English

Bwriedir iddynt gefnogi’r gwaith o ddatblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein fel rhan annatod o arferion diogelu bob dydd. Mae gwybodaeth a chyngor cyffredinol am ddiogelwch ar-lein ar gael yn ogystal â chymorth ar gyfer materion penodol.


Mae’r cynllun gweithredu, yn amlinellu ein hymrwymiadau i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar lein. Mae hefyd yn manylu ar y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn erbyn pob cam strategol yn ein cynllun, gan gynnwys yr hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yma.

Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu’r hyn y mae angen i lywodraethwyr cadw golwg arno wrth adolygu polisïau a gweithdrefnau diogelwch ar-lein yr ysgol/y coleg a’r cymorth sydd ar gael.

Seiberddiogelwch mewn ysgolion: cwestiynau ar gyfer cyrff llywodraethu a phwyllgorau rheoli

Mae’r canllawiau hyn i gyrff llywodraethu a pwyllgorau rheoli wedi’u llunio er mwyn helpu i wella dealltwriaeth ysgol o’i risgiau seiberddiogelwch.

Pecyn cymorth diogelwch ar-lein i ymarferwyr y blynyddoedd cynnar

Mae’r pecyn cymorth hwn ar ddiogelwch ar-lein yn cynnwys canllawiau a pholisïau a thempledi enghreifftiol y gellir eu haddasu at ddibenion y ddarpariaeth.

Sylwch hefyd ar y poster - Sut rydym yn defnyddio technoleg yn ddiogel - a bwriedir ei harddangos mewn darpariaethau blynyddoedd cynnar.

Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar: defnyddio seiberddiogelwch i ddiogelu eich lleoliadau

Mae'r canllawiau hyn yn amlinellu sut i ddiogelu gwybodaeth sensitif am eich lleoliad a’r plant yn eich gofal rhag difrod damweiniol a throseddwyr ar-lein.

Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu’r prif bethau i’w hystyried i sicrhau arferion diogel os bydd angen ffrydio’n fyw i gefnogi dysgu o bell.

Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: Ymateb i ddigwyddiau a diogelu plant a phobl ifanc

Mae’r canllaw hwn ar gyfer y person diogelu dynodedig (DSP), penaethiaid ac uwch dimau rheoli ac yn amlinellu sut i ymateb i achosion o rannu delweddau noeth neu hanner noeth.

Herio iaith ac ymddygiad sy'n beio'r dioddefwr wrth ymdrin â phrofiadau ar-lein plant a phobl ifanc

Mae'r canllawiau hyn wedi'u hanelu at weithwyr proffesiynol mewn lleoliadau addysg sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Ei nod yw eu helpu i ddeall, adnabod ac ymateb yn well i iaith ac ymddygiad sy'n beio'r dioddefwr o fewn eu lleoliadau wrth drafod neu ymateb i brofiadau ar-lein plant a phobl ifanc.

Cyngor i ysgolion ar baratoi ar gyfer heriau niweidiol feirol ar-lein a storiau celwydd ac ymateb iddynt

Mae'r canllaw hwn i ysgolion yn cynnwys cyngor ar ddeall ac ymateb yn ofalus i heriau niweidiol feirol ar-lein a storiau celwydd, er mwyn cadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein.

Arferion ac egwyddorion i ysgolion ar gyfer defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol

Nod y canllawiau hyn yw cefnogi ysgolion a lleoliadau addysg yng Nghymru i lunio eu dull o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd ddiogel, broffesiynol a chadarnhaol fel rhan o broses gyfathrebu’r ysgol.

Mae’r canllawiau statudol hyn ar ddiogelu plant mewn addysg yn cynnig gwybodaeth i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu. Maent yn nodi eu dyletswyddau ac yn cynnig cyngor ar y trefniadau a ddylai fod ar waith i ddiogelu plant. Mae adran 7, yn benodol, yn ymwneud â chadw dysgwyr yn ddiogel ar lein.

Mae’r gyfres hon o ganllawiau’n cynnig canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ac awdurdodau lleol i helpu i fynd i’r afael â bwlio, a’i atal, mewn lleoliadau addysg yng Nghymru. Mae’r gyfres hon hefyd yn cynnwys canllawiau cynghorol i blant, pobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr, er mwyn helpu’r rheini sydd wedi’u heffeithio gan fwlio – ac mae’n amlinellu eu hawliau a’u cyfrifoldebau.


Mae’r canllawiau hyn yn ategu Gweithdrefnau Diogelu Cymru, a dylent gael eu defnyddio ar y cyd â’r Gweithdrefnau hynny.

Diogelu plant rhag eu hesgeuluso: mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am fathau gwahanol o esgeuluso plant a’r ffyrdd y gallai’r rhain gael eu cuddio.

Diogelu plant rhag camfanteisio rhywiol: mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am adnabod yr arwyddion fod plentyn yn cael ei gam-drin a’i gamfanteisio’n rhywiol.

Diogelu plant y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt: mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am y niwed i blant, yr angen i gefnogi rhieni nad ydynt yn cam-drin eu plant, gan gynnwys plant/pobl ifanc sy’n cam-drin eu rhieni a phobl ifanc sy’n cam-drin mewn perthynas rhwng cyfoedion.

Diogelu plant rhag arferion niweidiol sy’n ymwneud â thraddodiad, diwylliant, crefydd neu ofergoelau: mae’r canllaw hwn yn cynnwys Cam-drin ar sail Anrhydedd fel anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodasau dan orfod i blant (hyd at 18 oed) a cham-drin plant sy’n gysylltiedig â ffydd neu gred.

Diogelu plant lle mae pryderon ynghylch ymddygiad rhywiol niweidiol: mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am ddeall yr hyn y mae ymddygiad rhywiol niweidiol a fynegir gan blant yn ei olygu, gan gynnwys ymddygiad rhywiol niweidiol ar-lein.

Diogelu plant sy’n mynd ar goll o’r cartref neu o leoliad gofal – mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am sut i benderfynu a ddylid adrodd bod plentyn yn un sydd ar goll a sut i ymateb..

Diobelu plant rhag cam-drin ar-lein: mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am feithrin perthynas amhriodol ar-lein, cam-drin rhywiol ar-lein, ymddygiad rhywiol niweidiol ar-lein a radicaleiddio ar-lein.

Diogelu plant a all fod wedi’u masnachu: mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am y rhesymau gwahanol y gallai plant gael eu masnachu a chyfrifoldebau penodol ynghylch adrodd amdanynt a’r cymorth perthnasol sydd ar gael ar gyfer y math hwn o gam-drin.

Plant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches: canllawiau i weithwyr proffesiynol, sy’n cynnwys cyngor ar leoliadau, gofal iechyd, addysg, cymorth ieithyddol a’r broses o geisio lloches.