English

Gêm ar-lein ddi-dâl ar thema’r gofod yw hon, lle mae hyd at 15 o chwaraewyr yn chwarae gyda'i gilydd ac yn cael rolau 'Crewmate' neu 'Imposter’. Nod y gêm yw bod criwiau'n ceisio adnabod pwy sy'n cogio cyn i'r cogwyr danseilio eu tasgau’n gyfrinachol a lladd aelodau’r criw fesul un. Pan gaiff un o'r criw ei ladd a hynny’n cael ei riportio, mae gweddill aelodau’r criw yn trafod ymysg ei gilydd wedyn cyn pleidleisio pwy maen nhw'n ei feddwl yw'r cogiwr. Cyfathrebu a strategaeth yw byrdwn yn gêm hon. Gellir lawrlwytho’r gêm yn ddi-dâl ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau, ond bydd angen i ddefnyddwyr Nintendo Switch brynu’r gêm. Mae fersiwn rithwir o’r gêm ar gael hefyd, Among Us VR. Mae’r fersiwn 3D, person cyntaf, hon yn rhoi hyd at 10 chwaraewr yn y Skeld i gystadlu fel naill ai aelod o’r criw neu ffugiwr. Mae Among Us VR ar gael ar Meta Quest, Rift a Steam VR.


Mae gan Among Us sgôr oedran PEGI 7.

Mae Apple App Store ar y llaw arall yn rhoi sgôr oedran 9+ iddi.

Mae sgôr PEGI 7 yn adlewyrchu'r ffaith mai gêm ias a chyffro, dirgelwch llofruddiaeth, a strategaeth gyda naws weledol cartwn yw Among Us. Nid yw'n cynnwys golygfeydd realistig o drais na chynnwys addas i oedolion yn unig. Mae'r gêm yn cynnwys elfennau a allai godi ofn ar rai plant a phobl ifanc. Does dim dulliau gwirio oedran wrth greu cyfrif, felly gofalwch fod eich plentyn wedi cofnodi ei ddyddiad geni cywir er mwyn elwa ar rai o'r gosodiadau diogelwch.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein ‘Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau‘.


Gêm ddi-dâl, gymdeithasol a hawdd i'w dysgu yw Among Us lle mae'r chwaraewyr yn gorfod twyllo a chael y blaen ar ei gilydd i ennill. Mae'r elfen ryngweithiol yn golygu ei bod hi'n hwyl i blant a phobl ifanc chwarae gyda'i gilydd. Gall plant a phobl ifanc gynnal gêm a chwarae gyda'u ffrindiau, gyda phob un ohonyn nhw’n perfformio un o'u rolau penodedig. Mae modd newid golwg y gêm o ran cymeriadau, lliwiau, enwau defnyddwyr, anifeiliaid anwes a hetiau ond gellir addasu'r gêm hefyd, er enghraifft, drwy ddewis nifer y cogwyr, cyflymder y chwarae a nifer y cyfarfodydd brys. Hefyd, gellir chwarae'r gêm ar sawl llwyfan gwahanol gan gynnwys trwy'r ap.


  • Dyma'r rolau gwahanol sy'n cael eu neilltuo i chwaraewyr y gêm.

  • Y blaned ddychmygol lle mae'r gêm wedi'i lleoli.

  • Canolfan ymchwil ddychmygol yn y gêm, a lleoliad.

  • Cwmni dychmygol yn y gêm a lleoliad.

  • Dyma leoliad arall yn y gêm.

  • Aelodau o’r criw sydd wedi eu lladd sy'n dal i allu chwarae a helpu eu cyd-chwaraewyr byw drwy gwblhau eu tasgau.

  • Lle mae criwiau yn dod at ei gilydd i drafod pwy yw'r cogiwr.

  • Gall 'gwesteiwyr' sefydlu gêm gyda'u ffrindiau a chreu cod i'w rannu gyda chwaraewyr eraill fel y gallant ymuno â'r gêm. Os yw'r gêm wedi'i gosod yn breifat dim ond trwy ddefnyddio'r cod a rannwyd gan y gwesteiwr mae modd ymuno â hi, ac nid yw ar agor i'r cyhoedd.

  • Mae modd chwarae'r gêm yn gyhoeddus hefyd, rhwng hyd at 15 o bobl ar-lein. Gall y bobl yma fod yn ddieithriaid.

  • Dyma'r opsiwn sgwrsio diofyn ar gyfer deiliaid cyfrif dan 13 oed. Mae'r modd hwn yn caniatáu i chwaraewyr sgwrsio drwy ddewis sylwadau a chwestiynau o restr barod, yn hytrach nag ysgrifennu rhai eu hunain.

  • Gall deiliaid cyfrif dros 13 oed ddewis sgwrsio gan ddefnyddio'r elfen 'Free text' sy'n golygu y gallan nhw ddrafftio eu sylwadau a'u negeseuon eu hunain. Gall chwaraewyr dan 13 oed sy'n chwarae mewn grwp preifat gyda ffrindiau ddewis y modd 'Free text' hefyd.

  • Dyma’r rhan o’r gêm lle mae chwaraewyr yn cyfarfod wrth ymuno â’r gêm am y tro cyntaf.

  • Yn y modd diweddaraf hwn, mae’n rhaid i aelodau’r criw ddianc rhag y Cogiwr a byw’n hirach nag ef, gan gwblhau tasgau i sicrhau bod amser yr amser yn mynd yn gynt.

  • Wrth greu neu chwilio am lobïau cyhoeddus, gall chwaraewyr ddynodi pa fath o lobi ydyw. Dyma’r pedwar dewis:

    • Dechreuwr – ar gyfer chwaraewyr newydd
    • Achlysurol – ar gyfer chwaraewyr sydd am chwarae am hwyl
    • Difrifol – ar gyfer chwaraewyr sydd am ennill a chwarae yn fwy difrifol
    • Arbenigwr – ar gyfer chwaraewyr Among Us profiadol
  • Mae’r adnodd AI (deallusrwydd artiffisial) hwn yn cymedroli sgyrsiau llais rhwng chwaraewyr mewn ystafelloedd cyhoeddus a phreifat. Os yw’n dod ar draws iaith wenwynig, sy’n mynd yn erbyn y cod ymddygiad, mae’n hysbysu’r tîm cymedroli dynol i gymryd camau gweithredu.


Mae gan y cynnwys yn y gêm sgôr PEGI 7, sy'n adlewyrchu'r ffaith mai gêm ias a chyffro yw hon, lle mae'n rhaid i chwaraewyr ladd chwaraewyr eraill yn y dirgel. Fodd bynnag, dyw hyn ddim yn digwydd mewn ffordd rhy graffig ac nid yw'r gêm yn cynnwys golygfeydd amlwg rywiol na threisgar nac unrhyw themâu eraill addas i oedolion. Mae'r dilyniant animeiddio ar gyfer yr adeg mae cymeriad y chwaraewr yn cael ei ladd gan y cogiwr yn digwydd yn sydyn iawn, ac fe allai beri gofid i rai plant. Dyma foment fwyaf graffig a dramatig y gêm felly byddem yn argymell bod rhieni a gofalwyr yn gwylio'r animeiddiadau lladd hyn ymlaen llaw i benderfynu a fyddent yn ypsetio eu plentyn. Yn yr elfen sgwrsio yn y gêm, fe allai chwaraewyr ddod ar draws cynnwys anaddas ar ffurf iaith anweddus na ddaliwyd gan y nodwedd hidlo sgyrsiau. Os yw'ch plentyn yn chwarae'n gyhoeddus neu'n breifat, gallwch chi osod hidlyddion sgwrsio sy'n penderfynu a all ddefnyddio 'Quick chat' neu 'Free text'. Mae'r elfen 'Free text' yn cynnwys rhai hidlyddion i guddio gwybodaeth bersonol, ond ni ddylid dibynnu arnyn nhw ac mae'n hawdd eu diffodd nhw. O ran deiliaid cyfrif dan 13 oed, mae’r modd 'Quick chat' yn ddiofyn, sydd ond yn caniatáu i chwaraewyr ddefnyddio sylwadau neu gwestiynau o restr barod. Drwy gyfyngu ar bwy mae'ch plentyn yn gallu ei wahodd ar y platfform, mae'n llai tebygol wedyn o brofi iaith neu ymddygiad anaddas i'w oedran. Fodd bynnag, cofiwch y gallai'ch plentyn fod yn agored i gynnwys amhriodol o hyd gan ei gysylltiadau hysbys.

Y risg fwyaf arwyddocaol yn Among Us yw'r ffaith bod modd ei chwarae'n gyhoeddus. Mae nodwedd cynnal y gêm yn golygu y gall plant a phobl ifanc benderfynu chwarae gyda dim ond eu ffrindiau drwy sefydlu gêm a rhannu cod mynediad gyda'u ffrindiau yn unig. Yn yr un modd, gallant ymuno â gêm ffrind trwy ddefnyddio'r cod mynediad a rannwyd gan eu ffrind. Fodd bynnag, gellir chwarae'r gêm yn gyhoeddus hefyd lle gall unrhyw ddefnyddiwr ar y platfform ymuno â hi. Mae'r gêm yn fwy diogel os ydych chi'n annog eich plentyn i chwarae'r gêm yn breifat gyda'i ffrindiau hysbys er mwyn osgoi ymwneud â dieithriaid. Atgoffwch eich plentyn i beidio â derbyn cyfrinair gêm breifat neu gais ffrind a rannwyd gan rywun nad yw'n ei adnabod nac yn ymddiried ynddo mewn bywyd go iawn. Siaradwch â'ch plentyn am y peryglon o sgwrsio gyda dieithriaid ac egluro pwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy gyda chwaraewyr eraill mewn sgyrsiau. Cofiwch eu hannog i ddweud wrthych os yw rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol neu'n gofyn am sgwrs breifat trwy ap gwahanol.

Hefyd, mae'n werth nodi bod rhai chwaraewyr yn defnyddio apiau sgwrsio trydydd parti fel Discord i sgwrsio wrth chwarae gemau. Gofynnwch i'ch plentyn os yw'n defnyddio unrhyw apiau sgwrsio ychwanegol wrth chwarae, a chofiwch wirio â phwy mae'n cyfathrebu ar-lein. Er bod sgwrsio'n rhan apelgar o chwarae gemau cyfrifiadurol, nid yw'n hanfodol i chwarae. Mae'r gêm yn cynnwys dolenni uniongyrchol i gyfrifon Among Us ac Innersloth (crëwr y gêm) ar Discord, X (a elwir gynt yn ‘Twitter’) a Facebook. Er eich bod wedi galluogi'r gosodiadau perthnasol ar Among Us i sicrhau nad yw'ch plentyn yn rhyngweithio â dieithriaid, ni fydd y gosodiadau hyn yn berthnasol ar blatfformau trydydd parti. Anogwch eich plentyn i siarad â chi os cafodd ei gyfeirio at blatfform arall neu os yw rhywun dieithr wedi cysylltu â nhw ar ôl dilyn y dolenni hyn.

Mae gan Among Us ei god ymddygiad ei hun, ac mae'n rhaid i bob chwaraewr gadw ato er mwyn chwarae. Mae chwaraewyr sy'n gwyro oddi wrth y rheolau ymddygiad disgwyliedig mewn peryg o gael eu diarddel o'r gêm. Siaradwch â'ch plentyn am beth yw ystyr ymddygiad priodol wrth chwarae gêm aml-chwaraewr a sicrhau ei fod yn gwybod sut i riportio unrhyw ymddygiad amhriodol neu sarhaus. Nod cyflwyno adnodd ToxMod i gymedroli sgyrsiau llais yn Amongst US VR yw ceisio lleihau’r ymddygiad gwenwnllyd rhwng chwaraewyr sy’n gallu bodoli ar y platfform. Bydd unrhyw iaith anaddas nad yw’n cyd-fynd â’r cod ymddygiad, yn cael ei hasesu a bydd camau priodol yn cael eu cymryd.

Dylai chwaraewyr iau sy'n defnyddio'r elfen 'Free chat' gofio hefyd beth sy'n briodol a ddim yn briodol i'w bostio mewn sgyrsiau. Trafodwch y dulliau gwahanol o ddiogelu eu hunain trwy rannu gwybodaeth mewn fforymau preifat yn hytrach na rhai cyhoeddus. Gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn gwybod ei bod hi'n anodd cadw perchnogaeth ar unrhyw gynnwys unwaith y bydd wedi'i rannu ar-lein, gan ei bod hi'n hawdd i rywun arall ei gopïo a'i ailbostio heb yn wybod iddo, ac y gall fod yn anodd ei dynnu oddi ar y we wedyn.

Fel gyda'r rhan fwyaf o gemau ar-lein di-dâl, mae cyfleoedd i chwaraewyr brynu eitemau yn y gêm i bersonoli eu cymeriadau. Er nad yw'r rhain o fudd i'r chwarae ei hun, maen nhw'n hynod atyniadol i chwaraewyr. Siaradwch â'ch plentyn ynghylch prynu eitemau mewn gemau, i wneud yn gwbl siwr ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu'r rhain. Gallwch bennu'r gosodiadau prynu perthnasol yn y gêm trwy'r rheolaethau rhieni hefyd. Os yw'ch plentyn o dan 13 oed, mae angen cyfeiriad e-bost rhiant i wirio'r cyfrif. Mae angen cerdyn credyd neu ddebyd i wneud hyn, felly mae'n bwysig gwirio nad yw'r gêm wedi'i chysylltu â'ch cardiau banc na manylion ariannol. Mae'r gêm yn gwneud arian trwy hysbysebu hefyd. Ar ddiwedd pob gêm, mae hysbyseb yn ymddangos cyn gallan nhw ddechrau gêm newydd. Os ydych chi'n barod i dalu, gallwch gael gwared ar yr holl hysbysebion.


  • Mae gan Among Us borth 'Parent's portal' dynodedig sy'n cynnig rhai gosodiadau a nodweddion diogelwch y gallwch eu newid. Y ffordd fwyaf diogel i blant a phobl ifanc chwarae Among Us yw gyda ffrindiau hysbys, gydag un ohonynt yn westeiwr a phob un yn defnyddio cod i gael mynediad i'r gêm.

    I sefydlu fel Gwesteiwr ('Host'):

    • Lansiwch y gêm a dewis yr opsiwn 'Online'
    • Rhowch eich enw a dewis 'Host' lle byddwch wedyn yn cyrraedd lobi lle gallwch addasu eich gêm.
    • Dewiswch 'Private' ar waelod y sgrin i greu cod, y gallwch chi wedyn ei rannu gyda'ch ffrindiau.
  • Mae nodwedd 'Quick chat' ar gyfer defnyddwyr dan 13 oed, sy'n cyfyngu'r sgwrs i nifer o opsiynau a osodwyd ymlaen llaw yn hytrach na chaniatáu testun a chyfathrebu rhydd. Cofiwch wirio'r dyddiad geni ym mhroffil eich plentyn drwy fewngofnodi i'r 'Parent portal' i sicrhau y bydd yn elwa ar y nodwedd hon. Gallwch osod mesurau rheoli mewn perthynas â'r sgwrs i gyfyngu ar iaith anweddus hefyd.

    I osod yr hidlydd sgwrsio:

    • Lansiwch y gêm a dewis yr eicon gêr ar waelod y sgrin.
    • Yn y ddewislen gosodiadau, trowch 'Censor chat' i 'On’.
  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr eraill sy'n eu poeni neu sy'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I gwyno am chwaraewr:

    • Agorwch y ddewislen 'Kick' (eicon esgid) yn y swyddogaeth sgwrsio.
    • Dewiswch y chwaraewr dan sylw ac yna'r opsiwn 'Report'.
  • Er bod y gêm hon yn ddi-dâl i'w chwarae, mae modd prynu eitemau yn y gêm. Gallwch analluogi pryniannau yn yr ap ar bob dyfais unigol.

    I analluogi prynu mewn apiau ar iOS:

    • Ewch i'r ddewislen gosodiadau > 'Screen time' a sgrolio i lawr i 'Content and privacy restrictions'.
    • Dewiswch ‘iTunes & App Store purchases’ a newid yr opsiwn i ‘Don’t allow’.

    I analluogi prynu mewn apiau ar Android:

    • Ewch i'ch ap 'Google Play Store'.
    • Dewiswch ‘Menu’ > ‘Settings’ > ‘Require authentication for purchases’.
  • Mae dileu cyfrif yn golygu y bydd eich holl wybodaeth yn cael ei dileu’n barhaol ac na fydd modd ei hadfer.

    I ddileu o ddyfais cartref:

    Mae angen i defnyddwyr gyflwyno tocyn er mwyn prosesu a dileu cyfrif, cyn belled â bod y manylion canlynol ar gael:

    • Rhif adnabod (ID) ategol y cyfrif
    • Y platfform rydych chi’n ei ddefnyddio i fewngofnodi
    • Enw’r cyfrif ar y platfform hwnnw, nid yr enw defnyddiwr yn y gêm

    I ddileu o ap symudol:

    • Ar y sgrîn hafan, ewch i’r ddewislen ‘Settings’.
    • Dewiswch ‘Delete account’ o blith yr opsiynau.
    • Darllenwch y nodyn naid, dewis y bocs a theipio ‘Delete’ yn y gofod.
    • Dewiswch ‘confirm’ i gwblhau’r broses, a ddylai gymryd 7-14 diwrnod i’w chwblhau.
    • DS: bydd dileu eich cyfrif Among Us yn dileu unrhyw gyfrif cysylltiedig ar blatfformau eraill hefyd.

Anogwch eich plentyn i sefydlu ei gemau ei hun fel gwesteiwr a dim ond chwarae gyda phobl y mae'n eu hadnabod. Argymhellir eich bod yn gwirio pwy sydd yn eu rhestr ffrindiau gyda nhw.

Os ydyn nhw'n chwarae'n gyhoeddus, gwnewch yn siwr bod eich plentyn yn cadw ei wybodaeth yn breifat, ac ystyried gosod rheolaethau ar y swyddogaeth sgwrsio i helpu i'w gadw'n ddiogel.

I gael rhagor o wybodaeth am adnodd AI ‘ToxMod’, ewch i Home – Schell Games