English

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Mae deall diogelu data, preifatrwydd a chydsyniad ar-lein yn hanfodol mewn byd digidol. Bob tro y byddwn yn mynd ar-lein - i chwilio am wybodaeth, siopa, defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, anfon negeseuon e-bost - rydym yn rhannu gwybodaeth amdanom ni ein hunain. Mae rhannu ein data yn ein helpu i gael gafael ar wybodaeth, defnyddio gwasanaethau ac aros mewn cysylltiad â'n teulu, ffrindiau a chymunedau.

Mae rhannu cynnwys yn rhan bwysig o'r hyn a wnawn ar y rhyngrwyd ac er bod y byd digidol yn cynnig cyfleoedd cadarnhaol, gall gyflwyno heriau. Mae'n bwysig bod plant a phobl ifanc yn deall y risgiau, yn gwybod beth yw eu hawliau diogelu data dan GDPR y DU a'r ffordd y mae angen i wasanaethau ar-lein ddilyn cyfres o safonau wrth ddefnyddio eu data (a elwir y Cod Plant).

Canllawiau Llywodraeth Cymru


Barn yr arbenigwyr

Trin plant yn wahanol mewn byd digidol

Helen Thomas, Uwch Swyddog Polisi (Cymru) yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth


Adnoddau dysgu ac addysgu