English

Mae Clash of Clans yn gêm ymladd ddi-dâl ar ffurf cartwn sydd, ar gael ar ddyfeisiau symudol. Mae'r gêm wedi'i lleoli mewn byd ffantasi lle rydych chi'n adeiladu pentref ac yn sefydlu byddin o'r enw 'Clan'. Y nod yw adeiladu eich pentref, dylunio eich canolfan a'i hamddiffyn. Gyda'ch clan, gallwch frwydro â chlaniau eraill o bob cwr o'r byd i feddiannu eu pentrefi a hyd yn oed ymuno â chlan arall, a elwir yn 'Clan Wars’. Er bod y gêm ei hun yn ddi-dâl, fel gyda llawer o gemau eraill, mae'n dibynnu ar brynu eitemau yn y gêm i wella profiad y chwaraewr.


Mae hon yn gêm PEGI 7.

Mae sgôr PEGI 7 yn adlewyrchu'r ffaith bod Clash of Clans yn cynnwys trais ar ffurf cartwn a'r defnydd o arfau. Yn Apple App Store, mae gan y gêm sgôr o 9+ oherwydd ei lefel ysgafn o drais cartwn. Does dim dulliau gwirio oedran wrth greu cyfrif, felly gofalwch fod eich plentyn wedi cofnodi ei ddyddiad geni cywir er mwyn elwa ar rai o'r gosodiadau diogelwch.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau.


Gêm strategaeth ar ffurf ffantasi yw Clash of Clans, lle mae'r chwaraewr yn arwain y blaen fel pennaeth y pentref, gyda chyfrifoldeb dros adeiladu ac amddiffyn y lle. Tra bod plant a phobl ifanc yn gallu mwynhau'r broses o ddylunio ac adeiladu pentrefi cywrain a chreu byddinoedd cryf, mae agwedd gymdeithasol y gêm yn apelio hefyd. Trwy ffurfio claniau gyda'u ffrindiau, gallant weithio gyda'i gilydd drwy gynllunio'n strategol a chyfrannu milwyr i ymosod ac amddiffyn yn erbyn chwaraewyr eraill o bob cwr o'r byd. Gall chwaraewyr ddefnyddio'r adnoddau a'r gwobrau maen nhw'n eu hennill drwy ymosod ar bentrefi eraill i adeiladu eu hamddiffynfeydd eu hunain ymhellach, uwchraddio eu hadeiladau a hyfforddi eu milwyr. Mae pentrefi'n datblygu trwy golledion ac enillion, gan olygu bod y gêm yn datblygu’n araf. O'r herwydd, mae bod yn rhan o glan buddugol yn rhoi hyd yn oed mwy o foddhad i lawer o chwaraewyr.


Mae cyfoeth o dermau gemau cyfrifiadurol yn cael eu defnyddio yn Clash of Clans, ond mae'r rhan fwyaf yn cyfeirio at chwarae a strategaeth y gêm ei hun. Isod ceir ychydig o dermau ac ymadroddion defnyddiol.

  • Mae hyn yn syml yn cyfeirio at 'Clash of Clans'.

  • Grwp o chwaraewyr sy'n cydweithio yn y gêm o dan yr un faner. Dyma dîm y defnyddiwr i bob pwrpas.

  • Roedd dwy ffordd o sgwrsio yn y gêm ar un adeg –  'Global chat' oedd yn gyhoeddus, a 'Clan chat' oedd yn breifat yn eich clan. Mae 'Global chat' wedi ei dynnu o'r gêm erbyn hyn oherwydd defnydd amhriodol. Mae chwaraewyr yn dal i allu sgwrsio yn eu clan.

  • Her amser cyfyngedig yw 'Event' sy'n gallu cynnig gwobrau wrth ei chwblhau. Os ydych chi wedi gosod terfynau amser chwarae gyda'ch plentyn, efallai y byddwch am adael iddo gwblhau digwyddiad cyn gadael â'r gêm.

  • Mae chwaraewyr yn cael eu rhoi mewn cynghrair unwaith y bydd eu cyfrif tlysau’n uwch na 400. Mae gan bob cynghrair ei gwobrau ei hun sy'n cynyddu wrth iddyn nhw fynd yn uwch.

  • Pobl sy'n herio, pryfocio neu wawdio chwaraewyr eraill i ennyn ymateb.

  • 'Bad mannering' yn gryno, sy’n cynnwys gwawdio neu ddiffyg chwarae teg fel arfer.

  • Mae’r claniau hyn ar gael i chwaraewyr dros 16 oed yn unig.

  • Mae’r claniau hyn yn gallu cynnwys chwaraewyr dan 16 oed ac mae’r adnodd hidlo sgwrs yn y claniau hyn yn fwy llym.


Mae gan Clash of Clans sgôr PEGI 7, sy'n adlewyrchu'r ffaith bod y gêm hon yn addas i chwaraewyr iau, ac ni ddylai gynnwys delweddau a fyddai'n codi ofn ar blant ifanc. Os oes unrhyw drais, yna mae'n ysgafn iawn. Er nad yw'ch plentyn yn debygol o ddod ar draws cynnwys niweidiol yn y gêm ei hun, efallai y bydd chwaraewyr yn taro ar draws cynnwys amhriodol ar ffurf iaith anweddus yn y swyddogaeth sgwrsio Mae modd gosod hidlyddion yn 'Clan Chat' i gyfyngu ar y perygl o ddod i gysylltiad ag iaith anaddas. Er bod hidlyddion sgwrsio’n un ffordd o sicrhau nad yw'ch plentyn yn dod ar draws cynnwys niweidiol ar y platfform, argymhellir mai dim ond gyda ffrindiau hysbys y dylai eich plentyn chwarae er mwyn helpu i leihau'r risg hon ymhellach. Dylai chwaraewyr o dan 16 oed chwarae mewn ‘Family Clans’ yn unig yn hytrach na ‘Standard Clans’, gan fod hidlyddion sgwrs yn fwy llym yn y fformat hwn. Trwy greu 'clan' gyda ffrindiau, mae'ch plentyn yn llai tebygol o ddod ar draws iaith neu ymddygiad anaddas i'w oedran. Fodd bynnag, dylid cydnabod y gallai'ch plentyn fod yn agored i gynnwys amhriodol o hyd drwy ei gysylltiadau hysbys.

Fel gydag unrhyw gêm aml-chwaraewr arall, mae'n bosib y bydd eich plentyn yn dod i gysylltiad â dieithriaid wrth chwarae Clash of Clans. Argymhellir bod plant a phobl ifanc yn ffurfio 'Clan' gyda ffrindiau hysbys a dim ond chwarae gyda phobl maen nhw'n eu hadnabod yn y byd all-lein. Os yw'ch plentyn mewn clan gyda phobl nad yw'n eu hadnabod yn y byd all-lein, siaradwch â'ch plentyn am y peryglon o sgwrsio gyda dieithriaid ac egluro pwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy gyda chwaraewyr eraill mewn sgyrsiau. Cofiwch eu hannog i ddweud wrthych os yw rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol, neu os ydyn nhw'n teimlo'n ofidus neu'n anghyfforddus oherwydd unrhyw beth sy'n cael ei rannu yn y sgwrs.

Hefyd, mae'n werth nodi bod rhai chwaraewyr yn defnyddio apiau sgwrsio trydydd parti fel Discord i sgwrsio wrth chwarae gemau. Gofynnwch i'ch plentyn os yw'n defnyddio unrhyw apiau sgwrsio ychwanegol wrth chwarae, a chofiwch wirio â phwy mae'n cyfathrebu ar-lein. Er bod sgwrsio'n rhan apelgar o chwarae gemau cyfrifiadurol, nid yw'n hanfodol i chwarae.

Mae gan Clash of Clans ei set ei hun o safonau cymunedol, y mae'n rhaid i bob chwaraewr gadw atyn nhw er mwyn chwarae. Mae chwaraewyr sy'n gwyro oddi ar wrth yr ymddygiad disgwyliedig mewn perygl o gael eu tynnu o’r gêm gan Supercell. Siaradwch â'ch plentyn am beth yw ymddygiad priodol wrth chwarae gêm aml-chwaraewr a sicrhau ei fod yn gwybod sut i gwyno am unrhyw ymddygiad amhriodol neu sarhaus. Dylai chwaraewyr iau sy'n defnyddio'r nodwedd 'Text chat' fod yn ymwybodol hefyd o'r hyn sy’n addas ac yn anaddas i'w bostio mewn sgyrsiau, a thrafod y dulliau gwahanol o ddiogelu eu hunain drwy chwarae gyda phobl maen nhw’n eu hadnabod yn hytrach na dieithriaid. Gwnewch yn siwr fod eich plentyn yn gwybod ei bod hi'n anodd cadw meddiant ar unrhyw gynnwys unwaith y bydd wedi'i rannu ar-lein, gan ei bod hi'n hawdd i rywun arall ei gopïo a'i ailbostio heb yn wybod iddo, ac y gall fod yn anodd ei dynnu oddi ar y we wedyn.

Gan y gellir lawrlwytho’r gêm am ddim, mae'n dibynnu ar brynu eitemau yn y gêm i greu refeniw. Pan fydd chwaraewyr yn lawrlwytho'r gêm ar ddyfeisiau iOS, mae neges yn ymddangos sy'n awgrymu y gall defnyddwyr gyflymu cynnydd trwy brynu eitemau yn y gêm. Siaradwch â'ch plentyn ynghylch prynu eitemau mewn gemau, i wneud yn siwr ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu'r rhain. Gallwch bennu'r gosodiadau prynu perthnasol yn y gêm trwy'r rheolaethau rhieni hefyd a gwirio nad yw'r gêm wedi'i chysylltu â'ch cardiau banc na manylion ariannol.

Fel llawer o gemau aml-chwaraewr eraill, mae'n hawdd ymgolli'n llwyr yn Clash of Clans gan arwain at gyfnodau estynedig o chwarae. Siaradwch â'ch plentyn am sut mae gemau wedi'u cynllunio i gadw defnyddwyr yn chwarae, ac ewch ati i osod terfynau amser chwarae i sicrhau ei fod yn cael seibiant addas o'r sgrin.


  • Does dim rheolaethau penodol ar waith i reoli preifatrwydd o fewn yr ap. Fodd bynnag, cofiwch atgoffa'ch plentyn i beidio â defnyddio ei enw go iawn nac unrhyw wybodaeth arall y gellir ei hadnabod fel rhan o'i enw defnyddiwr.

    Er nad oes unrhyw nodweddion preifatrwydd yn y gêm ei hun; gallwch osod proffil eich chwaraewr yn breifat yng ngosodiadau chwarae gemau eich dyfais.

    I osod 'Private' ar iOS:

    • Ewch i'r 'Game centre' yn y ddewislen gosodiadau.
    • Sgroliwch i lawr i ‘Privacy and settings’ a newid eich ‘Profile privacy’ i ‘Only you’.

    I osod 'Private' ar Android:

    • Ewch i'r ap 'Play games', cyffwrdd â'r eicon dewislen a dewis 'Settings’.
    • Dewiswch ‘Game profile’ > ‘Play now’ > ‘Your game profile’.
    • Addaswch eich gosodiadau gwelededd a hysbysiadau i'r opsiynau mwyaf preifat.
  • Mae rheolaethau rhieni’n gyfyngedig yn yr ap hwn. Mae yna ardal gosodiadau yn y gêm lle gall defnyddwyr osod hidlwyr ar 'Clan chat', sy'n newid rhegfeydd yn sêr. Hefyd, gallwch analluogi'r opsiynau ‘Multiplayer games’ ac ‘Adding friends’ os dydych chi ddim eisiau i'ch plentyn ryngweithio ag eraill. Fodd bynnag, bydd angen gwneud hyn yn unigol ar bob dyfais, Android ac iOS.

    I osod hidlyddion ar 'Clan chat':

    • Ewch i'r ardal gosodiadau yn y gêm trwy'r eicon cog ar ochr dde'r sgrin.
    • Yma gallwch 'Filter Clan chat' drwy wneud yn siwr ei fod yn wyrdd.
  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr eraill sy'n eu poeni neu sy'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform. Yn Clash of Clans, gallwch gwyno am chwaraewyr neu negeseuon anweddus, a distewi chwaraewyr hefyd, sy'n gyfystyr â blocio.

    I ddistewi chwaraewr arall:

    • Dewiswch y chwaraewr yr hoffech chi ei ddistewi.
    • Dewiswch yr eicon 'Emote' ac yna 'Mute'.

    I gwyno am chwaraewr neu neges:

    • Agorwch y sgwrs yn y gêm.
    • Chwiliwch am y neges neu'r chwaraewr yr hoffech chi gwyno amdani/amdano.
    • Tapiwch y neges neu'r chwaraewr a dewis 'Report'.
  • Er bod y gêm hon yn ddi-dâl i'w chwarae, mae modd prynu eitemau yn y gêm. Gallwch analluogi'r opsiwn i brynu eitemau mewn apiau ar bob dyfais unigol.

    I analluogi prynu mewn apiau ar iOS:

    • Ewch i'r ddewislen gosodiadau > 'Screen time' a sgrolio i lawr i 'Content and privacy restrictions'.
    • Dewiswch ‘iTunes & App Store purchases’ a newid yr opsiwn i ‘Don’t allow’.

    I analluogi prynu mewn apiau ar Android:

    • Ewch i'ch ap 'Google Play Store'.
    • Dewiswch ‘Menu’ > ‘Settings’ > ‘Require authentication for purchases’.
    • Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi osod cyfrinair i brynu pethau yn yr ap.
  • Trwy ddileu cyfrif, mae hynny’n golygu y bydd eich holl wybodaeth yn cael ei dileu’n barhaol ac nad oes modd ei hadfer. Does dim ffordd o ddadactifadu cyfrif dros dro ar hyn o bryd.

    I ddileu’ch cyfrif Clash of Clans:

    • Ar yr hafan, agorwch y ddewislen ‘Settings’ a sgrolio i ‘Help and support’.
    • Dewiswch ‘Account’ a sgrolio i ‘Contact us’.
    • Dewiswch ‘Message us’ a bydd bocs sgwrsio’n ymddangos.
    • Dewiswch ‘Other’ o blith yr opsiynau yna ‘Delete my data’.
    • Darllenwch y wybodaeth yna dewis ‘Continue’.
    • Esboniwch pam rydych chi eisiau dileu’ch cyfrif yn y bocs, yna cyflwyno.
    • Bydd cymorth dynol yn adolygu’ch achos ac yn ymateb mewn ychydig oriau.
    • Ewch yn ôl drwy’r broses uchod i agor y blwch sgwrsio a chadarnhau eich bod am fwrw ymlaen i ddileu.

Mae Clash Royale yn gêm arall sy’n debyg i Clash of Clans, wedi’i chreu gan yr un datblygwr gemau, Supercell. Maen nhw wedi ychwanegu tri theitl newydd i fasnachfraint Clash – Clash Quest, Clash Mini a Clash Heroes. Mae'n werth archwilio pob un o'r gemau eraill hyn i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer eich plentyn.

Cofiwch wirio'r gosodiadau ar bob dyfais mae'ch plentyn yn ei ddefnyddio i chwarae'r gêm hon. Dylech allu gosod rhai rheolaethau a chyfyngiadau o'r swyddogaeth gosodiadau ar bob dyfais.

Mae gan Supercell ganllawiau penodol i rieni, sy'n cynnig cyngor a gwybodaeth am gadw plant yn ddiogel ar y platfform.