English

Hwb

Cydweithio

2. Cydweithio

Cydweithio â phartneriaid ledled y DU a sefydliadau eraill i gymryd camau ar y cyd i gyflawni ein nodau cyffredin.


  • Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU i helpu i ddarparu digwyddiadau diogelwch ar-lein, gan gynnwys y Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel blynyddol, sesiynau paratoi rhanddeiliaid a sesiynau gwybodaeth ‘Diogelwch Ar-lein yn Fyw’.

    Yn 2019–20, cynhaliwyd chwe sesiwn briffio diogelwch ar-lein fel rhan o waith maes Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, gan gynnig trosolwg o ddiogelwch ar-lein i 91 o bobl. Cynhaliwyd sesiynau ym Mhorthcawl, Llanelli, Caerdydd, Glannau Dyfrdwy, Ynys Môn a Wrecsam. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys cynrychiolwyr o feysydd addysg, iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol. O ganlyniad i effaith COVID-19 ym mis Mawrth 2020, cafodd pedair sesiwn briffio eu canslo.

    Cafodd Digwyddiad Gwybodaeth i Randdeiliaid Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2019–20 ei gynnal ddydd Mercher 13 Tachwedd 2019 yng Nghaerdydd. Roedd y digwyddiad, a fynychwyd gan amrywiaeth o addysgwyr a sefydliadau, yn gyfle iddynt glywed yn uniongyrchol gan Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU am ymgyrch 2020, a thrafod a rhannu syniadau am y ffordd y gallent gyfrannu ati ar y cyd.

    Mae gwaith cynllunio yn mynd rhagddo i nodi’r digwyddiad blynyddol hwn eto yn 2021. Cynhelir Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ar 9 Chwefror 2020 yng Nghymru.

    Byddwn yn gweithio gyda Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU i gynnal digwyddiad gwybodaeth i randdeiliaid rhithwir ar 12 Tachwedd 2020, gyda’r nod o gefnogi addysgwyr a threfnwyr i gymryd rhan yn Niwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2020.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Yn 2018–19, cynhaliwyd 11 o sesiynau briffio diogelwch ar-lein fel rhan o waith maes Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, gan gynnig trosolwg o ddiogelwch ar-lein i 158 o bobl. Cafodd y sesiynau eu cynnal ym Mhorthcawl, Llanelli, Bae Colwyn, Felin-fach, Caerdydd, Glannau Dyfrdwy, Ynys Môn, Aberystwyth, Caerffili, Trefynwy a Sili. Roedd y rheini a oedd yn bresennol yn cynnwys cynrychiolwyr o feysydd addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. O ganlyniad i’r niferoedd isel a oedd wedi cofrestru, bu rhaid canslo pedair sesiwn.

    Yn 2019–20, bydd Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU yn cynnal 10 o sesiynau briffio diogelwch ar-lein yng Nghymru. Bydd y sesiynau’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau, technolegau, materion ac ymchwil gyfoes yn ymwneud â diogelwch ar-lein, yn ogystal â chyfeirio cynrychiolwyr i adnoddau a chyngor.

    Ddydd Iau 8 Tachwedd 2018, cynhaliodd Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU ddigwyddiad Cynllunio Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ar gyfer Rhanddeiliaid yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd. Roedd y digwyddiad hwn, a oedd yn cynnwys amrywiaeth o randdeiliaid, yn gyfle iddynt glywed yn uniongyrchol gan Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU am yr hyn y byddai ymgyrch 2019 yn ei gynnwys, sut y gallent ei gefnogi ac i rannu syniadau am sut y gallent gyfrannu ato.

    Mae’r gwaith cynllunio eisoes ar waith i nodi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2020, a gaiff ei gynnal ar 11 Chwefror 2020 yng Nghymru.

    Gan adeiladu ar lwyddiant y digwyddiad diwethaf, byddwn yn gweithio gyda Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU i gynnal Digwyddiad Gwybodaeth i Randdeiliaid ar 13 Tachwedd 2019 i gefnogi sefydliadau i gymryd rhan yn Niwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2020.

    Lansiwyd cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel i blant a phobl ifanc ysgolion y Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb ym mis Medi 2019. Bydd enillydd y gystadleuaeth yn cael ei gyhoeddi yn nigwyddiad swyddogol Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ei hun.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Fel rhan o’r gwaith allgymorth ar gyfer rhaglen ‘Online Safety Briefings’ Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, bydd SWGfL, fel un o bartneriaid Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, yn cynnal sesiynau briffio ledled Cymru. Mae’r sesiynau’n darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau, technolegau, materion ac ymchwil gyfoes yn ymwneud â diogelwch ar-lein, yn ogystal â chyfeirio cynrychiolwyr i adnoddau a chyngor. Mae’r digwyddiadau wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer unrhyw weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc gan gynnwys staff ysgol, gweithwyr diogelu proffesiynol, gweithwyr ieuenctid, yr heddlu, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr iechyd proffesiynol.

    Bydd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ar gyfer rhanddeiliaid yn trafod y cynlluniau cydweithredol ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel bob blwyddyn.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â Llywodraeth y DU i ddatblygu Strategaeth Diogelwch ar y Rhyngrwyd y DU a’r Papur Gwyn ‘Online Harms’. 

    Yn 2019–20, rydym wedi parhau i gydweithio â Llywodraeth y DU ar agenda ‘Online Harms’.

    Rydym wedi parhau i gydweithio â’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a’r Swyddfa Gartref mewn perthynas â’r agenda ‘Online Harms’. Gwnaethom fynychu sesiwn bord gron gyda’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, y Swyddfa Gartref ac Ofcom, sydd o blaid yr agenda.

    Yn ystod 2021, byddwn yn parhau i gydweithio â Llywodraeth y DU i ddatblygu’r agenda ‘Online Harms’, a’r effaith y bydd yn ei chael ar Gymru. Byddwn hefyd yn parhau i ymgysylltu mewn perthynas â’r Strategaeth Llythrennedd yn y Cyfryngau Ar-lein er mwyn grymuso defnyddwyr i wneud penderfyniadau diogel ar-lein.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Yn 2018–19, rydym wedi parhau i gydweithio â Llywodraeth y DU ac wedi cyfrannu at y gwaith o ddatblygu Strategaeth Diogelwch ar y Rhyngrwyd y DU.

    Gwnaethom gydweithio â’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a’r Swyddfa Gartref yn ystod y cyfnod cyn cyhoeddi’r Papur Gwyn ‘Online Harms’, a gwaethom gyfrannu at y gwaith parhaus sy’n effeithio ar ddiogelwch ar-lein yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod ymgynghori bu swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â swyddogion o’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a’r Swyddfa Gartref i drafod manylion y Papur Gwyn ‘Online Harms’ a’r goblygiadau i’r gweinyddiaethau datganoledig, ac wedi hynny cyflwynwyd ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r Papur Gwyn ‘Online Harms’.

    Yn ystod 2019–20, byddwn yn parhau i gydweithio â Llywodraeth y DU i ddatblygu Strategaeth Diogelwch ar y Rhyngrwyd y DU a’r agenda ‘Online Harms’.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Rydym yn cydweithio â Llywodraeth y DU ac yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu Strategaeth Diogelwch ar y Rhyngrwyd y DU.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyfrannu at Fwrdd Gweithredol Cyngor y DU ar gyfer Diogelwch Plant ar y Rhyngrwyd (UKCCIS) er mwyn sicrhau bod Cymru yn cael ei chynrychioli ar lefel y DU.

    Rydym wedi parhau i gael ein cynrychioli yng nghyfarfodydd Bwrdd Gweithredol UKCIS a Gweithgor Addysg UKCIS. Rydym yn ystyried cyfleoedd pellach i weithio gydag UKCIS fel rhan o’i grwpiau Cadernid Digidol a Defnyddwyr Agored i Niwed.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Olynydd Cyngor y DU ar gyfer Diogelwch Plant ar y Rhyngrwyd (UKCCIS) yw Cyngor y DU ar Ddiogelwch ar y Rhyngrwyd (UKCIS), gyda chwmpas estynedig i wella diogelwch ar-lein i bawb yn y DU.

    Mae Bwrdd Gweithredol UKCIS yn dwyn ynghyd arbenigedd o amrywiaeth o sefydliadau yn y diwydiant technoleg, cymdeithas sifil a’r sector cyhoeddus.

    Yn ystod 2018–19, rydym wedi cael ein cynrychioli yng nghyfarfodydd Bwrdd Gweithredol UKCIS, gan sicrhau bod Cymru yn cael ei chynrychioli ar lefel y DU. Rydym hefyd yn ddiweddar wedi dod yn aelod o Weithgor Addysg UKCIS.

    Yn ystod 2019–20, byddwn yn parhau i gael ein cynrychioli yng nghyfarfodydd Bwrdd Gweithredol UKCIS a Gweithgor Addysg UKCIS.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Mae Cyngor y DU ar gyfer Diogelwch Plant ar y Rhyngrwyd (UKCCIS) yn grŵp o dros 200 o sefydliadau o sectorau’r llywodraeth, diwydiant, y gyfraith, y byd academaidd ac elusennau sy’n gweithio mewn partneriaeth i helpu i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein. Sefydlwyd y cyngor yn 2010 yn dilyn adolygiad gan yr Athro Tanya Byron, ac mae’n trafod materion perthnasol yn ymwneud â defnydd plant o’r rhyngrwyd, gan roi camau gweithredu ar waith.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r Grŵp Diogelu mewn Addysg Cenedlaethol, gan ddwyn ynghyd arweinwyr awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i rannu arferion da a gwneud gwaith prosiect ym maes diogelu. Bydd swyddogion o Lywodraeth Cymru yn mynychu er mwyn cynrychioli rhaglen waith diogelwch ar-lein Hwb.

    Yn ystod 2019–20, mae’r Grŵp Diogelu mewn Addysg wedi parhau i gyfarfod. Yn ogystal â rhannu arferion da yn ystod cyfarfodydd, mae’r grŵp wedi bod yn rhan annatod o’r gwaith o ddiweddaru’r canllawiau statudol Cadw dysgwyr yn ddiogel.

    Rhoddwyd diweddariadau rheolaidd ar faterion yn ymwneud â diogelwch ar-lein a chadernid digidol, yn ogystal â manylion am adnoddau a digwyddiadau sydd newydd eu cyhoeddi.

    Mae aelodau’r grŵp yn rhanddeiliaid allweddol ac mae eu safbwyntiau a’u harbenigedd yn parhau i gyfrannu at gyfeiriad polisi cadernid digidol.

    Byddwn yn parhau i gefnogi’r grŵp, gan ddwyn ynghyd arweinwyr awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i rannu arferion da a chwblhau gwaith prosiect ym maes diogelu.

    Mae diogelwch ar-lein a chadernid digidol yn parhau i fod yn eitem safonol ar agenda’r grŵp.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Mae’r Grŵp Diogelu mewn Addysg wedi cyfarfod teirgwaith yn ystod 2018–19. Yn ogystal â rhannu arferion da mewn cyfarfodydd, mae’r grŵp wedi helpu i ddatblygu’r canllawiau statudol diwygiedig hefyd, sef Cadw dysgwyr yn ddiogel, ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Mae’r grŵp yn cael y newyddion diweddaraf am ein gweithgareddau diogelwch ar-lein yn rheolaidd, sy’n cynnwys manylion am adnoddau a digwyddiadau sydd newydd eu cyhoeddi.

    Byddwn yn parhau i gefnogi’r grŵp, gan ddwyn ynghyd arweinwyr awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i rannu arferion da a chwblhau gwaith prosiect ym maes diogelu. Gofynnir i aelodau gefnogi’r broses o roi’r canllawiau diwygiedig, sef Cadw dysgwyr yn ddiogel, ar waith yn dilyn yr ymgynghoriad.

    Bellach, mae diogelwch ar-lein yn eitem safonol ar agenda’r Grŵp Diogelu mewn Addysg, a bydd hynny’n parhau.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Mae’r Grŵp Diogelu mewn Addysg yn cynnwys arweinwyr diogelu o bob un o awdurdodau lleol Cymru, yn ogystal â sefydliadau eraill â diddordeb fel Estyn a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (CCAC). Mae’r grŵp yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn er mwyn rhannu arferion da a gweithredu rhaglen waith y cytunir arni. Hefyd, mae’r grŵp yn gweithredu fel ymgynghorwyr anffurfiol ar gyfer polisïau a phrosiectau Llywodraeth Cymru.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio â’r Grŵp Cynghori ar Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh), gan ystyried materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein, fel sy’n briodol. Bydd y Grŵp Cynghori ar ABCh yn parhau i sicrhau ansawdd gwersi yn ymwneud ag ABCh pan fydd angen.

    Rydym yn parhau i gydweithio â’r Grŵp Cynghori ar Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh), sy’n sicrhau ansawdd adnoddau addysgu a dysgu cyn iddynt gael eu cyhoeddi a’u rhoi ar wefan Hwb. Cyhoeddwyd fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn gynharach eleni, ac mae’r grŵp yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd, yn enwedig mewn perthynas â Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles ac addysg cydberthynas a rhywioldeb.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Mae’r Grŵp Cynghori ar Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) yn cyfarfod teirgwaith y flwyddyn i sicrhau ansawdd adnoddau addysgu a dysgu cyn iddynt gael eu cyhoeddi a’u rhoi ar wefan Hwb. Fel arbenigwyr cydnabyddedig yn eu meysydd, gofynnwyd i aelodau’r grŵp ystyried a darparu cyngor ar effaith diwygio’r cwricwlwm yng Nghymru o safbwynt darpariaeth ABCh a’r cysylltiadau â Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles Cwricwlwm i Gymru.

    Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r Grŵp Cynghori ar ABCh fel cyfrwng sicrhau ansawdd ar gyfer gwersi sy’n ymwneud ag ABCh pan fydd angen, gan gynnwys ystyried materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein fel y bo’n briodol.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Sefydlwyd y Grŵp Cynghori ar Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) i ddarparu fforwm i drafod ffyrdd posibl o helpu ysgolion i ddarparu sesiynau o ansawdd uchel yn ymwneud â’r Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru.

    Diben y Grŵp Cynghori ar ABCh yw darparu cyngor ac arweiniad ac amlygu cyfleoedd i helpu ysgolion i ddarparu sesiynau ABCh o ansawdd uchel.

    Fel arbenigwyr cydnabyddedig yn eu meysydd, mae aelodau’r grŵp yn darparu cyngor ar effaith diwygio’r cwricwlwm yng Nghymru o safbwynt darpariaeth ABCh a’r cysylltiadau â Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles Cwricwlwm i Gymru.

    Hefyd, mae aelodau’r grŵp yn sicrhau ansawdd adnoddau dysgu ac addysgu cyn eu bod yn cael eu cyhoeddi a’u cynnal ar Hwb, y llwyfan dysgu digidol ar gyfer Cymru. Mae hyn yn sicrhau bod cymorth addysgu cyson o ansawdd uchel ar gael yn hwylus i ymarferwyr.

  • Bydd diogelwch ar-lein yn chwarae rôl allweddol mewn addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y dyfodol yn dilyn argymhellion y Panel Arbenigol ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd ym mis Mawrth 2017. 

    Cyhoeddwyd Cwricwlwm i Gymru ym mis Ionawr 2020. Mae’n darparu methodoleg ar gyfer cynllunio cwricwlwm sy’n cynnwys, lle y bo’n briodol, cyfleoedd i ddysgwyr feithrin dealltwriaeth o addysg cydberthynas a rhywioldeb fel elfen drawsbynciol. O fewn Cwricwlwm i Gymru, rydym yn glir y dylai ysgolion a lleoliadau greu amgylcheddau diogel sy’n grymuso dysgwyr ac yn adeiladu ar eu dysgu a’u profiadau ffurfiol ac anffurfiol, all-lein ac ar-lein.

    Bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cynnwys dysgu priodol yn ôl cam datblygu ar y meysydd thematig canlynol:

    • hawliau a thegwch
    • cydberthnasau
    • rhyw, rhywedd a rhywioldeb
    • iechyd a lles rhywiol
    • trais, diogelwch a chymorth

    Cynigir y bydd gan ysgolion ddyletswydd i ddarparu addysg cydberthynas a rhywioldeb. Caiff canllawiau pellach eu cyhoeddi cyn 2022 i gefnogi hyn, gan gynnwys canllawiau ar y pynciau a’r dysgu sy’n cefnogi addysg cydberthynas a rhywioldeb a’r hyn y gall pob maes dysgu a phrofiad ei gyfrannu tuag atynt.

    Caiff canllawiau statudol eu datblygu ar y cyd ag ymarferwyr a rhanddeiliaid dros y misoedd i ddod.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Gwnaethom dderbyn holl argymhellion y Panel Arbenigol ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd ym mis Mai 2018. Er mwyn cefnogi’r gwaith o ddatblygu Cwricwlwm i Gymru, cydweithiodd cadeirydd y Panel Arbenigol ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd (yr Athro Renold) ag Ysgolion Arloesi Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles er mwyn sicrhau bod eu dulliau gweithredu wedi’u cydgysylltu a bod gwaith yr arloeswyr yn seiliedig ar y gwaith a wnaed gan y panel.

    Bydd y dystiolaeth gynhwysfawr a gasglwyd gan y Panel Arbenigol ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yn ein helpu wrth inni fynd ati i wella darpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb mewn ysgolion, yn y cwricwlwm presennol a’r un newydd.

    Mae addysg rhyw a pherthnasoedd wedi cael ei ailenwi i addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae’r newid mewn enw yn seiliedig ar ddiffiniad Sefydliad Iechyd y Byd o addysg rhywioldeb, a bydd yn annog ysgolion i ystyried y pynciau ehangach a nodwyd yn adroddiad y Panel Arbenigol ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd a’r cysylltiadau posibl â meysydd eraill.

    Yn gynharach eleni gwnaethom ymgynghori ar ganllawiau drafft addysg cydberthynas a rhywioldeb a chyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ym mis Gorffennaf 2019.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Roedd diogelwch ar-lein yn un o feysydd allweddol yr argymhellion a gyflwynwyd gan y Panel Arbenigol ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd ym mis Rhagfyr 2017. Derbyniwyd yr argymhellion hyn mewn egwyddor gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y pryd ym mis Mai 2018. Bydd diogelwch ar-lein yn rhan allweddol o addysg cydberthynas a rhywioldeb, sef y teitl newydd ar gyfer addysg rhyw a pherthnasoedd.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo’r defnydd o’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol drwy barhau i weithio gydag ysgolion i ymgorffori’r sgiliau digidol, yr wybodaeth a’r agweddau sydd eu hangen ym mhob rhan o’r cwricwlwm i ddiogelu dysgwyr ar-lein. 

    Gwnaethom barhau i weithio gyda’r consortia rhanbarthol i gefnogi ysgolion i ymgorffori’r amrywiaeth o sgiliau digidol ym mhob rhan o’r cwricwlwm. Awgryma gwybodaeth gan Estyn fod safonau sgiliau digidol wedi gwella ledled Cymru, ond gwyddom fod angen gwneud rhagor o waith i achub ar y cyfleoedd mewn ysgolion i fanteisio ar y Fframwaith Cymhwysedd Digidol a’i ymgorffori.

    Gwnaethom weithio gyda’r Arloeswyr Digidol i ailwampio’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn unol â Chwricwlwm i Gymru. Cyhoeddwyd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol diwygiedig ym mis Ionawr 2020, ochr yn ochr â chanllawiau Cwricwlwm i Gymru.

    Byddwn yn parhau i weithio gydag ymarferwyr a’r consortia rhanbarthol i gefnogi ac annog dull ysgol gyfan o ymgorffori cymhwysedd digidol ym mhob rhan o’r cwricwlwm.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Gweithiodd swyddogion Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â’n Harloeswyr Digidol a’r consortia rhanbarthol i sicrhau bod ein disgwyliadau’n cael eu cyfleu’n glir i ysgolion. Gwnaethom atgyfnerthu dulliau cyfathrebu, gan gynnwys newyddion am ddeunyddiau gwybodaeth diwygiedig, hyrwyddo pedwar animeiddiad newydd o ‘linynnau’ y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, astudiaethau achos ysgolion, a fersiwn Dysg o’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

    Gan weithio ar y cyd â’r Arloeswyr Digidol, rydym wedi datblygu deunyddiau cymorth pellach, sydd ar gael ar Hwb. Mae tystiolaeth gan Estyn yn nodi bod ysgolion wedi derbyn yr her i ymgorffori gwaith cymhwysedd digidol i’w darpariaeth, ac mae digon o enghreifftiau o arferion arloesol a diddorol o bob rhan o Gymru.

    Mae cymhwysedd digidol yn gyfrifoldeb trawsgwricwlaidd o fewn Cwricwlwm i Gymru. Byddwn yn parhau i gefnogi ysgolion i ymgorffori cymhwysedd digidol yn eu darpariaeth.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Cyflwynwyd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ym mis Medi 2016 ac mae’n helpu dysgwyr i’w hamddiffyn eu hunain ar-lein drwy fabwysiadu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r agweddau digidol ledled y cwricwlwm cyfan sy’n galluogi’r defnydd hyderus, creadigol a beirniadol o dechnolegau a systemau.

    Mae gan y fframwaith bedwar llinyn o bwysigrwydd cyfartal (Dinasyddiaeth, Rhyngweithio a chydweithio, Cynhyrchu, a Data a meddwl cyfrifiadurol).

    Mae’r llinyn Dinasyddiaeth yn canolbwyntio ar ddysgwyr yn datblygu sgiliau ac ymddygiad i wneud cyfraniad cadarnhaol at y byd digidol o’u cwmpas, gan gynnwys eu hamddiffyn eu hunain ar-lein. Mae’r llinyn Rhyngweithio a chydweithio yn caniatáu i ddysgwyr archwilio dulliau cyfathrebu ffurfiol ac anffurfiol gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol a negeseua gwib. Yn ogystal ag ystyried sut i storio data, bydd dysgwyr yn ystyried goblygiadau deddfau data a sut i rannu gwybodaeth yn briodol.

    Rydym yn awyddus i ennyn hyder pob athro i gynnwys cymhwysedd digidol yn eu gwersi. Mae’r Ysgolion Arloesi Digidol wrthi’n helpu ysgolion eraill i gyflwyno’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ac rydym yn awyddus i gynnal y momentwm hwn er mwyn sicrhau eu bod nhw, ynghyd â’r consortia rhanbarthol, yn cefnogi ysgolion drwy ddarparu’r arbenigedd angenrheidiol. Ar ben hynny, mae’r Ysgolion Arloesi Digidol yn parhau i ddatblygu deunyddiau a fydd ar gael i bob ysgol ar Hwb. Hefyd, mae Arloeswyr Digidol yn gweithio ochr yn ochr ag Arloeswyr y Cwricwlwm i ddatblygu’r meysydd dysgu a phrofiad newydd er mwyn sicrhau y caiff cymhwysedd digidol ei ymgorffori’n effeithiol ym mhob rhan o Gwricwlwm i Gymru.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid drwy’r Grant Gwella Ysgolion Rhanbarthol er mwyn galluogi’r consortia rhanbarthol i hyrwyddo dinasyddiaeth ddigidol, a defnydd diogel a chyfrifol o dechnoleg ddigidol. 

    Darperir £1.5m o gyllid grant fel cymorth parhaus i’r consortia rhanbarthol ar gyfer Rhaglen Hwb am gyfnod o dair blynedd rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2022.

    Mae’r pedwar consortiwm rhanbarthol yn parhau i gynnig amrywiaeth o ddewisiadau cymorth a chyfleoedd datblygu o dan y rhaglen.

    Ym mis Ebrill 2020, rhoddwyd ail flwyddyn Cam 3 y grant ar waith drwy neilltuo £500k o gyllid. Disgwylir y bydd y consortia rhanbarthol yn defnyddio’r cyllid i barhau i gefnogi Rhaglen Hwb a mynd ati i hyrwyddo dinasyddiaeth ddigidol, a defnydd diogel a chyfrifol o dechnoleg ddigidol.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Darparwyd £1.45m o gyllid grant drwy Grant Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) Dysgu yn y Gymru Ddigidol (Cam 2) fel cymorth parhaus i’r consortia rhanbarthol ar gyfer Rhaglen Hwb am gyfnod o dair blynedd rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2022.

    Ar gyfer ei flwyddyn olaf (2018–19), cafodd Grant DPP Dysgu yn y Gymru Ddigidol ei gynnwys fel rhan o Grant Gwella Ysgolion y Consortia Addysg Rhanbarthol. Cynigiodd y pedwar consortiwm rhanbarthol amrywiaeth o ddewisiadau cymorth a chyfleoedd datblygu o dan y rhaglen yn ystod y cyfnod hwnnw.

    Ym mis Ebrill 2019, rhoddwyd Cam 3 y grant ar waith drwy neilltuo £500k o gyllid ar gyfer y flwyddyn gyntaf. Disgwylir y bydd y consortia rhanbarthol yn defnyddio’r cyllid i barhau i gefnogi’r Rhaglen Hwb ac i fynd ati i hyrwyddo dinasyddiaeth ddigidol, a defnydd diogel a chyfrifol o dechnoleg ddigidol.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Ym mis Ebrill 2019, cytunwyd i ddarparu £1.5m o gyllid grant ychwanegol drwy’r Grant Gwella Ysgolion Rhanbarthol, sef Grant Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) Dysgu yn y Gymru Ddigidol (Cam 3) yn flaenorol. Bydd y grant yn darparu cymorth parhaus i’r consortia rhanbarthol ar gyfer Rhaglen Hwb am gyfnod o dair blynedd rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2022.

    Mae gweithgareddau’n canolbwyntio ar:

    • ddarparu cymorth i ymarferwyr mewn ysgolion er mwyn datblygu eu hyder a’u gallu wrth ddefnyddio’r ystod o adnoddau ac offerynnau digidol sydd ar gael drwy’r Rhaglen Hwb
    • darparu gallu ar gyfer cymorth ‘Arweinydd Digidol’ arbenigol a fydd yn cydgysylltu cymorth ar gyfer ysgolion ar draws y consortiwm rhanbarthol wrth fabwysiadu a defnyddio adnoddau a gweithgareddau Hwb
    • hyrwyddo dinasyddiaeth ddigidol mewn perthynas â’r defnydd diogel a chyfrifol o offerynnau ac adnoddau sydd ar gael drwy’r Rhaglen Hwb, a thechnoleg ddigidol yn ehangach
    • helpu ymarferwyr i ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth a llythrennedd digidol eu hunain yn unol â’r broses o ddatblygu a chyflwyno’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a Chwricwlwm i Gymru
    • cefnogi datblygiad parhaus y Rhaglen Hwb drwy helpu ein Huned Dysgu Digidol i gasglu adborth gan ymarferwyr addysg i lywio cyfeiriad y rhaglen yn y dyfodol.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at Bartneriaeth Diogelwch ar y Rhyngrwyd Cymru (WISP) er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglenni gwaith diogelwch ar-lein a thrafod materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein. 

    Drwy gydol 2019–20, rydym wedi parhau i fynychu Partneriaeth Diogelwch ar y Rhyngrwyd Cymru (WISP) ar y cyd â swyddogion o feysydd Cynhwysiant Digidol a Dysgu Digidol.

    Er mwyn cefnogi’r grŵp hwn yn barhaus, rydym wedi darparu ysgrifenyddiaeth i’r grŵp ers mis Rhagfyr 2019.

    Yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglenni gwaith, rydym wedi defnyddio’r fforwm hwn i drafod a chasglu gwybodaeth am effaith COVID-19 ar ymddygiadau plant a phobl ifanc ar-lein ac, yn sgil hynny, codi ymwybyddiaeth o’r risgiau posibl.

    Rydym yn ymrwymedig i barhau i gydweithio â WISP a gweithio gyda’i haelodau.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Drwy gydol 2018–19, rydym wedi parhau i fynychu Partneriaeth Diogelwch ar y Rhyngrwyd Cymru (WISP) ar y cyd â swyddogion o feysydd Cynhwysiant Digidol a Dysgu Digidol, gan gyflwyno’r newyddion diweddaraf ar raglenni gwaith.

    Rydym yn ymrwymedig i barhau i gydweithio â WISP a gweithio gyda’i haelodau. Bydd y gwaith hwn yn parhau yn y dyfodol.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Sefydlwyd Partneriaeth Diogelwch ar y Rhyngrwyd Cymru (WISP) gan BT Cymru a WISE KIDS ym mis Mai 2007. Mae’n bartneriaeth anffurfiol o sefydliadau aelod cynrychioladol yng Nghymru (neu sydd â chylch gwaith sy’n cynnwys Cymru), sydd â diddordeb mewn hyrwyddo llythrennedd digidol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.

    Nod WISP yw hyrwyddo llythrennedd digidol ar gyfer plant a phobl Ifanc yng Nghymru drwy rannu gwybodaeth, syniadau, adnoddau ac ymarfer da ymysg aelodau. Eu nod ehangach yw ymgysylltu’n fwy effeithiol â phlant a phobl ifanc er mwyn eu galluogi i:

    • ddeall y byd digidol yn well
    • defnyddio technolegau ar-lein yn effeithiol
    • asesu risgiau ar-lein, a rheoli diogelwch personol a hunaniaethau digidol
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried sut i gryfhau darpariaeth diogelwch ar-lein mewn lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion. 

    Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i gyrff llywodraethu, pwyllgorau rheoli unedau cyfeirio disgyblion, a byrddau ac ymddiriedolwyr lleoliadau addysgol, gan gynnwys lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS), ynglŷn â chadw’n ddiogel ar-lein.

    Mae parth Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb ar gael i bob aelod o’r cyhoedd, gan sicrhau bod dysgwyr a’u rhieni a gofalwyr yn gallu manteisio ar y gyfres helaeth o adnoddau addysgol ar gadernid digidol sydd ar gael. Hefyd, yn ystod pandemig COVID-19, gwnaethom weithio gyda phartneriaid i lunio adnoddau penodol i gefnogi dysgu o bell ac, yn fwy diweddar, dysgu cyfunol.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Rydym yn parhau i roi’r Fframwaith Gweithredu ar gyfer darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol ar waith. Os yw’n briodol, bydd diogelwch ar-lein mewn lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) yn cael ei gynnwys.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Ym mis Rhagfyr 2017, gwnaethom gyhoeddi Fframwaith Gweithredu ar gyfer darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgolpenllanw dwy flynedd o gydweithio a thrafod rhwng y sector a Grŵp Gorchwyl a Gorffen traws-sector EOTAS. Nod cyffredinol y fframwaith yw cynyddu cyfle cyfartal ar gyfer dysgwyr sy’n defnyddio darpariaeth EOTAS, gan eu helpu i wireddu eu potensial.

    Mae Grŵp Cyflawni EOTAS, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o ddarpariaeth EOTAS, awdurdodau lleol ac ysgolion prif ffrwd, wedi’i sefydlu i oruchwylio’r broses o roi’r fframwaith ar waith. Wrth weithredu’r 34 o gynigion yn y fframwaith, bydd Grŵp Cyflawni EOTAS yn ystyried sut i wella mynediad at wasanaethau bugeiliol fel cyngor ar yrfaoedd, cwnsela a Hwb ar gyfer dysgwyr EOTAS.

  • Bydd portffolios Iechyd ac Addysg Llywodraeth Cymru yn cyd-ariannu cynllun peilot i brofi’r mewngymorth iechyd meddwl a ddarperir gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) i ysgolion.

    Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i barhau i ariannu’r cynlluniau peilot drwy gydol 2020–21, gan neilltuo bron £1m o gyllid ychwanegol, sy’n cynnwys cyllid i recriwtio mwy o ymarferwyr iechyd meddwl ar gyfer y cynlluniau peilot i ddarparu capasiti cynyddol. Mae’r Gweinidogion hefyd wedi cytuno i ymestyn y cynlluniau peilot hyd at fis Gorffennaf 2021, gan gydnabod rôl bwysig y cynlluniau peilot i ddiwallu anghenion lles hirdymor dysgwyr y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt.

    Cyhoeddwyd gwerthusiad interim o’r cynlluniau peilot ym mis Gorffennaf 2020.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Rydym wedi cytuno i ddarparu £1.4m o gyllid i ariannu cynllun peilot i brofi’r mewngymorth iechyd meddwl a ddarperir gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) i ysgolion. Mae’r gwasanaethau mewngymorth iechyd meddwl yn cynnig cymorth, cyngor a hyfforddiant iechyd arbenigol i ysgolion. Er nad yw hynny’n hoelio’r sylw’n benodol ar ddiogelwch ar-lein, fe fydd yn sicrhau bod gan staff ysgolion y sgiliau a’r hyder i ymateb i ddysgwyr sy’n dangos arwyddion o ofid emosiynol. Bydd staff ysgolion mewn sefyllfa well i gael sgyrsiau â dysgwyr am eu hiechyd meddwl a byddant yn fwy effeithiol wrth gyfeirio dysgwyr at y cymorth iawn ar yr adeg iawn.

    Bydd cynlluniau peilot sydd ar y gweill mewn chwech o ardaloedd awdurdodau lleol a phedwar o ardaloedd byrddau iechyd lleol yn parhau i gael eu gweithredu hyd at haf 2020. Mae contract i werthuso’r cynlluniau ar waith, sy’n cynnwys gwerthusiad interim ym mis Rhagfyr 2019 a gwerthusiad terfynol ym mis Rhagfyr 2020.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Nod ein cynllun peilot mewngymorth iechyd meddwl i ysgolion yw helpu a chefnogi athrawon i ymateb i blant a phobl ifanc sy’n wynebu anawsterau fel pryder, hwyliau isel, ac anhwylderau cymhellol, hunan-niweidio neu ymddygiad. Mewn rhai achosion, gall problemau iechyd meddwl ddeillio o dechnoleg ddigidol, neu waethygu o ganlyniad iddi.

    Bydd y gweithgarwch peilot a ariennir yn para dwy flynedd academaidd, gan ddod i ben yn ystod haf 2020. Canolbwyntir yn benodol ar nodi ac ymyrryd yn gynnar. Cynhelir y cynllun peilot mewn tair ardal – Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y Gogledd-ddwyrain (Wrecsam a Sir Ddinbych); Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn y de-ddwyrain (Blaenau Gwent, Torfaen a de Powys); a Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn y gorllewin (Ceredigion);

    Hefyd, mae’r cyllid yn cynnwys darpariaeth i werthuso’r cynlluniau peilot, a bydd y gwerthusiad yn llywio cyfeiriad polisi yn y dyfodol.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag Ysgolion Arloesi drwy’r meysydd dysgu a phrofiad perthnasol, gan gynnwys Iechyd a Lles, er mwyn sicrhau bod materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein yn llywio’r gwaith o ddatblygu’r fframwaith Cwricwlwm i Gymru.

    Gwnaethom gyhoeddi canllawiau diwygiedig Cwricwlwm i Gymru ym mis Ionawr, ac maent yn adlewyrchu pwysigrwydd materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein, yn enwedig ym Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles.

    Byddwn yn parhau i weithio gydag ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill i sicrhau y caiff ysgolion ac ymarferwyr eu cefnogi i wireddu’r Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys yr agwedd hon.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Mae’r Ysgolion Arloesi sy’n datblygu’r Cwricwlwm i Gymru wedi ystyried diogelwch ar-lein, a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar gyfer nifer o’r meysydd dysgu a phrofiad, gan gynnwys Iechyd a Lles a Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Cyhoeddwyd Cwricwlwm drafft i Gymru 2022 i gael adborth ar 30 Ebrill 2019. Daeth y cyfnod adborth i ben ar 19 Gorffennaf 2019 a bydd y Cwricwlwm diwygiedig i Gymru ar gael ym mis Ionawr 2020.

    Un o bedwar diben Cwricwlwm i Gymru yw bod dysgwyr yn datblygu i fod yn unigolion iach a hyderus sy’n gwybod sut i ddod o hyd i wybodaeth a chymorth i’w cadw’n ddiogel ac yn iach, ac i feithrin cydberthynas gadarnhaol ag eraill sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a chyd-barch. Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn cefnogi dysgwyr i brosesu profiadau ar-lein ac ymateb iddynt, gwneud penderfyniadau diogel wrth gysylltu ag eraill ar-lein a gwybod os bydd cydberthnasau ag eraill ar-lein yn rhai niweidiol neu’n rhai nad ydynt yn iach. Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn rhoi mwy o bwyslais ar baratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd. Bydd cymhwysedd digidol yn thema drawsgwricwlaidd, ar y cyd â llythrennedd a rhifedd.

    Yn ychwanegol at gymhwysedd digidol, mae’r Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys cyfrifiadura fel llinyn dysgu ym Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Er bod hwnnw’n canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth o egwyddorion allweddol sy’n sail i gyfrifiadureg, rydym yn disgwyl i fater diogelwch ar-lein gael ei gynnwys fel rhan o hynny.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Mae Cwricwlwm i Gymru wedi’i ddatblygu gan athrawon ac ymarferwyr drwy rwydwaith o Ysgolion Arloesi mewn partneriaeth â ni, consortia rhanbarthol, Estyn, Cymwysterau Cymru, sefydliadau addysg uwch, busnesau a phartneriaid allweddol eraill.

    Mae Cwricwlwm i Gymru yn seiliedig ar chwe maes dysgu a phrofiad, ac un ohonynt yw Iechyd a Lles. Drwy Faes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles, bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae’r amgylchedd, gan gynnwys yr amgylchedd ar-lein, eu cyflwr meddwl a’u cyflwr corfforol yn effeithio ar eu hiechyd, eu lles a’u parodrwydd i ddysgu gydol eu hoes.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan yn 2019–20 mewn partneriaeth â’r heddlu. Mae diogelwch ar-lein yn faes a gwmpesir gan y rhaglen.

    Cynhaliwyd adolygiad yr heddlu o’r rhaglen a chytunwyd y byddai’r cyllid yn parhau ar gyfer y rhaglen yn 2019–20. Rydym hefyd wedi cadarnhau y caiff y cyllid ar gyfer y rhaglen ei gynnal ar gyfer 2020–21.

    Rydym wedi ymgynghori’n agos â Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan wrth ddatblygu’r canllawiau i leoliadau addysgol, sef Rhannu lluniau noeth a rhannol noeth: ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc (i’w cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2020). Mae hyn wedi sicrhau y caiff gwybodaeth a chyngor perthnasol eu cynnwys ar y rôl bwysig y gall Swyddogion Cymuned Ysgol yr Heddlu ei chwarae wrth gefnogi ysgolion i ddelio ag achosion o rannu lluniau noeth a rhannol noeth.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Rydym yn darparu cyllid i Raglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan mewn partneriaeth â’r heddlu. Mae’r rhaglen hon yn darparu addysg ar gamddefnyddio sylweddau a materion cymunedol a diogelwch personol ehangach, gan gynnwys diogelwch ar-lein, ym mhob cyfnod allweddol yn y cwricwlwm ymhlith ystod o wersi eraill.

    Mae trafodaethau’n parhau rhwng swyddogion a’r heddlu ynghylch sut olwg fydd ar y rhaglen y tu hwnt i 2020 o ystyried rhaglenni ieuenctid a rhaglenni ymyrraeth gynnar eraill. Fel rhan o hyn, mae’r rhaglen yn cael ei diwygio ar hyn o bryd ac mae’r heddlu’n arwain ar hyn. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ystyried yr argymhellion a wnaed yn dilyn yr adolygiad o’r rhaglen ac, yn benodol, sut y bydd yn ategu’r gwaith ar ddiwygio’r cwricwlwm.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol i hyrwyddo rhaglenni Cyber First yng Nghymru.

    Rydym wedi cydweithio â’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol i godi proffil rhaglenni Cyber First yng Nghymru.

    Cystadleuaeth i Ferched Cyber First

    Mae Cystadleuaeth i Ferched Cyber First yn darparu amgylchedd heriol ond llawn hwyl i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fenywod ifanc i ystyried gyrfa ym maes seiber ddiogelwch. Mae’r gystadleuaeth yn agored i ferched ym Mlwyddyn 8 ledled Cymru, a’u cyfoedion yng ngweddill y DU. Gwnaethom gefnogi’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol i hyrwyddo’r gystadleuaeth yng Nghymru. Yn 2020, cafodd rownd derfynol y gystadleuaeth ei chynnal am y tro cyntaf yng Nghymru (Caerdydd), lle aeth wyth tîm i’r afael â’r senario ddychmygol o amddiffyn y Gemau Olympaidd rhag ymosodiadau seiber.

    Rydym yn gweithio gyda’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol i hyrwyddo cystadleuaeth 2020–21, gyda’r nod o gynyddu’r nifer o ymgeiswyr o Gymru.

    Cyrsiau Cyber First

    Rydym wedi gweithio gyda’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol i hyrwyddo cyrsiau preswyl haf Cyber First, a gynhaliwyd ar ffurf rithwir eleni. Mae’r cyrsiau hyn wedi’u hanelu at bobl ifanc 14 i 17 oed ac maent yn rhoi cyflwyniad gwerthfawr i seiber ddiogelwch. Rydym yn parhau i weithio gyda’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol i hyrwyddo’r cyrsiau hyn i ddysgwyr ledled Cymru.

    Ysgolion Cyber First

    Yn ystod 2020, rydym wedi gweithio gyda’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol i dreialu Rhaglen Ysgolion Cyber First. Nod y rhaglen yw creu llif talent ym maes technoleg a seiber ddiogelwch i ddiwallu’r angen yn y DU yn y dyfodol, drwy gydnabod ysgolion sydd â dulliau rhagorol o ymdrin â seiber ddiogelwch. Gwnaethom gefnogi’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol i sefydlu proses ymgeisio ddwyieithog ar gyfer ysgolion a cholegau yng Nghymru a hyrwyddo’r cyfle ledled Cymru.

    Rydym yn ymrwymedig i gefnogi’r gwaith o hyrwyddo cyfleoedd Cyber First ledled Cymru, ac rydym wrthi’n ystyried datblygu presenoldeb dynodedig ar gyfer Cyber First ar barth Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Mae rhaglenni Cyber First y Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol yn rhoi cyfle  i bobl ifanc ddysgu mwy am seiber ddiogelwch. Rydym yn awyddus i sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru’n ymwybodol o’r cyrsiau hyn ac yn gallu elwa arnynt.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Get Safe Online er mwyn sicrhau y caiff y wefan Gymraeg newydd ei lansio’n effeithiol.

    Rydym yn parhau i ariannu wales.getsafeonline.org er mwyn diwallu anghenion oedolion Cymraeg am wybodaeth ddeinameg a pherthnasol am y ffordd i gadw’n ddiogel ar-lein, ynghyd â chynnal, diweddaru a chynyddu ymwybyddiaeth ac addysg ar gyfer siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a chynyddu nifer y bobl sy’n manteisio ar y wefan drwy’r ddarpariaeth ddwyieithog.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Mae adrannau cyngor â blaenoriaeth ar wefan Get Safe Online, y bydd rhai ohonynt yn berthnasol i blant a phobl ifanc, wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg drwy ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r cenhedloedd datganoledig eraill a Llywodraeth y DU i rannu arferion da o ran diogelwch ar-lein ac ystyried cyfleoedd i gydweithredu.

    Rydym yn cymryd rhan mewn galwadau cynadledda â Llywodraeth yr Alban, Education Scotland, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a’r Adran Addysg yn Lloegr, ac yn cyfrannu atynt, er mwyn trafod materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein a ffyrdd o ymateb iddynt, a rhannu arferion da. Hwylusir y cydweithredu hwn gan Ganolfan Diogelwch ar y Rhyngrwyd y DU.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Gan gydnabod y materion cyffredin yn ymwneud â diogelwch ar-lein, byddwn yn gweithio gyda’r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr i rannu arferion da a gwersi a ddysgwyd, yn ogystal ag ystyried cyfleoedd i gydweithredu.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Google a ParentZone i gefnogi eu rhaglen addysg ar ddiogelwch ar-lein.

    Gwnaethom weithio gyda Google a ParentZone i hwyluso’r broses o gyfieithu adnoddau Be Internet Legends i’r Gymraeg, er mwyn eu rhoi ar Hwb a sicrhau eu bod ar gael i bob ysgol yng Nghymru.

    Ar 14 Tachwedd 2019, cynhaliodd Google a ParentZone ddigwyddiad hyfforddi athrawon yng Nghastell Caerdydd, lle cafodd neges o gefnogaeth wedi’i ffilmio gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, ei dangos er mwyn annog athrawon i fanteisio ar yr adnoddau hyn yng Nghymru.

    Cyhoeddwyd yr adnoddau yn ddwyieithog ar Hwb ym mis Ionawr, ac er mwyn hyrwyddo eu hargaeledd, ymwelodd y Gweinidog Addysg, ynghyd â chynrychiolwyr o Google a ParentZone, ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth er mwyn arsylwi ar ystafell ddosbarth a oedd yn treialu’r adnoddau Cymraeg newydd.

    Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol, ac rydym wedi cael trafodaethau cychwynnol am gefnogi’r gwaith i gyfieithu Rhaglen Addysg Be Internet Citizens, sef Rhaglen Addysg Dinasyddiaeth Ddigidol Google, a gynhelir mewn partneriaeth â’r Sefydliad Deialog Strategol. Nod y rhaglen hon yw grymuso pobl ifanc 13 i 15 oed i fod yn gyfrifol a chodi eu llais ar-lein, drwy addysgu sgiliau dinasyddiaeth ddigidol a meddwl yn feirniadol hollbwysig iddynt.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Byddwn yn gweithio gyda Google a ParentZone i gefnogi’r broses o gyflwyno’r rhaglen addysg ar ddiogelwch ar-lein, Be Internet Legends (Saesneg yn unig) – rhaglen sydd â’r nod o rymuso plant 7 i 11 oed i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel ac yn hyderus.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael gafael ar wybodaeth a chyngor hygyrch er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r mater yn ymwneud â hunan-niwed a hunanladdiad. 

    Ym mis Medi 2019, gwnaethom gyhoeddi canllawiau i athrawon, gweithwyr proffesiynol, gwirfoddolwyr a gwasanaethau ieuenctid, sef Ymateb i faterion hunan-niweidio a theimladau hunanladdol ymhlith pobl ifanc. Mae’r canllawiau’n nodi camau ymarferol i’w cymryd os bydd rhywun yn hunan-niweidio. Er bod y canllawiau wedi’u hanelu at staff cyflogedig a staff nad ydynt yn gyflogedig, mae’n cynnig awgrymiadau ymarferol i’r teulu a ffrindiau.

    Ym mis Mehefin 2020, gwnaethom lansio Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ar Hwb, sy’n cyfeirio pobl ifanc 11 i 25 oed at amrywiaeth o adnoddau ar-lein a all eu helpu i ymdopi yn ystod cyfnod pandemig COVID-19, y cyfyngiadau symud a’r tu hwnt. Mae pob un o’r chwe adran yn cynnwys gwefannau, apiau, llinellau cymorth, a mwy, sy’n cefnogi iechyd meddwl a lles.

    Mae’r pecyn cymorth yn darparu dolenni i wefannau fel Papyrus, sy’n ymwneud yn benodol ag atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc, ac Young Minds, sy’n cynnig cymorth iechyd meddwl. Mae hefyd yn cynnwys dolenni i ap Stay Active, sef adnodd atal hunanladdiad, ap distrACT, a ddatblygwyd i gefnogi pobl ifanc sy’n hunan-niweidio, ac adnoddau fel Heads Above The Waves, sy’n hyrwyddo ffyrdd cadarnhaol a chreadigol i bobl ifanc ddelio ag iselder a hunan-niwed.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Gan weithio gyda’r Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar Hunanladdiad a Hunan-niwed a Phrifysgol Abertawe, byddwn yn cynhyrchu canllawiau ar-lein i athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill er mwyn normaleiddio sgyrsiau â phobl ifanc am hunan-niwed a hunanladdiad gyda’r nod o’u cyhoeddi yn ystod 2019–20. Caiff hyn ei ategu gan ganllawiau pellach yn 2020–21, gan ddechrau gyda phecyn cymorth wedi’i gynllunio gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, er mwyn gwella gwybodaeth am negeseuon ar-lein yn ymwneud â hunan-niwed, effaith bwlio ar-lein ac ymyriadau gan bobl empathetig.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i ystyried cyfleoedd i gydweithio er mwyn darparu addysg a chodi ymwybyddiaeth o achosion o gam-drin a cham-fanteisio ar blant ar-lein.

    Bydd botwm Click CEOP yn parhau i fod ar gael ar adran Cadw’n ddiogel ar-lein Hwb, er mwyn galluogi defnyddwyr y wefan i roi gwybod am achosion o gam-drin a chamfanteisio’n rhywiol ar blant, ar-lein ac all-lein.

    Rydym wedi gweithio gyda Thîm Addysg CEOP, sy’n cynnal Rhaglen Addysg Thinkuknow, er mwyn sicrhau bod ei hadnoddau addysg allweddol ar gael yn Gymraeg. Mae’r adnoddau Thinkuknow canlynol bellach ar gael ar adran Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb yn Gymraeg ac yn Saesneg:

    Byddwn yn cyhoeddi’r adnoddau canlynol yn ystod 2020:

    • Jessie a’i ffrindiau – addysg ar ddiogelwch ar-lein i blant 4 i 7 oed.
    • Chwarae, Hoffi, Rhannu – addysg ar ddiogelwch ar-lein i blant 8 i 10 oed.
    • Anfona lun ata i – addysg ar ddiogelwch ar-lein i blant 12 i 14 oed.

    Byddwn yn parhau i weithio gyda Thîm Addysg CEOP i ddarparu rhagor o adnoddau yn Gymraeg i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

    Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

    Mae botwm Click CEOP yn un o asedau Canolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn ymrwymedig i ddiogelu’r cyhoedd rhag troseddau difrifol a chyfundrefnol, a rôl CEOP yw mynd i’r afael ag achosion o gam-drin a cham-fanteisio’n rhywiol ar blant, ar-lein ac all-lein. Mae’r CEOP yn erlid y rhai sy’n cam-drin ac yn cam-fanteisio’n rhywiol ar blant, yn ceisio atal pobl rhag cam-fanteisio’n rhywiol ar blant, yn diogelu plant rhag dod yn ddioddefwyr camdriniaeth a cham-fanteisio rhywiol, ac yn paratoi ymyriadau i leihau effaith camdriniaeth a cham-fanteisio rhywiol ar blant drwy waith ar amddiffyn a diogelu plant. Mae Tîm Addysg yn CEOP yn darparu’r Rhaglen Addysg Thinkuknow sy’n ceisio grymuso plant a phobl ifanc a’u diogelu rhag camdriniaeth a cham-fanteisio rhywiol.

    Mae Thinkuknow (Saesneg yn unig) yn cynnwys ffilmiau, animeiddiadau, gwefannau, cyflwyniadau a chynlluniau gwersi i helpu gweithwyr proffesiynol i drafod materion anodd a sensitif â phlant a phobl ifanc mewn ffordd ddiogel. Caiff yr animeiddiadau/ffilmiau eu hategu gan becynnau cymorth a dogfennau canllaw er mwyn helpu gweithwyr proffesiynol i drafod eu themâu gyda phlant a phobl ifanc.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati, drwy’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, i ddatblygu ‘Diogelu. Darganfod. Cysylltu’ fel brand ar gyfer adnoddau cydweithredol.

    Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar ddatblygu cyfres o adnoddau wedi’u hanelu at bobl ifanc 16 oed a throsodd gan ddefnyddio brand ‘Eich Diogelu, Eich Cynnwys, Eich Cysylltu.’ Cafodd y ffeithlun cyntaf (Saesneg yn unig ar y ddolen hon), ‘Be Safe’, sy’n cynnwys awgrymiadau ar ddefnyddio cyfrinair diogel a diweddaru meddalwedd, ei lansio ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, 11 Chwefror 2020. Darparwyd fersiwn ddwyieithog o’r ffeithlun, a gyfieithwyd gennym, i bob sefydliad yng Nghymru drwy ein Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru.

    Bwriadwyd i ddau ffeithlun arall, a fydd yn dilyn themâu ‘Eich Cynnwys’ ac ‘Eich Cysylltu’, gael eu cyhoeddi’n wreiddiol yn ystod haf 2020. Fodd bynnag, o ganlyniad i bandemig COVID-19, cafodd sector gwaith cynhwysiant digidol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ei oedi tan fis Mehefin 2020.

    Y bwriad erbyn hyn yw datblygu’r ddau ffeithlun nesaf cyn cyfarfod y Gweinidogion, y disgwylir iddo gael ei gynnal gan Ynys Manaw ym mis Mawrth 2021.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Drwy sector gwaith cynhwysiant digidol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, byddwn yn cydweithio ar draws y gweinyddiaethau i ddatblygu cyfres o adnoddau wedi’u hanelu at bobl ifanc 16 oed. Bydd yr adnoddau hyn yn dilyn brand ‘Diogelu. Darganfod. Cysylltu.’ a byddant yn gyfres o dri ffeithlun yr un, gydag awgrymiadau ar ‘Ddiogelu’, e.e. defnyddio cyfrinair cadarn a diweddaru meddalwedd; ‘Darganfod’, e.e. defnyddio Google Earth i chwilota; a ‘Chysylltu’, e.e. defnyddio Wi-Fi cyhoeddus a bod yn ddinesydd da ar-lein. Caiff yr adnoddau hyn eu datblygu dros y 18 mis nesaf.


Meysydd gwaith newydd ar gyfer 2020

Yn 2020, rydym yn adeiladu ar waith blaenorol ac yn ystyried meysydd gwaith newydd sy’n cael effaith gadarnhaol ar gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â diwydiant a’r byd academaidd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gweithlu seiber ddiogelwch i sicrhau y gellir ateb y galw am sgiliau ac y gall gweithwyr proffesiynol ym maes seiber ddiogelwch gael swyddi gwerth chweil yng Nghymru.

    Mae’r sector seiber ddiogelwch yn cyflogi tua 3,500 o bobl ledled Cymru ac yn cael ei gydnabod fel un o’r sectorau technoleg sy’n tyfu gyflymaf. Caiff Cymru ei chydnabod am ei harbenigedd ym maes ymchwil a datblygu, masnacheiddio cynhyrchion amddiffyn a diogelwch, ac mae’n gartref i nifer o sefydliadau diogelwch a seiber ddiogelwch rhyngwladol mawr.

    Byddwn yn ceisio manteisio ar hyn er budd sector seiber ddiogelwch cryf yng Nghymru, gan weithio gyda diwydiant a’r byd academaidd i hyrwyddo, datblygu a darparu hyfforddiant a chyfleoedd gyrfa i bobl ifanc yng Nghymru.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r Rhwydwaith Swyddogion Diogelu Data Ysgolion Cymru Gyfan.

    Mae diogelu data yn elfen allweddol o Hwb, ac mae diogelu a diogelwch yn hollbwysig i gyflunio’r gwasanaethau a ddarperir i gefnogi addysg yng Nghymru. Bydd ein Cangen Cadernid Digidol mewn Addysg yn parhau i gydweithio â Rhwydwaith Swyddogion Diogelu Data Ysgolion Cymru Gyfan er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adnoddau a’r gwasanaethau ar Hwb, deall y pryderon sy’n wynebu awdurdodau lleol ac ysgolion mewn perthynas â diogelu data, a chynnig canllawiau, gwybodaeth ac adnoddau i helpu ysgolion i gyflawni eu rhwymedigaethau o ran diogelu data.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu ag Internet Matters i ystyried cyfleoedd i gydweithio.

    Mae Internet Matters yn cydweithio ar draws diwydiant, llywodraeth a’r byd addysg i gefnogi teuluoedd er mwyn helpu plant i fanteisio ar dechnoleg yn ddiogel.

    Byddwn yn ystyried cyfleoedd i gyfrannu at waith Internet Matters, gan gynnwys cynrychioli Cymru ar Weithgor Defnyddwyr Agored i Niwed UKCIS (Cyngor y DU ar gyfer Diogelwch ar y Rhyngrwyd).

    Byddwn hefyd yn gweithio gydag Internet Matters er mwyn galluogi ymarferwyr addysg yng Nghymru i gael gafael ar adnoddau dwyieithog sy’n cefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn benodol.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn meithrin ei chydberthynas â’r Internet Watch Foundation (IWF), gan gefnogi darpariaeth diogelwch ar-lein yng Nghymru.

    Nod yr Internet Watch Foundation (IWF) yw lleihau argaeledd cynnwys sy’n cam-drin plant yn rhywiol ar y we unrhyw le yn y byd a delweddau nad ydynt yn lluniau sy’n cam-drin plant yn rhywiol ar y we yn y DU.

    Byddwn yn ystyried manteision aelodaeth o’r IWF er mwyn defnyddio’r gwasanaethau diogelwch technegol a gynigir, a byddwn yn gweithio i hyrwyddo ymgyrchoedd diogelwch ar-lein ar gyfer lleoliadau addysg yng Nghymru.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol i lunio a datblygu llwybrau i ddysgwyr yng Nghymru ymuno â’r diwydiant seiber ddiogelwch a hyrwyddo gweithgareddau allgymorth gydag ysgolion.

    Cafodd y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol ei lansio yn swyddogol ym mis Chwefror 2020. Mae’r Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol yn darparu cyfleuster ar gyfer mentrau, academyddion, ysgolion, sefydliadau ac unigolion sydd am ddysgu mwy am dechnoleg, manteisio ar gyfleusterau o’r radd flaenaf a chael cyngor o ansawdd gan arbenigwyr uchel eu parch ym maes seiber ddiogelwch.

    Bydd ein Cangen Cadernid Digidol mewn Addysg yn cefnogi gweithgareddau addysg ac allgymorth y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol sy’n mynd i’r afael â gofynion sgiliau seiber. Byddwn yn cefnogi’r Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol i feithrin cysylltiadau rhwng lleoliadau addysg a diwydiant er mwyn hyrwyddo mentrau seiber ledled Cymru.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i godi ymwybyddiaeth o faterion megis camwybodaeth ac iaith sy’n ennyn casineb ar-lein tuag at ferched a menywod.

    Rydym wedi ehangu ein partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i gynnwys cymorth ar gyfer diogelwch ar-lein. Hyd yma, rydym wedi gweithio gyda nhw i greu fideo ar gyfer cystadleuaeth ‘Mynd i'r afael â chamwybodaeth’ Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, a lansiwyd ar 21 Medi 2020, a oedd yn cynnwys un o uwch-chwaraewyr tîm dynion Cymru yn siarad am y ffaith bod camwybodaeth mor gyffredin, gan annog plant a phobl ifanc i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

    Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cofrestru fel un o noddwyr swyddogol Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw ar yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o gamwybodaeth yn ystod y cyfnod cyn Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ar 9 Chwefror 2021.

    Mae’r gydberthynas o fudd iddynt ac i ninnau, gan fod ei chefnogaeth wedi golygu y gallwn gyrraedd cynulleidfa fwy amrywiol, gan gynnwys rhieni a gofalwyr, gyda’n negeseuon am ddiogelwch ar-lein (mae ganddi fwy na 265,000 o ddilynwyr ar Twitter). Yn yr un modd, mae rhai o’r materion ar-lein rydym yn tynnu sylw atynt yn berthnasol iawn i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, yn enwedig casineb ar-lein. Maent eisoes wedi gwneud rhywfaint o waith gyda’i huwch-chwaraewyr i fynd i’r afael â chasineb ar-lein ym maes pêl-droed, ac rydym wedi ymrwymo i gydweithio’n agosach â nhw ar y mater penodol hwn yn y dyfodol, gan gynnwys cydweithio i fynd i’r afael ag iaith sy’n ennyn casineb ar-lein tuag at ferched a menywod. Hefyd, rydym wedi bod yn cyfeirio’r Gymdeithas at adnoddau penodol ar ddiogelwch ar-lein ar barth Cadw’n ddiogel ar-lein Hwb, y gellir eu defnyddio gyda phlant a phobl ifanc mewn clybiau pêl-droed ar lawr gwlad hyd at lefel uwch fel rhan o’i nodau i hyrwyddo goddefgarwch a diwylliant cynhwysol, ar y cae ac oddi arno.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn ymuno â Grŵp System Rhybudd Cynnar Cyngor y DU ar Ddiogelwch ar y Rhyngrwyd (UKCIS) ac yn cael ei chynrychioli arno.



    Nod Grŵp System Rhybudd Cynnar Cyngor y DU ar Ddiogelwch ar y Rhyngrwyd (UKCIS) yw datblygu proses rhannu gwybodaeth yn gynnar rhwng llinellau cymorth a chyrff adrodd er mwyn gwella’r broses o nodi materion neu dueddiadau newydd yn gynnar a darparu gwybodaeth berthnasol i Fwrdd Gweithredol UKCIS. Mae’r aelodaeth yn cynnwys llinellau cymorth a chyrff gorfodi’r gyfraith, y mae’r cyhoedd yn cysylltu â phob un ohonynt. Byddwn yn cyfrannu at y grŵp gan sicrhau y caiff Cymru ei chynrychioli a’i hysbysu’n briodol.