English

Rydym i gyd wedi bod yn treulio mwy o amser ar-lein yn ystod argyfwng y Coronafeirws (Covid-19), p'un ai i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, cadw i fyny gyda gwaith ysgol, neu ar gyfer adloniant. ‘Dyw hi erioed wedi bod yn bwysicach cadw eich hun yn ddiogel ar-lein.

Mae llawer ohonoch wedi bod yn cymryd camau i amddiffyn eich hun ac eraill ar-lein ac roedden ni’n awyddus i glywed am eich profiadau.

Fe aethon ni ati i alw ar blant a phobl ifanc Cymru i ddylunio graffigyn neu boster creadigol a oedd yn cyfleu eu profiad nhw o gadw'n ddiogel ar-lein, ee helpu eraill drwy ddangos caredigrwydd, gwirio gwybodaeth (gwelwyd llawer iawn o wybodaeth gamarweiniol!), meddwl am eu hôl-troed digidol a'r hyn maen nhw'n ei bostio ar-lein, neu sut maen nhw wedi cadw eu cyfrifon ar-lein yn ddiogel.

Byddwn yn cyhoeddi’r profiadau hyn ar Hwb a bydd detholiad o’r gwaith dylunio yn cael ei ddewis i'w cynnwys yn ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Cadernid Digidol mewn Addysg i blant a phobl ifanc 2020, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod tymor yr hydref 2020.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau oedd dydd Mercher 30 Medi 2020.


Mae’r cyfnod ar gyfer anfon eich cyflwyniadau Her Haf Cadw’n Ddiogel Ar-lein wedi dod i ben bellach.

Hoffem ddweud diolch enfawr i bawb a roddodd o’u hamser i greu negeseuon fel rhan o’r ymgyrch hon. Mae’r negeseuon hyn i’w gweld isod.


Cliciwch ar y botwm ehangu yn y ffenestr isod i weld y negeseuon yn eu maint llawn.