnyddio iaith sy’n cyfeirio at grwpiau penodol fel pe na baen nhw’n fodau dynol.
- Gwrthod gwrando ar wahanol safbwyntiau.
- Ymddwyn yn ymosodol tuag at eraill maen nhw’n eu hystyried yn wahanol.
- Cydymdeimlo â grwpiau ac ideolegau eithafol.
- Cael mynediad at gynnwys eithafol ar-lein.
Beth i’w wneud os ydych chi'n bryderus am eich plentyn
Os ydych yn amau bod eich plentyn yn cael ei radicaleiddio neu’n ymddwyn mewn ffordd eithafol, peidiwch ag oedi wrth geisio cael cymorth gan:
- athro eich plentyn – mae strategaeth Prevent y Llywodraeth yn helpu athrawon i gael y sgiliau a’r technegau i ganfod ymddygiad sy’n peri pryder a rhoi cymorth priodol i fyfyrwyr
- yr Adran Addysg – ffoniwch y llinell gymorth gwrthderfysgaeth ar 020 7340 7264
- gwasanaethau cymdeithasol
- cydlynydd Prevent eich awdurdod lleol
- yr NSPCC
- yr heddlu – ffoniwch 101 neu llenwch y Ffurflen Atgyfeirio Partneriaid Prevent Cymru Gyfan.
Pa gamau cadarnhaol alla i eu cymryd fel rhiant neu ofalwr?
Gall diogelu eich plentyn rhag dylanwadau radicaliaeth deimlo fel tasg amhosib, ond mae camau y gallwch eu cymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â nhw.
Cadw eich plentyn yn ddiogel ar-lein.
Y rhyngrwyd ydy’r adnodd recriwtio sy’n cael ei ddefnyddio amlaf i ledaenu safbwyntiau eithafol a phropaganda terfysgwyr. Mae cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn ceisio helpu i atal radicaliaeth ac eithafiaeth rhag lledaenu ar-lein drwy adnabod ac atal cynnwys eithafol. Fe allwch chi helpu trwy:
- cytuno ar faint o amser mae eich plentyn yn ei dreulio ar-lein a’r safleoedd maen nhw’n mynd arnyn nhw
- siarad â’ch plentyn ynglŷn â phwy ydy eu ffrindiau ar-lein a sut maen nhw’n penderfynu pwy fydd eu ffrindiau nhw
- gosod dulliau rheolaeth gan rieni ar ddyfeisiau eich plentyn.
Addysgu eich plentyn am ethnigrwydd a chrefyddau gwahanol.
Mae eithafiaeth wedi’i seilio ar ragfarn a gwahaniaethu. Gweithiwch yn erbyn lledaenu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol drwy sicrhau bod gan eich plentyn ddealltwriaeth gadarn o gredoau, heblaw am eu credoau nhw eu hunain, a’u bod yn eu gwerthfawrogi. Cysylltwch ag ysgol eich plentyn i weld pa arweiniad fyddan nhw’n gallu ei gynnig.
Rhagor o adnoddau a gwybodaeth
- NSPCC (Saesneg yn unig)
- Internet Matters (Saesneg yn unig)
- Y Ganolfan Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn y DU (Saesneg yn unig)
- Prevent (Saesneg yn unig)
- Extremism – gan J.M. Berger
(Cyfres MIT Press Essential Knowledge)
Beth yw eithafiaeth, sut mae ideolegau eithafol yn cael eu ffurfio, a pham bod eithafiaeth yn gallu arwain at drais.