Trefniadau cydweithio
Mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Phartneriaid Gwella Ysgolion wedi ymrwymo i weithio gyda'i gilydd ar ddull cenedlaethol dan arweiniad y sector i sicrhau bod mentrau EdTech yn cael yr effaith fwyaf bosibl a hwyluso’r broses o fabwysiadu a defnyddio gwasanaethau Hwb yn effeithiol. Mae'r dull hwn yn galluogi ysgolion a gynhelir yng Nghymru i wneud y gorau o'r manteision trawsnewidiol y gall adnoddau digidol a thechnoleg eu cynnig i fyd addysg, gan gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru.
Mae dau grŵp allweddol sy'n goruchwylio ac yn cefnogi rhaglen Hwb i gyflawni ei nodau.
Dysgu Digidol Cymru (DDC)
Mae Dysgu Digidol Cymru yn is-grŵp o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (CCAC). Mae'r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr strategol o Lywodraeth Cymru, pob awdurdod lleol, Phartneriaid Gwella Ysgolion, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Estyn.
Mae'r grŵp yn cyfarfod bob tymor ac yn gyfrifol am:
- bennu'r weledigaeth strategol ar gyfer gwasanaethau addysg ddigidol yng Nghymru
- sicrhau bod rhaglen Hwb yn rhoi seilwaith digidol i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru
- sicrhau bod barn yr holl awdurdodau lleol a’r Partneriaid Gwella Ysgolion yn cael ei ystyried o ran y gwasanaethau digidol sydd ar gael drwy Hwb
- cymeradwyo argymhellion strategol y Grŵp Safoni Technegol
Y Grŵp Safoni Technegol (GST)
Mae'r Grŵp Safoni Technegol (GST) yn grŵp o arbenigwyr technegol, o bob awdurdod lleol yng Nghymru. Nod y grŵp yw cefnogi darpariaeth dechnegol Rhaglen Hwb.
Mae'r GST yn cyfarfod bob tymor i drafod a rhoi diweddariadau i'r grŵp yn unol â'u cyfrifoldebau. Mae’r grŵp yn gyrru’r gwaith o greu, goruchwylio a darparu gwasanaethau technegol ar Hwb. Mae hyn yn cyfrannu at fapio datblygiad a llunio manylebau ar gyfer gwasanaethau newydd a’r rhai presennol. Mae hyn yn hyrwyddo dull safonol ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion ledled Cymru.
Datblygwyd Safonau a Chanllawiau Digidol Addysg gan y GST. Maent yn cynorthwyo i roi profiad technegol safonol a chyson i ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae cytuno ar fframwaith technegol cyffredin yn rhoi arweiniad i ysgolion wrth iddynt ddatblygu eu hamgylcheddau digidol.
Mae'r grŵp yn hyrwyddo dull 'Unwaith dros Gymru' o gaffael technoleg addysg. Maent yn cytuno ar y cynnyrch a'r gwasanaethau a roddir trwy fecanwaith caffael cenedlaethol. Mae hyn yn sicrhau bod y cynnyrch a’r gwasanaethau sydd ar gael yn addas. Mae'n cefnogi mynediad teg i awdurdodau lleol ac ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi budd ariannol a chynaliadwyedd o ran offer a gwasanaethau.
Aelodaeth a manylion cyswllt
Sefydliad | Cynrychiolydd Dysgu Digidol Cymru | E-bost |
Pen-y-bont ar Ogwr | Mathew Jones | |
Blaenau Gwent | Joanne Watts | |
Caerffili | Paul Warren | |
Caerdydd | Richard Portas | |
Sir Gâr | Matthew Jenkins | |
Ceredigion | Kay Morris | |
Conwy | John Paul Jones | |
Sir Dinbych | James Brown | |
Sir y Fflint | Vicky Barlow | |
Gwynedd | Huw Ynyr | |
Ynys Môn | Owen Davies | |
Merthyr Tudful | Andrea May | |
Sir Fynwy | Sian Hayward | |
Castell-nedd Port Talbot | Chris Owen Darren Long | |
Casnewydd | Karyn Keane | |
Sir Benfro | Huw Benbow | |
Powys | Eurig Towns | |
Rhondda Cynon Taf | Tim Britton | |
Abertawe | Ian Meredith | |
Torfaen | Andy Rothwell | |
Bro Morgannwg | Trevor Baker - Cadeirydd | |
Wrecsam | Simon Billington | |
Consortiwm Canolbarth y De (CSC) | Sarah Summers | |
Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS) | Sean Powell | |
Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru (GwE) | Gwion Clarke | |
Partneriaeth | Adrian Smith | |
Partneriaid Addysg Canolbarth Cymru (MWP) | Rob Walters Kay Morris | |
Llywodraeth Cymru | Mike Jones | |
Llywodraeth Cymru | Deborah Sargent |