English

Gall mentrau ysgol-gyfan/coleg-cyfan dan arweiniad plant a phobl ifanc, neu 'fentoriaid cyfoedion', fod yn arbennig o effeithiol o ran diogelwch ar-lein.

Drwy harneisio deallusrwydd dysgwyr am y materion y mae plant a phobl ifanc yn dod ar eu traws ar-lein, gall mentoriaid cyfoedion fodelu ymddygiad cadarnhaol ar-lein, gan roi gwybodaeth i’w cyfoedion am dueddiadau a materion ar-lein, a chodi ymwybyddiaeth o sut i adennill hyder ar ôl anawsterau ar-lein.

Mae'r canllaw hwn yn egluro'r hyn y mae mentor cymheiriaid yn ei wneud, y manteision, a sut i weithredu cynllun mentora cyfoedion yn llwyddiannus.


Mae cynlluniau mentora cyfoedion yn cynnig nifer o fanteision i'r ysgol/coleg a'r dysgwyr sy'n gweithredu fel mentoriaid cyfoedion. I ddysgwyr, mae'n gyfle i fagu hyder, datblygu ymdeimlad o gyfrifoldeb a chaffael sgiliau gwrando, empathi a chyfathrebu gweithredol.

Yn aml, mae gan fentoriaid cymheiriaid fwy yn gyffredin â dysgwyr sydd angen help nag oedolion. Oherwydd hyn, mae dysgwr sydd wedi cael ei fwlio yn aml yn teimlo ei bod hi'n ddefnyddiol siarad ag un o’i gyfoedion, ac mae’n fwy tebygol o wrando arno/arni nag oedolyn. Yn y modd hwn, gall cynlluniau mentora cymheiriaid ddylanwadu ar ymddygiad i greu newid cadarnhaol yn niwylliant yr ysgol/coleg.


O ran diogelwch ar-lein, gall rôl mentor cyfoedion gynnwys:

  • rhoi rhywun o'r un oedran â nhw eu hunain i ddysgwyr siarad gyda nhw am broblemau maen nhw'n eu cael ar-lein
  • adrodd yn ôl am ddigwyddiadau o fwlio ar-lein neu faterion eraill i aelodau o staff
  • deall y materion sy'n bodoli ymhlith eu cyfoedion mewn perthynas â'r byd ar-lein
  • gweithio gyda dysgwyr a chefnogi dysgwyr sydd wedi cael problemau â phethau fel bwlio ar-lein
  • helpu i adolygu polisïau a gweithdrefnau o ran diogelwch ar-lein
  • cynnal gweithgareddau ac ymgyrchoedd sy'n addysgu dysgwyr, staff a rhieni/gofalwyr am ddiogelwch ar-lein a hyrwyddo ymddygiad ac agweddau cadarnhaol ar-lein
  • addysgu dysgwyr a rhieni/gofalwyr am yr hyn y mae modd iddyn nhw ei wneud os ydyn nhw a/neu eu plentyn yn cael trafferth â mater ar-lein
  • meithrin diwylliant ysgol/coleg sy'n rhoi pwyslais parhaus cryf ar ddiogelwch a sgiliau ar-lein.

  • Cofiwch am lais y bobl ifanc. Gallwch gynnal ymgynghoriadau gyda grwpiau o ddysgwyr i helpu i gynllunio rhaglen hyfforddi effeithiol y gellir ei gweithredu wedyn ar gyfer mentoriaid cyfoedion. Ar ôl pob rhaglen hyfforddi, cynnal gwerthusiad o'r hyfforddiant i nodi unrhyw faes sydd angen ei wella. 
  • Cymerwch ymagwedd ysgol-gyfan/coleg-cyfan. Dylech gynnwys pawb yng nghymuned yr ysgol/coleg wrth hyrwyddo diogelwch ar-lein. Mae hyn yn golygu ymgorffori egwyddorion diogelwch ar-lein yn y cwricwlwm, gan gynnwys eich mentoriaid cyfoedion mewn gwasanaethau, a sicrhau bod pawb yn y gymuned yn deall yn glir beth yw polisïau diogelwch ar-lein a gwrth-fwlio eich ysgol/coleg.
  • Sicrhewch amrywiaeth. Mae'n bwysig i ddysgwyr allu adnabod pobl sy'n debyg iddyn nhw yn eich tîm mentora cyfoedion. Sicrhewch bod eich cefnogwyr cymheiriaid yn gynrychioliadol o boblogaeth yr ysgol/coleg ac ystyriwch gynnwys gwahanol oedrannau a grwpiau cyfeillgarwch. O ran mentrau diogelwch ar-lein, mae'n ddefnyddiol cynnwys plant a phobl ifanc sydd ag amrywiaeth o brofiadau, cadarnhaol a negyddol, yn y byd ar-lein.
  • Cadwch rolau yn glir. Sicrhewch fod eich mentoriaid cyfoedion yn hyderus o ran eu cyfrifoldebau, gan gynnwys pryd bydd angen iddyn nhw ymgynghori ag aelod o staff. Eglurwch sut dylen nhw ymdrin â sefyllfaoedd a allai gynnwys oblygiadau diogelu, a sicrhewch eu bod nhw’n gwybod na ddylen nhw byth addo cadw rhywbeth yn gyfrinachol o ran datgeliadau.
  • Penodwch aelod o staff i arwain. Gall cefnogaeth aelod penodol o staff helpu i roi dechrau da i gynllun mentora cyfoedion; rhywun sy'n gallu trefnu amseroedd cyfarfod, archebu ystafelloedd cyfarfod a chynnig cefnogaeth gyffredinol i'r tîm mentora cyfoedion. Mae'n bosibl y bydd aelodau staff arweiniol yn ei gweld hi'n fuddiol rhoi rolau yn y tîm i wneud y cynllun yn fwy cynaliadwy yn y tymor hirach.
  • Codwch ymwybyddiaeth ar-lein. Er mwyn i'r plant a'r bobl ifanc sy'n fentoriaid allu perchenogi'r cynllun, ystyriwch ganiatáu iddyn nhw gael mynediad at y byd ar-lein i hyrwyddo eu gwaith. Sefydlwch gyfrifon cyfryngau cymdeithasol sydd ynghlwm wrth yr ysgol/coleg y gall y mentoriaid eu defnyddio i hysbysebu negeseuon allweddol ac ymwybyddiaeth o'u rolau, ond peidiwch ag anghofio trefnu bod aelod o staff yn monitro a rheoli eu defnydd. 
  • Defnyddiwch adnoddau. Mae llawer o adnoddau am ddim ar gael ar-lein a all helpu eich tîm i ddatblygu ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a gweithgareddau rhwng cyfoedion ar ddiogelwch ar-lein. Mae Cadw'n ddiogel ar-lein yn un enghraifft.
  • Gwerthuswch y cynnydd. Dylai mentoriaid cyfoedion adrodd yn rheolaidd i staff yr ysgol/coleg am y mathau o gymorth a ddarparwyd ganddyn nhw ac effaith a chyrhaeddiad eu gweithgareddau. Gofynnwch i ddysgwyr yn uniongyrchol beth maen nhw'n ei feddwl o'r cynllun cefnogi cyfoedion. Parhewch i wirio a gofyn i chi eich hun 'sut ydyn ni'n gwybod a yw hyn yn llwyddiannus?’ Gall adolygiadau rheolaidd o gynnydd eich tîm helpu i benderfynu ar gyfeiriad y cynllun yn y dyfodol.