English

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cyngor pwrpasol yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc i’w cefnogi gydag unrhyw broblemau neu bryderon ar-lein sy’n eu hwynebu. Mae ar gael nawr yn ardal Cadw’n ddiogel ar-lein Hwb.

Roedden ni’n falch iawn o gymryd rhan yn y prosiect hwn. Yn ProMo-Cymru, rydym yn ceisio sicrhau bod pobl ifanc yn wybodus, yn ymgysylltu, yn gysylltiedig ac yn cael eu clywed. Mae gennym dros 20 mlynedd o brofiad yn cynnal prosiectau gwybodaeth ieuenctid digidol.

Rydym yn credu’n angerddol bod angen i unrhyw wybodaeth ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc gael ei llunio ar y cyd gyda nhw a’i llywio gan eu teimladau, eu barn a’u profiadau. Mae ein profiad o gynnal y llinell gymorth Meic (ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru) wedi dangos i ni y gall pobl ifanc yn aml ganfod eu hunain mewn sefyllfaoedd peryglus a gofidus ar-lein. Dyna pam ein bod yn benderfynol o’r cychwyn cyntaf y dylai rhan allweddol o’r gwaith hwn ganolbwyntio ar rymuso pobl ifanc i ddelio’n ddiogel gyda phroblem a chael cymorth os oes angen.

Ein dull

Cam cyntaf y gwaith oedd trefnu grwpiau ffocws gyda phlant a phobl ifanc ledled Cymru. Cynhaliwyd chwe grwp ffocws gyda 53 o bobl ifanc rhwng 9 a 15 oed.

Roedden ni am gael syniad o’u dealltwriaeth o rai problemau ar-lein allweddol, unrhyw brofiadau cyffredinol, eu dealltwriaeth o’r termau a’r iaith (gan gynnwys slang) y maen nhw’n eu defnyddio, sut maen nhw’n delio fel arfer â phroblemau, i ble maen nhw’n troi am gymorth, ac unrhyw rwystrau sydd ganddyn nhw wrth chwilio am gymorth.

Aethom ati i bwyso a mesur deg problem ddiogelwch ar-lein, yn amrywio o fwlio ar-lein i rannu lluniau noeth i fod yn agored i gynnwys sarhaus, gan ddod â nhw yn fyw drwy ddatblygu senarios neu ofyn cwestiynau amrywiol i annog trafodaeth ac ymgysylltu. Defnyddiwyd pleidleisio amlddewis gyda thrafodaethau dilynol, datganiadau cytuno/anghytuno, teclyn darlunio, rhestrau manteision ac anfanteision, straeon senario a gofynnwyd cwestiynau agored fel “Sut wyt ti’n teimlo y gallai fod wedi teimlo ar ôl gwylio’r fideo?”

Crëwyd cyflwyniad ar Google Jamboard, adnodd bwrdd gwyn rhithiol i gasglu gwybodaeth mewn ffordd hwyliog. Un o’r manteision oedd y gellid ei ddefnyddio ar unrhyw ddyfais wedi’i chysylltu â’r rhyngrwyd, a gallai pobl gydweithio a gweld diweddariadau mewn amser real. Gallent ychwanegu sylwadau yn ddienw, gan helpu i sicrhau cyfraniadau gonest a gwerthfawr, a gellid ychwanegu sylwadau heb fod angen rhoi llaw i fyny na chymryd rhan mewn trafodaethau grwp. Roedd yn annog pobl ifanc mwy di-hyder i gymryd rhan a dweud eu dweud.

Cipolwg at y trafodaethau

Cwestiwn enghreifftiol: Beth yw gosodiad eich cyfryngau cymdeithasol - preifat neu gyhoeddus?

Derbyniwyd llawer o wahanol ymatebion, ac roedden nhw’n amrywio yn ôl platfform. Roedd Instagram yn breifat ar y cyfan, tra bod TikTok ac YouTube yn gyhoeddus. Roedd hyn yn bennaf oherwydd sut mae platfformau yn gweithio ac a ydyn nhw am i ddieithriaid weld y cynnwys ai peidio.

Meddai un person ifanc, “Dydw i ddim yn ei osod ar breifat. Dwi am fod yn enwog ar YouTube!”, gydag un arall yn fwy gwyliadwrus, “Mae’r bachgen yma ar Instagram yn byw yng Nghaerdydd, dydw i ddim yn ei ‘nabod e, ond fe ddilynodd e fi ar Instagram ac fe wnes i ei flocio fe. Dydw i ddim yn gwybod pam ei fod wedi fy nilyn!”

Senario enghreifftiol: 

Mae Dafydd yn 13 oed ac mae’n pori drwy TikTok pan mae’n gweld llawer o fideos ymateb o bobl yn gwylio rhywun yn hunan-niweidio.

 Mae’r bobl sy’n ffilmio’r fideos ymateb yn edrych wedi eu dychryn ac mae Dafydd yn chwilfrydig iawn beth maen nhw’n ei wylio. Mae pobl wedi rhannu’r ddolen i’r fideo gwreiddiol.

 Mae Dafydd yn clicio ar y ddolen.

Cyfaddefodd y bobl ifanc fod pethau fel hyn yn eithaf cyffredin ar eu ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Sbardunodd hyn drafodaeth fanwl ynghylch algorithmau, ac roedd dealltwriaeth glir bod clicio ar y mathau hyn o ddolenni yn golygu y byddech yn gweld rhagor o’r un peth ar eich ffrydiau. “Mae rhywun yn mynd yn chwilfrydig iawn - po fwyaf rydych chi’n clicio, y mwyaf y byddwch yn ei weld.”

Dim ond esiampl yw hon o’r cwestiynau a ofynnir, ond rhoddodd yr adborth i hyn, ynghyd â phroblemau ar-lein eraill a archwiliwyd, flas gwerthfawr i ni ar y cymhellion sydd wrth wraidd ymddygiad llawer o bobl ifanc ar-lein. Roedd hefyd yn ategu hyn: er y gallwn ni roi arweiniad i blant a phobl ifanc, fe fydd yna adegau pan fydd pethau’n mynd o chwith. Mae’n hanfodol eu bod yn gwybod y gallan nhw gael help  gydag unrhyw beth sy’n eu poeni nhw ar-lein.

Cael cymorth

Roedd gennym ni ddiddordeb gweld pa wefannau neu wasanaethau y byddai pobl ifanc yn eu defnyddio i gael cymorth gan y byddai hyn yn dangos i ni sut roedden nhw’n derbyn eu gwybodaeth. Er bod yr atebion a restrwyd yn cynnwys yr Heddlu, NSPCC ac ati, ni chafwyd llawer o atebion i’r cwestiwn hwn. Dywedodd llawer y bydden nhw’n siarad gyda rhywun, boed yn ffrind, rhiant, athro, neu rywun arall, yn hytrach na chwilio am wybodaeth eu hunain. Arweiniodd y wybodaeth hon at greu canllaw ar sut i ddechrau sgwrs i rannu problem. Gofynnwyd i gynghorwyr o linell gymorth Meic (a gynhelir gan ProMo-Cymru gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru) greu cyngor ar gyfer blog ar wefan Meic. Cyfeirir at y blog hwn fel y ddolen gyntaf ar y tudalennau 'Ble i fynd i gael cymorth'.

Arolwg apiau y cyfryngau cymdeithasol

Bachwyd ar y cyfle hefyd i ganfod pa gyfryngau cymdeithasol, apiau a phlatfformau oedd fwyaf poblogaidd. Doedd fawr o syndod mai TikTok oedd yr ap mwyaf poblogaidd ledled pob gweithdy. Roedd Instagram yn parhau’n boblogaidd iawn, yn enwedig yn y grwp oedran 13 oed a hyn. Roedd Snapchat yr un mor boblogaidd ymysg y grwpiau 11-13 oed yn enwedig. Roedd Twitter yn boblogaidd ymhlith grwpiau hyn yn unig. Roedd ymatebion eraill yn cynnwys YouTube, WhatsApp, Twitch, Reddit, Spotify, Soundcloud, Apple Podcast, Discord, Facebook Messenger, Wattpad, Ao3, Pinterest a Tumblr.

Cynllunio’r cyngor

Casglwyd yr holl wybodaeth gan grwpiau ffocws. Dechreuodd ein tîm cynnwys ddatblygu’r cyngor ar gyfer gwahanol rannau gan ddefnyddio eu gwybodaeth arbenigol ac ymchwiliwyd i wasanaethau a gwybodaeth amrywiol y gellid cyfeirio atyn nhw. Mae’r tîm cynnwys yn ProMo-Cymru yn cynnwys pobl ifanc dan 25 oed, sy’n golygu bod pobl ifanc hefyd yn cyfrannu at y gwaith o ysgrifennu’r cynnwys.

Ar ôl cwblhau’r adrannau gwybodaeth, gofynnwyd am adborth gan y grwpiau ffocws. Roedd hi’n amlwg bod pobl ifanc yn ymateb yn well i brofiad gweledol a gwybodaeth hawdd i’w darllen, a oedd wedi’i strwythuro’n dda.

Gan ystyried hyn, rydym yn falch iawn gyda’r rhan Cyngor i blant a phobl ifanc: problemau a phryderon ar-lein newydd ar Hwb. Gobeithio y bydd yn adnodd gwerthfawr ar gyfer pobl ifanc ac rydym yn eich annog i fwrw golwg arno.


 

Andrew Collins, ProMo-Cymru

Wedi graddio mewn Saesneg a gyda phrofiad eang ym maes cyfathrebu, rheoli cynnwys a marchnata digidol, mae Andrew wedi bod yn gweithio yn yr amgylchedd hwn ers blynyddoedd. Mae ganddo gymwysterau Google Analytics, AdWords a statws partner gyda Google Non-Profit. Yn ddiweddar, derbyniodd Ddyfarniad CMI Lefel 4 mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth. Yn flaenorol, bu Andrew yn gweithio fel athro Saesneg mewn ysgol uwchradd ac mae ganddo statws athro cymwysedig.