English

Mae’r rhyngrwyd yn rhoi cyfle i’ch plentyn archwilio, cael ei ddiddanu, bod yn greadigol, cyfathrebu a dysgu. Fodd bynnag, yn union ag y byddai’n digwydd yn y byd all-lein, bydd eich plant yn wynebu risgiau yn y byd ar-lein. Bydd y canllaw hwn yn edrych ar sut mae hawliau plant yn berthnasol ar-lein, y deddfau sy’n bodoli i’w hamddiffyn rhag camdriniaeth a niwed, a sut gallwch chi helpu eich plentyn i arfer yr hawliau hynny a chadw’n ddiogel.

Mae gan bawb yn y DU yr hawl i gael set o hawliau a rhyddid sylfaenol, ac mae gan bob plentyn hawliau ychwanegol o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). Mae’r rhain yn amlinellu’r hyn sydd ei angen ar bob plentyn i dyfu’n hapus, yn iach ac yn ddiogel. Er enghraifft, mae’r CCUHP yn datgan bod gan bob plentyn hawl i breifatrwydd (Erthygl 16), yr hawl i gael gofal a chael ei gadw’n ddiogel (Erthygl 19), a’r hawl i gael ei amddiffyn rhag gwneud pethau a allai ei niweidio (Erthygl 36). Mae’r holl hawliau hyn a amlinellir yn y CCUHP yn berthnasol i’ch plentyn pan fydd ar-lein hefyd. Mae pawb sy’n gyfrifol am ofalu am blant hefyd yn gyfrifol am gynnal hawliau plant, ar-lein ac all-lein.

Mae sawl deddf yng Nghymru ac yn y DU sy’n berthnasol i ymddygiad ar-lein, gan gynnwys deddfau sy’n ymwneud ag aflonyddu, cyfathrebu maleisus, creu a rhannu delweddau anweddus o blant, cynnwys anghyfreithlon ac iaith casineb. Mae’r canllaw hwn gan yr NSPCC (Saesneg yn unig) yn rhoi trosolwg byr o rai deddfau sy’n ymwneud ag ymddygiad ar-lein.

O 2 Medi 2021 ymlaen, mae’r Cod Plant (Saesneg yn unig) yn mynnu bod gwasanaethau a chynnyrch ar-lein fel apiau, gemau, gwefannau a safleoedd cyfryngau cymdeithasol sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant, yn cael eu dylunio gyda nhw mewn golwg i’w helpu i beidio â chael niwed ar-lein sy’n gysylltiedig â phrosesu eu data.

Yn 2021, cyflwynodd Llywodraeth y DU fersiwn ddrafft o’r Bil Diogelwch Ar-lein (Saesneg yn unig) gyda’r bwriad o gyflwyno deddfau a fydd yn:

  • diogelu plant ac oedolion rhag cynnwys niweidiol
  • atal cynnwys anghyfreithiol rhag cael ei ledaenu

Mae Ofcom wedi cael ei benodi’n rheoleiddiwr y DU.

Mae gan eich plentyn yr hawl i fod yn saff a diogel ar-lein. Er bod gwasanaethau ar-lein, llywodraethau ac ysgolion yn gyfrifol am hyn hefyd, rydych chi’n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gadw eich plentyn yn ddiogel. Mae Erthygl 5 y CCUHP yn amlinellu pa mor bwysig yw bod rhieni/gofalwyr yn helpu eu plant i ddeall ac i arfer eu hawliau.

Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu eich plentyn i fod yn ddiogel ar-lein.

Siarad yn rheolaidd am ddiogelwch ar-lein

Gyda’ch plentyn, trafodwch y risgiau posibl o fod ar-lein a beth y gall ei wneud i gadw ei hun (ac eraill) yn ddiogel rhag niwed. Treuliwch amser yn edrych ar yr wybodaeth yn ‘Cadw’n ddiogel ar-lein’. Mae llawer o ganllawiau ac adnoddau i’ch helpu i wybod sut mae dechrau sgwrs gyda’ch plentyn.

Trafod eu hawliau

Mae’n bwysig bod eich plentyn yn gwybod beth yw ei hawliau. Mae treulio amser yn trafod y rhain gyda phlant yn eu galluogi i sylweddoli pan na fydd eu hawliau’n cael eu cynnal. Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi cyhoeddi set o adnoddau i’ch helpu chi a’ch plentyn i ddeall ei hawliau.

Annog cyfranogiad

Anogwch eich plentyn i gymryd cyfrifoldeb lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Efallai y bydd gan ysgol eich plentyn gynlluniau y gallai gymryd rhan ynddyn nhw, er enghraifft gallai fod yn fentor cyfoedion neu’n llysgennad pobl ifanc sy’n gallu helpu a chefnogi plant eraill ar-lein.

Gwybod ble mae cael cymorth, cefnogaeth a chyngor

Cymerwch amser i edrych gyda’ch plentyn i weld ymhle mae cael cymorth a chefnogaeth os nad yw ei hawliau’n cael eu cynnal ar-lein. Er enghraifft, gallech chi ddangos iddo sut mae defnyddio offer adrodd ar wasanaethau ar-lein fel cyfryngau cymdeithasol a chysylltu â sefydliadau sy’n gallu rhoi rhagor o gyngor. Mae gwybodaeth am wasanaethau adrodd arbenigol ar gael ar Hwb.

Os oes gennych chi bryderon am ddiogelwch neu les eich plentyn ar-lein, dylech chi bob amser ofyn am gyngor a chymorth. Gallai hyn fod gan yr ysgol, eich meddyg teulu, neu sefydliad sy’n cynnig cefnogaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae llawer o wybodaeth ar gael ar-lein hefyd ar safleoedd fel:

Atgoffwch eich plentyn y gall hefyd gysylltu â Meic, sy’n cynnig eiriolaeth a chyngor am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Gallwch chi ffonio Meic am ddim ar 080880 23456, anfon neges destun at 84001 neu siarad â rhywun ar-lein yn www.meiccymru.org/cym. Mae’r gwasanaeth ar agor o 8 y bore tan hanner nos, 7 diwrnod o'r wythnos.

Os ydych chi’n teimlo bod plentyn yn cael ei drin yn annheg ac nad yw ei hawliau’n cael eu cynnal ar-lein neu all-lein, yna gallwch chi neu’r plentyn gysylltu â gwasanaeth Ymchwiliadau a Chynghori Comisiynydd Plant Cymru.

Efallai y bydd y canlynol yn ddefnyddiol i chi ar gyfer deall a thrafod hawliau eich plentyn ar-lein.