English

I lawer ohonom ni heddiw, mae dyfeisiau â sgriniau ble bynnag mae rhywun yn edrych. Maen nhw’n ein helpu i gael mynediad at ein swyddi neu fannau addysg i gydweithio. Maen nhw’n ein galluogi i wylio ffilmiau, cerddoriaeth, teledu, radio a mathau eraill o adloniant bob awr o’r dydd. Ac maen nhw hefyd yn ein helpu i gadw mewn cysylltiad o unrhyw le yn y byd drwy fideo, sain a geiriau ysgrifenedig gan ddefnyddio offer cyfryngau cymdeithasol pwerus.

Mae’n anochel bod pryderon wedi cynyddu ynghylch yr amser mae plant a phobl ifanc yn arbennig yn ei dreulio o flaen sgrin. Mae cwestiynau’n cael eu gofyn ynghylch dylanwad amser o flaen sgrin ar y gallu i gael noson dda o gwsg, gwneud amser i fwyta’n iawn, bod yn gorfforol egnïol, a chyrraedd yr ysgol ar amser – sydd i gyd yn ffactorau pwysig er mwyn cynnal iechyd a lles.

Mae’r canllaw hwn yn edrych ar elfennau cadarnhaol a negyddol amser o flaen sgrin, gan edrych ar y ffyrdd gorau o ddefnyddio technoleg fodern mewn ffordd iach a chytbwys.


Amser o flaen sgrin yw’r amser a dreulir yn defnyddio unrhyw ddyfais gyda sgrin. Mae’r term hwn yn cael ei ddefnyddio gan amlaf wrth sôn am ddyfeisiau digidol rhyngweithiol fel ffonau clyfar, tabledi, cyfrifiaduron neu gonsolau gemau. Mae’r rhain yn wahanol i dechnoleg hŷn fel y teledu ‘traddodiadol’ sy’n fwy goddefol, ac nid oes fawr o gyfle i ryngweithio â chynnwys neu bobl eraill.


Mae pryderon am ein perthynas â sgriniau a’u heffaith ar iechyd yn mynd yn ôl ddegawdau, fyth ers i ddefnydd o’r teledu ymledu o’r 1950au ymlaen. Dyma ychydig o’r pryderon amlycaf yn yr oes ddigidol.

  • ‘Mae amser o flaen sgrin yn lleihau gweithgarwch corfforol’.
    Nid yw’r ymchwil ynghylch hyn yn glir. Fodd bynnag, gall amser o flaen sgrin annog plant sydd eisoes yn ddisymud i fod hyd yn oed yn fwy eisteddol.
  • ‘Mae amser o flaen sgrin yn annog bwyta bwydydd afiach’. 
    Oes, mae rhywfaint o dystiolaeth am hyn – sy’n cael ei ddwysau gan hysbysebion wedi’u targedu’n dda am fyrbrydau â llawer o galorïau ac ychydig iawn o faeth y tu allan i brydau bwyd.
  • ‘Gall amser o flaen sgrin achosi problemau iechyd corfforol’.
    Mae llawer o ddefnydd yn gallu achosi llygaid poenus, cur pen, poen yn y gwddf, braich neu fysedd, ac ati, ond nid oes tystiolaeth bendant ei fod yn gyfrifol am broblemau hirdymor. 
  • ‘Mae amser o flaen sgrin yn effeithio’n negyddol ar gwsg’.
    Mae ymchwil yn dangos bod amser o flaen sgrin cyn amser gwely’n gallu tarfu ar batrymau cwsg a’i gwneud hi’n fwy anodd disgyn i gysgu yn y lle cyntaf. Er hynny, mae ymchwilwyr yn anghytuno ynghylch hyn.

Mae llawer o bryderon ynghylch amser o flaen sgrin yn deillio o beth mae plant a phobl ifanc yn ei weld neu’n ei wneud pan fyddan nhw’n ei ddefnyddio yn hytrach nag am ba mor hir maen nhw’n ei dreulio o flaen y sgrin.

Efallai eu bod nhw’n edrych ar ddelweddau neu fideos annymunol, neu’n mynd drwy berthnasau llawn straen â phobl eraill sy’n cynnwys dadleuon neu fwlio. Wrth reswm, po hiraf mae rhywun yn dod i gysylltiad â rhywbeth, y mwyaf y gallai deimlo dan bwysau oherwydd yr hyn sy’n digwydd. Gall Autoplay, nodwedd sy’n ei gwneud hi’n anodd cymryd seibiant pan fydd y fideo nesaf yn dechrau ymhen eiliadau, fod yn ffactorau gwaethygol.

Ar y llaw arall, ychydig iawn o rieni, gofalwyr neu athrawon a fyddai’n teimlo bod amser o flaen sgrin yn ddrwg petai’r sgrin yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith cartref, ysgrifennu traethodau neu wneud gwaith ymchwil. Fodd bynnag, mae safbwynt arall i’r ddadl ynghylch amser ‘da’ neu ‘ddrwg’ o flaen sgrin. 

Mae Facebook says ‘passively consuming’ the News Feed will make you feel worse about yourself (Saesneg yn unig) yn awgrymu bod y rhai sy’n treulio amser yn sgrolio’n oddefol drwy ei ffrwd newyddion yn teimlo’n waeth na’r rhai sy’n ei ddefnyddio i ryngweithio â ffrindiau a theulu. Roedden nhw’n galw’r rhain yn ‘gysylltiadau ystyrlon’.

Felly, gallai fod yn ddefnyddiol symud ymlaen o feddwl a yw amser o flaen sgrin yn rhwystro plant a phobl ifanc rhag gwneud y pethau sy’n eu cadw’n iach, ac ystyried a yw’n eu galluogi i wneud y pethau sy’n gwella eu hiechyd a’u hapusrwydd. Mae’r rhain yn cynnwys y ‘Five Ways to Well-being’ (Saesneg yn unig), a gynhyrchwyd gan New Economics Foundation (NEF) ar ran Foresight, sef:

  • cysylltu
  • bod yn fywiog
  • bod yn sylwgar
  • dal ati i ddysgu

Yn fwy na dim, mae’n rhaid i ffordd o fyw sy'n sicrhau cydbwysedd rhwng amser o flaen sgrin a gweithgareddau all-lein, yn hytrach na throi o'i amgylch, fod yn iachach i ni gyd.


Er ei bod hi’n anodd gweld pryd fydd defnyddio technoleg yn troi’n broblem, chi sy’n adnabod eich plentyn yn well na neb. Felly, os yw pethau’n gwaethygu yn yr ysgol neu gyda ffrindiau, gall fod yn arwydd i geisio deall a yw technoleg yn rhan o’r broblem.

  • Edrychwch ar ymddygiad grŵp cyfoedion.
    Holwch rieni neu ofalwyr eraill ynghylch beth mae eu plentyn nhw’n ei wneud. Os ydy eich plentyn chi o flaen sgrin am lawer mwy o amser na’i ffrindiau, efallai ei fod yn arwydd fod angen edrych yn agosach ar bethau.

  • Cadwch lygad am lefelau straen neu ofid uwch.
    Os ydych chi’n sylw ar newidiadau mewn ymddygiad neu hwyliau, mae’n werth gofyn i’ch plentyn sut mae’n teimlo. Esboniwch eich bod chi yno i wrando os ydyn nhw’n cael amser anodd, ac nid i feirniadu neu gymryd eu dyfeisiau oddi arnyn nhw. Byddai’n well gan lawer o bobl ifanc ddioddef yn hytrach na cholli ei ffôn. Peidiwch â neidio i feio’r ffôn neu’r cyfryngau cymdeithasol. Yn hytrach, rhowch le a chefnogaeth iddyn nhw ddweud wrthych beth sy’n digwydd.
  • Sicrhewch eich bod yn gwybod pa mor dda maen nhw’n cysgu.
    Mae cwsg yn bwysig ar gyfer dysgu ac ymddygiad, twf ac aros yn hapus. Sylwch faint o’r gloch mae pobl ifanc yn mynd i gysgu ac a yw’n anodd iddyn nhw ddeffro. Mae Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn argymell peidio â threulio amser o flaen sgrin am awr cyn mynd i gysgu. Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc angen o leiaf wyth neu naw awr o gwsg bob nos, a hyd yn oed mwy na hynny pan fyddan nhw'n iau.

Gall gorddefnyddio sgrin wneud eich plentyn yn flinedig ac yn flin. Felly, gall fod yn dipyn o her cael sgwrs ddefnyddiol amdano ar y pryd. Yn hytrach, rhowch flaenoriaeth i gael noson dda o gwsg yn y lle cyntaf.

  • Ewch â’r sgriniau allan o’r ystafelloedd gwely a rhowch gorau i weithgareddau hynod ysgogol ar sgrin, fel gemau fideo, cyfryngau cymdeithasol a theledu o leiaf awr cyn mynd i’r gwely. Mae golau glas sgriniau yn lleihau ein hormonau cysgu ac yn arwain at broblemau mynd i gysgu.

  • Sefydlwch drefn dda ar gyfer amser gwely gan fynd â phlant iau i’w gwely tua’r un adeg bob nos pan fyddan nhw’n teimlo’n gysglyd, ond dal yn effro. Mae 30 munud o gerddoriaeth ymlaciol, gyda stori neu fath ymlaen llaw yn arbennig o fuddiol.
  • Osgowch gaffein neu ddiodydd pop gyda’r nos.

Mae plant yn dysgu drwy esiampl, gan gynnwys sut maen nhw'n gweld eu rhieni a gofalwyr yn defnyddio sgriniau. Mae’n golygu bod yn rhaid i ymdrechion i reoli amser o flaen sgrin yn well gynnwys y teulu cyfan.

Gall rheolau i bawb eu dilyn wneud pethau’n haws. Mae Family Media Plan (Saesneg yn unig) Academi Paediatregwyr America yn ffordd ddefnyddiol o sefydlu arferion da, yn hytrach na cheisio datrys pethau yng ngwres y funud.

Gall cynllun helpu pawb i gytuno ar:

  • ble a phryd i ddefnyddio ffonau (er enghraifft, ddim amser prydau bwyd neu yn yr ystafell wely)
  • faint o gwsg maen nhw ei angen
  • pa gyfryngau maen nhw’n eu gwylio
  • pa weithgareddau all-lein maen nhw’n eu gwneud.

Mae plant iau yn tueddu i fod angen llai o esboniad ac yn aml yn ymateb i ganllaw pendant ond teg ynglŷn â’r hyn maen nhw’n cael ei wneud. Gall sicrhau arferion da pan fyddan nhw’n ifanc, er enghraifft, mwynhau cyfnod byr ar dabled sydd wedyn yn dod i ben, wneud pethau’n haws yn nes ymlaen.

Gyda phobl ifanc yn eu harddegau, mae'n rhaid i chi gynnig rhesymau dros newid eu hymddygiad. Os byddwch chi ddim ond yn dweud wrthyn nhw am y risgiau neu’r pryderon, gallan nhw eich anwybyddu.

Dywedwch yn glir eich bod nid yn unig eisiau iddyn nhw fod yn hapus heddiw, ond i fyw bywyd hapus. Hyd yn oed petaent yn llwyddiannus wrth ddefnyddio YouTube neu gemau ar-lein, byddai sicrhau cydbwysedd yn eu bywyd yn beth iach. 


Mae bob amser yn syniad da siarad am amser o flaen sgrin yn y teulu. Felly, beth am ddechrau gyda chwestiynau fel:

  • wyt ti’n teimlo mod i’n defnyddio fy ffôn neu’r cyfryngau cymdeithasol ormod?
  • wyt ti’n adnabod rhywun sy’n gwneud arian o’u gweithgareddau ar-lein?
  • wyt ti’n credu bod apiau a gemau wedi’u dylunio i wneud pobl fynd yn gaeth iddynt? Yn wir, ydyn nhw?
  • pwy sy’n treulio’r mwyaf o amser ar ei ffôn yn y teulu?
  • wyt ti’n meddwl y dylwn i ddechrau sianel YouTube?