English

Mae Pokémon Go yn ap di-dâl lle mae'r chwaraewr yn defnyddio gosodiadau lleoliad GPS i ddal, casglu, hyfforddi ac ymladd â chymeriadau Pokémon. Gan ddefnyddio GPS, mae'r ap yn annog chwaraewyr i deithio o amgylch y byd go iawn i chwilio am gymeriadau Pokémon amrywiol. Gyda thua 8 miliwn o ddefnyddwyr dyddiol, gall chwaraewyr hela ac ymladd â Pokémon ym mhobman a defnyddio'r camera ar eu dyfais i wneud y profiad yn fwy realistig – gan ddefnyddio realiti estynedig. Hefyd, mae chwaraewyr yn gallu chwarae gyda ffrindiau drwy anfon ceisiadau ffrind, masnachu Pokémon, anfon anrhegion, ymuno â chyrchoedd, cymryd cipluniau a brwydro yn erbyn ei gilydd. Mae nodweddion ar y map sy'n cynnwys 'Poké stops' a 'Poké gyms' lle gall chwaraewyr frwydro yn erbyn eu Pokémon. O'i defnyddio'n ddiogel, mae'r gêm hon yn ymwneud â hwyl ac archwilio.


Mae hon yn gêm PEGI 7.

Mae sgôr PEGI 7 yn adlewyrchu'r trais ysgafn tebyg i gartwn rhwng cymeriadau Pokémon yn y gêm. Nid yw'n cynnwys golygfeydd o drais realistig na chynnwys addas i oedolion. Mae Apple App Store a Google Play store yn rhoi sgôr o 9+ i'r gêm. Does dim dulliau gwirio oedran wrth greu cyfrif, felly gofalwch fod eich plentyn wedi cofnodi ei ddyddiad geni cywir er mwyn elwa ar rai o'r gosodiadau diogelwch.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau.


Mae Pokémon Go yn gêm hwyliog, atyniadol a hawdd i'w chwarae yn seiliedig ar ddal Pokémon (creaduriaid amrywiol o bob siâp, lliw a llun gyda phwerau a hanesion gwahanol sy'n seiliedig ar y fasnachfraint) y gall chwaraewyr eu casglu, esblygu ac ymladd gyda nhw yn erbyn chwaraewyr eraill. Mae'n boblogaidd ymhlith plant oherwydd ei realiti estynedig, lle gall chwaraewyr gamu drwy'r gêm drwy symud yn gorfforol ac ymweld â lleoliadau gwahanol, yn hytrach nag eistedd yn llonydd o flaen eu dyfais, fel gyda'r rhan fwyaf o gemau eraill. Yn seiliedig ar y syniad o ddal bygiau, mae chwaraewyr yn teimlo cysylltiad arbennig â'r Pokémon maen nhw wedi'u dal ac yn arbennig o falch wrth ddal un sydd o werth neu bwer mawr neu sy'n brin iawn. Gallant chwarae gyda'u ffrindiau, eu teulu neu ar eu pennau eu hunain drwy ymweld â  ‘Poké gyms’, ‘Poké stops’ a gallant ddangos eu casgliad cynyddol o Pokémon.


  • Y cymeriadau mae chwaraewyr yn eu casglu a'u hyfforddi. Mae dros 600 o fathau gwahanol o gymeriadau Pokémon.

  • Yr afatar mae pob chwaraewr yn ei greu sy'n casglu, hyfforddi a brwydro yn erbyn Pokémon.

  • Dyma'r cod unigryw a roddir i bob chwaraewr sy'n agor cyfrif. Mae rhannu cod hyfforddwr â defnyddiwr arall yn caniatáu i chwaraewyr ryngweithio â'i gilydd o fewn y gêm.

  • Y bêl mae hyfforddwyr yn ei defnyddio i gasglu cymeriadau Pokémon gwyllt.

  • Dyma'r lleoliad lle mae hyfforddwyr yn dysgu eu Pokémon i ymladd. Lleoliadau yn y byd go iawn ydyn nhw fel arfer.

  • Dyma'r lleoliadau lle gall hyfforddwyr gasglu adnoddau ychwanegol ar gyfer eu Pokémon. Fel arfer, mae'r rhain wedi'u lleoli mewn mannau o ddiddordeb yn y byd go iawn.

  • Mae'r brwydrau hyn yn digwydd pan fydd Pokémon lefel uchel yn meddiannu 'Poké gym’. Wedyn mae'n rhaid i chwaraewyr uno i herio'r 'Raid boss' i gipio'r gampfa yn ôl. Gall hyd at 20 o chwaraewyr ymuno â'r frwydr a rhaid iddyn nhw fod yn lleoliad y gampfa i gymryd rhan. Gall brwydrau ddigwydd rhwng 9 y bore a 9 yr hwyr.

  • Dyma arian cyfred y gêm. Gall chwaraewyr ennill 'Poké coins' wrth chwarae neu eu prynu o 79c am 100 darn arian.


Mae Pokémon Go yn cynnwys rhywfaint o drais ysgafn wrth i chwaraewyr frwydro gyda’r naill Pokémon yn erbyn y llall. Gan fod y gêm wedi'i hanimeiddio a'i seilio ar realiti rhithwir, nid yw'r rhan fwyaf ohono’n realistig ac felly ddim yn arbennig o dreisgar na graffig. Does dim swyddogaeth sgwrsio yn Pokémon Go felly mae'n annhebygol y bydd defnyddwyr yn agored i iaith anweddus neu gynnwys aeddfed o fewn y gêm. Gan fod y gêm yn gofyn i chwaraewyr ymweld â lleoliadau yn y byd go iawn, mae'n bosib y byddant yn dod ar draws chwaraewyr eraill sy'n defnyddio iaith anweddus mewn cyd-destun bywyd go iawn. Mae angen cyfeiriad e-bost rhiant neu ofalwr er mwyn sefydlu cyfrif ar gyfer chwaraewyr dan 13 oed. Mae hyn yn caniatáu i rieni a gofalwyr reoli'r gosodiadau ar gyfer lleoliad a chynnwys a noddir, yn ogystal â ffrindiau a phrofiadau realiti estynedig.

Prif risg Pokémon Go yw'r potensial i gyfarfod â phobl ddieithr yn y byd go iawn. Gan fod y gêm yn gofyn i chwaraewyr ddefnyddio lleoliadau GPS go iawn i gasglu a brwydro yn erbyn Pokémon, mae perygl i chwaraewyr iau gwrdd â defnyddwyr hyn mewn lleoliadau sydd wedi'u pennu ymlaen llaw fel 'Poké Stops’ neu wrth deithio ar hyd ‘Routes’. Siaradwch â'ch plentyn am beryglon cyfarfod â dieithriaid ac esboniwch bwysigrwydd peidio mynd i leoliad gwahanol gyda rhywun nad ydyn nhw'n ei adnabod. Argymhellir mai dan oruchwyliaeth oedolion yn unig mae plant a phobl ifanc yn ymweld â lleoliadau dynodedig er mwyn lleihau'r risg hon.

Mae Pokémon Go yn caniatáu i'w chwaraewyr ryngweithio â'i gilydd trwy frwydrau a masnachu. Gan fod y chwaraewyr rydych chi'n rhyngweithio â nhw ar Pokémon Go yn cael eu pennu ar sail eich ffrindiau naill ai'n bersonol neu mewn apiau eraill, dylech fod yn ymwybodol o bwy mae'ch plentyn yn ffrindiau gyda nhw neu'n rhyngweithio â nhw ar apiau eraill. Un o brif elfennau Pokémon Go yw’r nodwedd ‘Raid battle’. Mae’n gallu bod yn anodd trefnu’r rhain, felly mae llawer o chwaraewyr Pokémon Go yn defnyddio gwefannau i gymryd rhan mewn cyrchoedd ledled y byd. Er bod y gêm ei hun yn cyfyngu ar ryngweithio â dieithriaid, mae’n bwysig monitro sut y gallai’ch plentyn ddefnyddio’r gwefannau eraill a pha ffrindiau y gallai eu hychwanegu. Hefyd, mae yna weinydd Discord poblogaidd lle mae llawer o chwaraewyr yn ymgasglu, ac mae’n bosibl y bydd eich plentyn yn dod i gysylltiad ag iaith amhriodol a negeseuon uniongyrchol gan ddieithriaid trwy’r gweinydd hwn. Yn achos chwaraewyr iau, dylen nhw ond rannu eu cod hyfforddwr gyda ffrindiau hysbys yn y byd all-lein. Anogwch eich plentyn i siarad â chi os yw wedi rhannu ei god hyfforddwr gyda rhywun nad yw'n ei adnabod, neu os yw dieithryn wedi ceisio rhannu ei god gyda'ch plentyn. Mae'n ofynnol i chwaraewyr dan 13 oed gael oedolyn i wirio eu cyfrif. Fel rhan o'r broses hon, gall rhieni a gofalwyr sefydlu cyfrif plentyn sy'n eu galluogi i adolygu'r wybodaeth a rennir ar y cyfrif hwn, yn ogystal â monitro'r ffrindiau newydd maen nhw'n eu gwneud ac yn rhyngweithio â nhw wrth chwarae gêm.

Mae gan Niantic, crewyr Pokémon Go, gyfres o ganllawiau y mae'n rhaid i bob chwaraewr gadw atyn nhw. Mae chwaraewyr sy'n gwyro oddi wrth y rheolau ymddygiad disgwyliedig mewn perygl o gael eu gwahardd o'r gêm. Trafodwch gyda'ch plentyn beth yw ymddygiad priodol wrth chwarae'r gêm ar-lein ac all-lein a sicrhau ei fod yn gwybod sut i gwyno am ymddygiad anghyfreithlon neu annymunol.

Fel gyda'r rhan fwyaf o gemau ar-lein di-dâl, mae cyfle i chwaraewyr wneud brynu eitemau yn y gêm yn y tab 'Shop' yn y gêm. Nid yw'r rhain o fudd wrth chwarae’r gêm, ond gallant fod yn apelgar dros ben i blant a phobl ifanc. Siaradwch â'ch plentyn ynghylch prynu eitemau mewn gemau, i wneud yn gwbl siwr ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i’w prynu. Gallwch osod gosodiadau prynu mewn-ap perthnasol ar eich dyfais hefyd. Mae’n bwysig gwirio hefyd nad yw'r gêm yn cael ei chysylltu â'ch cardiau banc na'ch manylion ariannol.

Mae gan Pokémon Go siop ar-lein hefyd sy’n caniatáu i chwaraewyr brynu cynhyrchion yn y gêm gyda dyfais cartref. Fel y siop yn y gêm, nid yw prynu’r pethau hyn o fudd wrth chwarae’r gêm ei hun, dim ond yn cynnig arian cyfred mewn gêm i brynu nwyddau. Mae’n bwysig bod eich plentyn yn deall, er bod yr eitemau hyn yn apelio ar yr olwg gyntaf, nad ydynt yn angenrheidiol i’r gêm mewn gwirionedd a bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i’w prynu. Os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur y teulu, mae’n bwysig gwirio nad yw gwybodaeth am eich cardiau banc neu fanylion ariannol wedi’u storio ar eich cyfrifiadur.

Mae polisi preifatrwydd Pokemon Go yn dweud y gall weld gosodiadau ffôn defnyddiwr a gwybodaeth gyffredinol am ba apiau eraill sy'n cael eu defnyddio ar y ddyfais. Cofiwch y gallai'r data arall mae'ch plentyn wedi'i storio o fewn apiau eraill ar ei ddyfais, gael ei rannu fel hyn. Mae Niantic, crewyr y gêm, wedi datblygu trosolwg o'u polisi preifatrwydd sy'n addas i blant ei ddarllen.

Pan fydd defnyddwyr yn creu cyfrif yn gyntaf, mae pob hysbysiad wedi'i alluogi. Er mwyn helpu i reoli amser eich plentyn yn chwarae'r gêm , argymhellir eich bod yn rheoli gosodiadau hysbysu. Gellir gwneud hyn o fewn y gêm drwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod.


  • Mae angen i oedolyn ddilysu cyfrif chwaraewyr dan 13 oed. Yn ystod y broses hon, gall rhieni a gofalwyr sefydlu'r cyfrif gyda'r gosodiadau perthnasol, gan sicrhau bod cyfrif eu plentyn yn un preifat.

    I reoli preifatrwydd trwy 'Parents Portal':

    • Ewch i'r Parents Portal a theipiwch y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych i wirio'r cyfrif pan wnaethoch ei agor gyntaf.
    • Dewiswch y proffil yr hoffech ei adolygu.
    • Sgroliwch i lawr a dewis 'Review'.
    • Ewch drwy'r rhestr ganiatâd, gan ddewis y gosodiadau priodol ar gyfer eich plentyn o'r opsiynau canlynol:
      • Location
      • Sponsored content
      • Ffrindiau
      • Share AR experiences

    I reoli preifatrwydd a data yn y gêm:

    • Ar y brif dudalen, dewiswch eich 'Trainer profile' a thapio'r eicon balwn aer poeth.
    • Dewiswch y ddewislen 'Settings'' a thoglo naill ai ar neu oddi ar yr opsiwn i:
      • Let my friends see info about the last time I played Niantic Games
      • Let my friends see my username from all Niantic Games
  • Gall chwaraewyr reoli eu rhyngweithio'n eithaf hawdd yn Pokémon Go. Gallant ychwanegu ffrindiau at eu gêm drwy rannu eu cod hyfforddwr unigol. Mae ffrindiau yn y gêm naill ai'n gallu bod yn gysylltiadau ffôn neu Facebook, os ydyn nhw wedi cysylltu eu cyfrif Facebook.

    I ychwanegu ffrind:

    • Ar y brif dudalen, dewiswch eich proffil hyfforddwr ac yna dewis y tab 'Friends' ar y brig.
    • Dewiswch yr opsiwn 'Add friend' a theipio'r cod hyfforddwr a rannwyd gan eich ffrind.
    • Sylwer: dyma lle gall chwaraewyr weld eu cod hyfforddwr hefyd i'w rannu gyda'u ffrindiau.

    I ddileu ffrind:

    • Ar y brif dudalen, dewiswch eich 'Trainer profile'.
    • Tapiwch y tab 'Friends' i agor eich rhestr ffrindiau.
    • Dewiswch y ffrind rydych chi am ei ddileu ac ar waelod ei broffil, tapiwch y botwm 'Remove friend'.
  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr eraill sy'n eu poeni neu sy'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I gwyno am chwaraewr:

    • Ar y brif dudalen, dewiswch yr eicon 'Poké ball.
    • Cliciwch ar y symbol 'Settings' yn y gornel uchaf ar y dde.
    • Dewiswch yr opsiwn 'Help' sydd ag eicon swigen siarad.
    • Dewiswch yr opsiwn 'Contact us' a theipio 'Report a player' yn y blwch negeseuon.
  • Er bod modd chwarae’r gêm yn ddi-dâl, mae modd prynu eitemau yn y gêm. Gallwch analluogi'r opsiwn i brynu eitemau mewn apiau ar bob dyfais unigol. Gallwch hefyd gyfyngu ar nifer yr hysbysiadau a dderbynnir, er mwyn helpu i annog amser di-sgrin.

    I analluogi 'Push notifications':

    • Ar y brif dudalen, dewiswch yr eicon 'Poké ball’.
    • Dewiswch y symbol 'Settings' yn y gornel uchaf ar y dde a sgrolio i lawr i 'Push notifications'.
    • Toglwch yr opsiynau ymlaen neu i ffwrdd fel y bo'n briodol.

    I analluogi prynu mewn apiau ar iOS:;

    • Ewch i ‘Settings’ > ‘Screen time’ a sgrolio i lawr i ‘Content and privacy restrictions’.
    • Dewiswch ‘iTunes and App Store purchases’ ac yna'r opsiwn ‘Don’t allow’.

    I analluogi prynu mewn apiau ar Android:

    • Ewch i'ch ap Google Play Store.
    • Dewiswch ‘Menu’ > ‘Settings’ > ‘Require authentication for purchases’.
  • Mae dileu cyfrif yn golygu y bydd eich holl wybodaeth yn cael ei dileu’n barhaol ac nad oes modd ei hadfer. Does dim opsiwn i ddadactifadu cyfrif Pokémon Go dros dro ar hyn o bryd.

    I ddileu cyfrif Pokémon Go:

    • Dewiswch y PokéBall yng nghanol y sgrin ar y gwaelod.
    • Dewiswch yr eicon gêr o’r enw ‘Settings’.
    • Chwiliwch am ‘Advanced Settings’ a’i ddewis.
    • Pwyswch ‘Delete Account’.
    • Pwyswch ‘Continue’ i ddechrau’r broses ddileu.

Mae 'Parent portal' dynodedig ar gyfer gemau Niantic, lle gall rhieni gofrestru cyfrif er mwyn helpu i reoli preifatrwydd eu plentyn ar gyfer pob gêm Niantic.

Mae’r ganolfan gymorth Pokémon Go yn cynnwys cwestiynau cyffredin a chymorth.

Mae Pokémon Go yn rhan o fasnachfraint enfawr Pokémon a sefydlwyd yn y 1990au, sy'n denu chwaraewyr ifanc newydd yn ogystal â chwaraewyr hyn sydd wedi bod yn chwarae ers blynyddoedd lawer.