Trosolwg strategol o wasanaethau digidol ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru
Trosolwg
Ers 2012, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu mynediad at ystod eang o seilwaith, gwasanaethau ac adnoddau digidol i ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu dull cenedlaethol o ymdrin â gwasanaethau digidol, gan alluogi ysgolion a gynhelir yng Nghymru i fanteisio i’r eithaf yn gyson ar y manteision trawsnewidiol y gall adnoddau digidol a thechnoleg eu rhoi i addysg.
Drwy raglen Hwb, rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau digidol a fydd yn galluogi ac yn ysbrydoli ein hymarferwyr a’n hathrawon a'n dysgwyr i ymgorffori arferion digidol yn hyderus, tra'n datblygu diwylliant, cymwyseddau, sgiliau a gwybodaeth ddigidol i ategu’r Cwricwlwm i Gymru.
Rydym yn herio ac newid y tirlun digidol mewn ysgolion, gan ddatblygu dull cwbl gynaliadwy, safonol a chyson gyda digidol yn cael ei weld fel y 'pedwerydd cyfleustod'.
Mae rhaglen Hwb yn seiliedig ar gyfres o egwyddorion arweiniol strategol sy'n rhoi ein hymarferwyr a'n dysgwyr wrth galon popeth a wnawn, i ddarparu atebion digidol uchelgeisiol a theg sy'n arwain y byd ac sy'n cael eu gwneud ar gyfer Cymru.
Nodau strategol hirdymor y rhaglen hon yw galluogi dull 'Unwaith i Gymru' a fydd yn:
- cefnogi ysgolion i gyflwyno ein Cwricwlwm i Gymru sy'n arwain y byd
- manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae digidol yn eu cynnig i leihau biwrocratiaeth ddiangen er mwyn cefnogi arweinwyr ysgolion a lleihau'r baich ar ein gweithlu
- gweithio gydag awdurdodau lleol i drawsnewid amgylcheddau dysgu, cyfrannu at ddatblygu ysgolion carbon sero-net a gwella cyfleusterau ysgolion ar gyfer cymunedau lleol
Mae rhaglen Hwb hefyd yn cyd-fynd â Strategaeth Ddigidol Cymru, gan gyfrannu'n benodol at:
- datblygu dull clir ar gyfer fframwaith sgiliau a hyder digidol sy'n gwbl gynhwysol ac sy'n adeiladu ar fentrau sy'n bodoli eisoes o addysg i'r gweithle
- parhau i ddarparu cymorth sy'n cyfoethogi digidol wrth ddarparu dysgu a nodi cyfleoedd i wneud mwy.
Mae'r trosolwg canlynol yn amlinellu'r dull trosfwaol o ddarparu gwasanaethau digidol sy'n cefnogi'r gwaith o gyflawni ein nodau strategol hirdymor.
Gweledigaeth ac arweinyddiaeth glir
Byddwn yn datblygu ac yn gweithredu dull strategol a chynaliadwy o ymgorffori gwasanaethau digidol ym mhob ysgol a gynhelir yng Nghymru. Byddwn yn:
- cydnabod ac yn deall sut y gall blaenoriaethau addysg elwa ar raglenni gwaith trawslywodraethol drwy grŵp arwain sector
- codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd adnoddau digidol a thechnoleg wrth drawsnewid yr arferion dosbarth sy'n sail i’r Cwricwlwm i Gymru
- gweithio gydag awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol i fynd ati’n barhaus i godi ymwybyddiaeth a datblygu dealltwriaeth ysgolion o adnoddau digidol, technoleg a chysylltedd fel y 'pedwerydd cyfleustod'
- datblygu rhaglen drylwyr o newid digidol er mwyn ymateb i’r heriau y mae ein hysgolion yn eu hwynebu nawr ac y byddant yn eu hwynebu yn y dyfodol
- cydnabod pwysigrwydd sganio'r gorwel ac esblygiad technoleg ar draws y sector technoleg addysg, gan fynd ati’n rhagweithiol ar lefel genedlaethol i fanteisio ar gyfleoedd newydd
- rheoli cysylltiadau strategol a hyrwyddo digidol ar draws polisi addysg Llywodraeth Cymru a chydag agweddau eraill ar addysg yng Nghymru h.y. sefydliadau addysg bellach ac uwch
- hyrwyddo, cefnogi ac ysgogi cydweithio ar draws Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol (timau addysg a TG) a chonsortia addysg rhanbarthol yng Nghymru
Datblygu partneriaethau strategol i sicrhau llwybrau caffael effeithiol a gwerth am arian
Byddwn yn darparu llwybr syml a chydymffurfiol at y farchnad i ysgolion yng Nghymru er mwyn prynu’r cyfarpar a’r gwasanaethau priodol am y pris mwyaf cost-effeithiol. Byddwn yn:
- sicrhau bod ein cydberthnasau strategol â chyflenwyr allweddol yn y sector yn cael yr effaith fwyaf bosibl er budd pob ysgol a gynhelir yng Nghymru
- parhau i wella ac esblygu'r gwasanaeth caffael cenedlaethol ar gyfer cyfarpar a gwasanaethau technoleg addysg
- nodi cyfleoedd i gynnwys adnoddau a gwasanaethau arloesol er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth caffael technoleg addysg yn parhau i fod yn berthnasol i anghenion y sector
- gwneud y mwyaf o gyfleoedd caffael cenedlaethol er mwyn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd buddsoddi a chyflawni arbedion maint cenedlaethol
Gweithredu a datblygu seilwaith digidol sy'n gydnaws â safonau digidol y cytunwyd arnynt
Byddwn yn sicrhau bod seilwaith cenedlaethol addas ar waith er mwyn cefnogi anghenion ysgolion yn gyson wrth fanteisio ar wasanaethau digidol a’u defnyddio. Byddwn yn:
- gweithio mewn partneriaeth â thîm Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus i sicrhau bod y cysylltedd cyflym i ysgolion Cymru yn sefydlog, yn perfformio ac yn esblygu i ddiwallu anghenion ac uchelgeisiau digidol cynyddol ysgolion
- defnyddio ein gwasanaeth hunaniaeth cenedlaethol i barhau i ddatblygu cwmwl Hwb cydymffurfiol, sy'n sicrhau integreiddio di-dor a mynediad at wasanaethau addysg priodol fel dewis amgen i ddarparu seilwaith lleol;
- cydweithio ag awdurdodau lleol i sicrhau bod y seilwaith digidol yn bodloni anghenion ysgolion, heb fod angen iddynt wneud dim mwy na’i droi ymlaen
- datblygu ymhellach ganllawiau a safonau digidol addysg, gan sicrhau bod y seilwaith digidol yn datblygu yn unol ag anghenion ysgolion a’r safonau technegol cyfredol
- gweithio gyda’r awdurdodau lleol i fanteisio i'r eithaf ar seilwaith addysg cenedlaethol gan gyflwyno ffyrdd mwy effeithlon ac effeithiol o weithio
Cefnogi’r trawsnewid digidol mewn perthynas ag addysg drwy ddarparu gwasanaethau a chynnwys digidol dwyieithog
I gefnogi ysgolion i gyflwyno cenhadaeth ein cenedl yn ddigidol, byddwn yn:
- sicrhau bod gan bob ysgol a gynhelir yng Nghymru fynediad cyson a chyfartal at ystod eang o wasanaethau a chynnwys trawsnewidiol dwyieithog a ariennir yn ganolog
- nodi gwasanaethau y gall ysgolion eu rhannu er mwyn cael gwared ar gymhlethdod a chostau o gyllidebau ysgolion, neu gynnig ffyrdd mwy effeithlon o weithio
- annog y proffesiwn addysgu i gydweithio i ddatblygu cynnwys digidol y gellir ei rannu drwy blatfform Hwb
- gweithio gyda'r sector i ddarparu a moderneiddio gwasanaethau fel eu bod wedi'u cynllunio o amgylch anghenion defnyddwyr a'u bod yn syml, yn ddiogel ac yn gyfleus
- thrwy fynediad at wasanaethau digidol ar unrhyw adeg, yn unrhyw le, nodi cyfleoedd i helpu i leihau cost y diwrnod ysgol ac effaith tlodi ar gyrhaeddiad
Gwella cadernid digidol mewn addysg
Mae diogelu ein dysgwyr a’n lleoliadau addysg yn effeithiol yn hollbwysig. Byddwn yn:
Mae diogelu ein dysgwyr a’n lleoliadau addysg yn effeithiol yn hollbwysig. Byddwn yn:
- darparu cynllun gweithredu cenedlaethol i wella cadernid digidol a diogelu plant a phobl ifanc ar-lein
- darparu gwybodaeth, adnoddau, gwasanaethau, hyfforddiant a chyfeiriadau amserol at ffynonellau arbenigedd eraill i gefnogi'r gwaith o ddarparu addysg cadernid digidol yn y Cwricwlwm i Gymru
- cydweithio ag arbenigwyr y diwydiant, adrannau Llywodraeth y DU ac Ofcom i lywio'r gwaith o ddatblygu polisi a rheoleiddio, megis y Ddeddf Diogelwch Arlein
- darparu gweithgareddau cydgysylltiedig a’i gwneud yn bosibl rhannu gwasanaethau er mwyn helpu ysgolion i gyflawni eu rhwymedigaethau diogelu a seiberddiogelwch
- codi ymwybyddiaeth o gadernid digidol drwy weithgareddau cyfathrebu a hyrwyddo er mwyn cyrraedd cynulleidfa eang ac atgyfnerthu pwysigrwydd defnyddio digidol yn ddiogel ac yn gyfrifol
- rhoi’r lle canolog i ddiogelwch wrth gynllunio gwasanaethau digidol, gan sicrhau bod y gwasanaethau’n briodol o ran oedran ac yn cydymffurfio â rheoliadau perthnasol y DU, yn benodol GDPR
Gwella gallu a sgiliau digidol
Mae gallu a sgiliau digidol gwell yn hanfodol er mwyn manteisio'n llawn ar y gwasanaethau digidol a thechnoleg addysg sydd ar gael ar gyfer addysgu a dysgu. Byddwn yn:
- cydweithio ag ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol i gefnogi esblygiad y Daith Dysgu Proffesiynol Digidol ac yn sicrhau bod gallu a sgiliau digidol yn rhan annatod o ddatblygiad proffesiynol y gweithlu
- darparu ystod o weithgareddau ymgysylltu a chymorth ar draws y sector er mwyn mabwysiadu’n llawn y broses o drawsnewid ysgolion yn ddigidol, i sicrhau bod gan ein hysgolion yr adnoddau i weithredu’r Cwricwlwm i Gymru
- gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, consortia addysg rhanbarthol a phartneriaid cyflawni strategol i helpu arweinwyr i nodi a rhannu arferion gorau er mwyn cefnogi'r gwaith o drawsnewid dysgu ac addysgu digidol