English
Gwybodaeth

Cynulleidfa darged: Hyrwyddwyr digidol ysgolion, Cydlynwyr TGCh, Rheolwyr Rhwydwaith, timau technegol awdurdodau lleol.

Gellir rhoi cwarantîn ar e-bost a anfonir at ddefnyddwyr Hwb am nifer o resymau.  Mae hyn yn broses ddiofyn yn unol â'n polisïau diogelwch sy'n edrych ar lawer o ffactorau wrth benderfynu a yw'r e-bost yn e-bost glân neu a ddylid ei farcio fel e-bost faleisus (sbam neu gwe-rwydo). Mae e-byst maleisus yn cael eu rhoi mewn cwarantîn i atal risg i'r system a chyfrifon defnyddwyr.

Mae'r rhesymau cyffredin dros  nodi bod e-byst yn  rhai maleisus yn cynnwys:

  • Camgyfluniad systemau e-bost yr anfonwr
    Mae methu â phasio gwiriadau diogelwch safonol y diwydiant (SPF, DMARC a / neu DKIM) yn arwain at beidio ag ymddiried yn yr e-bost.
  • E-byst sy'n cael eu hanfon ymlaen
    Gall e-byst sy'n cael eu hanfon o system arall dorri'r gadwyn ddiogelwch gan ei bod yn ymddangos bod yr e-bost yn dod gan anfonwr gwahanol.
  • Mae'r anfonwr ar restr e-byst sydd wedi'u blocio
    Efallai y bydd yr anfonwr, neu barth yr anfonwr, ar restr blocio Hwb oherwydd ymosodiadau blaenorol, neu efallai eu bod wedi'u hychwanegu at restr anfonwyr wedi'u blocio yr unigolyn yn eu blwch e-bost.

Bydd pobl nad ydynt yn ddysgwyr yn derbyn hysbysiad e-bost os ydynt wedi derbyn unrhyw e-bost yr amheuir ei bod yn SPAM neu'n gwe-rwydo a'i roi mewn cwarantin.

Bydd yr hysbysiad yn dangos pa negeseuon e-bost sydd wedi'u rhoi mewn cwarantîn yn ystod y diwrnod blaenorol ac yn cynnwys dolen i'r porth cwarantîn i weld yr holl e-byst sydd mewn cwarantîn o'r 30 diwrnod blaenorol. Yn dibynnu ar y rheswm dros y cwarantîn, gellir cyflawni gweithredoedd ar yr e-bost sydd mewn cwarantîn yn uniongyrchol o'r hysbysiad neu o'r porth cwarantîn:

  • Gweld y neges - Gallwch weld unrhyw un o'r e-byst yn y porth cwarantîn i'ch helpu i benderfynu a oes angen eu rhyddhau neu eu dileu.
  • Rhyddhau (ar gyfer negeseuon e-bost SPAM yn unig) - Gallwch ryddhau e-bost sydd wedi eu nodi fel sbam, a fydd yn ei ddanfon i'ch blwch e-bost.
  • Dileu neges - Bydd hyn yn dileu'r e-bost o system Hwb a'i dynnu o'r porth cwarantîn. Ni ellir dadwneud hyn. Bydd e-byst yn cael eu dileu'n awtomatig o'r porth cwarantîn ar ôl 30 diwrnod.

Mae angen gofyn am ryddhau e-byst sydd mewn cwarantîn oherwydd bod amheuaeth o we-rwydo trwy gysylltu â Desg Gwasanaeth Hwb.  Mae hyn er mwyn sicrhau bod yr e-byst wedi cael eu gwirio'n iawn a'u hystyried yn ddiogel - gall cefnogaeth Hwb hefyd roi gwybodaeth ychwanegol am y rheswm pam y cawsant eu rhoi mewn cwarantîn.

Dim ond negeseuon e-bost rydych chi'n eu disgwyl gan anfonwyr dibynadwy ddylai gael eu rhyddhau neu y dylid gofyn iddynt gael eu rhyddhau.  Gallwch ddefnyddio'r opsiwn rhagolwg i'ch helpu i benderfynu a oes angen yr e-bost ac a yw'n ddiogel.

Os nad ydych yn siŵr sut i ddweud a yw e-bost yn faleisus, darllenwch ein tudalen gwe-rwydo.