Amdanom ni
Hwb yw'r platfform digidol ar gyfer dysgu ac addysgu yng Nghymru. Mae Hwb yn galluogi ei ddefnyddwyr i fanteisio ar amrywiaeth o offer ac adnoddau digidol, dwyieithog a ariennir yn ganolog. Dyma sianel ddigidol strategol Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o ddarparu’r cwricwlwm yng Nghymru. Mae Hwb yn darparu mynediad i:
- Cwricwlwm i Gymru 2022
- Cwricwlwm i Gymru 2008
- gwybodaeth dysgu proffesiynol
- miloedd o adnoddau dwyieithog
- gwybodaeth am ddiogelwch ar-lein.
Mae mynediad i'n hadnoddau dysgu ac addysgu ar gael i bawb.
Yn ogystal, mae gan ddefnyddwyr Hwb (defnyddwyr sydd â chyfrif i’r platfform) fynediad i:
- amrywiaeth o ddulliau a ariennir yn ganolog i helpu ymarferwyr addysg i greu a rhannu eu hadnoddau a'u haseiniadau eu hunain
- amgylchedd rhwydweithio proffesiynol
- Google for Education
- Microsoft Office 365
Mae cyfrif Hwb ar gael i bob athro a dysgwr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae gan bob ysgol a gynhelir fynediad at fanylion mewngofnodi.
I gael rhagor o wybodaeth am offer Hwb, help i ddefnyddio'r safle neu unrhyw ymholiadau eraill, ewch i'n Canolfan Cymorth.
Rhaglen Hwb: trosolwg strategol o wasanaethau digidol ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru