English

Adnoddau

Adnoddau Dydd Gŵyl Dewi

Gweithgareddau’n defnyddio offer Hwb

Dangos yr hyn rydych chi'n ei wybod yn Minecraft

Gofynnwch i’r dysgwyr ymchwilio i Eglwys Gadeiriol Tyddewi, naill ai'n unigol neu mewn timau. Mewngofnodwch i Hwb ac agor Minecraft i greu byd newydd i adeiladu Eglwys Gadeiriol Tyddewi, gan ddefnyddio eu hymchwil fel ysbrydoliaeth ar gyfer eu dyluniadau. Anogwch y dysgwyr i weithio gyda'i gilydd yn yr un byd Minecraft i feithrin sgiliau cydweithredu, cyfathrebu a datrys problemau.

Ysgrifennu ryseitiau gydag Adobe Creative Cloud Express

Defnyddiwch Ddydd Gŵyl Dewi fel ysbrydoliaeth ar gyfer ysgrifennu ryseitiau. Yn Hwb, agorwch Adobe Creative Cloud Express a chwiliwch am dempledi 'rysait'. Gofynnwch i’r dysgwyr greu ryseitiau ar gyfer prydau Cymreig traddodiadol fel Bara Brith a chawl.

Bod yn greadigol gyda J2e

Ar ôl gwers ar Ddydd Gŵyl Dewi, mewngofnodwch i Hwb ac agorwch J2e. Defnyddiwch offer JIT5 fel Paint, Animate, neu Mix i greu delweddau, testun ac animeiddiadau ar y thema Dydd Gŵyl Dewi. Rhowch amser i’r dysgwyr archwilio'r offer cyn dechrau ar eu prosiectau.