English

Mae seiberddiogelwch yn un o'r diwydiannau mwyaf cyffrous, amrywiol a heriol y gallaf feddwl amdano. O rolau technegol megis sicrhau rhwydwaith, ymateb i ddigwyddiadau a hacio moesegol, i rolau cymdeithasol a diwylliannol, a swyddi sy'n atal a chanfod troseddau digidol, mae'n cynnig amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa a chyfleoedd. Ac eto, mae'r timau sy'n gyfrifol am sicrhau ein seilwaith diogelwch TG, cadernid digidol a seiberddiogelwch yn profi cryn brinder sgiliau. Yn ôl adroddiad diweddar gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ‘Cyber security skills in the UK labour market’ (2020), mae gan tua 48% o fusnesau fwlch sgiliau sylfaenol ym maes seiberddiogelwch. Mae’r ffaith bod diffyg amrywiaeth o ran menywod a dynion yn y diwydiant yn gwneud y broblem yn waeth, gyda menywod yn cyfrif am rhwng 12% a 25% yn unig o'r gweithlu seiberddiogelwch. Beth, felly, os rhywbeth, sy'n mynd o'i le, a pham mae'n bwysig?

Er bod rhai enghreifftiau rhagorol o fentrau i gefnogi menywod ym maes seiberddiogelwch, mae hefyd lawer o sefyllfaoedd lle nad oes y fath gefnogaeth. Mewn un o’r cyfarfodydd cyntaf a fynychais i ar ôl ymgymryd â rôl uwch ym maes seiberddiogelwch nid oedd unrhyw fenywod eraill yn yr ystafell – ar wahân i un a oedd yno i wneud y cofnodion. Mae rhywun wedi gofyn imi nôl y coffi yn y gorffennol, ac rwyf wedi clywed jôcs na fyddai hyd yn oed fy ffrind gorau yn eu dweud yn uchel, – ac mae’r drws wedi cael ei gau yn fy wyneb wrth imi sôn am fy maes cyfrifoldeb i. Nid yw’n syndod bod y rhai sy'n ddigon dewr i ymuno â'r diwydiant yn aml yn gadael ar ôl treulio ychydig o amser yn unig yn y maes.

Ac eto, mae amrywiaeth yn hanfodol i ddatblygu timau cadarn ac effeithiol. Yn ôl Nicola Hudson yn y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, mae timau homogenaidd sy'n cynnwys un math yn unig o ddemograffig yn annog ymddygiadau 'meddwl grwp'. Ond mae cynifer o agweddau ar seiberddiogelwch fel ei bod yn gwbl resymol mai'r mwyaf amrywiol yw'r gweithlu, y mwyaf parod y byddwn ni i wynebu'r heriau sy’n codi  Mae hynny'n golygu os gallwn ni annog rhagor o fenywod i weithio ym maes seiberddiogelwch, a datblygu rhagor o ferched sydd am fynd ar drywydd pynciau cyfrifiadura, yna mae gennyn ni gyfle i leihau'r bwlch sgiliau wrth wella amrywiaeth o fewn y sector hefyd.

Perffeithrwydd, ond i bwy?

Hoffwn i rannu hanesyn bach â chi. Ychydig o amser yn ôl (mwy o flynyddoedd nag yr hoffwn i gyfaddef), prynodd fy ngwr a fi dy newydd. Gallaf fod braidd yn annibynnol, felly, es i ati i weithio ar rai o'r prosiectau DIY yr oedd angen eu gwneud. Un diwrnod, gosodais i ddrych yn ein cyntedd (tasg syml o'i chymharu â’r fflap cathod mewn drws UPVC yr oeddwn i wedi'i osod yr wythnos flaenorol). Roedd yn gwbl ganolog i ddau oleuadau ar y wal, ac yn hollol lefel. Roeddwn i’n hapus iawn gyda'r canlyniad terfynol, nes i fy ngwr sefyll o'i flaen a sylweddolais i na allai fe weld ei hun am fod y drych yn rhy isel. Er bod y gwaith yn dechnegol gadarn, a bod y drych yn gweithio'n berffaith i mi, nid oedd yn addas i'r diben i rywun arall ychydig fodfeddi'n dalach na fi. Roedd gwneud y gwaith ar fy mhen fy hun yn golygu fy mod wedi methu ag ystyried gwahanol ddefnyddwyr (ymddiheuriadau i fy ngwr am gyfeirio ato fel 'defnyddiwr' yma, ond gobeithio y gwelwch chi fy mhwynt), ac nid yw timau TG yn wahanol. Os ydych yn cyflogi tîm sy’n cynnwys un math o berson yn unig, efallai y bydd gennych wasanaeth neu gynnyrch perffaith, ond efallai mai dim ond ar gyfer y ddemograffeg honno y bydd yn berffaith. Pe bai fy ngwr wedi bod adref pan osodais i’r drych, byddai wedi dweud wrtho i ei fod yn rhy isel cyn imi daro'r hoelen i mewn i'r wal. Yn hytrach, roedd yn gorfod plygu’n amyneddgar i wirio ei olwg cyn gadael y ty am 12 mlynedd.

Efallai eich bod yn meddwl nad yw hyn yn berthnasol i chi, ond mae gan y rhan fwyaf ohonon ni ragfarnau heb hyd yn oed sylweddoli hynny. Ystyriwch y pos hwn (a chymerwch eiliad i feddwl amdano cyn darllen ymlaen): "Mae bachgen a'i dad mewn damwain ffordd ddifrifol, ac yn anffodus mae tad y bachgen yn marw yn y fan a'r lle. Mae'r bachgen yn cael ei ruthro i'r ysbyty am lawdriniaeth i achub ei fywyd, ond mae'r llawfeddyg yn dweud "Alla’ i ddim cynnal llawdriniaeth ar y bachgen hwn oherwydd mai ef yw fy mab". Eglurwch.

Bydd llond llaw ohonon ni’n cynnig yr ateb cywir ar unwaith, ond byddwn i’n mentro na fyddai mwy nag ychydig ohonon ni’n deall sut gall hyn fod yn wir. A yw'r bachgen wedi'i fabwysiadu? A yw ei fam wedi ailbriodi? Wrth gwrs, yr ateb yw mai mam y bachgen yw’r llawfeddyg – ond mewn arbrofion a gynhaliwyd gan Wapman a Belle yn 2012, dim ond 15% o'r cyfranogwyr a roddodd yr ateb cywir. Rhoddais i’r un pos i fy nwy ferch, a chafodd yr un ohonyn nhw mo’r ateb cywir ar unwaith, er eu bod yn ymfalchïo yn eu cefnogaeth i hawliau menywod. Mae'n digwydd mewn mannau eraill hefyd: teipiwch 'Athro Prifysgol' neu 'Arbenigwr Seiberddiogelwch' i chwiliad ar y rhyngrwyd a byddwch yn gweld môr o wynebau dynion gwyn canol oed. Mae ein rhagfarn ddiarwybod yn mynd yn ddwfn, ac mae cydnabod hyn yn gallu bod yn gam bach tuag at ddatrys y problemau amrywiaeth hyn.

Pam mae'n bwysig?

Os nad wyf i wedi'ch argyhoeddi o hyd fod problem, dyma rai ystadegau. Yn 2019, amcangyfrifodd (ISC)2 fod diffyg pobl â sgiliau diogelwch ym maes TG o dros bedair miliwn yn fyd-eang, ac yn ôl adroddiad KPMG / NCSC o'r enw Decrypting Diversity: "mae digonedd o dystiolaeth yn dangos y gall amrywiaeth a chynhwysiant ddarparu manteision masnachol ... gan gynnwys perfformiad ariannol gwell, rhagor o greadigrwydd ac arloesi, rhagor o foddhad ymhlith gweithwyr, absenoldeb is a gwell gallu i gadw talent" (KPMG, 2020). Ac eto, dim ond 18% o’r rhai sy'n astudio cyfrifiadureg ar lefel addysg uwch sy’n menywod (Catalyst 2019), felly rydym yn annhebygol o weld unrhyw newidiadau sylweddol yn fuan.

Yn ei llyfr yn 2020, Invisible Women, mae Perez yn cyfeirio at y 'Gwryw Diofyn', sy'n sail i lawer o'r data yn ein byd heddiw, sy’n achosi i ddylunio, diogelwch a llawer o bethau eraill gael eu hystumio tuag at set safonol o nodweddion nad ydynt yn ymwneud â menywod. Er enghraifft, mae'r rhestr o symptomau y mae meddygon yn eu defnyddio i wneud diagnosis o drawiad ar y galon yn ymwneud yn benodol â dynion – ac mae'r rhain yn wahanol iawn i'r symptomau a all fod gan fenyw, sy'n golygu y gallai trawiad ar y galon mewn menyw gael ei golli. Yn waeth byth, os mai  trawiad ar y galon yw’r diagnosis, yna gall rhai o'r meddyginiaethau a ddefnyddir i drin y cyflwr wneud mwy o niwed na lles pan roddir nhw i fenyw.

Felly, meddyliwch am yr hyn y gallech chi ei wneud i wella amrywiaeth yn y maes hwn. A allech chi gynnal dadleuon ar bwysigrwydd amrywiaeth o ran menywod a dynion ym maes STEM, neu greu gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar feysydd a fydd yn apelio at ferched cymaint â bechgyn? Os ydych yn athrawes, efallai y gallech  chi weithredu fel model rôl, gan annog merched i ystyried yr yrfa gyffrous hon. Dathlwch y menywod yn y diwydiant cymaint â'r dynion. Nid yw menywod o reidrwydd yn well, ond rydyn ni’n wahanol. Byddwn ni’n mynd i'r afael â phroblemau mewn ffyrdd gwahanol i'n cymheiriaid gwrywaidd. Byddwn ni’n ymdrin â heriau o safbwynt gwahanol ac yn cynnig atebion gwahanol. Mae'r un peth yn wir am wahanol grwpiau oedran, cefndiroedd diwylliannol ac yn y blaen. Mae gan bob un ohonon ni rywbeth gwahanol i’w gynnig.

Ac os ydych chi am wybod pam galwais i’r blog hwn yn ‘Nid ffrog mohoni’ yna edrychwch ar y ddelwedd isod. Nid yw menywod yn gwisgo ffrogiau, maen nhw'n gwisgo clogyn arch-arwr.


 

Clare Johnson

Rheolwr Partneriaethau ac Allgymorth (Digidol a STEM)
Sylfaenydd Women in Cyber Wales

Clare yw'r Rheolwr Partneriaeth ac Allgymorth (Digidol a STEM) ym Mhrifysgol De Cymru. Mae hi'n frwd dros annog ac ysbrydoli pobl ifanc, yn enwedig merched, i ystyried gyrfa mewn seiberddiogelwch a phynciau STEM. O'r herwydd, mae hi wedi datblygu rhaglen allgymorth helaeth sy'n cynnwys diwrnodau seiberddiogelwch ar gyfer Brownis and Geidiaid, sesiynau allgymorth ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd a gweithgareddau cymunedol. A hithau’n gyn Bennaeth Addysg Seiberddiogelwch yn y Brifysgol, mae Clare bellach yn gyfrifol am ddatblygu partneriaethau gyda busnesau STEM sy'n tynnu sylw at y cyfleoedd yn y sector ac yn adeiladu llwybrau o addysg bellach i addysg uwch a chyflogaeth. Mae ganddi gysylltiadau agos â Chanolfan Ecsbloetio Digidol Genedlaethol Thales ac mae hi wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol i hyrwyddo datblygu addysg a sgiliau. Clare hefyd yw sylfaenydd clwstwr Women in Cyber Wales, sydd â'r nod o ddarparu cymorth a chyfleoedd i rwydweithio i fenywod sy'n gweithio, neu sy'n gobeithio gweithio, yn y diwydiant. Mae bellach tua 150 o aelodau.

Twitter: @clareontherun / @womencyberwales

LinkedIn