English

Nod Gŵyl Digi Hwb yw meithrin cydweithredu, arloesi a rhannu gwybodaeth mewn dysgu ac addysgu digidol. Bydd y diwrnod yn gyfle i ymarferwyr ddysgu mwy am yr arlwy o offer ac adnoddau digidol sydd ar gael drwy Hwb. Drwy gydol y diwrnod, bydd ein partneriaid, gan gynnwys Adobe, Apple, Britannica, Common Sense Education, Flip, Google, Just2easy, Microsoft, Minecraft a Technocamps yn darparu sesiynau llawn gwybodaeth ar sut y mae modd defnyddio eu hoffer a'u hadnoddau yn yr ysgol i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru.

Ymgysylltu ag ymarferwyr arweiniol

Cyfle i gysylltu ag arbenigwyr ym maes technoleg addysg, gan gael syniadau a strategaethau ymarferol i wella’ch arferion addysgu digidol.

Profiad dysgu wedi'i deilwra

Teilwra’ch profiad drwy ddewis o blith rhestr gynhwysfawr o sesiynau sy'n rhoi sylw i wahanol agweddau ar ddysgu digidol. P'un a ydych chi'n ymarferydd profiadol neu'n dechrau ar eich taith ddigidol, mae rhywbeth at ddant pawb.

Grymuso cymuned eich ysgol

Sicrhau bod gennych chi'r offer a'r wybodaeth i arwain trawsnewid digidol yn eich ysgol a'ch ystafell ddosbarth. Drwy sicrhau bod pob aelod o staff yn gallu manteisio ar y cyfle dysgu amhrisiadwy hwn, gallwch chi sbarduno newid cadarnhaol a gwella dysgu digidol yn eich ysgol.

Pryd a ble?

Bydd Hwb DigiFest yn cael ei chynnal yn rhithiol trwy Microsoft Teams ddydd Llun 2 Medi 2024 rhwng 9:30am a 2:30pm.

Bachwch ar y cyfle i fod yn rhan o'r digwyddiad hwn sydd â'r nod o fanteisio ar botensial technolegau digidol mewn addysg. 

Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle yng Ngŵyl Digi Hwb 2024 a mynd â'ch sgiliau addysgu digidol i'r lefel nesaf!

Noder: Mae angen i ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n bwriadu ymuno â DigiFest Hwb gofrestru fel unigolion. Rydyn ni'n deall y gall ymarferwyr ymuno â DigiFest Hwb drwy fewngofnodi ar un ddyfais a gwylio gyda'i gilydd ar sgrin fawr. Fodd bynnag, rydyn ni'n dal i ofyn i bob un lenwi'r ffurflen gofrestru.

Gallwch chi ymuno am y diwrnod cyfan neu ddewis y sesiynau sy'n diwallu anghenion eich ysgol. Gall ymarferwyr ymuno fel adran neu ysgol, ond mae ganddyn nhw ryddid hefyd i ymuno â sesiynau fel unigolion i ddiwallu eu hanghenion dysgu proffesiynol eu hunain. Bydd sesiynau newydd yn cael eu hychwanegu pan fyddant ar gael. 

  • Logo Google

    Dechrau arni: cyflwyniad i Google for Education Workspace

    (30 munud)

    Mae'r weminar hon yn rhoi trosolwg o Google for Education Workspace. Yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr neu unrhyw un sydd angen atgoffau eu hunain o nodweddion a swyddogaethau sylfaenol y rhaglen.

    Logo Microsoft

    Gair i gall: Microsoft Outlook

    (20 munud)

    Y 10 nodwedd orau i helpu i wella cynhyrchiant gan ddefnyddio Outlook. 

    Logo Apple

    Rheoli'r dosbarth gydag Apple Classroom a Hwb (Saesneg)

    (30 munud)

    Mae Apple Classroom yn offeryn pwerus rhad ac am ddim sy'n caniatáu i athrawon sbarduno dysgu, rhoi ffocws i sylw dysgwyr a chyflwyno asesiad ystyrlon. Mae'r sesiwn hon yn eich tywys drwy'r nodweddion craidd.

    Logo Adobe

    Addysgwyr Creadigol Adobe Lefel 1 (Saesneg)

    (90 munud)

    Mae'r sesiwn hon yn gam cyntaf perffaith i wneud y gorau o'ch cyfrifon Hwb i wella dysgu ac addysgu, gyda ffocws ar greadigrwydd gan ddefnyddio Adobe Express. Mae hwn yn gyfle gwych i sicrhau bod yr holl staff (staff addysgu a chymorth) wedi'u hardystio fel Addysgwyr Creadigol Adobe lefel 1.

    Logo Just2easy

    Paratoi ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd gyda Just2easy (Saesneg)

    (30 munud)

    Paratowch ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd a dysgwch sut i greu dosbarthiadau addysgu a theils lansio ('launchpad tiles'). Ewch i'r ‘library’ a rhannu adnoddau "Croeso’n ôl i'r ysgol" gyda dysgwyr.

    Logo Britannica

    Gwahaniaethu gyda Britannica (Saesneg)

    (45 munud)

    Bydd y sesiwn hon yn dangos sut i gyrchu a defnyddio Britannica School drwy Hwb, gyda ffocws penodol ar wahaniaethu. Yn y sesiwn hon, byddwn yn tynnu sylw at offer o fewn y platfform i gefnogi ystod o anghenion yn yr ystafell ddosbarth, fel; dysgwyr sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

    Logo Technocamps

    Arcêd MakeCode

    (60 munud)

    Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn gyflwyniad i Arcêd MakeCode, gan eich helpu chi i ddysgu cysyniadau rhaglennu hanfodol wrth greu gêm platfform fer. Erbyn diwedd y sesiwn, bydd gan ymarferwyr yr hyder a'r sgiliau i deilwra MakeCode Arcade ar gyfer eu hystafell ddosbarth, ac i helpu i adeiladu sylfeini rhaglennu, meddwl cyfrifiadurol a datblygu gemau yn eu dysgwyr.

    Logo Gadernid digidol mewn addysg

    Cadw'n ddiogel ar-lein: trosolwg o adnoddau (Saesneg)

    (60 munud)

    Bydd y Tîm Gwydnwch Digidol mewn Addysg yn eich tywys drwy'r ystod o adnoddau, cyngor ac arweiniad sydd ar gael drwy ardal Cadw'n ddiogel ar-lein Hwb i helpu i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein. 

    Logo Llwyodraeth Cymru

    Llywio fframwaith y Cwricwlwm i Gymru (Saesneg)

    (60 munud)

    Nod y sesiwn yw sicrhau bod cydweithwyr yn gallu canfod eu ffordd o amgylch tudalen Cwricwlwm i Gymru, a sut i ddod o hyd i'r deunyddiau ategol perthnasol ar gyfer cefnogi cyfarfodydd staff. Bydd yn gyfle i ymarferwyr ymgysylltu â deunyddiau ategol a grëwyd yn ddiweddar, y canllawiau Ymlaen â'r Daith a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac amrywiol ffyrdd y gall ysgolion gyfrannu at drafodaethau polisi ac adnoddau yn y dyfodol.

  • Logo Google

    Hybu sgiliau llythrennedd gyda Google for Education (Saesneg)

    (30 munud)

    Dysgwch am sut gall Google Education gefnogi sgiliau llythrennedd ar draws y cwricwlwm ar bob lefel.

    Logo Microsoft

    Hygyrchedd: creu ystafelloedd dosbarth cynhwysol

    (30 munud)

    Dysgwch sut i ddefnyddio offer Microsoft i helpu i fynd i'r afael â heriau hygyrchedd yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys Niwroamrywiaeth a rhwystrau iaith.

    Logo Apple

    Arbed amser athro gyda iPad

    (30 munud)

    Pob math o ffyrdd o arbed amser athrawon a lleddfu eu llwyth gwaith gan ddefnyddio'r iPad.

    Logo Just2easy

    Cefnogi llythrennedd gyda Just2easy

    (45 munud)

    Bydd y sesiwn hon yn arddangos pob math o wahanol offer i gefnogi sgiliau llythrennedd ar draws y cwricwlwm, gan gynnwys JIT, j2e5, adnoddau hygyrchedd a'r ‘library’.

    Logo Technocamps

    Arcêd MakeCode (Saesneg)  

    (60 munud)

    Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn gyflwyniad i Arcêd MakeCode e, gan eich helpu chi i ddysgu cysyniadau rhaglennu hanfodol wrth greu gêm platfform fer. Erbyn diwedd y sesiwn, bydd gan ymarferwyr yr hyder a'r sgiliau i deilwra MakeCode Arcade ar gyfer eu hystafell ddosbarth, ac i helpu i adeiladu sylfeini rhaglennu, meddwl cyfrifiadurol a datblygu gemau yn eu dysgwyr.

    Logo Common Sense Education

    Dinasyddiaeth ddigidol ar gyfer y blynyddoedd cynnar

    (30 munud)

    Dewch i ddarganfod gweithgareddau 15 munud ar gyfer y dysgwyr ieuengaf, i adeiladu cysyniadau craidd dinasyddiaeth ddigidol mewn ffordd sy'n briodol i'w hoedran.

    Logo Education Achievement Service

    Cyflwyniad i ddeallusrwydd artiffisial (AI) mewn Addysg

    (60 munud)

    Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn addysg a sut y bydd yn effeithio ar staff a dysgwyr mewn ysgolion a lleoliadau. Byddwn yn archwilio’r 7 egwyddor ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn addysg ac yn dechrau ystyried datblygu canllawiau ar gyfer eich ysgolion a’ch lleoliadau.

    Logo Hwb

    Holi Hwb

    (45 munud)

    Mae'r sesiwn hon yn cynnig cyfle i siarad yn uniongyrchol ag aelodau o dîm Hwb. Os oes gennych chi gwestiwn technegol, os ydych chi'n cael trafferth defnyddio offer Hwb neu os oes gennych chi gwestiwn am ddysgu proffesiynol digidol, dyma'r sesiwn i chi! Ymunwch ar unrhyw adeg yn ystod y sesiwn i siarad â'r tîm.

    Logo Llywodraeth Cymru

    Llywio fframwaith y Cwricwlwm i Gymru

    (60 munud)

    Nod y sesiwn yw sicrhau bod cydweithwyr yn gallu canfod eu ffordd o amgylch tudalen Cwricwlwm i Gymru, a sut i ddod o hyd i'r deunyddiau ategol perthnasol ar gyfer cefnogi cyfarfodydd staff. Bydd yn gyfle i ymarferwyr ymgysylltu â deunyddiau ategol a grëwyd yn ddiweddar, y canllawiau Ymlaen â'r Daith a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac amrywiol ffyrdd y gall ysgolion gyfrannu at drafodaethau polisi ac adnoddau yn y dyfodol.

  • Logo Google

    Arallgyfeirio asesu ac adborth ar gyfer dysgu yn yr ystafell ddosbarth (Saesneg)

    (30 munud)

    Dysgwch sut i ddefnyddio Chromebooks a Google Workspace for Education i wneud asesu ar gyfer dysgu yn rhyngweithiol ac yn ddiddorol. Yn y sesiwn hon, byddwn yn archwilio sut i greu cyfarwyddiadau wedi'u teilwra yn Google Classroom, a defnyddio ystod o nodweddion Google Classroom i gasglu adborth.

    Logo Microsoft

    Gair i gall: Microsoft Teams

    (20 munud)

    Y 10 nodwedd orau i helpu i wella cynhyrchiant gan ddefnyddio Teams.

    Logo Apple

    Cyrraedd pob dysgwr gyda iPad (Saesneg)

    (30 munud)

    Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar offer Apple sydd wedi’u cynnwys yn ddiofyn i hwyluso personoli, hygyrchedd a dysgu i bawb.

    Logo Adobe

    Defnyddio ddeallusrwydd artiffisial (AI) i gefnogi llafaredd a llythrennedd

    (45 munud)

    Rhowch gynnig ar rai nodweddion newydd anhygoel yn Adobe Express sy'n ysbrydoli dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau llafaredd, a dod â gwaith ysgrifenedig yn fyw!

    Logo Just2easy

    Cefnogi rhifedd gyda Just2easy (Saesneg)

    (45 munud)

    Bydd y sesiwn hon yn arddangos pob math o wahanol offer i gefnogi rhifedd ar draws y cwricwlwm, gan gynnwys JIT, j2e5, offer mesur a'r ‘library’.

    Logo Technocamps

    Dysgu peirianyddol i blant

    (60 munud)

    Ydych chi erioed wedi gofyn i chi'ch hun sut mae Alexa'n deall yr hyn rydych chi'n ei ofyn iddi? Neu a fyddech chi'n ymddiried mewn peiriant i wneud penderfyniadau sy'n gallu newid eich bywyd? Yn y sesiwn hon, byddwch chi'n darganfod sut mae Dysgu Peirianyddol yn cael ei ddefnyddio mewn pob math o wahanol ffyrdd, o adnabod llais i Google Maps. Yna, byddwch chi'n datblygu eich gwybodaeth am ddata priodol ac amhriodol wrth hyfforddi peiriant cyn creu eich gêm 'Scratch' Dysgu Peirianyddol eich hun.

    Logo Common Sense Education

    Llesiant digidol: gwersi seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer yr ystafell ddosbarth (Saesneg)

    (45 munud)

    Mae cysylltiad dwfn rhwng yr argyfwng iechyd meddwl ymhlith ieuenctid a phrofiadau dysgwyr o dechnoleg, ac mae gan addysgwyr gyfraniad allweddol i'w wneud. Byddwn yn cyflwyno casgliad o wersi, a ddatblygwyd ar y cyd gan Common Sense Education a'r Center for Digital Thriving yn yr Harvard Graduate School of Education, sy'n helpu i ddod â chymorth lles digidol i'r ystafell ddosbarth.

    Logo Hwb

    Cynllunio dyfodol Hwb: dweud eich dweud (Saesneg)

    (30 munud)

    Rydym ni am glywed gennych chi! Dewch i ddweud eich dweud am Hwb a chlywed am y datblygiadau sydd ar y gweill gennym.

    Logo Llywodraeth Cymru

    Adnoddau Dysgu Proffesiynol Cymru nawr mewn un lle! (Saesneg)

    (60 munud)

    Byddwn yn dangis i chi o gwmpas y 'maes Dysgu Proffesiynol' newydd ar Hwb. Byddwch yn gallu chwilio am adnoddau newydd wedi'u categoreiddio a'u dosbarthu, sydd bellach ar gael yn rhwydd i bob ymarferydd addysg ledled Cymru, a chael mewnwelediad o safbwynt defnyddiwr. Byddwn yn canolbwyntio ar ddysgu proffesiynol ar gyfer datblygu sgiliau digidol.

  • Logo Google

    Defnyddio Chromebooks a Google Workspace for Education ar gyfer dysgwyr ADY

    (30 munud)

    Yn y sesiwn hon, byddwn yn archwilio'r offer ymarferol sydd ar gael i ddarparu profiadau dysgu hygyrch i bob dysgwr, gan gynnwys dysgwyr ag anghenion ychwanegol.

    Logo Microsoft

    Gair i gall: OneDrive a SharePoint

    (20 munud)

    Y 10 nodwedd orau i helpu i wella cynhyrchiant gan ddefnyddio OneDrive a SharePoint.

    Logo Apple

    Cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru gydag Apple (Saesneg)

    (30 munud)

    Enghreifftiau o bob cwr o Gymru i ddangos sut mae technoleg Apple yn cael ei defnyddio o fewn y Cwricwlwm i Gymru.

    Logo Adobe

    Addysgwyr Creadigol Adobe Lefel 1 

    (90 munud)

    Mae'r sesiwn hon yn gam cyntaf perffaith i wneud y gorau o'ch cyfrifon Hwb i wella dysgu ac addysgu, gyda ffocws ar greadigrwydd gan ddefnyddio Adobe Express. Mae hwn yn gyfle gwych i sicrhau bod yr holl staff (staff addysgu a chymorth) wedi'u hardystio fel Addysgwyr Creadigol Adobe lefel 1.

    Logo Flip

    Sesiwn greadigrwydd camera Flip (Saesneg)

    (45 munud)

    Byddwch yn barod i wthio'r holl fotymau wrth i ni archwilio effeithiau a mynegiannau creadigol yng nghamera Microsoft Flip! Dewch i ddarganfod posibiliadau a datblygu syniadau i sicrhau chwarae teg i bawb wrth ddysgu yn eich cymuned a thu hwnt. Cewch lawer o adnoddau y gallwch chi eu defnyddio ar unwaith – byddwch yn barod am hwyl!

    Logo Just2easy

    Cyflwyniad i gyfres o adnoddau Just2easy (Saesneg)

    (60 munud)

    Ymunwch â'r sesiwn hon i fynd i'r afael ag adnoddau fel JIT write, Paint, spell blast, j2e5 a'r ‘library’

    Logo Common Sense Education

    Gweithredu diwylliant o ddinasyddiaeth ddigidol

    (30 munud)

    Ymunwch â Jenna Khanna, Cyfarwyddwr Addysg Common Sense Media UK, a'r Llysgennad Common Sense Pip Bhol, i ddarganfod sut i weithredu diwylliant o ddinasyddiaeth ddigidol ar gyfer dysgwyr o bob oedran. Bydd athrawon yn gadael gydag ysbrydoliaeth ac adnoddau i'w helpu i gynllunio a gweithredu cynllun gwaith blaengar.

    Logo Britannica

    Datgloi llyfrau ffeithiol: meithrin darllenwyr gwell gyda Britannica (Saesneg)

    (45 munud)

    Bydd y sesiwn addysgiadol hon yn edrych ar yr heriau presennol sy'n ymwneud â chynnydd darllen, yn enwedig gyda thestunau ffeithiol, ac yn darparu enghreifftiau a strategaethau ar gyfer sut y gall Britannica ar Hwb helpu i bontio'r bwlch hwn.

    Logo Education Achievement Service

    Cyflwyniad i ddeallusrwydd artiffisial (AI) mewn Addysg (Saesneg)

    (60 munud)

    Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn addysg a sut y bydd yn effeithio ar staff a dysgwyr mewn ysgolion a lleoliadau. Byddwn yn archwilio’r 7 egwyddor ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn addysg ac yn dechrau ystyried datblygu canllawiau ar gyfer eich ysgolion a’ch lleoliadau.

    Logo Llywodraeth Cymru

    Llywio fframwaith y Cwricwlwm i Gymru (Saesneg)

    (60 munud)

    Nod y sesiwn yw sicrhau bod cydweithwyr yn gallu canfod eu ffordd o amgylch tudalen Cwricwlwm i Gymru, a sut i ddod o hyd i'r deunyddiau ategol perthnasol ar gyfer cefnogi cyfarfodydd staff. Bydd yn gyfle i ymarferwyr ymgysylltu â deunyddiau ategol a grëwyd yn ddiweddar, y canllawiau Ymlaen â'r Daith a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac amrywiol ffyrdd y gall ysgolion gyfrannu at drafodaethau polisi ac adnoddau yn y dyfodol.

  • Logo Google

    Dysgu cydweithredol: sut i gael y gorau o Google for Education

    (30 munud)

    Trosolwg cyflym o holl offer a swyddogaethau Google i hwyluso dysgu effeithiol a chydweithredol.

    Logo Microsoft

    Minecraft: cyflwyniad echwaraeon (Saesneg)

    (45 munud)

    Dysgwch sut i ymgorffori eChwaraeon yn eich ystafell ddosbarth gyda'r Llysgennad Minecraft Byd-eang a'r athro Paul Watkins. Yn ystod y sesiwn hon, byddwch yn dysgu sut i hwyluso gweithgareddau e-chwaraeon cynhwysol, pwrpasol a diddorol gyda Minecraft: Education Edition.

    Logo Apple

    Gwella rhifedd gydag iPad (Saesneg)

    (30 munud)

    Syniadau ymarferol ar gyfer integreiddio technoleg gyda ffocws penodol ar wella rhifedd ar draws y cwricwlwm.

    Logo Adobe

    Defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i gefnogi llafaredd a llythrennedd

    (45 munud)

    Rhowch gynnig ar rai nodweddion newydd anhygoel yn Adobe Express sy'n ysbrydoli dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau llafaredd, a dod â gwaith ysgrifenedig yn fyw!

    Logo Just2easy

    Datblygu sgiliau data yn Just2easy (Saesneg)

    (30 munud)

    Dysgwch sut i ddod â data'n fyw gydag offer fel chart, pictogram, branch a database.

    Logo Flip

    Defnyddio Flip i sbarduno sgyrsiau iechyd a lles (Saesneg)

    (45 munud)

    Mae Flip yn ffordd wych o ennyn sgyrsiau ystyrlon gyda'ch dysgwyr am lesiant. Yn y sesiwn hon, byddwch chi'n dysgu sut i ddefnyddio Flip i hwyluso trafodaethau ar themâu fel hunaniaeth, amrywiaeth, empathi, gwydnwch a meddylfryd twf. Bydd y sesiwn hon yn llawn syniadau i feithrin diwylliant cadarnhaol yn yr ystafell ddosbarth, hyrwyddo galluogedd dysgwyr a datblygu sgiliau llesiant. Gallwch chi gael syniadau newydd i dddefnyddio adnoddau parod i'w defnyddio gan Flip Discovery Partners fel Microsoft Reflect, MindUP, Empatico a mwy! Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i ddysgu sut y gall Flip drawsnewid eich ystafell ddosbarth yn lle llawn deialog ystyrlon, ymwybyddiaeth gymdeithasol a lles emosiynol.

    Logo Technocamps

    Dysgu peirianyddol i blant (Saesneg)

    (60 munud)

    Ydych chi erioed wedi gofyn i chi'ch hun sut mae Alexa'n deall yr hyn rydych chi'n ei ofyn iddi? Neu a fyddech chi'n ymddiried mewn peiriant i wneud penderfyniadau sy'n gallu newid eich bywyd? Yn y sesiwn hon, byddwch chi'n darganfod sut mae Dysgu Peirianyddol yn cael ei ddefnyddio mewn pob math o wahanol ffyrdd, o adnabod llais i Google Maps. Yna, byddwch chi'n datblygu eich gwybodaeth am ddata priodol ac amhriodol wrth hyfforddi peiriant cyn creu eich gêm 'Scratch' Dysgu Peirianyddol eich hun.

    Logo Common Sense Education

    Archwilio ddeallusrwydd artiffisial (AI): fetio'r adnoddau

    (45 munud)

    Ymunwch â ni wrth i ni rannu'r hyn y mae angen i chi gadw llygad barcud amdano wrth fetio offer AI i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Dysgwch am sut rydyn ni'n penderfynu a yw offer yn foesegol, yn ddiogel ac yn briodol. Byddwn ni'n rhannu ffefrynnau Common Sense a'r offer gwych a argymhellir gan y sefydliad sy'n integreiddio AI mewn ffordd feddylgar. Byddwn ni'n rhannu ffefrynnau Common Sense a'r offer gwych a argymhellir gan y sefydliad sy'n integreiddio AI mewn ffordd feddylgar.

    Logo Hwb

    Holi Hwb

    (45 munud)

    Mae'r sesiwn hon yn cynnig cyfle i siarad yn uniongyrchol ag aelodau o dîm Hwb. Os oes gennych chi gwestiwn technegol, os ydych chi'n cael trafferth defnyddio offer Hwb neu os oes gennych chi gwestiwn am ddysgu proffesiynol digidol, dyma'r sesiwn i chi! Ymunwch ar unrhyw adeg yn ystod y sesiwn i siarad â'r tîm.

    Logo Llywodraeth Cymru

    Adnoddau Dysgu Proffesiynol Cymru nawr mewn un lle!

    (60 munud)

    Ymunwch â ni am sesiwn ar y 'maes Dysgu Proffesiynol'. Byddwn yn dangis i chi o gwmpas y 'Porth Dysgu Proffesiynol' newydd ar Hwb. Byddwch yn gallu chwilio am adnoddau newydd wedi'u categoreiddio a'u dosbarthu, sydd bellach ar gael yn rhwydd i bob ymarferydd addysg ledled Cymru, a chael mewnwelediad o safbwynt defnyddiwr. Byddwn yn canolbwyntio ar ddysgu proffesiynol ar gyfer datblygu sgiliau digidol.