English

Dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei wneud ar gyfer Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024

Ledled Cymru mae cyfleoedd i bawb, gan gynnwys ysgolion, grwpiau ieuenctid a theuluoedd, i gymryd rhan yn nathliadau Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ddydd Mawrth 6 Chwefror. Dywedwch wrthym beth fyddwch chi'n ei wneud -efallai y byddwch chi'n ysbrydoli eraill! 

Y thema eleni yw 'Ysbrydoli newid? Gwneud gwahaniaeth, rheoli dylanwad a llywio newid ar-lein'. Gall pawb gymryd rhan; bwrwch olwg ar ein tudalen Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel i gael syniadau - mae gwasanaeth byr i helpu i ysgogi trafodaeth a phecynnau addysg sy'n cynnwys gweithgareddau i ddysgwyr o bob oed.  

Mae Liz yn aelod o'r grŵp ieuenctid Cadw'n ddiogel ar-lein. Gallwch ddarganfod mwy am y grŵp a'u gweithgareddau diweddar ar eu tudalen newyddion diweddaraf. Ar y diwrnod ei hun, bydd y grŵp yn Stadiwm Principality fel gwesteion URC. Byddant yn cwrdd â rhai o'r staff sy'n gweithio i gadw chwaraewyr ar bob lefel ac o bob oed yn ddiogel ar-lein ac yn trafod y prif heriau. Bydd y grŵp yn rhannu eu profiadau eu hunain o dechnoleg a sut mae'n newid y ffordd rydyn ni’n byw. 


Gwyddom fod llawer o ysgolion yn nodi Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel mewn ffyrdd hwyliog a chreadigol. Waeth beth sydd gennych chi ar y gweill, waeth pa mor fawr neu fach, dywedwch wrthym ni! Bydd eich syniadau a'ch cynlluniau’n cael eu cyhoeddi ar Hwb fel y gallwn dynnu sylw at yr holl weithgareddau cyffrous sy'n digwydd ledled Cymru ac annog cynifer o ddysgwyr â phosibl i gymryd rhan. 

Defnyddiwch y ffurflen isod i gyflwyno delweddau, negeseuon, fideos ac animeiddiadau.  

Cyflwynwch eich cynlluniau