English

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr ar y rhyngrwyd i gadw plant a phobl ifanc a’ch hun yn ddiogel ar-lein. Mae ‘Cadw dysgwyr yn ddiogel’ yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i gynorthwyo plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel a chyfrifol.

Mae gennym ni wybodaeth a chyngor ar amrywiaeth o bynciau diogelwch ar-lein yn cynnwys amrywiaeth eang o bynciau yn cynnwys cydsyniad, preifatrwydd a data, cynnwys amhriodol neu sarhaus, ffrydio byw, iechyd a lles meddyliol a’r rhyngrwyd, camwybodaeth, bwlio ar-lein, meithrin perthynas amhriodol ar-lein, casineb ar-lein, radicaleiddio ac eithafiaeth ar-lein, perthnasoedd ar-lein, enw da ar-lein ac ôl troed digidol, aflonyddu rhywiol ar-lein, amser sgrin, rhannu delweddau noeth a hanner noeth a’r cyfryngau cymdeithasol, gemau cyfrifiadur ac apiau.

Canllawiau Llywodraeth Cymru


Modiwlau hyfforddi