English

Adnoddau

Syniadau am weithgareddau sy’n defnyddio offer Hwb

Cwis Nadoligaidd

Rhowch her i’ch cynulleidfa gyda chwestiynau am draddodiadau, ffilmiau a chaneuon y Nadolig. Gan ddefnyddio Microsoft forms neu Google classroom gallwch greu cwisiau byw i gasglu atebion mewn amser real a dangos y canlyniadau ar unwaith.

Creu dyn eira

Crëwch ddyn eira dros yr ŵyl gan ddefnyddio Minecraft. Mae'r gweithgaredd hwn nid yn unig yn meithrin creadigrwydd ond hefyd yn hybu gwaith tîm a gwneud penderfyniadau.

Cardiau Nadolig yn Adobe Express

Agorwch Adobe Express yn Hwb a phori drwy’r templedi i ddod o hyd i un sy'n gweddu i'ch arddull. Ychwanegwch gefndiroedd, delweddau a thestun Nadoligaidd gan ddefnyddio'r offer dylunio. Addaswch ffontiau, lliwiau ac eiconau ar gyfer thema Nadolig. Arbedwch eich dyluniad, yna lawrlwythwch neu rhannwch y dyluniad yn ddigidol gyda ffrindiau a theulu.

Bingo Nadolig ar Just2easy

Mewngofnodwch i Hwb ac agorwch Just2Easy. Defnyddiwch j2office neu j2e5 i ddylunio cynllun grid. Llenwch bob sgwâr gyda geiriau neu ddelweddau Nadoligaidd. Personolwch y lliwiau a’r ffontiau i greu thema Nadolig. Arbedwch eich dyluniad, yna gwahoddwch ffrindiau i chwarae gêm hwyliog o bingo Nadolig!

Rhaglenni Nadoligaidd i blant

Ymlaciwch ar gyfer y Nadolig gyda'r detholiad Nadoligaidd hwn o raglenni i blant ar sianel ffrydio S4C ar Hwb (rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i Hwb i gael mynediad i sianel ffrydio S4C, Cymraeg yn unig).