English

“Does yr un ysgol uwchradd yn y DU heb wynebu achosion o blant yn rhannu lluniau noeth”.

Dyw hyn ddim yn golygu bod pob plentyn yn rhannu lluniau o natur bersonol, ond dyma'r honiad ers sawl blwyddyn bellach, gan nad ydym eto wedi dod ar draws ysgol uwchradd sydd heb dderbyn adroddiadau am blant a phobl ifanc yn rhannu lluniau o natur bersonol.

Uchafbwyntiau ymchwil

Nid yw rhannu lluniau noeth yn ffenomenon newydd. Mae llinell gymorth UK Safer Internet Centre (Saesneg yn unig) wedi bod yn helpu ysgolion sy'n wynebu'r problemau hyn ers iddi gael ei lansio yn 2011. Ochr yn ochr â'r Athro Andy Phippen a'r NSPCC, aethom ati i gynnal ymchwil (Saesneg yn unig) yn yr un flwyddyn a ddaeth i'r casgliad bod "tua 40%" o bobl ifanc 14 – 16 oed yn dweud eu bod yn nabod ffrindiau oedd wedi gwneud y fath beth. Daeth yr ymchwil i'r casgliad hefyd fod 27% o'r ymatebwyr yn dweud bod 'secstio' yn digwydd yn "rheolaidd" neu "drwy'r amser". Hefyd, roedd yr arolwg yn dangos bod y rhai a holwyd yn amharod i droi at oedolion am gymorth oherwydd ofn cael eu barnu. Dywedodd 70% y byddent yn troi at eu ffrindiau pe bai problemau "secstio" yn codi.

Yn 2017, mewn partneriaeth â chomisiynydd eSafety Awstralia a NetSafe (Seland Newydd), roeddem am ail-archwilio a chymharu profiadau a chanfyddiadau plant a phobl ifanc. Daeth yr ymchwil (Saesneg yn unig) i'r casgliad bod profiad pobl ifanc ledled y tair gwlad yn debyg mewn sawl ffordd. Canfu fod pobl ifanc yn credu bod anfon a rhannu lluniau neu fideos noeth neu hanner noeth yn fwy cyffredin nag y mae mewn gwirionedd. O ran niferoedd, dim ond tua 5% o bobl ifanc Awstralia a Seland Newydd a ddywedodd eu bod nhw wedi anfon lluniau ohonyn nhw eu hunain yn ystod y 12 mis diwethaf (rhywbeth a adlewyrchir yn ngrwpiau ffocws y DU) ac roedd tua 90% o bobl ifanc yn Awstralia a Seland Newydd yn credu bod eraill o'r un oed â nhw yn gwneud hyn, gyda bron i hanner yn meddwl ei fod yn digwydd yn rheolaidd.

Anghydbwysedd rhwng y rhywiau

Dangosodd y gwaith ymchwil fod anghydbwysedd sylweddol rhwng y rhywiau. Ledled y tair gwlad, fe wnaeth mwy o ferched na bechgyn dderbyn lluniau heb ofyn amdanyn nhw.  Hefyd, gofynnwyd yn amlach iddynt am luniau ohonyn nhw eu hunain. Yn Awstralia, mae merched bron deirgwaith yn fwy tebygol o dderbyn ceisiadau na bechgyn (21% o ferched o gymharu ag 8% o fechgyn) a'r ffynhonnell fwyaf tebygol o gais i rannu delwedd yw gan ddieithryn.

Daeth yr anghysbwysedd rhwng y rhywiau i'r amlwg mewn adroddiad gan eNACSO ac EU Kids Online yn 2016, Review of Existing Knowledge Regarding Children and Young People’s Developing Sexuality in Relation to New Media Environments (Saesneg yn unig). Mae secstio yn gallu gynnwys llawer o bwysau a gorfodaeth i ferched. Hynny yw, mae merched yn wynebu llawer mwy o bwysau i anfon 'secst' a beirniadaeth lymach o lawer pan fydd y lluniau hynny'n cael eu rhannu y tu hwnt i'r derbynnydd bwriedig.

Ymateb i achosion

Rhoddwyd sylw arbennig i sut y dylid ymdrin ag achosion o rannu lluniau noeth neu hanner-noeth o blant a phobl ifanc yn 2015, pan ddywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Olivia Pinkney (Arweinydd Plant a Phobl Ifanc NPCC) "if a school wishes the police to know about any incident, then ‘the police’ are informed and, consequently, a crime must be recorded. No ifs or buts”. Roedd canlyniadau hyn yn ymwneud â gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn y dyfodol (DBS) ac nad yw datgerlu cofnodion o’r fath fel “ystyriaethau datgelu DBS” yn digwydd yn gyson, a'i bod yn poeni'n fawr am bobl ifanc heddiw oherwydd hyn. Mae'n werth nodi nad yw cofnodi troseddau gan yr Heddlu yr un fath â chofnod troseddol.

Er mwyn lleihau'r risg o gael effaith negyddol ar blant a phobl ifanc, mae'r heddlu wedi creu 'cod canlyniad 21' fel y gallant gofnodi iddynt ddewis peidio cymryd camau pellach gan nad oedd hynny er budd y cyhoedd.

Canllawiau

Wedi'i hysgogi gan achosion cynyddol yn ogystal â chreu cod canlyniad 21, fe wnaeth UKCIS ryddhau'r canllawiau cysylltiedig cyntaf ar reoli achosion o secstio gyda fersiynau perthnasol i asiantaethau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Rhyddhawyd fersiynau diwygiedig o'r canllawiau hyn ym mis Rhagfyr 2020.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru, Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc ar gyfer y person diogelu dynodedig (DSP), penaethiaid ac uwch dimau arwain ysgolion, colegau a lleoliadau addysg eraill yng Nghymru.

Dylai unrhyw staff eraill sy'n gweithio mewn lleoliadau addysg yng Nghymru ddarllen Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: sut i ymateb ddigwyddiad.

Yn 2012, fe wnaethom gyhoeddi ‘Fe fuost ti’n noeth ar-lein, felly’ am y tro cyntaf; adnodd sy'n helpu'r rhai mewn amgylchiadau anodd a heriol. Roedd yr holl gyngor ar y pryd yn canolbwyntio ar atal, gan adael y rhai a oedd wedi rhannu lluniau heb unrhyw gymorth. Nid oedd hyn yn wir gan fod pethau y gallwch eu gwneud i liniaru'r sefyllfa, yn enwedig ceisio cymorth. Mae'r fersiynau diweddaraf ar gael ar Hwb.

Cynnydd diweddar mewn achosion o rannu lluniau noeth

Mae'r IWF, elusen yn y DU sy'n gyfrifol am chwilio am a dileu lluniau a fideos o gam-drin plant yn rhywiol o'r rhyngrwyd, a'n partneriaid yn UK Safer Internet Centre, wedi gweld cynnydd dramatig o 77% yn nifer y deunyddiau cam-drin a "hunangynhyrchwyd" wrth i fwy o blant a phobl ifanc dreulio mwy o amser ar-lein yn 2020.

Wrth ymateb i'r nifer uchaf erioed o adroddiadau (Saesneg yn unig) am gam-drin plant yn rhywiol ar-lein yn 2020, fe wnaeth yr IWF dagio 68,000 o adroddiadau fel deunyddiau wedi'u "hunangynhyrchu" o gam-drin plant yn rhywiol, cynnydd o 77% ar gyfanswm 2019 o 38,400 o adroddiadau.

Mae'r niferoedd hyn yn amlwg yn peri pryder ac efallai wedi'u sbarduno gan gyfyngiadau Covid19 a'r amser cynyddol mae pobl yn ei dreulio ar-lein. Mae'n dangos yn glir bod angen codi mwy o ymwybyddiaeth, cadw gwyliadwriaeth ac yn bwysicaf oll cynnig cymorth i blant a phobl ifanc.

Dyna pam rydyn ni'n dal i fod yn hyderus yn dweud nad oes yr un ysgol uwchradd yng Nghymru a gweddill y DU heb wynebu achosion o blant yn rhannu lluniau noeth.


 

David Wright, Cyfarwyddwr Canolfan y DU ar gyfer Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

David yw Cyfarwyddwr Canolfan y DU ar gyfer Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn SWGfL; y ganolfan ymwybyddiaeth genedlaethol a rhan o rwydwaith Insafe Ewrop. Mae David wedi gweithio'n helaeth ym maes diogelwch ar-lein ers blynyddoedd lawer, gyda phlant, ysgolion ac asiantaethau ehangach. Mae David yn cynghori nifer o lywodraethau ac arolygiaethau ysgolion ar strategaeth a pholisi diogelwch ar-lein, yn enwedig o ran ysgolion a'r cwricwlwm. Penodwyd David yn ddiweddar yn gynghorydd arbenigol i ITU y Cenhedloedd Unedig.

Mae David wedi rhoi cyflwyniadau mewn cynadleddau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'n aelod o UKCIS yn ogystal â’r Twitter Trust and Safety Council. Mae David yn un o Gymrodyr yr EP3 Foundation ac yn aelod o safon IEEE ar gyfer Llywodraethu Data Plant.

Mae David wedi arwain gwaith arloesol, fel datblygu adnoddau sydd wedi ennill sawl gwobr, yn ogystal â sefydlu'r llinell gymorth ar gyfer dioddefwyr pornograffi dial. Gyda Phrifysgol Plymouth, mae wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau ymchwil arloesol.