English

Nid oes unrhyw amser sy’n ‘briodol’ i’w dreulio yn defnyddio sgriniau, oherwydd bydd y cydbwysedd yn wahanol i bob person.

Wrth feddwl am faint o amser o flaen sgrin y dylech ei dreulio, gall fod yn fwy defnyddiol canolbwyntio ar ansawdd eich amser yn defnyddio technoleg yn hytrach na faint o amser yn unig. Dylai’r amser rydych chi’n ei dreulio ar-lein fod yn un rhan o’ch diwrnod ochr yn ochr â gweithgareddau eraill rydych chi’n eu mwynhau fel mynd i’r ysgol, bwyta prydau bwyd, gwneud gwaith cartref, mwynhau eich hobïau, cymdeithasu, siarad â’ch teulu a llawer mwy.


Gall defnyddio technoleg fod yn hwyl, yn addysgol neu’n ffordd wych o gymdeithasu â ffrindiau, ond mae bob amser yn bosibl cael gormod o beth da. Efallai y byddwch chi’n gweld bod treulio llawer o amser ar-lein yn gallu rhoi cur pen i chi neu effeithio ar eich hwyliau, yn enwedig os ydych chi’n gweld pethau sy’n gwneud i chi deimlo’n bryderus neu dan straen. Mae’r amser rydych chi’n ei dreulio ar-lein yn aml yn gysylltiedig â’ch lles digidol.

Er ei bod yn bwysig eich bod yn ymwybodol o faint o amser rydych chi’n ei dreulio ar eich dyfeisiau a sut mae’r amser hwnnw’n gwneud i chi deimlo, mae’n bosibl cael cydbwysedd iach rhwng gweithgareddau ar-lein ac all-lein.


Mae’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH) wedi cyhoeddi ymchwil ar effeithiau amser o flaen sgrin ac wedi canfod nad oes terfyn delfrydol ar amser o flaen sgrin. Yn hytrach, bydd y swm delfrydol o amser o flaen sgrin yn dibynnu ar yr hyn sy’n gweithio i chi.

Maen nhw’n argymell eich bod yn osgoi sgriniau yn ystod yr awr cyn i chi fynd i’r gwely, i’ch helpu i gysgu’n well.


Mae gan bawb arwyddion rhybudd gwahanol sy’n dweud wrthyn nhw pan fyddan nhw wedi bod ar-lein am ormod o amser. Efallai fod eich llygaid yn dechrau brifo, rydych chi’n cael cur pen, rydych chi’n teimlo’n gysglyd, neu’n dechrau teimlo’n fwy anniddig ac wedi diflasu.

Efallai y byddwch hefyd yn gweld arwyddion ar eich dyfais ei hun, fel negeseuon atgoffa o amser o flaen sgrin, eich dyfais yn rhedeg allan o fatri neu’n gorboethi, neu’n gofyn i chi a ydych chi’n dal i wylio. Mae gan rai apiau adnodd atgoffa am amser o flaen sgrin sy'n ymddangos pan fyddwch chi wedi bod yn eu defnyddio ers amser hir.


Efallai bod eich rhieni neu’ch gofalwyr wedi gosod terfynau oherwydd eu bod eisiau eich cefnogi i gael cydbwysedd iach o weithgareddau ar-lein ac all-lein. Fodd bynnag, os ydych chi’n meddwl y byddech chi’n elwa o gael mwy o amser ar-lein, mae’n bwysig cael sgyrsiau agored a gonest ynglŷn â pham.

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer siarad am amser o flaen sgrin.

  • Byddwch yn barchus a cheisiwch ddeall safbwynt eich rhieni neu’ch gofalwyr. Maen nhw eisiau’r hyn sydd orau i chi.
  • Cyflwynwch achos o blaid elfennau cadarnhaol cael mwy o amser ar-lein. Er enghraifft, a fydd yn caniatáu i chi gwblhau lefel mewn gêm gyda’ch tîm? Ydych chi’n cymdeithasu gyda ffrindiau nad ydych chi’n eu gweld yn aml?
  • Byddwch yn barod i gyfaddawdu a chadw meddwl agored i’r hyn y mae eich rhieni neu ofalwyr yn ei ddweud.
  • Ystyriwch a oes angen mwy o amser arnoch chi ar-lein, neu a ydych chi’n wynebu pwysau gan eich ffrindiau i fynd ar-lein yn amlach. Cofiwch, ni ddylai eich ffrindiau fyth roi pwysau arnoch chi na gwneud i chi deimlo eich bod yn cael eich eithrio.

Mae’n bwysig ystyried sut mae bod ar-lein yn gwneud i chi deimlo. Os ydych chi’n poeni neu’n pryderu am yr amser rydych chi’n ei dreulio ar-lein, mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu.

  • Diffoddwch hysbysiadau neu nodweddion sydd wedi'u cynllunio i dynnu eich sylw yn ôl at eich sgrin, neu defnyddiwch y terfynau amser o flaen sgrin sydd ar gael ar eich dyfais neu'ch ap.
  • Gadewch eich dyfeisiau i wefru mewn ystafell arall wrth i chi gyflawni tasgau neu hobïau.
  • Gweithiwch gyda’ch ffrindiau a’ch teulu i reoli eich amser o flaen sgrin gyda’ch gilydd. Gallech chi gytuno ar oriau penodol i fynd ar eich sgriniau neu gymryd egwyl o rai apiau gyda'ch gilydd.
  • Trefnwch amserlen ar gyfer mynd ar-lein a mwynhau amser all-lein a gwnewch eich gorau i gadw at hynny.

Gall fod yn anodd gwybod beth i’w wneud os yw rhywun rydych chi’n poeni amdano yn treulio llawer o amser ar ei ddyfeisiau, yn enwedig os ydych chi’n teimlo bod hyn yn tynnu ei sylw oddi wrth bethau eraill ac yn effeithio ar ei les. Mae’n bwysig siarad â nhw am eich pryderon, ond gwnewch yn glir eich bod yn poeni amdanyn nhw ac eisiau eu cefnogi. Gallech chi gynnig mynd ar raglen ddadwenwyno ddigidol gyda’ch gilydd, neu gynllunio gweithgareddau y gallwch chi eu gwneud all-lein gyda’ch gilydd.

Os ydych chi’n poeni am eich amser o flaen sgrin neu amser rhywun arall, mae’n bwysig iawn siarad ag oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo i gael cymorth. Gallai hyn fod yn rhiant neu’n ofalwr, yn athro neu’n athrawes yn yr ysgol, neu’n oedolyn arall rydych chi’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo.

Os ydych chi’n chwilio am help neu wybodaeth, ond eich bod yn poeni am ddechrau sgwrs gydag oedolyn, dyma rai awgrymiadau.

  • Childline - Llinell gymorth breifat a chyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yn y DU lle gallwch chi siarad am unrhyw beth – ffoniwch 0800 1111
  • Meic - Llinell gymorth gyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru gyda chynghorwyr i’ch helpu i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch – ffoniwch 080880 23456, anfonwch neges destun at 84001 neu sgwrsio ar-lein
  • Mind Cymru - Llinell gymorth a chyngor cyfrinachol am ddim i bobl sy'n profi problemau iechyd meddwl – ffoniwch 0300 123 3393
  • The Mix - Llinell gymorth gyfrinachol am ddim i bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed – ffoniwch 0808 808 4994 neu sgwrsio ar-lein
  • Riportio Cynnwys Niweidiol - Canolfan adrodd genedlaethol sydd wedi’i dylunio i helpu unrhyw un i adrodd am gynnwys niweidiol ar-lein
  • YoungMinds - Cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc